Ffeminyddiaeth

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

1. Diffiniad Plethwaith o fudiadau a syniadaeth gwleidyddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd sy’n hyrwyddo cydraddoldeb llawn rhwng y rhywiau yw ffeminyddiaeth. Tyfodd ffeminyddiaeth yn wyneb patriarchiaeth, sef yr enw a roddir ar y strwythurau cymdeithasol sy’n breintio pŵer ac awdurdod gwrywaidd. Un o ganlyniadau hyn fyddai absenoldeb hanesyddol menywod mewn sawl proffesiwn, fel y gyfraith, barddoniaeth, a’r weinidogaeth.

Oddi ar ail hanner y 19g. bu syniadaeth ffeminyddol yn ddylanwadol yng Nghymru, fel yng ngwledydd eraill y Gorllewin. Yn ystod ail hanner yr 20g. yn arbennig, tyfodd ysgol syniadol gyfoethog, yn arbennig ar y Cyfandir, i hyrwyddo a lledaenu egwyddorion, a bu’r theorïau hyn yn arbennig o ddylanwadol ym maes beirniadaeth lenyddol.

Yn y cofnod hwn defnyddir y termau ‘ffeminyddiaeth’, ‘ffeminydd’ a ‘ffeminyddol’ er mwyn perchenogi’r termau yn unol â theithi’r Gymraeg. Mae’r ffurfiau canlynol hefyd yn gyfredol: ffeminist, ffeministiaeth, ffeministaidd. Ceir ‘benywydd’ hefyd yn Geiriadur Prifysgol Cymru.

2. Cerrig Milltir Y mae syniadaeth y gellid ei hadnabod fel syniadaeth ffeminyddol yn rhagflaenu’r term ffeminyddiaeth a’r mudiad ffeminyddol ei hun. Gellir adnabod nifer o gerrig milltir Cymreig hanesyddol sy’n arddangos ymwybyddiaeth ffeminyddol neu egwyddorion ffeminyddol ar waith, sef enghreifftiau o weithredu’n ymwybodol o’r cyfyngiadau a oedd ar fenywod oherwydd eu rhyw a theimlo cymhelliant i ymateb. Roedd y gweithredoedd hyn yn tynnu tuag at y don ffeminyddol gyntaf.

Y mae beirdd benywaidd yn brin yn nhraddodiad barddol Cymru yn y cyfnod cyn 1800, ond y mae cerddi gan ferched wedi goroesi sy’n cydnabod arwahanrwydd y profiad benywaidd, yn dathlu rhywioldeb merched, ac yn herio’r traddodiad barddol gwrywaidd. Un o’r cerddi amlycaf yn hyn o beth yw ‘Cywydd y Gont’ gan y bardd Gwerful Mechain (fl. 1462-1500). Yn y gerdd hon, gwawdia ddull confensiynol y beirdd proffesiynol o ddisgrifio merch, sef disgrifio’r wyneb a’r corff yn systemataidd, gan anwybyddu rhannau rhywiol y ferch. Mae cerdd Gwerful Mechain yn tynnu sylw at y bwlch amlwg hwn yng nghonfensiwn barddonol y dynion, ac yn mynd ati i ddisgrifio’r organau rhywiol benywaidd yn fanwl ac yn ddyfeisgar, a thrwy hynny ddathlu’n hyderus rywioldeb benywaidd.

3. Tonnau ffeminyddiaeth: gwleidyddiaeth a llenyddiaeth

3.1 Y don ffeminyddol gyntaf Gyda’r don ffeminyddol gyntaf gwelwyd syniadau yn cyniwair a oedd yn ymwneud yn bennaf â gwleidyddiaeth; mae'n ymestyn o gyfrol chwyldroadol Mary Wollstonecraft, A Vindication of the Rights of Woman (1792), a drafododd fenywod yng nghyd-destun ehangach hawliau dynol, hyd lwyddiant etholfraintwragedd, neu syffragetiaid, yr 20g i ennill y bleidlais i fenywod.

