Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Barddoniaeth goncrid"
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ' Term sy'n disgrifio math o farddoniaeth sy'n archwilio'r elfennau materol mewn iaith, yn arbennig yr agweddau gweledol a'r clywedol. Ynysir yr elfennau u...') |
|||
Llinell 4: | Llinell 4: | ||
Er bod defnyddio edrychiad llythrennau i greu patrymau esthetaidd yn arferiad yn Ewrop ers cyfnod yr hen Roegiaid, daeth [[Barddoniaeth Goncrid|barddoniaeth goncrid]] i fri rhyngwladol trwy weithgarwch avant-garde mudiadau megis [[Dyfodolaeth]], Swrrealaeth a Dada yn negawdau cynnar yr ugeinfed ganrif, gan ddatblygu law yn llaw â mudiadau fel lluniadaeth (constructivism) mewn celfyddyd weledol, a digyweiredd (atonality) mewn cerddoriaeth. Enwau a gysylltir â rhai o'r arbrofion hyn yw Raoul Hausmann, F. T. Marinetti, Louis Aragon a Kurt Schwitters. Wedi'r Ail Ryfel Byd, yn rhannol yn sgil rhai o syniadau Wittgenstein am iaith, daeth bri eto ar farddoniaeth goncrid fel modd o buro iaith barddoniaeth o'i chysylltiadau â’r gorffennol (e.e. gwaith Grŵp Fienna yn y 1950au), neu fel modd o groesi ffiniau rhwng barddoniaeth a chelfyddydau eraill (e.e. gwaith Grwp Noigrandes ym Mrasil neu waith y bardd 'amlieithog' Eugen Gomringer). | Er bod defnyddio edrychiad llythrennau i greu patrymau esthetaidd yn arferiad yn Ewrop ers cyfnod yr hen Roegiaid, daeth [[Barddoniaeth Goncrid|barddoniaeth goncrid]] i fri rhyngwladol trwy weithgarwch avant-garde mudiadau megis [[Dyfodolaeth]], Swrrealaeth a Dada yn negawdau cynnar yr ugeinfed ganrif, gan ddatblygu law yn llaw â mudiadau fel lluniadaeth (constructivism) mewn celfyddyd weledol, a digyweiredd (atonality) mewn cerddoriaeth. Enwau a gysylltir â rhai o'r arbrofion hyn yw Raoul Hausmann, F. T. Marinetti, Louis Aragon a Kurt Schwitters. Wedi'r Ail Ryfel Byd, yn rhannol yn sgil rhai o syniadau Wittgenstein am iaith, daeth bri eto ar farddoniaeth goncrid fel modd o buro iaith barddoniaeth o'i chysylltiadau â’r gorffennol (e.e. gwaith Grŵp Fienna yn y 1950au), neu fel modd o groesi ffiniau rhwng barddoniaeth a chelfyddydau eraill (e.e. gwaith Grwp Noigrandes ym Mrasil neu waith y bardd 'amlieithog' Eugen Gomringer). | ||
− | Mabwysiadwyd rhai o ddulliau barddoniaeth goncrid gan feirdd Cymraeg yn y 1970au a'r 1980au (e.e. Euros Bowen, <nowiki>Dafydd</nowiki> Rowlands a Gwynne Williams), ond heb arddel ei hamcanion athronyddol na'i hideoleg ddelwddrylliol. Enghraifft drawiadol o bryddest eisteddfodol led-goncrid yw 'Awelon' gan Aled Jones Williams a enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002. | + | Mabwysiadwyd rhai o ddulliau [[Barddoniaeth Goncrid|barddoniaeth goncrid]] gan feirdd Cymraeg yn y 1970au a'r 1980au (e.e. Euros Bowen, Carmel Gahan, Meirion Pennar, <nowiki>Dafydd</nowiki> Rowlands a Gwynne Williams), ond heb arddel ei hamcanion athronyddol na'i hideoleg ddelwddrylliol. Enghraifft drawiadol o bryddest eisteddfodol led-goncrid yw 'Awelon' gan Aled Jones Williams a enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002. |
'''Angharad Price''' | '''Angharad Price''' |
Diwygiad 08:58, 17 Mai 2018
Term sy'n disgrifio math o farddoniaeth sy'n archwilio'r elfennau materol mewn iaith, yn arbennig yr agweddau gweledol a'r clywedol. Ynysir yr elfennau unigol, a'u cyfosod mewn patrymau newydd, ailadroddus yn aml, heb dalu sylw i ofynion cystrawennau traddodiadol na ffurfiau barddonol cydnabyddedig. Pan fo'r pwyslais ar y gweledol, defnyddir teipograffi, neu leoliad y geiriau ar y tudalen, i greu ystyr y gerdd. Yn y patrwm a grëir yn weledol y mae'r arwyddocâd, yn hytrach nag yn ystyr semantaidd y geiriau. Yn yr un modd, mae cerdd goncrid sy'n glywedol ei phwyslais yn defnyddio sŵn geiriau i greu patrymau ieithyddol ystyrlon. Drwodd a thro, mae'r pwyslais ar rym materol iaith, yn hytrach nag ar fynegiant goddrychol y llais ‘telynegol'. Testun y gerdd yw ei heffaith ar y llygad neu'r glust (neu'r ddeubeth yr un pryd): mae'r ystyr, felly, yn bodoli yn y dimensiwn diriaethol neu 'goncrid'.
Er bod defnyddio edrychiad llythrennau i greu patrymau esthetaidd yn arferiad yn Ewrop ers cyfnod yr hen Roegiaid, daeth barddoniaeth goncrid i fri rhyngwladol trwy weithgarwch avant-garde mudiadau megis Dyfodolaeth, Swrrealaeth a Dada yn negawdau cynnar yr ugeinfed ganrif, gan ddatblygu law yn llaw â mudiadau fel lluniadaeth (constructivism) mewn celfyddyd weledol, a digyweiredd (atonality) mewn cerddoriaeth. Enwau a gysylltir â rhai o'r arbrofion hyn yw Raoul Hausmann, F. T. Marinetti, Louis Aragon a Kurt Schwitters. Wedi'r Ail Ryfel Byd, yn rhannol yn sgil rhai o syniadau Wittgenstein am iaith, daeth bri eto ar farddoniaeth goncrid fel modd o buro iaith barddoniaeth o'i chysylltiadau â’r gorffennol (e.e. gwaith Grŵp Fienna yn y 1950au), neu fel modd o groesi ffiniau rhwng barddoniaeth a chelfyddydau eraill (e.e. gwaith Grwp Noigrandes ym Mrasil neu waith y bardd 'amlieithog' Eugen Gomringer).
Mabwysiadwyd rhai o ddulliau barddoniaeth goncrid gan feirdd Cymraeg yn y 1970au a'r 1980au (e.e. Euros Bowen, Carmel Gahan, Meirion Pennar, Dafydd Rowlands a Gwynne Williams), ond heb arddel ei hamcanion athronyddol na'i hideoleg ddelwddrylliol. Enghraifft drawiadol o bryddest eisteddfodol led-goncrid yw 'Awelon' gan Aled Jones Williams a enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002.
Angharad Price
Llyfryddiaeth
Higgins, D. (1993) 'Concrete Poetry' yn A. Preminger a T. V. F. Brogan, The New Princeton Encyclopedia of Poetry and Poetics (Princeton, New Jersey: Princeton University Press).
Jones Williams, A. (2002) , 'Awelon', yn J. Elwyn Hughes, gol., Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Sir Benfro, Tyddewi (Llandybïe: Gwasg Dinefwr dros Lys yr Eisteddfod Genedlaethol).
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.