Opera

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Er i’r disgrifiad ‘Gwlad y Gân’ gael ei gysylltu â Chymru er y 18g., prin fu operâu yn yr iaith Gymraeg ar hyd y blynyddoedd. Gellir olrhain gwreiddiau’r ffurf i ymdrechion cynnar Jacopo Peri (1561–1633) a Claudio Monteverdi (1567–1643) yn yr Eidal ar ddechrau’r 17g. (gyda L’Orfeo yr olaf o’r ddau yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf yn 1607), ond bu’n rhaid disgwyl dros 250 mlynedd cyn clywed yr opera gyntaf yn y Gymraeg: Blodwen gan Joseph Parry, a berfformiwyd yn Aberystwyth yn 1878.

Er i Blodwen dorri tir newydd yn ieithyddol a chelfyddydol, ceidwadol oedd yr arddull gerddorol o gymharu ag operâu cyfoes y cyfnod, boed yn weledigaeth genedlaetholgar Verdi neu gysyniad Wagner o’r gwaith celfyddydol cyflawn (yr hyn a alwai’n Gesamtkunstwerke). Clywir dylanwadau o hanner cyntaf y 19g. yn unawdau a chytganau opera Parry, o Rossini i Donizetti, tra mae’r ddeuawd gariadus rhwng Hywel a Blodwen, a oroesodd yn llawer gwell na gweddill y gwaith, mewn arddull sy’n awgrymu Mozart o gyfnod Y Ffliwt Hud (1791) – opera a gyfansoddwyd bron canrif ynghynt.

Fodd bynnag, yn ei dydd roedd Blodwen yn llwyddiant ysgubol, a bu cannoedd o berfformiadau ohoni ledled gwlad lle’r oedd opera yn ffurf gwbl ddieithr i’r mwyafrif, ond gyda’r iaith Gymraeg yn dal yn gyfrwng naturiol. Rhaid bod rhywbeth yng nghyfuniad y gwaith o wisgoedd ffug-ganoloesol, canu angerddol Eidalaidd, rhith-ramant lliwgar a sentimentaliaeth a oedd yn taro tant gyda chenedl ynghanol chwyldro diwydiannol a diwylliannol degawdau olaf y 19g.

Ond er gwaethaf gallu telynegol amlwg Joseph Parry, ni wnaeth Blodwen argyhoeddi fel cyfanwaith operatig, ac ar ôl marwolaeth y cyfansoddwr yn 1903 ni fu perfformiad ohoni tan yr ymgais lew yn 1978 (ganrif wedi’r perfformiad cyntaf) i anadlu bywyd yn ôl i’r gwaith trwy help recordiad, gydag offeryniaeth newydd wedi ei darparu gan Dulais Rhys gyda John Hywel yn arwain. Nid oedd gan Parry na’r cefndir, y profiad na’r cyfle i feistroli holl hanfodion y cynfas mawr.

Prin fu’r ymdrechion i ddatblygu’r ffurf yng Nghymru yn yr hanner can mlynedd wedi ymgais Parry; eithriadau oedd dwy opera David de Lloyd, Tir Na N’og (1916) a Gwenllian (1924), y naill mewn tair act i libreto gan T. Gwynn Jones tra oedd geiriau’r llall yn gywaith rhwng Jones a T. Eurwedd Williams.

Daeth tro ar fyd wedi’r Ail Ryfel Byd pan sefydlwyd Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn 1946. Bu hyn yn sbardun i gyfansoddwyr edrych o’r newydd ar y cyfrwng. A phan sefydlwyd yr Urdd er Hyrwyddo Cerddoriaeth Cymru (Cymdeithas Cerddoriaeth Cymru bellach) yn 1955, rhoddwyd ychydig mwy o bwyslais ar hyrwyddo operâu Cymraeg a Chymreig. Comisiynwyd Arwel Hughes gan y cwmni cenedlaethol i gyfansoddi’r opera Menna yn 1953. Cafodd y gwaith, a oedd yn seiliedig ar chwedl Gymraeg, ei berfformio ym Mhafiliwn Gerddi Sophia, Caerdydd, ac yn Sadler’s Wells, Llundain.

