Diliau, Y

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Grŵp pop-gwerin a oedd yn boblogaidd yn yr 1960au a’r 1970au. Ffurfiwyd y grŵp yn 1964. Roedd yr aelodau gwreiddiol, sef Meleri Evans (llais a gitâr), Mair Robbins (née Davies, llais) a Lynwen Jones (llais a gitâr), yn gyn-ddisgyblion yn Ysgol Pantycelyn, Llanymddyfri, gyda Meleri Evans yn ferch i’r gwleidydd a’r cenedlaetholwr Gwynfor Evans.

Daeth llwyddiant cynnar i’r grŵp yng nghystadleuaeth cân bop Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Porthmadog, yn 1964, gyda’r gân ‘Wil’. Yn dilyn hyn rhyddhaodd y grŵp ddwy EP ar label Qualiton o’r enw Caneuon y Diliau a Dwli ar y Diliau. Ymunodd Gaynor John, gynt o’r Cwennod, â’r grŵp pan adawodd Lynwen yn 1968, a bu hyn yn ddechrau ar gyfnod mwyaf cynhyrchiol Y Diliau.

Rhwng 1968 ac 1973 bu’r grŵp yn perfformio’n gyson ledled Cymru, yn ymddangos ar raglenni teledu megis Disc a Dawn, Hob y Deri Dando, rhaglen werin BBC Cymru In Session, ynghyd â rhyddhau pum EP ac un record sengl. Bu Rho Dy Law (Dryw, 1970) yn hynod boblogaidd gan dderbyn adolygiadau ffafriol, ac fe’i dilynwyd gan Daeth Dei yn ôl (Dryw, 1970). Yn sgil eu poblogrwydd yng Nghymru, gwahoddwyd y grŵp i gynrychioli’r wlad yn yr Ŵyl Geltaidd Ryngwladol yn Brest, Llydaw. Darlledwyd eu cân ‘Rho Dy Law’ ar radio Llydaw, a daeth y grŵp i sylw’r canwr gwerin adnabyddus Alan Stivell.

Nodweddion y grŵp oedd eu gallu i ganu mewn harmoni clos, persain, gyda geirio clir – nodweddion a oedd yn cael eu cyfri’n bwysig i ganu ysgafn gwerin Cymraeg y cyfnod. Roedd eu caneuon yn osgoi sentimentalrwydd gan amrywio o addasiadau Meredydd Evans o ganeuon Americanaidd i osodiadau o eiriau beirdd Cymraeg megis R. Williams Parry i rythmau Jamaicaidd.

Parhaodd y grŵp i berfformio yn yr 1970au, gan ryddhau’r record hir Tân Neu Haf ar label Gwerin yn 1979. Fodd bynnag, erbyn canol yr 1970au daeth sain Y Diliau i gynrychioli arddull geidwadol, ganol- y-ffordd o’i chymharu â grwpiau seicedelig megis Y Bara Menyn a’r Tebot Piws. Cydnabuwyd Y Diliau yn y Western Mail fel un o grwpiau canu gwerin ysgafn Cymraeg mwyaf poblogaidd y cyfnod (Hignet 1971, 4), a bu’n syndod i nifer nad aeth unrhyw un o’u recordiau i ben siart ‘Deg Uchaf’ Y Cymro.

Pwyll ap Siôn

Disgyddiaeth

  • Caneuon y Diliau [EP] (Qualiton QEP4043, [1966])
  • Dwli ar y Diliau [EP] (Qualiton QEP4051, [1966])
  • Ambell Dro [EP] (Cambrian CEP436, 1969)
  • Rho Dy Law [EP] (Dryw WRE1081, 1970)
  • Daeth Dei yn ôl [EP] (Dryw WRE1096, 1970)
  • Rebel [EP] (Dryw WSP2007, 1971)
  • ’72 [EP] (Dryw WRE1121, 1972)
  • Blas ar y Diliau [EP] (Sain 35, 1973)
  • Tân Neu Haf (Gwerin SYWM216, 1979)

Llyfryddiaeth

  • Margaret Hignet, ‘In Our Style’, Western Mail, 18 Ionawr 1971, 4



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.