Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Davies, J. Glyn (1870-1953)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 4: Llinell 4:
 
Awdur, ysgolhaig, casglwr, bardd, cofnodwr a chyfansoddwr caneuon oedd John Glyn Davies. Brodor o Lerpwl ydoedd ac aelod o deulu Cymreig a oedd yn ddisgynyddion i Angharad James, Dolwyddelan (1677–1749) a’r Parch. John Jones, Tal-y-sarn (1797–1857).
 
Awdur, ysgolhaig, casglwr, bardd, cofnodwr a chyfansoddwr caneuon oedd John Glyn Davies. Brodor o Lerpwl ydoedd ac aelod o deulu Cymreig a oedd yn ddisgynyddion i Angharad James, Dolwyddelan (1677–1749) a’r Parch. John Jones, Tal-y-sarn (1797–1857).
  
Yn dilyn prentisiaeth mewn swyddfa llongau hwylio (Rathbone Bros., Lerpwl) ymfudodd am gyfnod i Seland Newydd i gloddio am aur. Fel un o sylfaenwyr Cymdeithas Gymraeg Auckland, rhoddodd bwys mawr ar gerddoriaeth Cymru a thraddodiad y delyn yng ngweithgaredd ei gyd-Gymry alltud cyn dychwelyd i Aberystwyth a dechrau’r gwaith o sefydlu Llyfrgell Gymraeg yno ([[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]] yn ddiweddarach).
+
Yn dilyn prentisiaeth mewn swyddfa llongau hwylio (Rathbone Bros., Lerpwl) ymfudodd am gyfnod i Seland Newydd i gloddio am aur. Fel un o sylfaenwyr Cymdeithas Gymraeg Auckland, rhoddodd bwys mawr ar gerddoriaeth Cymru a thraddodiad y delyn yng ngweithgaredd ei gyd-Gymry alltud cyn dychwelyd i Aberystwyth a dechrau’r gwaith o sefydlu Llyfrgell Gymraeg yno ([[Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd | Llyfrgell Genedlaethol Cymru]] yn ddiweddarach).
  
Yn 1907, trwy wahoddiad Kuno Meyer, cafodd ei benodi’n ddarlithydd yn Adran Gelteg [[Prifysgol]] Lerpwl, a bu’n allweddol yn sefydlu Adran Gymraeg yn y sefydliad hwnnw ac ym Mhrifysgol Dulyn. Canai’r [[delyn]], y piano a’r [[ffidil]], ac ymddiddorai yn y sipsiwn Cymreig (teulu Abram Wood; gw. [[Woodiaid, Teulu’r]]) ynghyd â’u cyfraniad neilltuol i fyd cerddoriaeth, [[offerynnau traddodiadol]] a [[dawns]] yng Nghymru’r 19g. Yn ystod ei deithiau darlithio a’i fordeithiau cyson taniwyd ei ddiddordeb mewn caneuon sianti a chaneuon môr. Ei blant, fodd bynnag, a’i hysgogodd i gyfansoddi caneuon. Teimlai fod bwlch mawr ym myd caneuon Cymraeg ar gyfer yr ifanc ac anfarwolwyd enwau ei ferched yn un o’i ganeuon:
+
Yn 1907, trwy wahoddiad Kuno Meyer, cafodd ei benodi’n ddarlithydd yn Adran Gelteg [[Prifysgolion a Cherddoriaeth yng Nghymru | Prifysgol]] Lerpwl, a bu’n allweddol yn sefydlu Adran Gymraeg yn y sefydliad hwnnw ac ym Mhrifysgol Dulyn. Canai’r [[Telyn | delyn]], y piano a’r [[Ffidil | ffidil]], ac ymddiddorai yn y sipsiwn Cymreig (teulu Abram Wood; gw. [[Woodiaid, Teulu’r (Y Sipsiwn Cymreig) | Woodiaid, Teulu’r]]) ynghyd â’u cyfraniad neilltuol i fyd cerddoriaeth, [[Organoleg ac Offerynnau | offerynnau traddodiadol]] a [[Gwerin, Arferion Dawnsio | dawns]] yng Nghymru’r 19g. Yn ystod ei deithiau darlithio a’i fordeithiau cyson taniwyd ei ddiddordeb mewn caneuon sianti a chaneuon môr. Ei blant, fodd bynnag, a’i hysgogodd i gyfansoddi caneuon. Teimlai fod bwlch mawr ym myd caneuon Cymraeg ar gyfer yr ifanc ac anfarwolwyd enwau ei ferched yn un o’i ganeuon:
  
 
:Gwen a Mair ac Elin  
 
:Gwen a Mair ac Elin  
Llinell 13: Llinell 13:
 
:A chrïo’n anghyffredin.
 
