Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cilmeri"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) (Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydy...') |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | ||
− | [[Grŵp gwerin]] a sefydlwyd yn 1978 ac a wnaeth ei ymddangosiad cyntaf yng Nghlwb Gwerin Dolgellau yng Ngwesty Dolserau ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno. Roedd ymddangosiad y grŵp yn adlewyrchu’r diddordeb newydd yn y traddodiad gwerin ar y pryd. Nid cyd-ddigwyddiad yw mai yn 1978 hefyd y sefydlwyd [[Gŵyl]] Werin Dolgellau, a arweiniodd yn y pen draw at Sesiwn Fawr Dolgellau. | + | [[Gwerin, grwpiau | Grŵp gwerin]] a sefydlwyd yn 1978 ac a wnaeth ei ymddangosiad cyntaf yng Nghlwb Gwerin Dolgellau yng Ngwesty Dolserau ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno. Roedd ymddangosiad y grŵp yn adlewyrchu’r diddordeb newydd yn y traddodiad gwerin ar y pryd. Nid cyd-ddigwyddiad yw mai yn 1978 hefyd y sefydlwyd [[Gwyliau Cerddoriaeth | Gŵyl]] Werin Dolgellau, a arweiniodd yn y pen draw at Sesiwn Fawr Dolgellau. |
Pedair blynedd yn unig y bu’r grŵp yn weithgar, ond cawsant ddylanwad pendant ar amryw o grwpiau ac unigolion a ddaeth ar eu holau, a daliodd amryw o’r aelodau i berfformio fel unigolion neu gyda grwpiau newydd ac i chwarae rhan allweddol yn natblygiad y byd gwerin yng Nghymru yn y degawdau dilynol. | Pedair blynedd yn unig y bu’r grŵp yn weithgar, ond cawsant ddylanwad pendant ar amryw o grwpiau ac unigolion a ddaeth ar eu holau, a daliodd amryw o’r aelodau i berfformio fel unigolion neu gyda grwpiau newydd ac i chwarae rhan allweddol yn natblygiad y byd gwerin yng Nghymru yn y degawdau dilynol. | ||
Llinell 8: | Llinell 8: | ||
Yr aelodau gwreiddiol oedd Huw Roberts ([[ffidil]]), Tudur Huws Jones (banjo, mandolin, ''bouzouki'' a phib), Elwyn Rowlands (gitâr a llais), Robin Llwyd ab Owain (mandolin a llais), Gwenan Griffiths ([[telyn]]) ac Ywain Myfyr (''bodhran'' ac organ geg). Roedd tri o’r aelodau – Tudur Huws Jones, Huw Roberts ac Ywain Myfyr – wedi bod yn fyfyrwyr yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, ac yn ystod eu cyfnod yno bu Tudur a Huw hefyd yn aelodau o’r grŵp Odyn Galch gyda’u cyd-fyfyrwyr Tudur Morgan a Gareth Gravelle. | Yr aelodau gwreiddiol oedd Huw Roberts ([[ffidil]]), Tudur Huws Jones (banjo, mandolin, ''bouzouki'' a phib), Elwyn Rowlands (gitâr a llais), Robin Llwyd ab Owain (mandolin a llais), Gwenan Griffiths ([[telyn]]) ac Ywain Myfyr (''bodhran'' ac organ geg). Roedd tri o’r aelodau – Tudur Huws Jones, Huw Roberts ac Ywain Myfyr – wedi bod yn fyfyrwyr yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, ac yn ystod eu cyfnod yno bu Tudur a Huw hefyd yn aelodau o’r grŵp Odyn Galch gyda’u cyd-fyfyrwyr Tudur Morgan a Gareth Gravelle. | ||
− | Yn 1980 rhyddhawyd eu halbwm cyntaf, eponymaidd (Sain, 1980), gyda gwaith celf trawiadol gan John Jenkins – y cenedlaetholwr a fu yng ngharchar am ran helaeth o’r 1970au – ar y clawr. Yn haf 1980 gadawodd Robin Llwyd ab Owain a Gwenan Griffiths ac ymunodd Iwan Roberts (gitâr, mandolin a ''bouzouki'') – un o aelodau gwreiddiol [[Mynediad am Ddim]] – a Dan Morris (llais, ffidil a chrwth). Yn 1981 aeth y grŵp ymlaen i ryddhau ail record hir, ''Henffych Well'' (Sain, 1982), a gafodd dderbyniad gwresog yng Nghymru a thu hwnt. | + | Yn 1980 rhyddhawyd eu halbwm cyntaf, eponymaidd (Sain, 1980), gyda gwaith celf trawiadol gan John Jenkins – y cenedlaetholwr a fu yng ngharchar am ran helaeth o’r 1970au – ar y clawr. Yn haf 1980 gadawodd Robin Llwyd ab Owain a Gwenan Griffiths ac ymunodd Iwan Roberts (gitâr, mandolin a ''bouzouki'') – un o aelodau gwreiddiol [[Mynediad am Ddim]] – a Dan Morris (llais, ffidil a [[Crwth | chrwth]]). Yn 1981 aeth y grŵp ymlaen i ryddhau ail record hir, ''Henffych Well'' (Sain, 1982), a gafodd dderbyniad gwresog yng Nghymru a thu hwnt. |