Yng Nghymru, yn 1866 arwyddwyd y ddeiseb gyntaf a ddanfonwyd i San Steffan yn hawlio’r bleidlais i fenywod gan chwech ar hugain o Gymraesau, a chynhaliwyd y cyfarfod cyhoeddus cyntaf yng Nghymru o blaid yr achos ym Merthyr yn 1870. Rhwng hynny a 1914, pan ddaeth ei weithgareddau i ben gyda dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, bu’r mudiad o blaid yr etholfraint i ferched yn rym o bwys yng Nghymru, a dylanwadodd ar lenorion benywaidd yn y Gymraeg fel yn y Saesneg. Yn 1879 cychwynnodd Cranogwen (Sarah Jane Rees; 1839–1916) ar ei gwaith fel golygydd y cylchgrawn cyntaf yn y Gymraeg i’w olygu gan fenyw, sef Y Frythones. Ei bwriad, meddai yn y rhifyn cyntaf, oedd annog ‘merched ein gwlad allan o’i hogofau i ddarllen, a meddwl, ac ysgrifennu’, a llwyddodd yn ei nod, gan greu ysgol o lenorion benywaidd. Un ohonynt oedd y bardd a’r traethodydd Ellen Hughes (1862–1927) a wnaeth llawer yn ystod y 1890au a’r 1900au i hybu achos yr etholfreintwragedd. ‘Os ydyw dynes yn fod rhesymol a moesol, a thonnau tragwyddoldeb yn curo yn ei natur, tybed ei bod islaw meddu’r cymhwyster i gael rhan yn neddfwriaeth ei gwlad?’, meddai mewn erthygl yn Y Gymraes yn 1910.

Erbyn hynny yr oedd cenhedlaeth o Gymraesau wedi bod yn weithgar yn hybu chwyldroad cymdeithasol y ‘Ddynes Newydd’, ym myd addysg yn enwedig. Dan eu dylanwad hwy agorodd Prifysgol Cymru ei drysau i ferched yn 1893, ac yn 1895 rhoddwyd rhyddfreiniad menywod yn uchel ar restr amcanion mudiad Cymru Fydd. Gweithiodd y nofelydd Gwyneth Vaughan (Annie Harriet Hughes; 1852–1910) yn egnïol yn yr ymgyrchoedd hynny, a chyflwynodd neges gref o blaid cydraddoldeb rhywiol yn ei nofel Plant y Gorthrwm (1908). Aeth 365 o etholfreintwragedd o Gymru i’r gwrthdystiad mawr yn Llundain yn 1908, gan orymdeithio dan faner ac arni’r geiriau ‘Ein Hachos yn Erbyn y Byd’. ‘Cri Cyfiawnder yw, ac ni faidd un wlad anwybyddu cri felly am byth’, meddai un o gymeriadau Moelona (Elizabeth Mary Jones; 1878–1953) am yr achos yn Dwy Ramant o'r De (1911), ond bu’n rhaid aros tan 1929 cyn i ferched gael y bleidlais ar yr un telerau â dynion.

3.2 Yr ail don ffeminyddol

Y mae’r ail don, a ddaeth i amlygrwydd yn niwedd y 1960au, yn ddyledus i drafodaethau’r athronwyr Ffrengig Simone de Beauvoir a Michel Foucault ar rywedd. Roedd cyfrol de Beauvoir, Le deuxième sexe (1949; ‘Yr ail ryw’), yn allweddol wrth feirniadu’r fframwaith cymdeithasol deuol a syniai’n gadarnhaol am ddynion fel y norm neu’r gwrthrych cynrychioliadol, ac a syniai’n negyddol am fenywod yn nhermau’r ‘Arall’ dieithr ac ymylol. Os yw’r don gyntaf yn ymwneud yn bennaf â gwleidyddiaeth, yna mae’r ail don yn ymwneud yn bennaf â sefyllfa economaidd menywod.

Cafwyd ymateb uniongyrchol yng Nghymru i’r cyd-destun rhyngwladol hwn ac yr oedd 1986 yn flwyddyn dyngedfennol o safbwynt ymateb Cymraeg a Chymreig. Yn 1986 sefydlwyd Honno: Gwasg Menywod Cymru a chyhoeddwyd rhifyn ffeminyddol arbennig Y Traethodydd. Yr oedd gan y gwirfoddolwyr a sefydlodd Honno Gwasg Menywod Cymru ddau fwriad, sef creu cyfleoedd i fenywod yn y byd cyhoeddi Cymreig, a sicrhau bod gwaith awduresau Cymreig ddoe a heddiw yn cyrraedd cynulleidfa gyfoes ac eang. Agenda ffeminyddol ddigyfaddawd, felly, sydd gan y ddwy gyfres Clasuron Honno a Honno Classics: Fel merched a Chymry teimlwn ei bod hi’n hynod o bwysig inni ailddarganfod llenyddiaeth y rhai a’n rhagflaenodd, er mwyn cofio, dathlu a mwynhau cyfraniad merched y gorffennol i’n llên ac i’n diwylliant yn gyffredinol. Trwy astudio’n hanes ni trwy eu gwaith, cawn gyfle hefyd i ddeall yn well y prosesau sydd wedi dylanwadu ar ein hanes, hanes sydd yn arwain at ein sefyllfa yn y gymdeithas sydd ohoni heddiw. (Kathryn Hughes a Ceridwen Lloyd-Morgan).

