Beriah Gwynfe Evans

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Ganed Beriah Gwynfe Evans yn Nant-y-glo ar 12 Chwefror 1848, yn fab i weinidog. Cafodd ei addysg yn breifat. Priododd ei wraig, Anne, ar Orffennaf yr 18fed, 1871. Roedd yn athro, ac yna’n ddramodydd, ysgrifennwr a newyddiadurwr. Roedd yn olygydd Cyfaill yr Aelwyd. Roedd yn ymwneud â'r Eisteddfod, ac yn gweithio fel ysgrifennydd drosti. Bu'n awyddus i greu sefydliad a oedd yn hyrwyddo drama yng Nghymru, ac fe'i disgrifiwyd fel ‘tad y ddrama Gymraeg’ o ganlyniad i'r dramâu y bu iddo eu cyfansoddi, gweithiau fel Owain Glyndŵr a Llewelyn ein Llyw Olaf.

Llyfryddiaeth

Amdano

  • T. Shankland, Diwygwyr Cymru (S.I.: Seren Gomer, 1900–1904)
  • J. T. Jones, ‘Y Ddrama yng Nghymru’, Y Darian (8 Ebrill 1920), t. 8.
  • D. R. Davies, ‘“Beriah” – Gwyliwr ar y Mur ein Drama’, Ford Gron, cyfrol 4, rhif 12 (Hydref, 1934), t. 280.
  • J. Kitchener Davies, ‘ Yr Eisteddfod a’r Ddrama’, Heddiw, V, rhif 4 (Awst, 1939), t. 170.
  • E. G. Millward, ‘O’r Llyfr i’r Llwyfan: Beriah Gwynfe Evans a’r Ddrama Gymraeg’, yn (gol.) J. E. Caerwyn Williams, Ysgrifau Beirniadol, XIV (Dinbych, 1988), tt. 199–220.
  • E. G. Millward, ‘Beriah Gwynfe Evans : a pioneer playwright-producer’, yn (gol.) Hywel Teifi Edwards, A guide to Welsh literature: volume V, c. 1800–1900 (Caerdydd, 2000), tt. 166–185.
  • E. Wyn James, ‘“Nes na’r hanesydd...”: Owain Glyndwr a Llenyddiaeth Gymraeg y Cyfnod Modern, Rhan 3: O William Shakespeare i Beriah Gwynfe Evans’, Taliesin, cyfrol 112 (Haf 2001), tt. 96–106.
  • E. Wyn James, ‘“Nes na’r hanesydd...”: Owain Glyndwr a Llenyddiaeth Gymraeg y Cyfnod Modern, Rhan 4: Beriah o’r Blaenau a Byd y Ddrama’, Taliesin, cyfrol 113 (Hydref 2001), tt. 93–100.
  • Rhiannon Ifans, ‘Beriah Gwynfe Evans’, Llên Cymru, cyfrol 25 (2002), tt. 74–93.
  • Ioan Williams, ‘Ymudiad Ddrama 1880–1911 – Beriah Evans a’r Ddrama Hanes’, Y Mudiad Drama yng Nghymru 1880–1940 (Llandybie, 2006), tt. 33–42.

Cyfeiriadau



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.