Theori Cadi

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Datblygodd y maes hwn (defnyddir hefyd y term Theori Hoyw) tua diwedd yr 20g. dan ddylanwad datblygiadau ym meysydd astudiaethau menywod ac astudiaethau hoyw a lesbaidd ers yr 1970au. Fel y gwnaeth theori lenyddol ffeminyddol ddatblygu ochr yn ochr â’r ymgyrchoedd dros ryddfreiniad menywod, datblygodd theori cadi (fel y gelwir y maes hwn yn y Gymraeg gan Mihangel Morgan) ochr yn ochr ag ymgyrchoedd dros gydraddoldeb a thegwch i bobl gyfunrywiol (homosexual).

Diffinio Theori Cadi

Er bod tuedd i gysylltu’r maes gyda’r astudiaeth o sut y portreëdir cyfunrywioldeb (homosexuality) – fel y mae ‘theori hoyw’, yr enw Cymraeg a arferid hyd yma yn ei awgrymu – mae’r maes theoretig hwn yn annog trafodaeth fwy eang na hynny’n unig. Gan berthyn yn agos iawn i ddamcaniaethau ffeminyddol diweddar sy’n herio’r ddeuoliaeth hanfodaidd sy’n gwahanu ‘menyw’ a ‘dyn’, a ‘benywaidd’ a ‘gwrywaidd’, yn ôl Stephen Whittle, mae’r maes hwn yn herio’r categorïau pegynol ‘cyfunrywiol’ a ‘heterorywiol’. Fel adain o faes ôl-strwythuraeth, mae’n annog dadadeiladu’r drefn sy’n ystyried heterorywioldeb yn normadol ac sy’n diffinio rhywedd a rhywioldeb normadol yr unigolyn ar sail ei ryw fiolegol. Hynny yw, mae’n ymwrthod â’r syniad ei bod yn naturiol i unigolyn sy’n meddu ar, dyweder, organau rhywiol menyw i ddiffinio’i hun fel ‘menyw’ a theimlo atynfa rywiol tuag at ddynion. Ymwrthoda hefyd â’r gred bod unrhyw wyro oddi ar y drefn hon yn annormal neu’n annaturiol. Esbonia Judith Butler fod y term Saesneg ‘queer’ yn adlewyrchu ymgais y maes damcaniaethol hwn i herio’r drefn honno, trwy adfeddiannu term a ddefnyddiwyd/ddefnyddir i sarhau dynion nad oeddent/ydynt yn cydymffurfio â’r delfryd gwrywaidd, a thanseilio ei bŵer i’w bychanu.

O ganlyniad i’r ymgais hon i danseilio hunaniaethau rhyweddol a rhywiol sefydlog a chydberthnasol, dywed rhai fod y theori hon yn berthnasol wrth ystyried sut yr ydym yn diffinio hunaniaeth mewn perthynas â ffactorau eraill hefyd (hil, iaith, cenedligrwydd ayb). Dadleua Lisa Sheppard, er enghraifft, y dengys y damcaniaethau hyn nad oes modd dosbarthu unigolion i gategorïau neu barau pegynol twt (e.e. menywod, dynion, pobl hoyw, pobl syth, siaradwyr Cymraeg, siaradwyr Saesneg) gan fod gwahaniaethau lu yn rhwym o fodoli rhwng y ddau begwn ac oddi mewn i’r categorïau eu hunain.

Prif syniadau a damcaniaethwyr

Un o ddamcaniaethwyr mwyaf blaenllaw'r maes yw Eve Kosofsky Sedgwick yn ei chyfrolau Between Men: English Literature and Male Homosocial Desire (1985) a The Epistemology of the Closet (1990). Yn ôl Jason Edwards mae gwaith Sedgwick yn annog y darllenydd i ddarllen yn groes i’r fyd-olwg heterorywiol normadol i ganfod ‘potential queer nuances’ mewn testun. Yn ei chyfrol arloesol Between Men: English Literature and Male Homosocial Desire cymyla Sedgwick gategorïau heterorywiol, deurywiol (bisexual) a chyfunrywiol yn ei hymdriniaeth o straeon am gariad heterorywiol yn nhestunau llenyddol Saesneg y 19g., gan ddadlau eu bod yn aml yn ddibynnol ar berthnasau (rhywiol neu beidio) rhwng dynion er mwyn gyrru’r plot yn ei flaen.