Cyhoeddwyd rhifyn Ffeminyddol arbennig Y Traethodydd ym mis Ionawr 1986 o dan olygyddiaeth Marged Haycock, Kathryn Hughes, Elin ap Hywel a Ceridwen Lloyd-Morgan. Y mae’n archwilio’r berthynas rhwng Merched a Llenyddiaeth ac fe’i cyhoeddwyd yn sgil cynhadledd a gynhaliwyd ym mis Mawrth 1985 dan nawdd yr Academi Gymreig er mwyn herio’r tawelwch beirniadol ynghylch cyfraniad menywod i lenyddiaeth Gymraeg ddoe a heddiw. Mae’r rhifyn ffeminyddol hwn yn gyhoeddiad allweddol ym maes Astudiaethau Cymraeg ac Astudiaethau Rhywedd Cymraeg, oherwydd fe osododd agenda ar gyfer y gwaith ymchwil a fyddai’n cael ei gynhyrchu yn ystod y blynyddoedd dilynol. Mae Y Traethodydd 1986 yn ymateb i agenda ysgolheictod Ffeminyddol Ffrengig ac Eingl-Americanaidd yr ail don i ddarganfod rhagflaenwyr benywaidd:

Ailddarganfod ac ailasesu gwaith y merched a fu’n llenydda yn y gorffennol yw un o brif amcanion astudiaethau llenyddol ffeminist. Fel yr awgrymir mewn ysgrifau eraill yn y rhifyn arbennig hwn o Y Traethodydd, y mae i’r dasg hon fwy nag un pwrpas, ac un o’r gorchwylion cyntaf yw’r weithred syml o goffáu’r llenorion benywaidd hynny a anghofiwyd neu a anwybyddwyd gan gopïwyr, cyhoeddwyr a golygyddion gwrywaidd, neu gan y beirniaid hwythau, boed hynny’n fwriadol neu beidio. Os nad ymgymerwn ni â’r gwaith o gasglu ac astudio cynnyrch y merched hyn, mae yna berygl inni esgeulso ambell bencampwaith llenyddol sydd eto heb ei ddarganfod, tra bod cerddi gan feirdd eraill, gwrywaidd, sydd heb fod tamaid gwell – na chystal weithiau – yn cael eu derbyn i ganon swyddogol llenyddiaeth Gymraeg. (. . .) Oni ddarganfyddwn y merched o lenorion yn y Gymraeg fel y gwnaethpwyd yn barod yn yr iaith Saesneg, yn Ffrangeg ac mewn ieithoedd eraill, troi clust fyddar y byddwn ni i brofiadau hanner poblogaeth Cymru, a thrwy hynny anwybyddu hanes hanner ein cenedl. (…) Yn wahanol i’r sefyllfa yn Lloegr a’r Unol Daleithiau, cropian yng Nghymru y mae’r gwaith o ailddarganfod ac ailasesu gwaith llenorion benywaidd y gorffennol, y rheini a wthiwyd o’r neilltu ac a anghofiwyd gan y ‘Traddodiad Mawr’ swyddogol. Tybed a allwn ni ddarganfod ‘traddodiad’ neu ‘draddodiadau’ benywaidd?

Cafwyd ysgrifau ar amryw bynciau llosg ffeminyddol: merched a’r gyfundrefn addysg, gwragedd a grym yn 19g., traddodiad llenyddol unllygeidiog Cymru, beirniadaeth lenyddol Ffeminist, ynghyd â thrawsysgrifiadau o gyfweliadau â thair llenor benywaidd amlwg, sef Mari Elis, Meg Elis a Menna Elfyn.

Mae modd mesur traweffaith Y Traethodydd 1986 yn benodol ac yn gyffredinol ar feirniadaeth lenyddol Gymreig. Mae dylanwad y rhifyn yn sylweddol ar ymchwil i ganu gan ferched yng Nghymru cyn 1800 ac, ers cyhoeddi Y Traethodydd 1986, mae cyhoeddiadau niferus ar gael sy’n trafod y pwnc yn feirniadol, ac mae gwaith golygedig nifer o feirdd benywaidd wedi gweld golau ddydd mewn print: Gwenllian ferch Rhirid Flaidd, Gwerful Mechain, Alis ferch Gruffudd ab Ieuan, Catrin ferch Gruffudd ap Hywel, ac Angharad James. Mae dylanwad y rhifyn hefyd yn arwyddocaol ym maes cyhoeddiadau beirniadol ac astudiaethau theoretig sy’n ymdrin â Ffeminyddiaeth.

