Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Catatonia"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) (Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydy...') |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | ||
− | (gw. hefyd [[Matthews, Cerys]]) | + | (gw. hefyd [[Matthews, Cerys (g.1969) | Matthews, Cerys]]) |
− | [[Band roc]] poblogaidd o’r 1990au ac oes ‘Cŵl Cymru’ oedd Catatonia. Yr aelodau oedd Mark Roberts (gitâr, llais), Cerys Matthews (llais), Paul Jones (bas), Owen Powell (gitâr) ac Aled Richards (drymiau). Roedd Clancy Pegg (allweddellau) a Dafydd Ieuan (drymiau) yn aelodau gwreiddiol hefyd. | + | [[Poblogaidd, Cerddoriaeth | Band roc]] poblogaidd o’r 1990au ac oes ‘Cŵl Cymru’ oedd Catatonia. Yr aelodau oedd Mark Roberts (gitâr, llais), Cerys Matthews (llais), Paul Jones (bas), Owen Powell (gitâr) ac Aled Richards (drymiau). Roedd Clancy Pegg (allweddellau) a Dafydd Ieuan (drymiau) yn aelodau gwreiddiol hefyd. |
− | Yn 1992 cyfarfu Mark Roberts o fand [[Y Cyrff]] â Cerys Matthews yng Nghaerdydd ac aethant ati i gydgyfansoddi caneuon. Gyda chefnogaeth label recordiau Crai (is-label Recordiau Sain) a’r canwr [[Geraint Jarman]], oedd ar y pryd yn gynhyrchydd y rhaglen deledu ''Fideo 9'' ar S4C, lansiwyd Catatonia a daeth Owen Powell (o’r Crumblowers), Paul Jones (o’r Cyrff) a’r drymiwr Aled Richards hefyd yn aelodau. Cafodd eu dwy sengl ar label Crai eu henwi fel senglau’r wythnos yn y ''New Musical Express,'' a chawsant sylw’r wasg Brydeinig gyda’u record hir gyntaf, ''Way Beyond Blue'' (Blanco y Negro, 1996), oedd hefyd yn cynnwys gwaith celf trawiadol gan yr arlunydd o Gymru, Elfyn Lewis. | + | Yn 1992 cyfarfu Mark Roberts o fand [[Cyrff, Y | Y Cyrff]] â Cerys Matthews yng Nghaerdydd ac aethant ati i gydgyfansoddi caneuon. Gyda chefnogaeth label recordiau Crai (is-label Recordiau Sain) a’r canwr [[Jarman, Geraint (g.1950) | Geraint Jarman]], oedd ar y pryd yn gynhyrchydd y rhaglen deledu ''Fideo 9'' ar S4C, lansiwyd Catatonia a daeth Owen Powell (o’r Crumblowers), Paul Jones (o’r Cyrff) a’r drymiwr Aled Richards hefyd yn aelodau. Cafodd eu dwy sengl ar label Crai eu henwi fel senglau’r wythnos yn y ''New Musical Express,'' a chawsant sylw’r wasg Brydeinig gyda’u record hir gyntaf, ''Way Beyond Blue'' (Blanco y Negro, 1996), oedd hefyd yn cynnwys gwaith celf trawiadol gan yr arlunydd o Gymru, Elfyn Lewis. |
Un o nodweddion canolog y recordiau a ryddhawyd gan Crai oedd yr elfen ddwyieithog. Yn sgil arwyddo cytundeb recordio gyda’r label Eingl-Americanaidd Blanco y Negro (is-label Warner Brothers), diflannodd yr elfennau Cymraeg a gwelwyd Catatonia yn dringo’r siartiau Prydeinig. Tua’r cyfnod pan arwyddodd y grŵp gyda chwmni Warner, ymadawodd dau o’r aelodau, sef Dafydd Ieuan, a ddaeth yn aelod o [[Super Furry Animals]], a Clancy Pegg, a ddaeth yn aelod o Crac a’r [[Tystion]]. | Un o nodweddion canolog y recordiau a ryddhawyd gan Crai oedd yr elfen ddwyieithog. Yn sgil arwyddo cytundeb recordio gyda’r label Eingl-Americanaidd Blanco y Negro (is-label Warner Brothers), diflannodd yr elfennau Cymraeg a gwelwyd Catatonia yn dringo’r siartiau Prydeinig. Tua’r cyfnod pan arwyddodd y grŵp gyda chwmni Warner, ymadawodd dau o’r aelodau, sef Dafydd Ieuan, a ddaeth yn aelod o [[Super Furry Animals]], a Clancy Pegg, a ddaeth yn aelod o Crac a’r [[Tystion]]. | ||
