Acen

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Y pwyslais un-curiad a roir ar eiriau yw acen, pwyslais y llais ar sillafau mewn geiriau. Mewn geiriau unsill, ceir un acen yn unig, a honno’n acen drom, bendant, er enghraifft: brád, llýn, cóed, dúr. Ar y llafariad neu’r llafariaid mewn geiriau y syrth yr acen bob tro.

Yn y rhan fwyaf helaeth o eiriau lluosillafog, sef geiriau sy’n cynnwys mwy nag un sillaf, ceir dwy acen neu ddau bwyslais ar y ddwy sillaf olaf, y naill bwyslais yn drwm, sef y brif acen neu’r acen bwys, a’r pwyslais arall yn ysgafn. Ceir dwy sillaf yn y gair pryder, er enghraifft, pryd/er. Mae’r prif bwyslais, y pwyslais trwm, yn syrthio ar y llafariad y yn sillaf gyntaf pryder, tra bo’r acen ysgafn yn syrthio ar y llafariad e yn y gair; hynny yw, y mae’r pwyslais a roir ar pryd yn gryfach na’r pwyslais a roir ar –er. Mewn geiriau lluosillafog o’r fath mae’r brif acen yn syrthio ar y sillaf olaf ond un yn ddieithriad, a’r enw a roir ar y sillaf olaf ond un yw goben. Gellir galw’r ail bwyslais, sef y pwyslais gwannach, ysgafnach neu’r is-bwyslais, yn is-acen.

Gall geiriau lluosillafog hefyd fod yn eiriau acennog, er enghraifft: caniatáu, gwastatáu, tristáu, ogofâu, ymlâdd, pellhau, rhyddhau, llawenhau, mwynhawn, rhyddhawn, ymdroi, ymweld, gwyrdroi, ac yn y blaen. Ar y sillaf olaf y rhoir y prif bwyslais mewn geiriau o’r fath.

Y mae geiriau sy’n cynnwys y rhagddodiad di- yn gallu bod yn acennog neu’n ddiacen o ran ynganiad, di-ddim yn acennog, er enghraifft, a diddim yn ddiacen. Dyma enghreifftiau eraill: di-nod/dinod; di-baid/dibaid; di-fai/difai; di-werth/diwerth.

O safbwynt y gynghanedd ceir pedwar math o acennu: cytbwys acennog (prif acen/prif acen); cytbwys ddiacen (prif acen, is-acen/prif acen, is-acen); anghytbwys ddisgynedig (prif acen/prif acen, is-acen); anghytbwys ddyrchafedig (prif acen, is-acen/prif acen).

Alan Llwyd

Llyfryddiaeth

Llwyd, A. (2007), Anghenion y Gynghanedd (Llandybïe: Cyhoeddiadau Barddas).

Morris-Jones, J. (1925), Cerdd Dafod sef Celfyddyd Barddoniaeth Gymraeg (Rhydychen: Gwasg Clarendon).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.