Mae maes ‘Queer Theory’ yn ceisio amlygu’r ffyrdd nad yw hunaniaethau rhyweddol a rhywiol yn fonolithig. I’r diben hwn, mae gwaith Michel Foucault, ac yn arbennig ei astudiaeth The History of Sexuality (1976), wedi bod yn ddylanwadol yn y maes. Yno, dengys Foucault nad arferai cymdeithasau Gorllewinol hanesyddol ddiffinio rhywioldeb yn ôl categorïau pegynol heterorywiol a chyfunrywiol, fel yr ydym yn dueddol o’i wneud heddiw. Dadleua, felly, fod ein dealltwriaeth fodern o rhywioldeb yn un a ddatblygwyd yn gymharol ddiweddar. O ganlyniad, cesglir ganddo fod ein dealltwriaeth o rywioldeb wedi’i lliwio gan agweddau ein cymdeithasau a’n cyfnodau penodol, yn hytrach na bod modd diffinio rhywioldeb yn ôl categorïau pendant neu derfynol.

Mae’r ymgais i ddangos nad yw hunaniaethau rhyweddol neu rhywiol yn ddigyfnewid yn golygu bod maes ‘Queer Theory’ yn croestorri yn aml gyda maes Theori Ffeminyddol hefyd. Syniad pwysig sy’n deillio o’r croestoriad hwn yw’r cysyniad a elwir gan Judith Butler yn ‘performativity’. Cyflwyna’r cysyniad yn ei chyfrolau Gender Trouble (1990) a Bodies That Matter (1993). Bathwyd term Cymraeg am hyn gan Dafydd James, sef ‘perfformiaith’. Prif ergyd perfformiaith yw'r ddadl mai rhyw fath o berfformiad yw rhywedd a rhywioldeb. Yr hyn a wneir yw perfformio'r hyn y mae'r gymdeithas yn ei ddisgwyl gan y rhai sy’n perthyn i gategorïau ‘menyw’ a ‘dyn’. ‘Perfformio' nodweddion a gysylltir â'n rhywedd neu'n rhywioldeb a wnawn - nid ydynt yn perthyn yn 'naturiol' neu'n 'reddfol' inni o ganlyniad i'n horganau rhywiol. Hynny yw, nid yw coginio, cadw tŷ a magu plant er enghraifft yn weithgareddau naturiol i’r rhyw fenywaidd yn fwy nag ydynt i’r rhyw wrywaidd, ond mae nifer helaeth o fenywod yn dal i berfformio’r rolau hyn mewn perthnasau a theuluoedd normadol oherwydd disgwyliadau cymdeithasol a ymsefydlodd dros amser wrth i fenywod y gorffennol ymgymryd â’r tasgau hyn. Fel y dywed Butler ‘gender is not [...] imposed or inscribed on the individual [...] [the body] becomes its gender through a series of acts which are renewed, revised and consolidated through time’. Yn ôl Butler, wrth i berfformiadau o’r math hwn gadarnhau’r gydberthynas ymddangosiadol ‘naturiol’ rhwng rhyw, rhywedd a rhywioldeb, caiff unrhyw wyriad oddi wrth y drefn hon (e.e. pan na fydd unigolyn yn arddel hunaniaeth heterorywiol neu drawsrywiol – transexual) ei weld fel rhywbeth annaturiol. Un ffenomen sy’n tynnu sylw at y ddadl mai perfformiad yn unig yw rhywedd a rhywioldeb yw’r arfer o wisgo ‘drag’, pan fydd dyn yn gwisgo fel merch, ac mae’n debyg i waith Butler yn y maes gael ei ysbrydoli gan ei phrofiad o weld perfformiwr drag. Mae’r ddelwedd o ddyn sy’n meddu ar nodweddion corfforol ‘gwrywaidd’ yn gwisgo fel merch ac yn gorliwio’i berfformiad o nodweddion ‘benywaidd’ trwy, er enghraifft, goluro’n drwchus, gwisgo’i wallt yn hir a cherdded mewn sodlau uchel, yn herio’r syniad bod perthynas naturiol rhwng rhyw fiolegol a’r ymddygiadau cymdeithasol a gysylltir â’r rhyw honno.