Llinell 12: | Llinell 12: | ||
Yn ystod eu cyfnod cynnar ar label Blanco y Negro roedd Catatonia yn cydymffurfio gyda sŵn pop annibynnol ''(indie)'' Prydeinig ''(Britpop)'': geiriau syml, gitarau’n tincian a llais anarferol, etheraidd Matthews. Ar ôl rhyddhau ''International Velvet'' (Blanco y Negro, 1998) trodd eu sŵn yn galetach a daeth eu geiriau i adlewyrchu ehangder diwylliant poblogaidd yr oes. Er enghraifft, roedd un o’u senglau, ‘Mulder and Scully’, yn cyfeirio at raglen deledu boblogaidd ar y pryd, ''The X-Files,'' gan ddefnyddio’r goruwchnaturiol i gyfleu’r teimlad o syrthio mewn cariad. Er bod hyn bellach yn cysylltu’r record â chyfnod a aeth heibio, roedd cyfeirio at raglen deledu boblogaidd yn effeithiol o ran marchnata a hybu gwerthiant, ac fe hawliodd ''International Velvet'' safle rhif un y siartiau Prydeinig am sawl wythnos yn 1998. | Yn ystod eu cyfnod cynnar ar label Blanco y Negro roedd Catatonia yn cydymffurfio gyda sŵn pop annibynnol ''(indie)'' Prydeinig ''(Britpop)'': geiriau syml, gitarau’n tincian a llais anarferol, etheraidd Matthews. Ar ôl rhyddhau ''International Velvet'' (Blanco y Negro, 1998) trodd eu sŵn yn galetach a daeth eu geiriau i adlewyrchu ehangder diwylliant poblogaidd yr oes. Er enghraifft, roedd un o’u senglau, ‘Mulder and Scully’, yn cyfeirio at raglen deledu boblogaidd ar y pryd, ''The X-Files,'' gan ddefnyddio’r goruwchnaturiol i gyfleu’r teimlad o syrthio mewn cariad. Er bod hyn bellach yn cysylltu’r record â chyfnod a aeth heibio, roedd cyfeirio at raglen deledu boblogaidd yn effeithiol o ran marchnata a hybu gwerthiant, ac fe hawliodd ''International Velvet'' safle rhif un y siartiau Prydeinig am sawl wythnos yn 1998. | ||
− | Roedd poblogrwydd Catatonia yng nghyfnod ''Britpop'' yr 1990au hefyd yn cyd-fynd â’r ymgyrch o blaid datganoli yng Nghymru a Refferendwm lwyddiannus 1997. Roeddynt yn rhan o fomentwm ehangach, felly, ac yn amlygiad o’r ffaith fod diwylliant poblogaidd Cymreig yn adlewyrchu dyheadau gwleidyddol newydd o fewn y wlad. Roedd cân deitl ''International Velvet,'' gyda’r geiriau ‘Every day when I wake up / I thank the Lord I’m Welsh’ yn arwydd o’r deffroad, er o bosib ar yr un pryd yn barodi cellweirus ar gerdd y Parch. Eli Jenkins yn ''Under Milk Wood'' Dylan Thomas (‘Every morning when I wake, / Dear Lord, a little prayer I make’). Beth bynnag am fwriad y gyfeiriadaeth, daeth y syniad o arddel Cymreictod echblyg mewn recordiau pop Eingl-Gymreig yn nodwedd o’r cyfnod ymysg grwpiau eraill hefyd, megis y [[Stereophonics]] a’r [[Manic Street Preachers]]. | + | Roedd poblogrwydd Catatonia yng nghyfnod ''Britpop'' yr 1990au hefyd yn cyd-fynd â’r ymgyrch o blaid datganoli yng Nghymru a