Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Endaf Emlyn"
(→Fideos) |
(→Gweithiau) |
||
(Ni ddangosir y 11 golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 18: | Llinell 18: | ||
==Fideos== | ==Fideos== | ||
+ | |||
+ | Gweler isod fideos o gyfweliad a wnaethpwyd gyda Endaf Emlyn yn Hydref 2010. | ||
<html><iframe height="270" width="500" src="https://llyfrgell.porth.ac.uk/embed.aspx?id=2034&code=9C~XhPTJbCMiFoYdhNYToQd" frameborder="0" allowfullscreen></iframe></html> | <html><iframe height="270" width="500" src="https://llyfrgell.porth.ac.uk/embed.aspx?id=2034&code=9C~XhPTJbCMiFoYdhNYToQd" frameborder="0" allowfullscreen></iframe></html> | ||
Llinell 31: | Llinell 33: | ||
<html><iframe height="270" width="500" src="https://llyfrgell.porth.ac.uk/Embed.aspx?id=2030&code=9s~LlToJNvEIpCMEWN3GLfz" frameborder="0" allowfullscreen></iframe></html> | <html><iframe height="270" width="500" src="https://llyfrgell.porth.ac.uk/Embed.aspx?id=2030&code=9s~LlToJNvEIpCMEWN3GLfz" frameborder="0" allowfullscreen></iframe></html> | ||
+ | ==Gweithiau== | ||
+ | |||
+ | Mae amryw o weithiau Endaf Emlyn ar gael ar gael i ddefnyddwyr cofrestredig yn Llyfrgell y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (rhaid mewngofnodi i'w gweld): | ||
+ | *[https://llyfrgell.porth.ac.uk/view2.aspx?id=2197~4t~UXIKjEBI Un Nos Ola' Leuad] | ||
+ | *[https://llyfrgell.porth.ac.uk/view2.aspx?id=2258~4r~SAdyPCf2 Gadael Lenin] | ||
+ | *Cyfres gyntaf [https://llyfrgell.porth.ac.uk/default2.aspx?catid=453 Tair Chwaer] | ||
+ | *[https://llyfrgell.porth.ac.uk/view2.aspx?id=2195~4r~SAdxPGeY Dirgelwch yr Ogof] | ||
<br> | <br> | ||
{{DEFAULTSORT:Emlyn, Endaf}} | {{DEFAULTSORT:Emlyn, Endaf}} |
Y diwygiad cyfredol, am 17:12, 24 Tachwedd 2016
Ganwyd Endaf Emlyn ger Bangor ar y 31ain Gorffenaf, 1944. Dechreuodd Emlyn ar ei yrfa fel cerddor a sgriptiwr ar gyfer HTV. Daeth yn gynhyrchydd/cyfarwyddwr annibynnol ym 1982 gan sefydlu’r cwmni cynhyrchu Gaucho ym 1984 a oedd yn arbenigo mewn cynyrchiadau drama ffilm unigol wedi eu ffilmio yng Nghymru a thrwy gyfrwng yr Iaith Gymraeg.
Mae ei gynyrchiadau teledu’n cynnwys y rhaglen ddogfen roc Shampw (1983), y ffilm gomedi Gaucho (1984), y ffilm gerdd i blant Y Dyn Nâth Ddwyn y Dolig (1985), y ffantasi am deithio drwy amser Y Cloc (1986) a dwy raglen ddogfen 50 munud o hyd, Taith trwy Jafa a Bali a Patrwm Bywyd. Dangosodd Stormydd Awst (1987), ei ffilm hyd llawn gyntaf, effaith teledu ar gymuned fechan yn y 1950au ac ar berson ifanc arbennig a’i deulu gan enill gwobrwyon yng ngwyliau ffilm Stockholm a Würzburg.
Ym 1991 cyfarwyddodd Emlyn y ffilm Un Nos Ola' Leuad, sy'n addasiad o nofel gan Caradog Pritchard. Cynhyrchwyd y ffilm gan Gaucho, a chafodd lwyddiant byd eang a chlod gan y beirniaid. Dewiswyd hi i gael ei dangos mewn nifer o wyliau ffilm mawreddog gan gynnwys San Sebastián, Llundain, Caeredin, Troia, Texas a Melbourne. Gwerthodd y cwmni gwerthiant ffilm adnabyddus o Lundain, Jane Balfour Films, y ffilm ledled y byd, ac fe’i gwelwyd mewn sinemâu yn Siapan ac Awstralia ymysg lleoliadau eraill.
Ffilmiwyd Gadael Lenin, sy’n adrodd stori trip ysgol i St Petersburg, ar leoliad yn Rwsia ym 1993. Dosbarthwyd y ffilm yn y DU gan Feature Film Co. ac enillodd wobr o £10,000 am y Ffilm Brydeinig Orau gan Gynulleidfaoedd yng Ngŵyl Ffilmiau Llundain ym 1993. Enillodd Wobr y Ffilm Orau yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd ym 1994 ac enillodd Emlyn a’r cydawdur, Sion Eirian, Wobr Writers’ Guild y DU am y Sgript Orau mewn ffilm nad oedd trwy gyfrwng y Saesneg.
Aeth ymlaen i gyfarwyddo’r ffilm Y Mapiwr ym 1995, ffilm gyda chyffyrddiadau swreal, am fachgen ar y trothwy rhwng plentynod a’i arddegau. Ni chafodd hion yr un llwyddiant rhyngwladol a’r ddwy flaenorol ond roedd Emlyn eisoes wedi gosod ei farc fel un o brif gyfarwyddwyr sinema yn yr iaith Gymraeg.
Aeth ymlaen wedyn i gyfarwyddo un gyfres o’r ddrama boblogaidd Tair Chwaer, a chyfarwyddo drama dair rhan drwy gyfrwng y Saesneg ym 1999 o’r enw In The Company of Strangers.
Daeth yn ôl at y ffilm Gymraeg yn 2002 gan gyfarwyddo’r ffilm Dirgelwch yr Ogof, sy'n addasiad o lyfr adnabyddus T. Llew Jones.
Cyfeirnodau
Fideos
Gweler isod fideos o gyfweliad a wnaethpwyd gyda Endaf Emlyn yn Hydref 2010.
Gweithiau
Mae amryw o weithiau Endaf Emlyn ar gael ar gael i ddefnyddwyr cofrestredig yn Llyfrgell y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (rhaid mewngofnodi i'w gweld):
- Un Nos Ola' Leuad
- Gadael Lenin
- Cyfres gyntaf Tair Chwaer
- Dirgelwch yr Ogof
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.