Theori Cadi, Cymru a’r Gymraeg

Mae trafodaethau Cymreig a Chymraeg ar ‘queer’ wedi ymddangos ers y 1990au ac yn ddiweddar mae’r maes wedi dechrau ennyn mwy o ddiddordeb. Yn debyg i’r tueddiadau rhyngwladol, mae awduron a beirniaid llenyddol Cymreig wedi mynd i’r afael ag elfennau ‘hoyw’ y traddodiad llenyddol Cymraeg/Cymreig sydd wedi bod yn gudd ar y cyfan, yn ogystal â damcaniaethu ynglŷn â goblygiadau’r syniadau hyn i’n dealltwriaeth o rywedd a rhywioldeb yng Nghymru ac yn y Gymraeg. Mae beirniaid megis Kirsti Bohata, Alan Llwyd, John Rowlands ac eraill wedi cynnig deongliadau o destunau’r 19g. a’r 20g. sy’n cyfeirio’r darllenydd at elfennau hoyw posib - megis hunangofiant enwog Alan Llwyd i Kate Roberts (2012). Un o’r awduron cyntaf i fynd i’r afael â’r dasg o olrhain elfennau hoyw y traddodiad llenyddol Cymraeg a Chymreig oedd Richard Crowe yn ystod y 1990au yn ei erthyglau ‘Llên y Cymry, Hoyw, (Try)loyw?’ (1996) a ‘Creu Traddodiad Llenyddol Hoyw Cymraeg’ (1998). Yn fwy diweddar, yn y gyfrol bwysig Queer Wales (2016, gol. Huw Osborne), cyfranna Mihangel Morgan ysgrif sy’n dadorchuddio elfennau sy’n ymdebygu i’r syniad o ‘queer’ ar hyd y traddodiad llenyddol Cymraeg mewn gweithiau mor amrywiol â Pedair Cainc y Mabinogi hyd at weithiau modern Siôn Eirian.

Mae ysgrif Morgan yn gwneud cyfraniad pwysig arall i’r drafodaeth hefyd, sef cynnig enw Cymraeg ar gyfer ‘queer theory’ a damcaniaethu ynglŷn â phwysigrwydd arddel y term hwn. Awgryma’r gair ‘cadi’ gan ddadlau bod ganddo hanes debyg i ‘queer’ o gael ei ddefnyddio fel term i sarhau dynion sy’n ymddwyn yn ‘ferchetaidd’. Pwysleisia bwysigrwydd defnyddio hanes Cymreig ar mwyn llunio presennol ‘cadi’ Cymreig ystyrlon a rhyddhau’r iaith Gymraeg o’r hyn a eilw ei ‘heterosexist baggage’. Mae modd dadlau mai ‘theori cadi’ yw’r enw mwyaf digonol sydd wedi’i fathu i’r maes yn y Gymraeg hyd yma. Mae’r ddadl ynglŷn â defnyddio term Cymraeg priodol ar gyfer y maes yn un sydd wedi codi ei phen mewn sawl trafodaeth ddiweddar. Tra bod y term ‘queer theory’ wedi ymsefydlu yn y Saesneg, nid oes un term Cymraeg penodol wedi dod i’r amlwg fel yr un cwbl foddhaol. Y term a ddefnyddir fwyaf aml yw ‘theori hoyw’. Mae eraill wedi dadlau bod y term hwn yn gamarweiniol o safbwynt yr hyn y amae’r theori yn ei ddadlau. Awgryma Dafydd James (2014) y dylid cadw’r gair Saesneg ‘queer’ er mwyn ceisio dadadeiladu’r ddeuoliaeth rhwng y Gymraeg a’r Saesneg yng Nghymru, fel y mae ‘queer theory’ ei hun yn anelu at ddadadeiladu deuoliaeth cyfunrywiol/heterorywiol. Ond noda Lisa Sheppard (2015) annigonolrwydd y ddau derm ‘hoyw’ a ‘queer’. Dadleua fod defnyddio’r gair ‘hoyw’ yn pwysleisio’r ddeuoliaeth ffals rhwng cyfunrywioldeb a heterorywioldeb y mae’r maes yn ceisio’i chwalu. Dywed hefyd fod arddel gair o iaith fwyafrifol fel y Saesneg mewn trafodaethau mewn iaith leiafrifol fel y Gymraeg yn yn mynd yn groes i amcanion y maes ei hun o herio’r drefn awdurdodol. Awgryma Sheppard ar y cyd gyda Katie Gramich y term ‘theori ryfedd’, gan ei fod yn ymdebygu mewn ystyr i ‘queer’, ac oherwydd ei fod yn debyg i’r gair ‘rhywedd’ o ran ei sillafiad. Ond mae term Morgan, ‘theori cadi’, yn ymddangos fel y term mwyaf addas hyd yma. Nid yn unig y mae'n ymdebygu i’r defnydd o ‘queer’ fel sarhad, ond, fel y noda Morgan, mae’r ffaith bod ‘cadi’ wedi cael ei ddefnyddio yn y modd hwn am gyfnod hirach na’r term Saesneg cyfatebol yn cydfynd ag amcan y damcaniaethau ei hun o herio’r drefn awdurdodol, gan bwysleisio gallu’r Gymraeg i ddibynnu ar ei geirfa, ei syniadau a’i hanes ei hun yn hytrach na’u benthyg o ddiwylliant mwy pwerus.