Refferendwm lwyddiannus 1997. Roeddynt yn rhan o fomentwm ehangach, felly, ac yn amlygiad o’r ffaith fod diwylliant poblogaidd Cymreig yn adlewyrchu dyheadau gwleidyddol newydd o fewn y wlad. Roedd cân deitl ''International Velvet,'' gyda’r geiriau ‘Every day when I wake up / I thank the Lord I’m Welsh’ yn arwydd o’r deffroad, er o bosib ar yr un pryd yn barodi cellweirus ar gerdd y Parch. Eli Jenkins yn ''[[Under Milk Wood]]'' Dylan Thomas (‘Every morning when I wake, / Dear Lord, a little prayer I make’). Beth bynnag am fwriad y gyfeiriadaeth, daeth y syniad o arddel Cymreictod echblyg mewn recordiau pop Eingl-Gymreig yn nodwedd o’r cyfnod ymysg grwpiau eraill hefyd, megis y [[Stereophonics]] a’r [[Manic Street Preachers]]. |
− | Fodd bynnag, yn dilyn poblogrwydd | + | Fodd bynnag, yn dilyn poblogrwydd ''International Velvet'' daeth y berthynas bersonol rhwng Mark Roberts a Cerys Matthews i ben. Cafodd eu halbwm nesaf, ''Equally Cursed and Blessed'' (Blanco y Negro 1999), lwyddiant yn y siartiau Prydeinig a chyrhaeddodd tair o’u senglau y 40 Uchaf. Ond roedd llwyddiant wedi troi’n faen tramgwydd i Catatonia ac ar ôl rhyddhau ''Paper Scissors Stone'' (Blanco y Negro 2001) chwalodd y grŵp. Ers hynny mae Cerys Matthews wedi parhau â’i gyrfa fel cantores unigol, awdur a chyflwynydd radio a theledu. Enillodd ei rhaglen wythnosol ''Music'' ar BBC 6 wobr Sony. Dyfarnwyd iddi hefyd wobr Dewi Sant (2014) a’r MBE (2014). |
'''Sarah Hill''' | '''Sarah Hill''' |
Y diwygiad cyfredol, am 08:53, 2 Mehefin 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
(gw. hefyd Matthews, Cerys)
Band roc poblogaidd o’r 1990au ac oes ‘Cŵl Cymru’ oedd Catatonia. Yr aelodau oedd Mark Roberts (gitâr, llais), Cerys Matthews (llais), Paul Jones (bas), Owen Powell (gitâr) ac Aled Richards (drymiau). Roedd Clancy Pegg (allweddellau) a Dafydd Ieuan (drymiau) yn aelodau gwreiddiol hefyd.
Yn 1992 cyfarfu Mark Roberts o fand Y Cyrff â Cerys Matthews yng Nghaerdydd ac aethant ati i gydgyfansoddi caneuon. Gyda chefnogaeth label recordiau Crai (is-label Recordiau Sain) a’r canwr Geraint Jarman, oedd ar y pryd yn gynhyrchydd y rhaglen deledu Fideo 9 ar S4C, lansiwyd Catatonia a daeth Owen Powell (o’r Crumblowers), Paul Jones (o’r Cyrff) a’r drymiwr Aled Richards hefyd yn aelodau. Cafodd eu dwy sengl ar label Crai eu henwi fel senglau’r wythnos yn y New Musical Express, a chawsant sylw’r wasg Brydeinig gyda’u record hir gyntaf, Way Beyond Blue (Blanco y Negro, 1996), oedd hefyd yn cynnwys gwaith celf trawiadol gan yr arlunydd o Gymru, Elfyn Lewis.
Un o nodweddion canolog y recordiau a ryddhawyd gan Crai oedd yr elfen ddwyieithog. Yn sgil arwyddo cytundeb recordio gyda’r label Eingl-Americanaidd Blanco y Negro (is-label Warner Brothers), diflannodd yr elfennau Cymraeg a gwelwyd Catatonia yn dringo’r siartiau Prydeinig. Tua’r cyfnod pan arwyddodd y grŵp gyda chwmni Warner, ymadawodd dau o’r aelodau, sef Dafydd Ieuan, a ddaeth yn aelod o Super Furry Animals, a Clancy Pegg, a ddaeth yn aelod o Crac a’r Tystion.
