Aceniad

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Y modd yr acennir gair, yn ôl y prif bwyslais a’r is-bwyslais, neu’r brif acen a’r is-acen, yw aceniad. Yn ôl John Morris-Jones yn Cerdd Dafod, yr acen yw’r ‘pwnc pwysicaf mewn cynghanedd’. Os ceir camacennu, nid llinell o gynghanedd mohoni. Aceniad llinell yw’r egwyddor bwysicaf mewn cynghanedd. Y term swyddogol am gamacennu yw Crych a Llyfn. Mae’n rhaid ateb y cytseiniaid a geir o flaen y ddwy brif acen mewn cynghanedd gytbwys acennog, a rhwng y brif acen a’r is-acen mewn cynghanedd gytbwys ddiacen, ac ar ôl y brif acen a rhwng y brif acen a’r is-acen mewn cynghanedd gytbwys ddisgynedig. Mae’r llinell hon, o waith Siôn Tudur, yn anghywir: ‘Porth dda i gael porth a gwledd’. Dylai’r l yn gael ddod o flaen y brif acen, sef y pwyslais ar ae yn gael, ac nid ar ôl y brif acen, oherwydd bod l yn gwledd yn dod o flaen y brif acen, sef e yn gwledd.

Dyma enghraifft arall, o waith Lewys Glyn Cothi: ‘Mair o awgrym yw Margred’. Y tro hwn ceir y cyfuniad gr yn awgrym rhwng y brif acen a’r is-acen yn naill ben y llinell, a’r cyfuniad rgr yn Margred yn y pen arall, a chan nad yw’r cytseiniaid a geir ar yr acen yn llwyr gyfateb i’w gilydd, mae’r llinell yn gwbl wallus.

Yn ogystal â phrif acen ac is-acen, fe geir mewn llinell o gynghanedd yr hyn a elwir yn rhagacenion, a diben y rhagacenion hyn yw rhoi tyndra i’r llinell, trwy gael dwy set o acenion yn gweithio yn erbyn ei gilydd, er bod y rhagacen olaf mewn llinell yn syrthio ar y brif acen bob tro, gan gryfhau pwyslais y brif acen.

Alan Llwyd

Llyfryddiaeth

Llwyd, A. (2007), Anghenion y Gynghanedd (Llandybïe: Cyhoeddiadau Barddas).

Morris-Jones, J. (1925), Cerdd Dafod sef Celfyddyd Barddoniaeth Gymraeg (Rhydychen: Gwasg Clarendon).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.