Lisa Sheppard

Llyfryddiaeth

Bohata K. (2013), 'The Apparitional Lover: Homoerotic and Lesbian Imagery in the Writing of Margiad Evans' yn Kirsti Bohata a Katie Gramich, goln., Rediscovering Margiad Evans: Marginality, Gender and Illness (Cardiff: University of Wales Press), tt. 107-128.

Bohata, K. (2015), ‘Apes and Cannibals in Cambria: Literary Representations of the Racial and Gendered Other' yn Charlotte Williams, Neil Evans a Paul O'Leary, goln., A Tolerant Nation? Revisiting Ethnic Diversity in a Devolved Wales (Cardiff: University of Wales Press), tt. 85-105.

Bohata, K. (2016), ‘“A queer kind of fancy”: same-sex desire, women and nation in Welsh literature’ yn Huw Osborne, gol., Queer Wales: The History, Culture and Politics of Queer Life in Wales (Cardiff: University of Wales Press).

Butler, J. (1993), Bodies That Matter: On the Discursive Limits of Sex (London and New York: Routledge).

Butler, J. (1990), Gender Trouble: Feminism and the Subversion of Identity (London and New York: Routledge).

Crowe, R. (1996), ‘Llên y Cymry, Hoyw, (Try)loyw?’, Taliesin, 93, 63-79.

Crowe, R. (1998), ‘Creu Traddodiad Llenyddol Hoyw Cymraeg’, Tu Chwith, 10, 128-139.

Edwards, J. (2009), Eve Kosofsky Sedgwick(London and New York: Routledge).

Foucault, M. (1990), The History Of Sexuality, Volume 1: An Introduction ( London: Penguin).

Frayling, D. (1993), ‘Termau cyfunrhywoliaeth’, Tu Chwith, 1, tt. 58-61.

James, D. (2014), ‘Y Queer yn erbyn y Byd’, Taliesin, 151, 66-85.

Llwyd, A. (2011), Kate: Cofiant Kate Roberts, 1891-1985 (Talybont: Y Lolfa).

Morgan, M. (2016), ‘From Huw Arwystli to Siôn Eirian: Representative Examples of Cadi/Queer Life from Medieval to Twentieth-century Welsh Literature’. Yn Huw Osbourne, gol., Queer Wales: The History, Culture and Politics of Queer Life in Wales (Cardiff: University of Wales Press).

Rowlands, J. (1990), ‘“Atgof” Prosser Rhys’ yn J. E. Caerwyn Williams, gol., Ysgrifau Beirniadol XVI, tt. 141-57.

Sedgwick, E. K. (1985), Between Men: English Literature and Male Homosocial Desire (New York; Guildford: Columbia University Press) .

Sedgwick, E. K. (1990), The Epistemology of the Closet (Berkeley: University of California Press).

Sheppard, L. (2015), O’r Gymru Ddu i’r Ddalen Wen: Darllen Aralledd ac Amlddiwylliannedd o’r Newydd yn Ffuglen De Cymru, er 1990. (Traethawd PhD Prifysgol Caerdydd. Heb ei gyhoeddi.).

Whittle, S. (2005), ‘Gender Fucking or Fucking Gender’. Yn Iain Morland ac Annabelle Willox, goln., Queer Theory (Basingstoke and New York: Palgrave Macmillan), tt. 115-29.


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.