Yn ystod eu cyfnod cynnar ar label Blanco y Negro roedd Catatonia yn cydymffurfio gyda sŵn pop annibynnol (indie) Prydeinig (Britpop): geiriau syml, gitarau’n tincian a llais anarferol, etheraidd Matthews. Ar ôl rhyddhau International Velvet (Blanco y Negro, 1998) trodd eu sŵn yn galetach a daeth eu geiriau i adlewyrchu ehangder diwylliant poblogaidd yr oes. Er enghraifft, roedd un o’u senglau, ‘Mulder and Scully’, yn cyfeirio at raglen deledu boblogaidd ar y pryd, The X-Files, gan ddefnyddio’r goruwchnaturiol i gyfleu’r teimlad o syrthio mewn cariad. Er bod hyn bellach yn cysylltu’r record â chyfnod a aeth heibio, roedd cyfeirio at raglen deledu boblogaidd yn effeithiol o ran marchnata a hybu gwerthiant, ac fe hawliodd International Velvet safle rhif un y siartiau Prydeinig am sawl wythnos yn 1998.
Roedd poblogrwydd Catatonia yng nghyfnod Britpop yr 1990au hefyd yn cyd-fynd â’r ymgyrch o blaid datganoli yng Nghymru a Refferendwm lwyddiannus 1997. Roeddynt yn rhan o fomentwm ehangach, felly, ac yn amlygiad o’r ffaith fod diwylliant poblogaidd Cymreig yn adlewyrchu dyheadau gwleidyddol newydd o fewn y wlad. Roedd cân deitl International Velvet, gyda’r geiriau ‘Every day when I wake up / I thank the Lord I’m Welsh’ yn arwydd o’r deffroad, er o bosib ar yr un pryd yn barodi cellweirus ar gerdd y Parch. Eli Jenkins yn Under Milk Wood Dylan Thomas (‘Every morning when I wake, / Dear Lord, a little prayer I make’). Beth bynnag am fwriad y gyfeiriadaeth, daeth y syniad o arddel Cymreictod echblyg mewn recordiau pop Eingl-Gymreig yn nodwedd o’r cyfnod ymysg grwpiau eraill hefyd, megis y Stereophonics a’r Manic Street Preachers.
Fodd bynnag, yn dilyn poblogrwydd International Velvet daeth y berthynas bersonol rhwng Mark Roberts a Cerys Matthews i ben. Cafodd eu halbwm nesaf, Equally Cursed and Blessed (Blanco y Negro 1999), lwyddiant yn y siartiau Prydeinig a chyrhaeddodd tair o’u senglau y 40 Uchaf. Ond roedd llwyddiant wedi troi’n faen tramgwydd i Catatonia ac ar ôl rhyddhau Paper Scissors Stone (Blanco y Negro 2001) chwalodd y grŵp. Ers hynny mae Cerys Matthews wedi parhau â’i gyrfa fel cantores unigol, awdur a chyflwynydd radio a theledu. Enillodd ei rhaglen wythnosol Music ar BBC 6 wobr Sony. Dyfarnwyd iddi hefyd wobr Dewi Sant (2014) a’r MBE (2014).
Sarah Hill
Disgyddiaeth
- For Tinkerbell [EP] (Crai CD039L, 1993)
- Hooked [EP] (Crai CD042B, 1994)
- Way Beyond Blue (Blanco y Negro 0630-16305-2, 1996)
- International Velvet (Blanco y Negro 3984-20834-2, 1998)
- Equally Cursed and Blessed (Blanco y Negro 3984-27094-2, 1999)
- Paper Scissors Stone (Blanco y Negro 8573-88848-2, 2001)
Casgliadau:
- Catatonia 1993/1994 (Crai CD064, 1998)
- Greatest Hits (Blanco y Negro, 0927-49193-2, 2002)
Llyfryddiaeth
- David Owens, Cerys, Catatonia and the Rise of Welsh Pop (Llundain, 2000)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.