Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hogia'r Wyddfa"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | ||
− | Hogia’r Wyddfa oedd y grŵp canu harmoni clos mwyaf llwyddiannus yn hanes [[canu poblogaidd]] Cymraeg. Dechreuodd fel triawd yn yr 1960au cynnar gydag Elwyn Jones (bas), Arwel Jones (tenor) a Myrddin Owen (tenor). Yn ddiweddarach ymunodd Richard [Dic] Jones (piano) a Vivian Williams (gitâr). O’r 1990au ymlaen, bu’r pianydd amryddawn [[Annette Bryn Parri]] yn cyfeilio iddynt. | + | Hogia’r Wyddfa oedd y grŵp canu harmoni clos mwyaf llwyddiannus yn hanes [[Poblogaidd, Cerddoriaeth | canu poblogaidd]] Cymraeg. Dechreuodd fel triawd yn yr 1960au cynnar gydag Elwyn Jones (bas), Arwel Jones (tenor) a Myrddin Owen (tenor). Yn ddiweddarach ymunodd Richard [Dic] Jones (piano) a Vivian Williams (gitâr). O’r 1990au ymlaen, bu’r pianydd amryddawn [[Annette Bryn Parri]] yn cyfeilio iddynt. |
Er bod dylanwad Americanaidd grwpiau megis The Everly Brothers ar eu chwaeth gerddorol yn y dyddiau cynnar, cawsant hefyd eu hysbrydoli gan fandiau Cymraeg fel [[Hogia Llandegai]], [[Hogia Bryngwran]], Aled a Reg, ac, yn bennaf, [[Triawd y Coleg]]. Eu dawn amlycaf oedd gosod barddoniaeth gyfarwydd gan feirdd megis R. Williams Parry (‘Tylluanod’, ‘Eifionydd’), Cynan (‘Aberdaron’) a T. H. Parry Williams (‘Y Ferch ar y Cei yn Rio’) ar alawon newydd, neu ddefnyddio cerddi newydd beirdd lleol megis Rol Williams ar gyfer eu harmonïau swynol. Nid oedd eu harfer o osod cerddi enwog at ddant pawb a chawsant eu cyhuddo gan rai puryddion llenyddol o lastwreiddio clasuron barddoniaeth Gymraeg. | Er bod dylanwad Americanaidd grwpiau megis The Everly Brothers ar eu chwaeth gerddorol yn y dyddiau cynnar, cawsant hefyd eu hysbrydoli gan fandiau Cymraeg fel [[Hogia Llandegai]], [[Hogia Bryngwran]], Aled a Reg, ac, yn bennaf, [[Triawd y Coleg]]. Eu dawn amlycaf oedd gosod barddoniaeth gyfarwydd gan feirdd megis R. Williams Parry (‘Tylluanod’, ‘Eifionydd’), Cynan (‘Aberdaron’) a T. H. Parry Williams (‘Y Ferch ar y Cei yn Rio’) ar alawon newydd, neu ddefnyddio cerddi newydd beirdd lleol megis Rol Williams ar gyfer eu harmonïau swynol. Nid oedd eu harfer o osod cerddi enwog at ddant pawb a chawsant eu cyhuddo gan rai puryddion llenyddol o lastwreiddio clasuron barddoniaeth Gymraeg. | ||
− | Yn eu dyddiau cynnar, ystyriai Hogia’r Wyddfa eu bod yn cynnig rhywbeth gwahanol i fyd [[canu pop]] Cymraeg. Llwyddasant i feithrin cynulleidfaoedd eang mewn neuaddau dirifedi yn y gogledd a’r de. Cynhwysai eu set elfennau o’r hen noson lawen, er nad oedd sgetsys a jôcs yn [[acen]] gref Llanberis yn llwyddo i daro deuddeg ymhob man. Daeth cyfle iddynt ymddangos ar y teledu ar raglenni megis ''Disg a Dawn'' a rhoddodd cyngherddau Pinaclau Pop gyfle iddynt berfformio o flaen cynulleidfaoedd o hyd at ddwy fil o bobl. Cryfhaodd apêl eu recordiau a’u caneuon ymhellach yn nyddiau cynnar Radio Cymru, yn enwedig drwy gyfrwng rhaglenni Hywel Gwynfryn. | + | Yn eu dyddiau cynnar, ystyriai Hogia’r Wyddfa eu bod yn cynnig rhywbeth gwahanol i fyd [[Poblogaidd, Cerddoriaeth | canu pop]] Cymraeg. Llwyddasant i feithrin cynulleidfaoedd eang mewn neuaddau dirifedi yn y gogledd a’r de. Cynhwysai eu set elfennau o’r hen noson lawen, er nad oedd sgetsys a jôcs yn [[acen]] gref Llanberis yn llwyddo i daro deuddeg ymhob man. Daeth cyfle iddynt ymddangos ar y teledu ar raglenni megis ''Disg a Dawn'' a rhoddodd cyngherddau Pinaclau Pop gyfle iddynt berfformio o flaen cynulleidfaoedd o hyd at ddwy fil o bobl. Cryfhaodd apêl eu recordiau a’u caneuon ymhellach yn nyddiau cynnar Radio Cymru, yn enwedig drwy gyfrwng rhaglenni Hywel Gwynfryn. |