3.3 Y drydedd don ffeminyddol (o’r 1990au ymlaen)

Cafwyd adlach yn erbyn ffeminyddiaeth gan feirniaid llenyddol a chan gymdeithas yn gyffredinol yn y 1990au, ac mae gwleidyddiaeth yn dal i fod yn ddimensiwn pwysig yn y drydedd don. Gyda’r don hon, gwelir problemateiddio’r cysyniad o’r ferch a’r syniad o brofiad trosgynnol y ferch, a rhoddir sylw dyledus i brofiad y ferch lesbaidd, y ferch ddu, y ferch dosbarth gweithiol, ac ati. Yn ystod y don hon, gwelir twf Astudiaethau Menywod ac Astudiaethau Rhywedd, a hynny ar draul Astudiaethau Ffeminyddol efallai.

Degawd ar ôl cyhoeddi rhifyn ffeminyddol Y Traethodydd, cafwyd rhifyn ffeminyddol arbennig o’r cylchgrawn theoretig Tu Chwith (1996) dan olygyddiaeth Jane Aaron, Francesca Rhydderch a Kate Crockett. Y mae’r rhifyn hwn, ‘O’r iard Gefn’ yn mynd i’r afael â’r adlach a fu i feirniadaeth ffeminyddol, ac yn benodol i sylawdau gan R.M. (Bobi) Jones. Ceir ynddo gyfraniadau theoretig gan Mererid Puw Davies a Francesca Rhydderch, cip yn ôl ar Y Traethodydd 1986 gan Kathryn Hughes a Ceridwen Lloyd-Morgan, ynghyd â gwaith creadigol ar ffurf barddoniaeth, rhyddiaith a ffotograffiaeth. Yna i nodi deng mlynedd ar hugain ers y rhifyn arloesol neulltiwyd rhifyn arall o Y Traethodydd i ffeminyddiaeth yn 2017, rhifyn sy’n seiliedig ar gynhadledd a gynhaliwyd i ddathlu cyhoeddiad 1986: ‘Y Gymraeg a’i Llên 1986-2016’, yn Ionawr 2016. Mae’n ymateb yn benodol iawn i’r erthyglau yn y rhifyn gwreiddiol, ac yn gobeithio ‘hybu trafodaeth a hefyd ysgogi ymchwil pellach i’r maes’.

Jane Aaron, Cathryn Charnell-White, Rhiannon Marks, Mair Rees, Siwan Rosser

Llyfryddiaeth

Aaron, J. (1994), ‘Finding a voice in two tongues’, yn Our Sisters’ Land: The changing identities of women in Wales, gol. Jane Aaron, Teresa Rees, Sandra Betts a Moira Vincentelli (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), 183-98.

Aaron, J., Crockett, K. a Rhydderch, F. (goln) (1996), Tu Chwith rhifyn arbennig ffeminyddol ‘O’r Iard Gefn’.

Aaron, J. (1998), Pur fel y Dur: Y Gymraes yn Llên Menywod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Aaron, J. (2017), ‘“O’r Iard Gefn”: Rhifyn arbennig Tu Chwith ar lên menywod (1996)’, Y Traethodydd, 172, 11-21.

Charnell-White, C. (1996), ‘Marwnadau Pantycelyn a pharagonau o’r rhyw deg’, Tu Chwith, 6, 131-41.

Charnell-White, C. (gol.) (2005), Beirdd Ceridwen: Blodeugerdd Barddas o ganu menywod hyd tua 1800 (Abertawe: Cyhoeddiadau Barddas).

Charnell-White, C. (2017), ‘Problems of Authorship and Attribution: The Welsh-Language Women's Canon Before 1800’, Women's Writing: the Elizabethan to Victorian Period, 24: 4, 398-417

Charnell-White, C. a Rosser, S. (2017), Y Traethodydd, 172, rhifyn arbennig ‘Merched a Llenyddiaeth: 1986-2016’.

Elfyn, M., (1992), ‘Trwy lygaid ffeministaidd’, yn Rowlands, J. (gol), Sglefrio ar Eiriau (Llandysul, Gomer), 22-41.

