Howard de Walden

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Ganed Thomas Evelyn Scott-Ellis ar 9 Mai 1880, yn 8fed barwn Howard de Walden. Fe’i addysgwyd yn Eton a’r Royal Military College, Sandhurst. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gwasanaethodd yn yr Aifft, De Affrica, Ffrainc ac yng Ngallipoli yn Nhwrci. Bu’n byw yng Nghastell Y Waun (Chirk Castle) yn sir Wrecsam. Roedd yn noddwr theatr a chelfyddyd ac ysgrifennodd cryn dipyn o ddramâu hefyd. Ceisiodd, yn erbyn llawer o wrthwynebiad, sefydlu’r Theatr Genedlaethol gyntaf i Gymru. Roedd llawer o'r gwrthwynebiad tuag at y ‘Theatr Genedlaethol’ yn deillio o gyhuddiadau o Seisnigrwydd y cwmni. Roedd yn Arlywydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam yn 1933.

Llyfryddiaeth

  • T. E. Ellis, Some Feudal Lords and their seals, (Llundain, 1903).
  • Lord Howard de Walden, ‘Introduction’, yn Thomas Willement, Banners standards and badges: from a Tudor manuscript in the College of arms, (Llundain, 1904), tt. v–vii.
  • T. E. Ellis, Dylan Son of the Wave, (Llundain, 1908).
  • T. E. Ellis, Lanval (Llundain, 1908).
  • T. E. Ellis, Pont Orewyn (Caerdydd, 1914).
  • T. E. Ellis, The Cauldron of Annwn (Llundain, 1922).
  • T. E. Ellis, ‘Introduction’, yn H. Ibsen, Yr Ymhonnwr, cymreigiad J. Glyn Davies a D. E. Jenkins, (Lerpwl, 1922), tt. v–x.
  • T. E. Ellis, Five Pantomimes (Llundain, 1930).
  • T. E. Ellis, The Byzantine Plays (Berkshire, 2006).

Amdano

  • Beriah Gwynfe Evans, ‘Welsh National Drama: Lord Howard de Walden’s mistake, and how it might be rectified, I. – The Mistake’, Wales, VI, 35 (1914), t. 44.
  • Rhys Puw, ‘Byd y Ddrama, Delfryd yr Arglwydd Howard de Walden’, Y Ford Gron, cyfrol IV, rhif 2 (Rhagfyr 1933), t. 41.
  • Rhys Puw, ‘Byd y Ddrama, Tarian Howard de Walden – Dydd Olaf Mai’, Y Ford Gron, cyfrol IV, rhif 4 (Chwefror 1934), t. 88.
  • (9fed) Lord Howard de Walden, ‘My Father’, yn Lord Howard de Walden, Earls Have Peacocks (Llundain, 1992), tt. 23–43
  • Hazel Walford Davies, ‘Howard de Walden a Mudiad y Theatr Genedlaethol Gymreig, 1911–14’, yn (gol.) Hazel Walford Davies, Y Theatr Genedlaethol yng Nghymru (Llanydybïe, 2007), tt. 1–48.
  • Hazel Walford Davies, ‘Howard de Walden a Chwaraedy Cenedlaethol Cymru, 1927–40’, yn (gol.) Hazel Walford Davies, Y Theatr Genedlaethol yng Nghymru (Llanydybïe, 2007), tt. 47–129.

Gweler hefyd, Anwen Jones, National Theatres in Context: France, Germany, England and Wales, Gwasg Prifysgol Cymru, 2007.

Cyfeiriadau



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.