:A chrïo’n anghyffredin.
  
Pen Llŷn ac ardaloedd Morfa Nefyn ac Edern yn benodol a fu’n sail i Gymreictod J. Glyn Davies. Yno, yn ystod ei wyliau haf fel plentyn ac fel oedolyn, y cyfoethogwyd ei fedr ar yr iaith ac yr ehangwyd ar ei brofiad o’r môr. Yn Llŷn y clywodd ei sianti gyntaf a’r alawon hynny fu’n ysbrydoliaeth i’w gasgliadau – ''Cerddi Huw Puw'' (1922), ''Cerddi Portinllaen'' (1936) a ''Cerddi Edern'' (1955). Cyfrannodd hefyd fel ymchwilydd i fyd [[cerdd dant]] yng Nghymru er nad oedd yn ddatgeinydd nac yn osodwr. Yn hytrach, cyhoeddoedd erthyglau o safbwynt un a werthfawrogai’r traddodiad a bu’n olrhain twf a datblygiad y grefft yng ngoleuni’r dystiolaeth a geir yn [[llawysgrifau]] Lewis Morris o Fôn.
+
Pen Llŷn ac ardaloedd Morfa Nefyn ac Edern yn benodol a fu’n sail i Gymreictod J. Glyn Davies. Yno, yn ystod ei wyliau haf fel plentyn ac fel oedolyn, y cyfoethogwyd ei fedr ar yr iaith ac yr ehangwyd ar ei brofiad o’r môr. Yn Llŷn y clywodd ei sianti gyntaf a’r alawon hynny fu’n ysbrydoliaeth i’w gasgliadau – ''Cerddi Huw Puw'' (1922), ''Cerddi Portinllaen'' (1936) a ''Cerddi Edern'' (1955). Cyfrannodd hefyd fel ymchwilydd i fyd [[Cerdd Dant | cerdd dant]] yng Nghymru er nad oedd yn ddatgeinydd nac yn osodwr. Yn hytrach, cyhoeddoedd erthyglau o safbwynt un a werthfawrogai’r traddodiad a bu’n olrhain twf a datblygiad y grefft yng ngoleuni’r dystiolaeth a geir yn [[Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd | llawysgrifau]] Lewis Morris o Fôn.
  
Ei gyfarfyddiad ag Edward Wood yng Ngwesty’r Plas Coch, Y Bala (''c''.1892) yn ogystal ag arbenigedd ei gyd-ddarlithydd yn Lerpwl, John Sampson (1862– 1931), fodd bynnag a enynnodd ei ddiddordeb yng ngallu cerddorol y Sipsiwn Cymreig. Trwy gyfrwng ei ohebiaeth gydag aelodau o’r teulu, a’i ymweliadau cyson â’u gwersylloedd, daeth i werthfawrogi mwy am arferion y Romani a dyfnhawyd ei ddealltwriaeth o’r traddodiad brodorol Cymreig yn ei grynswth.
+
Ei gyfarfyddiad ag Edward Wood yng Ngwesty’r Plas Coch, Y Bala (''c''.1892) yn ogystal ag arbenigedd ei gyd-ddarlithydd yn Lerpwl, John Sampson (1862–1931), fodd bynnag a enynnodd ei ddiddordeb yng ngallu cerddorol y Sipsiwn Cymreig. Trwy gyfrwng ei ohebiaeth gydag aelodau o’r teulu, a’i ymweliadau cyson â’u gwersylloedd, daeth i werthfawrogi mwy am arferion y Romani a dyfnhawyd ei ddealltwriaeth o’r traddodiad brodorol Cymreig yn ei grynswth.
  
