Gwerinos

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Grŵp gwerin bywiog a phoblogaidd a sefydlwyd yn 1987 ac a oedd yn esblygiad mewn gwirionedd o fand twmpath o’r enw Alff Alffa a’r Soya Beans. Roedd yr aelodau gwreiddiol i gyd yn dod o ardal Dolgellau, gan adlewyrchu’r bwrlwm a’r diddordeb newydd a ddaeth yn sgil sefydlu’r Ŵyl Werin yn y dref honno yn 1978. Roedd dau ohonynt yn gynaelodau o’r grŵp Cilmeri a fu’n amlwg ar ddiwedd yr 1970au a dechrau’r 1980au.

Roedd naw o aelodau yn y grŵp gwreiddiol: Dan Morris (ffidil), Elfed ap Gomer (bas), Huw Dylan Owen (mandolin), Bernard Barnes (pib), Alan Moller (pibau Uillean), Chris Knowles (telyn a bouzouki), Ywain Myfyr (gitâr, bodhran ac organ geg), Celt Roberts (galwr ac acordion) ac Iwan Parry (ffidil).

Yn raddol newidiodd swyddogaeth Gwerinos o fod yn fand twmpath i fod yn grŵp gwerin gyda chaneuon a setiau offerynnol. Erbyn 1992, yn eu hymddangosiad yn y Sesiwn Fawr gyntaf yn Nolgellau, roedd aelodaeth y grŵp yn edrych yn bur wahanol: roedd pump aelod wedi ymadael a dau aelod newydd wedi ymuno, gan adael chwech, gyda Tony Hodgson (pib) ac Emlyn Gomer (drymiau a gitâr) yn ymuno â Dan Morris, Elfed ap Gomer, Ywain Myfyr a Huw Dylan Owen, oedd erbyn hynny ar y gitâr a llais.

Yn fuan wedi hyn, aeth y grŵp ymlaen i recordio’u cryno-ddisg gyntaf Di-didl-lan (Sain, 1994). Yn fuan wedi hyn gadawodd Huw Dylan a Dan Morris y band, gyda Huw Dylan yn mynd ati i ffurfio’r grŵp gwerin-pync Y Defaid gyda’r cyfansoddwr Guto Puw. Cymerwyd eu lle gan Tudur Huws Jones (banjo, mandolin, bouzouki, pib a llais), ac yn ddiweddarach ymunodd Idris Morris Jones (ffidil) a Gareth Jones (Jôs) ar y drymiau, wrth i Emlyn Gomer symud at y gitâr, bouzouki a lleisio. Symudodd Elfed ap Gomer i chwarae’r allweddellau ac ymunodd Roger Vaughan ar y gitâr fas. Dyma’r aelodau a recordiodd yr ail albwm, Seilam, a ryddhawyd yn 1997.

Yn 1999 rhyddhawyd eu trydydd albwm, Lleuad Llawn (Sain, 1999). Aelodau’r grŵp erbyn hyn oedd Tudur Huws Jones (banjo, mandolin, bouzouki, pib a llais), Elfed ap Gomer (allweddellau ac acordion), Emlyn Roberts (gitâr, bouzouki a llais), Marc Jones (bas), Idris Morris Jones (ffidil), Gareth Jones (drymiau), Ywain Myfyr (gitâr, bodhran, organ geg a llais). Gadawodd Tudur Huws Jones yn y flwyddyn 2000 ac ymunodd Aled Rees Jones (gitâr).

Ymunodd Huw Roberts (ffidil) â’r band ar gyfer teithiau i’r Wcráin a Ffrisia yn 2001. Gwnaeth y band eu hymddangosiad ‘olaf’ yng Ngŵyl Cefni 2002. Ond ymhen ychydig dros ddeng mlynedd wedyn, yn 2013, daeth rhai o’r aelodau yn ôl at ei gilydd a dal ati i berfformio’n achlysurol. Yr aelodaeth erbyn 2016 oedd Tudur Huws Jones (banjo, mandolin, bouzouki a phib), Aled Rees Jones (gitâr), Gareth Jones (cajon a phib), Idris Morris Jones (ffidil a llais), Ywain Myfyr (gitâr, bodhran, organ geg a llais) a Nicolas Davalan (bas dwbl).

Arfon Gwilym

Disgyddiaeth

  • Di-didl-lan (Sain SCD2075, 1994)
  • Seilam (Sain SCD2160, 1997)
  • Lleuad Llawn (Sain SCD2221, 1999)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.