Tua’r un cyfnod cwblhaodd Ian Parrott Yr Hwrdd Du (The Black Ram, 1951–3), opera mewn dwy act yn seiliedig ar hanes gwas ffarm o’r enw Siôn Philip a gafodd ei grogi tua chanol y 18g. am ddwyn defaid o dir yswain stad Peterwell, Llanbedr Pont Steffan. Cyfieithwyd libreto H. Idris Bell i’r Gymraeg gan T. H. Parry-Williams. Bu’r gwaith, a gafodd ei ddisgrifio fel ‘opera werin gyfoes’, yn dra llwyddiannus (Redlich 1956; Stephens 2012).

Arwel Hughes a arweiniodd berfformiad cyntaf Yr Hwrdd Du yn Chwefror 1957, ac ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach fe’i comisiynwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru i gyfansoddi ei ail opera, Serch yw’r Doctor, ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 1960. Addasiad Saunders Lewis o ddrama Molière yw’r libreto, a hwn oedd y tro cyntaf ers dyddiau Blodwen i opera gael ei pherfformio yn y Gymraeg.

Er i Opera Cenedlaethol Cymru droi’n fwyfwy proffesiynol yn ystod yr 1960au a’r 1970au, prin fu operâu yn yr iaith Gymraeg. Troi i’r Saesneg ar gyfer eu libretti a wnaeth nifer o gyfansoddwyr a gomisiynwyd gan y cwmni yn yr 1960au, yr 1970au a’r 1980au. Ymhlith yr operâu hyn yr oedd The Parlour (1961) gan Grace Williams, The Beach of Falesá (1970–74) gan Alun Hoddinott a The Servants (1980) gan William Mathias, a berfformiwyd yn 1966, 1974 ac 1980 yn eu tro. Bu Hoddinott yn doreithiog yn y cyfrwng gan gyfansoddi chwe opera, gyda’r olaf, Tower (1998–9), a gynhyrchwyd gan Opera Box, yn seiliedig ar hanes Glofa’r Tŵr.

Yn eironig ddigon, er bod y byd opera yn hapus iawn i dderbyn cantorion Cymraeg a Chymreig i’w lwyfannau, pethau prin iawn o hyd oedd operâu yn y Gymraeg. Y rhesymau a roddwyd oedd prinder cynulleidfa, prinder cantorion a phrinder arian. Roedd agwedd nawddoglyd ac elitaidd tuag at y cysyniad o opera yn y Gymraeg yn dal i fodoli o’r tu allan. Er enghraifft, wrth drafod opera Parrott, Yr Hwrdd Du, canmolai H. F. Redlich y cyfansoddwr am lwyddo i anelu’r gerddoriaeth ‘at an unsophisticated Welsh audience for whom opera is a new and unexplored medium of national self-expression’ (Redlich 1956, 102). Yn wir, credai rhai nad oedd gan Gymru gyfansoddwr digon abl i gyfansoddi opera safonol o gwbl, waeth bynnag ei bod yn Gymraeg. Parhau i noddi cyfansoddwyr y tu hwnt i’r ffin a wnaeth Opera Cenedlaethol Cymru ar ddiwedd yr 20g. a dechrau’r 21g., wrth gomisiynu operâu gan Peter Maxwell Davies (The Doctor of Myddfai, 1996) a James MacMillan (The Sacrifice, 2007), y naill yn seiliedig ar chwedl Llyn y Fan Fach a’r llall yn addasiad o stori ‘Branwen Ferch Llŷr’ o’r Mabinogi.