Er mor amrywiol fu ei allbwn, fel cyfansoddwr caneuon i blant y daeth i amlygrwydd. Cyhoeddodd dair cyfrol odidog o ganeuon rhwng 1922 ac 1936 sy’n gyfuniad o weithiau gwreiddiol i gyfeiliant syml y piano (e.e. ‘Mam, ga i ffliwt?’), addasiadau o alawon a cheinciau Cymreig, megis ‘Fflat Huw Puw’ (gw. ‘Y Dydd cyntaf o Awst’ yng nghyfrol [[John Parry]], ''The Welsh Harper'' (1839)) ac alawon morwrio (e.e. ‘Tŷ a gardd’) o Ddenmarc, Llydaw, Lloegr, yr Almaen a’r Unol Daleithiau.
+
Er mor amrywiol fu ei allbwn, fel cyfansoddwr caneuon i blant y daeth i amlygrwydd. Cyhoeddodd dair cyfrol odidog o ganeuon rhwng 1922 ac 1936 sy’n gyfuniad o weithiau gwreiddiol i gyfeiliant syml y piano (e.e. ‘Mam, ga i ffliwt?’), addasiadau o alawon a cheinciau Cymreig, megis ‘Fflat Huw Puw’ (gw. ‘Y Dydd cyntaf o Awst’ yng nghyfrol [[Parry, John (Bardd Alaw; 1776-1851) | John Parry]], ''The Welsh Harper'' (1839)) ac alawon morwrio (e.e. ‘Tŷ a gardd’) o Ddenmarc, Llydaw, Lloegr, yr Almaen a’r Unol Daleithiau.
  
Ymledodd poblogrwydd ei waith a’i ganeuon ar aelwydydd Cymru oherwydd eu defnydd mewn ysgolion cynradd ac ar lwyfannau [[eisteddfodol]] a chyngherddau. Ar brydiau, ystyriwyd rhai ohonynt yn ganeuon ac [[alawon gwerin]] yn llinach y traddodiad llafar Cymreig, ond rhaid cofio mai cynnyrch cerddor, cyfansoddwr a threfnydd cerddoriaeth ydynt ac mai eu naws gofiadwy, eu halawon canadwy a’u geiriau syml fu’n gyfrwng i’w poblogeiddio yng Nghymru’r 20g. a’r 21g.
+
Ymledodd poblogrwydd ei waith a’i ganeuon ar aelwydydd Cymru oherwydd eu defnydd mewn ysgolion cynradd ac ar lwyfannau [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | eisteddfodol]] a chyngherddau. Ar brydiau, ystyriwyd rhai ohonynt yn ganeuon ac [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | alawon gwerin]] yn llinach y traddodiad llafar Cymreig, ond rhaid cofio mai cynnyrch cerddor, cyfansoddwr a threfnydd cerddoriaeth ydynt ac mai eu naws gofiadwy, eu halawon canadwy a’u geiriau syml fu’n gyfrwng i’w poblogeiddio yng Nghymru’r 20g. a’r 21g.
  
 
'''Delyth G. Morgans Phillips'''
 
'''Delyth G. Morgans Phillips'''
Llinell 25: Llinell 25:
 
==Llyfryddiaeth==
 
==Llyfryddiaeth==
  
:J. Glyn Davies, ''Cerddi Huw Puw'' (Caerdydd, 1922)
+
*J. Glyn Davies, ''Cerddi Huw Puw'' (Caerdydd, 1922)
  
:———, ''Cerddi Robin Goch'' (Llundain, 1935)
+
*———, ''Cerddi Robin Goch'' (Llundain, 1935)
  
:———, ''Cerddi Portinllaen'' (Llundain, 1936)
+
*———, ''Cerddi Portinllaen'' (Llundain, 1936)
  
:———, ‘Rhamant y Môr’, ''Lleufer'', V/2 (Haf, 1949), 55– 63
+
*———, ‘Rhamant y Môr’, ''Lleufer'', V/2 (Haf, 1949), 55– 63
  
:———, ''Cerddi Edern a cherddi eraill'' (Lerpwl, 1955)
+
*———, ''Cerddi Edern a cherddi eraill'' (Lerpwl, 1955)
  
