Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Humphreys, Alwyn (g.1944)"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) (Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddori...') |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
+ | __NOAUTOLINKS__ | ||
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | ||
Llinell 5: | Llinell 6: | ||
Yn dod yn wreiddiol o Ynys Môn, graddiodd mewn cerddoriaeth o [[Brifysgol]] Hull yn 1966 cyn mynd ymlaen i astudio yng Ngholeg y Drindod, Llundain. Bu’n darlithio am gyfnod yng ngholeg Mabel Fletcher yn Lerpwl cyn symud i fyd y [[cyfryngau]], gan ddod yn ddarlledwr, cynhyrchydd a chyfarwyddwr teledu gyda’r BBC. Bu’n gyfarwyddwr cerdd ac arweinydd [[Côr]] Orpheus Treforys am 25 mlynedd gan roi’r gorau i’r gwaith yn 2005. Yn ystod y cyfnod yma llwyddodd y côr i dderbyn dwy ddisg aur gan gyrraedd deg uchaf y siartiau clasurol Prydeinig. | Yn dod yn wreiddiol o Ynys Môn, graddiodd mewn cerddoriaeth o [[Brifysgol]] Hull yn 1966 cyn mynd ymlaen i astudio yng Ngholeg y Drindod, Llundain. Bu’n darlithio am gyfnod yng ngholeg Mabel Fletcher yn Lerpwl cyn symud i fyd y [[cyfryngau]], gan ddod yn ddarlledwr, cynhyrchydd a chyfarwyddwr teledu gyda’r BBC. Bu’n gyfarwyddwr cerdd ac arweinydd [[Côr]] Orpheus Treforys am 25 mlynedd gan roi’r gorau i’r gwaith yn 2005. Yn ystod y cyfnod yma llwyddodd y côr i dderbyn dwy ddisg aur gan gyrraedd deg uchaf y siartiau clasurol Prydeinig. | ||
− | Bu’n wyneb | + | Bu’n wyneb cyfarwydd ar BBC Cymru ac S4C, yn sylwebu o lwyfan yr [[Eisteddfod]] Genedlaethol ac yn gyflwynydd rhaglenni megis ''Prynhawn Da, Heno'' a ''Dechrau Canu, Dechrau Canmol.'' Gyda’i osgo hamddenol ond gwybodus o’r maes, fe lwyddodd ei raglen radio glasurol ''Cywair'' ar Radio Cymru ar foreau Sul yn ystod yr 1980au i agor clustiau cenedlaethau o wrandawyr i gerddoriaeth glasurol a chelfyddydol o bob math, gyda sain nodweddiadol y cymbalom i’w chlywed yn y gerddoriaeth agoriadol: intermezzo allan o opera ''Háry János'' Zoltán Kodály. |
Fel [[cyflwynydd]] teledu a radio fe wnaeth Alwyn Humphreys ymron mwy na neb arall i boblogeiddio [[cerddoriaeth offerynnol]], [[cerddoriaeth gorawl]] a ''repertoire'' yr [[opera]] ymysg Cymry Cymraeg drwy ei ddarllediadau diddorol a deallus o’r maes. Derbyniodd MBE yn 2001 am ei wasanaeth i gerddoriaeth yng Nghymru. | Fel [[cyflwynydd]] teledu a radio fe wnaeth Alwyn Humphreys ymron mwy na neb arall i boblogeiddio [[cerddoriaeth offerynnol]], [[cerddoriaeth gorawl]] a ''repertoire'' yr [[opera]] ymysg Cymry Cymraeg drwy ei ddarllediadau diddorol a deallus o’r maes. Derbyniodd MBE yn 2001 am ei wasanaeth i gerddoriaeth yng Nghymru. | ||
Llinell 13: | Llinell 14: | ||
==Llyfryddiaeth== | ==Llyfryddiaeth== | ||
− | :''Alwyn Humphreys - Yr | + | :''Alwyn Humphreys - Yr Hunangofiant'' (Talybont, 2006) |
{{CC BY-SA Cydymaith}} | {{CC BY-SA Cydymaith}} |
Diwygiad 20:55, 25 Mawrth 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Cerddor, arweinydd, awdur a ffigwr hynod bwysig a dylanwadol ym maes cerddoriaeth glasurol yng Nghymru.
Yn dod yn wreiddiol o Ynys Môn, graddiodd mewn cerddoriaeth o Brifysgol Hull yn 1966 cyn mynd ymlaen i astudio yng Ngholeg y Drindod, Llundain. Bu’n darlithio am gyfnod yng ngholeg Mabel Fletcher yn Lerpwl cyn symud i fyd y cyfryngau, gan ddod yn ddarlledwr, cynhyrchydd a chyfarwyddwr teledu gyda’r BBC. Bu’n gyfarwyddwr cerdd ac arweinydd Côr Orpheus Treforys am 25 mlynedd gan roi’r gorau i’r gwaith yn 2005. Yn ystod y cyfnod yma llwyddodd y côr i dderbyn dwy ddisg aur gan gyrraedd deg uchaf y siartiau clasurol Prydeinig.
Bu’n wyneb cyfarwydd ar BBC Cymru ac S4C, yn sylwebu o lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn gyflwynydd rhaglenni megis Prynhawn Da, Heno a Dechrau Canu, Dechrau Canmol. Gyda’i osgo hamddenol ond gwybodus o’r maes, fe lwyddodd ei raglen radio glasurol Cywair ar Radio Cymru ar foreau Sul yn ystod yr 1980au i agor clustiau cenedlaethau o wrandawyr i gerddoriaeth glasurol a chelfyddydol o bob math, gyda sain nodweddiadol y cymbalom i’w chlywed yn y gerddoriaeth agoriadol: intermezzo allan o opera Háry János Zoltán Kodály.
Fel cyflwynydd teledu a radio fe wnaeth Alwyn Humphreys ymron mwy na neb arall i boblogeiddio cerddoriaeth offerynnol, cerddoriaeth gorawl a repertoire yr opera ymysg Cymry Cymraeg drwy ei ddarllediadau diddorol a deallus o’r maes. Derbyniodd MBE yn 2001 am ei wasanaeth i gerddoriaeth yng Nghymru.
Pwyll ap Siôn
Llyfryddiaeth
- Alwyn Humphreys - Yr Hunangofiant (Talybont, 2006)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.