Derbyniodd Myrddin gryn lwyddiant y tu hwnt i Hogia’r Wyddfa hefyd fel un rhan o’r ddeuawd boblogaidd Rosalind a Myrddin, gyda Rosalind yn aelod cyn hynny o’r Perlau. Rhyddhawyd pedair record hir gan y ddeuawd rhwng 1979 ac 1986. | Derbyniodd Myrddin gryn lwyddiant y tu hwnt i Hogia’r Wyddfa hefyd fel un rhan o’r ddeuawd boblogaidd Rosalind a Myrddin, gyda Rosalind yn aelod cyn hynny o’r Perlau. Rhyddhawyd pedair record hir gan y ddeuawd rhwng 1979 ac 1986. |
Y diwygiad cyfredol, am 17:28, 12 Gorffennaf 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Hogia’r Wyddfa oedd y grŵp canu harmoni clos mwyaf llwyddiannus yn hanes canu poblogaidd Cymraeg. Dechreuodd fel triawd yn yr 1960au cynnar gydag Elwyn Jones (bas), Arwel Jones (tenor) a Myrddin Owen (tenor). Yn ddiweddarach ymunodd Richard [Dic] Jones (piano) a Vivian Williams (gitâr). O’r 1990au ymlaen, bu’r pianydd amryddawn Annette Bryn Parri yn cyfeilio iddynt.
Er bod dylanwad Americanaidd grwpiau megis The Everly Brothers ar eu chwaeth gerddorol yn y dyddiau cynnar, cawsant hefyd eu hysbrydoli gan fandiau Cymraeg fel Hogia Llandegai, Hogia Bryngwran, Aled a Reg, ac, yn bennaf, Triawd y Coleg. Eu dawn amlycaf oedd gosod barddoniaeth gyfarwydd gan feirdd megis R. Williams Parry (‘Tylluanod’, ‘Eifionydd’), Cynan (‘Aberdaron’) a T. H. Parry Williams (‘Y Ferch ar y Cei yn Rio’) ar alawon newydd, neu ddefnyddio cerddi newydd beirdd lleol megis Rol Williams ar gyfer eu harmonïau swynol. Nid oedd eu harfer o osod cerddi enwog at ddant pawb a chawsant eu cyhuddo gan rai puryddion llenyddol o lastwreiddio clasuron barddoniaeth Gymraeg.
Yn eu dyddiau cynnar, ystyriai Hogia’r Wyddfa eu bod yn cynnig rhywbeth gwahanol i fyd canu pop Cymraeg. Llwyddasant i feithrin cynulleidfaoedd eang mewn neuaddau dirifedi yn y gogledd a’r de. Cynhwysai eu set elfennau o’r hen noson lawen, er nad oedd sgetsys a jôcs yn acen gref Llanberis yn llwyddo i daro deuddeg ymhob man. Daeth cyfle iddynt ymddangos ar y teledu ar raglenni megis Disg a Dawn a rhoddodd cyngherddau Pinaclau Pop gyfle iddynt berfformio o flaen cynulleidfaoedd o hyd at ddwy fil o bobl. Cryfhaodd apêl eu recordiau a’u caneuon ymhellach yn nyddiau cynnar Radio Cymru, yn enwedig drwy gyfrwng rhaglenni Hywel Gwynfryn.
Derbyniodd Myrddin gryn lwyddiant y tu hwnt i Hogia’r Wyddfa hefyd fel un rhan o’r ddeuawd boblogaidd Rosalind a Myrddin, gyda Rosalind yn aelod cyn hynny o’r Perlau. Rhyddhawyd pedair record hir gan y ddeuawd rhwng 1979 ac 1986.
Dros gyfnod maith eu bodolaeth, teithiodd Hogia’r Wyddfa dramor, mor bell ag Awstralia, yr Almaen, yr Unol Daleithiau, Canada a Nigeria, yn aml i berfformio o flaen Cymry alltud. Hogia’r Wyddfa hefyd yw’r grŵp a werthodd y nifer mwyaf erioed o recordiau ar label Sain.
Sarah Hill
Disgyddiaeth
- Hogia’r Wyddfa [EP] (Wren Records WRE1048, 1968)
- Rhif 4 [EP] (Wren Records WRE1079, 1969)
- Mr Pwy a Ŵyr [EP] (Wren Records WRE1105, 1971)
- Hogia’r Wyddfa (Wren Records WRL538/S, 1972)
Casgliadau:
- Goreuon Hogia’r Wyddfa (Sain SCD4094, 1991)
- Pigion Disglair (Sain SCD2569, 2007)
- Y Casgliad Llawn (Sain SCD2693, 2013)
- [yn ymddangos ar] Y Bois a’r Hogia (Sain SCD2578, 2010)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.