:Hettie Glyn Davies, ''Hanes Bywyd John Glyn Davies'' (Lerpwl, 1965)
+
*Hettie Glyn Davies, ''Hanes Bywyd John Glyn Davies'' (Lerpwl, 1965)
  
:Iorwerth C. Peate, ‘John Glyn Davies: Agweddau ar ei bersonoliaeth’, ''Taliesin'', 25 (Rhagfyr, 1972), 50–55
+
*Iorwerth C. Peate, ‘John Glyn Davies: Agweddau ar ei bersonoliaeth’, ''Taliesin'', 25 (Rhagfyr, 1972), 50–55
  
:J. Glyn Davies, ''Fflat Huw Puw a Cherddi Eraill'' (Llandysul, 1992)
+
*J. Glyn Davies, ''Fflat Huw Puw a Cherddi Eraill'' (Llandysul, 1992)
  
:Delyth G. Morgans, ‘J. Glyn Davies a chaneuon Huw Puw’ (traethawd BA Cerddoriaeth Prifysgol Bangor, 2000)  
+
*Delyth G. Morgans, ‘J. Glyn Davies a chaneuon Huw Puw’ (traethawd BA Cerddoriaeth Prifysgol Bangor, 2000)  
  
:Cledwyn Jones, ''Mi wisga’i gap pig gloyw: John Glyn Davies, 1870–1953: shantis, caneuon plant a cherddi Edern'' (Caernarfon, 2003)
+
*Cledwyn Jones, ''Mi wisga’i gap pig gloyw: John Glyn Davies, 1870–1953: shantis, caneuon plant a cherddi Edern'' (Caernarfon, 2003)
  
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 +
[[Categori:Cerddoriaeth]]

Y diwygiad cyfredol, am 21:43, 31 Mai 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Awdur, ysgolhaig, casglwr, bardd, cofnodwr a chyfansoddwr caneuon oedd John Glyn Davies. Brodor o Lerpwl ydoedd ac aelod o deulu Cymreig a oedd yn ddisgynyddion i Angharad James, Dolwyddelan (1677–1749) a’r Parch. John Jones, Tal-y-sarn (1797–1857).

Yn dilyn prentisiaeth mewn swyddfa llongau hwylio (Rathbone Bros., Lerpwl) ymfudodd am gyfnod i Seland Newydd i gloddio am aur. Fel un o sylfaenwyr Cymdeithas Gymraeg Auckland, rhoddodd bwys mawr ar gerddoriaeth Cymru a thraddodiad y delyn yng ngweithgaredd ei gyd-Gymry alltud cyn dychwelyd i Aberystwyth a dechrau’r gwaith o sefydlu Llyfrgell Gymraeg yno ( Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ddiweddarach).

Yn 1907, trwy wahoddiad Kuno Meyer, cafodd ei benodi’n ddarlithydd yn Adran Gelteg Prifysgol Lerpwl, a bu’n allweddol yn sefydlu Adran Gymraeg yn y sefydliad hwnnw ac ym Mhrifysgol Dulyn. Canai’r delyn, y piano a’r ffidil, ac ymddiddorai yn y sipsiwn Cymreig (teulu Abram Wood; gw. Woodiaid, Teulu’r) ynghyd â’u cyfraniad neilltuol i fyd cerddoriaeth, offerynnau traddodiadol a dawns yng Nghymru’r 19g. Yn ystod ei deithiau darlithio a’i fordeithiau cyson taniwyd ei ddiddordeb mewn caneuon sianti a chaneuon môr. Ei blant, fodd bynnag, a’i hysgogodd i gyfansoddi caneuon. Teimlai fod bwlch mawr ym myd caneuon Cymraeg ar gyfer yr ifanc ac anfarwolwyd enwau ei ferched yn un o’i ganeuon:

Gwen a Mair ac Elin
Yn bwyta lot o bwdin;
A Benja bach yn mynd o’i go’,
A chrïo’n anghyffredin.

