Dyfodolaeth

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mudiad yw dyfodolaeth a dyfodd o weledigaeth yr Eidalwr, Filippo Tommaso Marinetti (1876 - 1944) ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Yn 1909, cyhoeddwyd ‘Manifeste du futurisme’ (Maniffesto Dyfodolaeth) ar dudalen blaen Le Figaro, papur newydd Paris, gan ddechrau mudiad celfyddydol yn yr Eidal a fu’n ddylanwadol tan y 1920au.

Fel mudiad celfyddydol, roedd clodfori’r bywyd modern, addoli prydferthwch peiriannau newydd ac annog chwyldro yn rhan annatod o’i feddylfryd. Yn y maniffesto gwreiddiol, gwelwyd angen i ail-greu’r Eidal drwy ddefnyddio dulliau newydd o lenydda, paentio a cherflunio. Hyrwyddwyd themâu a âi’n groes i’r traddodiadol: clodforir peiriannau’r Oes Ddiwydiannol a phwysleisir rôl yr ifanc ac ysbryd gwrthryfela. Pwysleisir hefyd rôl trais a dethlir y syniad o ryfel fel ffordd o lanhau’r byd, yn ôl y maniffesto – fel rhywbeth holl bwysig. Er mai arlunwyr a llenorion oedd dilynwyr y mudiad, aeth nifer ohonynt i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Beirniada’r Dyfodolwyr y byd academaidd, ac amlinellir yn y maniffesto fod sefydliadau swyddogol megis prifysgolion, amgueddfeydd a llyfrgelloedd yn llethu ffurfiau newydd o gelfyddyd, am eu bod yn cynnal gwerthoedd y gorffennol. Ysgrifennodd Marinetti yn y maniffesto eu bod yn barod i ymwrthod yn llwyr â’r gorffennol, a dathlu eu hieuenctid. Dadleua beirniaid megis Caroline Tisdall ac Angelo Bozzolla nad rhywbeth newydd mo’r atgasedd amlwg tuag at academia a syniadaeth radicalaidd o’r fath. Maes o law, noda eraill fod Dyfodolaeth yn rhannu’r un ysbryd gwrthryfelgar – gan herio gwerthoedd diwylliannol traddodiadol – â dilynwyr Dada a llenorion ac arlunwyr Swrealaidd. Perthynai isleisiau gwleidyddol i syniadaeth y Dyfodolwyr, yn y modd yr hyrwyddid y mudiad ar dudalennau papurau newydd ledled Ewrop ac ar ffurf ralïau poblogaidd. Yn 1918, sylfaenwyd ‘Partito Politico Futurista’ (Plaid Wleidyddol Dyfodolaeth) gan Marinetti, gan arddangos natur genedlaetholgar a gwleidyddol y mudiad. Fodd bynnag, ymunodd yn ddiweddarach â Phlaid Ffasgaidd yr Eidal, gan ysgrifennu maniffesto’r blaid, a gweithio i sefydlu ‘Dyfodolaeth’ yn rhan swyddogol o’r gyfundrefn Ffasgaidd fel modd o fynegiant swyddogol y gyfundrefn Ffasgaidd. Er mai methiant fu hynny, mae nifer yn dal i gysylltu’r mudiad celfyddydol gyda’r Ffasgwyr.

Câi Dyfodolaeth gryn ddylanwad ar syniadaeth esthetaidd. Arlunwyr enwog a fu’n rhannu syniadaeth Marinetti oedd Umberto Boccioni, Gino Severini, Giacomo Balla, Anton Giulio Bragaglia, Carlo Carra, ac ymysg llenorion y mudiad yr oedd Marinetti ei hun a’r bardd Aldo Giulani-Palazzechi.

Mae’n anodd gweld pa ddylanwad gafodd Dyfodolaeth yng Nghymru – os cafodd unrhyw ddylanwad o gwbl. Ni fedr Meic Stephens, mewn erthygl yn Taliesin yn trafod Moderniaeth, feddwl am enghreifftiau o weithiau Cymraeg sy’n adlewyrchu syniadaeth y Dyfodolwyr, a noda hefyd nad oedd syniadaeth Marinetti yn boblogaidd yn Llundain. Wrth ymweld â’r ddinas yn 1913, dywedodd y llenor Richard Aldington: ‘Mr. Marinetti has been reading his poems to London. We are vaguely alarmed and do not know whether to laugh or not.’

Miriam Elin Jones

Llyfryddiaeth

Flint, R. W. (1972), Marinetti: Selected Writings (London: Secker & Warburg).

Marinetti, F. T. (1973), ‘The Founding and Manifesto of Futurism 1909’, yn Umbro Apollnio (gol.), Futurist Manifestos (Boston: MFA Publications), tt. 19-24.

Rye, J. (1972), Futurism (London: Studio Vista).

Stephens, M. (1972), ‘Moderniaeth’, Taliesin, 24, 54-65.

Tisdall, C. a Bozzolla, A. (1977), Futurism (London: Thames and Hudson).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.