Yn haf 1982 penderfynwyd dirwyn y grŵp i ben. Aeth Tudur Huws Jones a Huw Roberts ymlaen i ffurfio’r grŵp Pedwar yn y Bar; datblygodd Tudur Morgan fel perfformiwr unigol a bu Huw Roberts yn amlwg fel arweinydd Dawnswyr Bro Cefni a chyda Clera, y Gymdeithas Offerynnau Traddodiadol. Rai blynyddoedd yn ddiweddarach ymunodd Dan Morris â’r grŵp [[Gwerinos]] a bu’n hynod o ddylanwadol fel tiwtor ac arweinydd sesiynau gwerin anffurfiol (a sefydlydd y Bandarall). Ymunodd Ywain Myfyr hefyd â Gwerinos a bu’n amlwg fel un o brif hyrwyddwyr y byd gwerin yng Nghymru ac un o sefydlwyr Canolfan Tŷ Siamas yn Nolgellau. | Yn haf 1982 penderfynwyd dirwyn y grŵp i ben. Aeth Tudur Huws Jones a Huw Roberts ymlaen i ffurfio’r grŵp Pedwar yn y Bar; datblygodd Tudur Morgan fel perfformiwr unigol a bu Huw Roberts yn amlwg fel arweinydd Dawnswyr Bro Cefni a chyda Clera, y Gymdeithas Offerynnau Traddodiadol. Rai blynyddoedd yn ddiweddarach ymunodd Dan Morris â’r grŵp [[Gwerinos]] a bu’n hynod o ddylanwadol fel tiwtor ac arweinydd sesiynau gwerin anffurfiol (a sefydlydd y Bandarall). Ymunodd Ywain Myfyr hefyd â Gwerinos a bu’n amlwg fel un o brif hyrwyddwyr y byd gwerin yng Nghymru ac un o sefydlwyr Canolfan Tŷ Siamas yn Nolgellau. | ||
Llinell 16: | Llinell 16: | ||
==Disgyddiaeth== | ==Disgyddiaeth== | ||
− | + | *''Cilmeri'' (Sain 1168M, 1980) | |
− | + | *''Henffych Well'' (Sain 1236M, 1982) | |
{{CC BY-SA Cydymaith}} | {{CC BY-SA Cydymaith}} | ||
+ | [[Categori:Cerddoriaeth]] |
Y diwygiad cyfredol, am 15:52, 16 Mehefin 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Grŵp gwerin a sefydlwyd yn 1978 ac a wnaeth ei ymddangosiad cyntaf yng Nghlwb Gwerin Dolgellau yng Ngwesty Dolserau ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno. Roedd ymddangosiad y grŵp yn adlewyrchu’r diddordeb newydd yn y traddodiad gwerin ar y pryd. Nid cyd-ddigwyddiad yw mai yn 1978 hefyd y sefydlwyd Gŵyl Werin Dolgellau, a arweiniodd yn y pen draw at Sesiwn Fawr Dolgellau.
Pedair blynedd yn unig y bu’r grŵp yn weithgar, ond cawsant ddylanwad pendant ar amryw o grwpiau ac unigolion a ddaeth ar eu holau, a daliodd amryw o’r aelodau i berfformio fel unigolion neu gyda grwpiau newydd ac i chwarae rhan allweddol yn natblygiad y byd gwerin yng Nghymru yn y degawdau dilynol.
Yr aelodau gwreiddiol oedd Huw Roberts (ffidil), Tudur Huws Jones (banjo, mandolin, bouzouki a phib), Elwyn Rowlands (gitâr a llais), Robin Llwyd ab Owain (mandolin a llais), Gwenan Griffiths (telyn) ac Ywain Myfyr (bodhran ac organ geg). Roedd tri o’r aelodau – Tudur Huws Jones, Huw Roberts ac Ywain Myfyr – wedi bod yn fyfyrwyr yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, ac yn ystod eu cyfnod yno bu Tudur a Huw hefyd yn aelodau o’r grŵp Odyn Galch gyda’u cyd-fyfyrwyr Tudur Morgan a Gareth Gravelle.
Yn 1980 rhyddhawyd eu halbwm cyntaf, eponymaidd (Sain, 1980), gyda gwaith celf trawiadol gan John Jenkins – y cenedlaetholwr a fu yng ngharchar am ran helaeth o’r 1970au – ar y clawr. Yn haf 1980 gadawodd Robin Llwyd ab Owain a Gwenan Griffiths ac ymunodd Iwan Roberts (gitâr, mandolin a bouzouki) – un o aelodau gwreiddiol Mynediad am Ddim – a Dan Morris (llais, ffidil a chrwth). Yn 1981 aeth y grŵp ymlaen i ryddhau ail record hir, Henffych Well (Sain, 1982), a gafodd dderbyniad gwresog yng Nghymru a thu hwnt.
Yn haf 1982 penderfynwyd dirwyn y grŵp i ben. Aeth Tudur Huws Jones a Huw Roberts ymlaen i ffurfio’r grŵp Pedwar yn y Bar; datblygodd Tudur Morgan fel perfformiwr unigol a bu Huw Roberts yn amlwg fel arweinydd Dawnswyr Bro Cefni a chyda Clera, y Gymdeithas Offerynnau Traddodiadol. Rai blynyddoedd yn ddiweddarach ymunodd Dan Morris â’r grŵp Gwerinos a bu’n hynod o ddylanwadol fel tiwtor ac arweinydd sesiynau gwerin anffurfiol (a sefydlydd y Bandarall). Ymunodd Ywain Myfyr hefyd â Gwerinos a bu’n amlwg fel un o brif hyrwyddwyr y byd gwerin yng Nghymru ac un o sefydlwyr Canolfan Tŷ Siamas yn Nolgellau.
Arfon Gwilym
Disgyddiaeth
- Cilmeri (Sain 1168M, 1980)
- Henffych Well (Sain 1236M, 1982)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.