Pen Llŷn ac ardaloedd Morfa Nefyn ac Edern yn benodol a fu’n sail i Gymreictod J. Glyn Davies. Yno, yn ystod ei wyliau haf fel plentyn ac fel oedolyn, y cyfoethogwyd ei fedr ar yr iaith ac yr ehangwyd ar ei brofiad o’r môr. Yn Llŷn y clywodd ei sianti gyntaf a’r alawon hynny fu’n ysbrydoliaeth i’w gasgliadau – Cerddi Huw Puw (1922), Cerddi Portinllaen (1936) a Cerddi Edern (1955). Cyfrannodd hefyd fel ymchwilydd i fyd cerdd dant yng Nghymru er nad oedd yn ddatgeinydd nac yn osodwr. Yn hytrach, cyhoeddoedd erthyglau o safbwynt un a werthfawrogai’r traddodiad a bu’n olrhain twf a datblygiad y grefft yng ngoleuni’r dystiolaeth a geir yn llawysgrifau Lewis Morris o Fôn.

Ei gyfarfyddiad ag Edward Wood yng Ngwesty’r Plas Coch, Y Bala (c.1892) yn ogystal ag arbenigedd ei gyd-ddarlithydd yn Lerpwl, John Sampson (1862–1931), fodd bynnag a enynnodd ei ddiddordeb yng ngallu cerddorol y Sipsiwn Cymreig. Trwy gyfrwng ei ohebiaeth gydag aelodau o’r teulu, a’i ymweliadau cyson â’u gwersylloedd, daeth i werthfawrogi mwy am arferion y Romani a dyfnhawyd ei ddealltwriaeth o’r traddodiad brodorol Cymreig yn ei grynswth.

Er mor amrywiol fu ei allbwn, fel cyfansoddwr caneuon i blant y daeth i amlygrwydd. Cyhoeddodd dair cyfrol odidog o ganeuon rhwng 1922 ac 1936 sy’n gyfuniad o weithiau gwreiddiol i gyfeiliant syml y piano (e.e. ‘Mam, ga i ffliwt?’), addasiadau o alawon a cheinciau Cymreig, megis ‘Fflat Huw Puw’ (gw. ‘Y Dydd cyntaf o Awst’ yng nghyfrol John Parry, The Welsh Harper (1839)) ac alawon morwrio (e.e. ‘Tŷ a gardd’) o Ddenmarc, Llydaw, Lloegr, yr Almaen a’r Unol Daleithiau.

Ymledodd poblogrwydd ei waith a’i ganeuon ar aelwydydd Cymru oherwydd eu defnydd mewn ysgolion cynradd ac ar lwyfannau eisteddfodol a chyngherddau. Ar brydiau, ystyriwyd rhai ohonynt yn ganeuon ac alawon gwerin yn llinach y traddodiad llafar Cymreig, ond rhaid cofio mai cynnyrch cerddor, cyfansoddwr a threfnydd cerddoriaeth ydynt ac mai eu naws gofiadwy, eu halawon canadwy a’u geiriau syml fu’n gyfrwng i’w poblogeiddio yng Nghymru’r 20g. a’r 21g.

Delyth G. Morgans Phillips

Llyfryddiaeth

  • J. Glyn Davies, Cerddi Huw Puw (Caerdydd, 1922)
  • ———, Cerddi Robin Goch (Llundain, 1935)
  • ———, Cerddi Portinllaen (Llundain, 1936)
  • ———, ‘Rhamant y Môr’, Lleufer, V/2 (Haf, 1949), 55– 63
  • ———, Cerddi Edern a cherddi eraill (Lerpwl, 1955)
  • Hettie Glyn Davies, Hanes Bywyd John Glyn Davies (Lerpwl, 1965)
  • Iorwerth C. Peate, ‘John Glyn Davies: Agweddau ar ei bersonoliaeth’, Taliesin, 25 (Rhagfyr, 1972), 50–55
  • J. Glyn Davies, Fflat Huw Puw a Cherddi Eraill (Llandysul, 1992)
  • Delyth G. Morgans, ‘J. Glyn Davies a chaneuon Huw Puw’ (traethawd BA Cerddoriaeth Prifysgol Bangor, 2000)
  • Cledwyn Jones, Mi wisga’i gap pig gloyw: John Glyn Davies, 1870–1953: shantis, caneuon plant a cherddi Edern (Caernarfon, 2003)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.