Ffug
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Pedwarawd roc amgen o dde-orllewin Cymru. Aelodau’r band yw Iolo Selyf James (prif lais), Billy Morley (gitâr flaen), Henry Jones (gitâr fas) a Joey Robbins (drymiau). Daethant i sylw am y tro cyntaf yn sgil eu EP Cofiwch Dryweryn (Fflach, 2014). Roedd caneuon dadleuol fel ‘Llosgwch y Tŷ i Lawr’ a ‘Cariad Dosbarth Canol Cymru’ yn ymdrin â phrofiad pobl ifanc a’u magwraeth mewn cymdeithas Gymraeg draddodiadol. Awgrymir dylanwad David R. Edwards o Datblygu yn ‘Cariad Dosbarth Canol Cymru’, sy’n gwawdio Cymry’r cyfryw ddosbarth am chwarae’r delyn a mynd i eisteddfodau, ac yn dweud wrthym am ‘anghofio Tryweryn’. Mae arddull gerddorol y band yn galetach na Datblygu, fodd bynnag, gan amrywio o bync amrwd i ffync egnïol grwpiau fel y Red Hot Chili Peppers.
Wedi llwyddiant Cofiwch Dryweryn, cafodd y band wared o’r fannod o flaen eu henw a dechrau rhoi priflythrennau iddo. Yn 2016 arwyddodd y grŵp gytundeb gyda label Strangetown gan ryddhau’r sengl ‘Speedboat Dreaming’ ac yna’u halbwm cyntaf eponymaidd. Dafydd Ieuan, drymiwr y Super Furry Animals, fu’n gyfrifol am gynhyrchu’r albwm dwyieithog a oedd yn cynnwys deg o ganeuon. Cryfhawyd y berthynas rhwng y ddau fand pan aeth FFUG ar daith gyda’r Super Furries yn 2016. Mae’r albwm yn ymdrin â themâu cyfoes yn codi o fyd pobl ifanc, yn enwedig caneuon fel ‘Alcoholic Anorexic’. Fodd bynnag, roedd rhai caneuon eraill, fel ‘Speedboat Dreaming’, yn ymdrech i ymestyn a datblygu cymeriad seinyddol y grŵp trwy arbrofi â seicedelia mwy breuddwydiol, gyda dylanwad y Super Furries yn treiddio trwy rai caneuon.
Cysylltir FFUG â pherfformiadau llwyfan trawiadol sy’n ddyledus iawn i agwedd a delwedd Iolo James. Nid yw’n chwarae unrhyw offeryn wrth ganu, ac o ganlyniad mae’n rhydd i ganolbwyntio ar yr ystumiau egnïol sy’n ei nodweddu fel perfformiwr.
Gethin Griffiths
Disgyddiaeth
- Cofiwch Dryweryn [EP] (Fflach CDO58J, 2014)
- Ffug (Strangetown STR031CD, 2016)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.