Elfyn, M. (gol.) (2001) O'r Iawn Ryw: Blodeugerdd o farddoniaeth ([[Dinas]] Powys: Honno), rhagymadrodd hanesyddol gan Ceridwen Lloyd-Morgan.

Efrydiau Athronyddol, 55 (1992), rhifyn arbennig ‘Syniadau Ffeminyddol’.

Evans,W. G. (1990), Education and Female Emancipation: The Welsh Experience 1847-1914 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

George, D. (1985), ‘Kate Roberts: ffeminist?’, Y Traethodydd, 140, 185-202.

George, D. (1991), ‘Llais benywaidd y [[nofel]] Gymraeg gyfoes’, Llên Cymru, 16, 363-382

George, D. (1994), ‘The strains of transition: contemporary Welsh-language novelists’, yn Our Sisters’ Land: The changing identities of women in Wales, gol. Jane Aaron, Teresa Rees, Sandra Betts a Moira Vincentelli (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), 199-213.

Gramich, K. (1995), ‘Gorchfygwyr a chwiorydd’, yn DiFfinio Dwy Lenyddiaeth Cymru, gol. M. Wynn Thomas (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), 80-95.

Griffiths, B. (gol.) (2016), Mamwlad: Merched Dylanwadol Cymru (Llanwrst: Gwasg Carreg Gwalch).

Hughes, B. (1991), ‘Merched yn llenyddiaeth y pumdegau’, Taliesin, 75, 101-9.

Hughes, K. a Lloyd-Morgan, C. (goln) (1998), Telyn Egryn (Y Lolfa: Talybont).

Haycock, M., Hughes, K., ap Hywel, E. a Lloyd-Morgan, C. (goln) (1986), Y Traethodydd, 141, rhifyn arbennig ar ffeminyddiaeth

Jarvis, B. (1974), ‘Saunders Lewis, apostol patriarchiaeth’, yn Ysgrifau Beirniadol XIII, gol. J.E. Caerwyn Williams (Dinbych, Gwasg Gee), 296-311.

Jarvis, B. (1999), ‘Kate Roberts a Byd y Ferch’, yn Jarvis, B., Llinynnau (Bodedern: Gwasg Taf), 179-93.

John, A (gol.) (1991), Our Mother’s Land: Chapters in Welsh Women’s History 1830-1939 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, gol. newydd, 2011).

Lloyd-Morgan, C. (1991), ‘Oral composition and written transmission: Welsh women's poetry from the Middle Ages and beyond’, Trivium, 26, 89-102.

Lloyd-Morgan, C. (1994), ‘Cranogwen a barddoniaeth merched yn y Gymraeg’, Barddas, 211, 1-4

Lloyd-Morgan, C. (1996), ‘Ar glawr neu ar lafar: llenyddiaeth a llyfrau merched Cymru o'r bymthegfed ganrif i'r ddeunawfed’, Llên Cymru, 19, 70-78.

Lloyd-Morgan, C. (2000), ‘What’s Welsh for Woman?’, Planet, 200, 26-31.

Masson, U. (2010), ‘For Women, for Wales and for Liberalism’: Women in Liberal Politics in Wales 1880-1914 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Rosser, S. (2005), Y Ferch ym Myd y Faled: Delweddau o'r ferch ym maledi'r ddeunawfed ganrif (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Rhydderch , F. (1997), ‘Cyrff yn cyffwrdd: darlleniadau erotig o Kate Roberts’, Taliesin, 99, 86-97.

Rhydderch F. (2000), ‘“They do not breed de Beauvoirs here”: Kate Roberts's early political journalism’, Welsh writing in English, 6, 21-44.

Showalter, E. (1977), A Literature of their Own: British Women Novelists from Brontë to Lessing (Princeton: Gwasg Prifysgol Princeton).

Showalter, E. ‘Feminist criticism in the wilderness’, yn Modern Criticism and Theory: A Reader, gol. David Lodge (Llundain: Longman, 1988), 331-53.

Stephens, R. (gol.) (1975), Asen Adda: Ysgrifau am y ferch yn y byd sydd ohoni (Llandysul: Gomer).

Wallace, R. (2009), The Women’s Suffrage Movement in Wales 1866-1928 (Cardiff: University of Wales Press).

Williams, S. (1984), ‘Y Frythones: Portread cyfnodolion merched y bedwaredd ganrif ar bymtheg o Gymraeg yr oes’, Llafur, 4, 43-54.

Woolf, V. (1920), ‘A Room of One’s Own’, gol. Jenifer Smith (Caergrawnt: Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 1995).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.