Efallai mai diffyg arian ac adnoddau fu’n gyfrifol am amharodrwydd yr Eisteddfod Genedlaethol i fentro i gyfeiriad opera, gan fodloni ar gynnig gweithiau ar raddfa lai, megis Culhwch ac Olwen (1966), ‘difyrrwch’ gan William Mathias ar gyfer adroddwr, corws, deuawd piano ac offerynnau taro, i eiriau gan Gwyn Thomas, a gomisiynwyd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn 1967. Yn 2000 gweithiodd Gwyn Thomas ar stori Culhwch ac Olwen am yr ail waith, y tro hwn gyda’r cyfansoddwr Geraint Lewis, ar gyfer perfformiad a lwyfannwyd yng Ngŵyl Cricieth. Ers hynny daeth operâu cymunedol yn fwy cyffredin, megis Cofi Opera (2008) gan Owain Llwyd – prosiect gydag ardal Sgubor Goch, Caernarfon – a’r opera ddwyieithog Gair ar Gnawd (2015) gan Pwyll ap Siôn, i libreto gan Menna Elfyn.

Yn ystod yr 1980au a’r 1990au aeth y genhedlaeth a ddilynodd Hoddinott a Mathias ati i ailddiffinio terfynau’r cyfrwng. Cafodd The Journey (1979) gan John Metcalf, a gomisiynwyd gan Opera Cenedlaethol Cymru, ei hysbrydoli gan athroniaeth hap a damwain yr I Ching (Boyd 1981; Lewis 2007), tra mae ei opera siambr swreal A Chair in Love (2002) yn cynnwys ci fel un o’r prif gymeriadau. Yn dilyn sefydlu’r cwmni Music Theatre Wales (MTW) yn 1988, cafwyd gweithiau a oedd yn archwilio arddulliau theatr gerdd gyfoes ar raddfa dipyn llai nag operâu clasurol. Cynhyrchwyd dwy o operâu John Hardy, Flowers (1994) a The Roswell Incident (1997), gan MTW, ac yn 2017 Y Tŵr gan Guto Puw, addasiad ar y cyd gyda Theatr Genedlaethol Cymru o ddrama Gwenlyn Parry o 1978 i libreto gan Gwyneth Glyn, ynghyd ag addasiad Gareth Glyn o nofel Islwyn Ffowc Elis, Wythnos yng Nghymru Fydd, i libreto gan Mererid Hopwood ar gyfer OPRA Cymru yn 2017. A hithau’n opera fodern a chyfoes yn yr iaith Gymraeg, derbyniodd Y Tŵr ymateb cadarnhaol ymysg cynulleidfaoedd a beirniaid yng Nghymru a thu hwnt (gw. Evans 2017, Titus 2017), gan awgrymu bod lle pellach i ddatblygu cyfrwng a gafodd ei esgeuluso yn y Gymraeg am amser rhy hir.

Pwyll ap Siôn a Geraint Lewis

Llyfryddiaeth

  • H. F. Redlich, ‘A New Welsh Folk-Opera’, Music & Letters, 37 (1956), 101–106
  • Malcolm Boyd, ‘Metcalf and “The Journey”’, The Musical Times, 122/1660 (1981), 369–371
  • Richard Fawkes, Welsh National Opera (Llundain, 1986)
  • Meic Stephens, ‘Ian Parrott: Modernist composer who drew on Welsh folk traditions’, The Independent (3 Rhagfyr 2012)
  • Geraint Lewis, ‘John Metcalf’, New Grove Dictionary of Music and Musicians, gol. Stanley Sadie (Llundain, 2001)
  • Rian Evans, ‘Y Tŵr review – Welsh-language opera traces marriage’s highs and lows’, The Guardian (22 Mai 2017)
  • Llŷr Titus, ‘“Pam difetha drama dda?” Adolygiad o Y Tŵr, Music Theatre Wales a Theatr Genedlaethol Cymru’, O’r Pedwar Gwynt (13 Mehefin 2017)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.