Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Parry-Williams, Amy (1910-88)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
Llinell 2: Llinell 2:
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Cantores ac [[addysgwraig]] a fagwyd ar aelwyd gerddgar ym Mhontyberem, Sir Gaerfyrddin. Graddiodd yn y Gymraeg o Goleg [[Prifysgol]] Cymru, Aberystwyth, yn 1932 a bu’n athrawes yn Ysgol Ramadeg y Merched, Caerfyrddin. Yn 1942 priododd â’i hathro yn y coleg, T. H. Parry-Williams. Parhaodd â’i hastudiaethau trwy gwblhau ymchwil ar y cysylltiad rhwng geiriau ac alawon yn y traddodiad gwerin Cymreig ar gyfer gradd meistr yng Ngholeg Hyfforddi y Barri, lle bu hefyd yn ddarlithydd. Dyma pryd yr eginodd ei diddordeb mewn [[cerddoriaeth werin]].
+
Cantores ac [[Diwylliant a'r Diwydiant Cerddoriaeth | addysgwraig]] a fagwyd ar aelwyd gerddgar ym Mhontyberem, Sir Gaerfyrddin. Graddiodd yn y Gymraeg o Goleg [[Prifysgolion a Cherddoriaeth yng Nghymru | Prifysgol]] Cymru, Aberystwyth, yn 1932 a bu’n athrawes yn Ysgol Ramadeg y Merched, Caerfyrddin. Yn 1942 priododd â’i hathro yn y coleg, T. H. Parry-Williams. Parhaodd â’i hastudiaethau trwy gwblhau ymchwil ar y cysylltiad rhwng geiriau ac alawon yn y traddodiad gwerin Cymreig ar gyfer gradd meistr yng Ngholeg Hyfforddi y Barri, lle bu hefyd yn ddarlithydd. Dyma pryd yr eginodd ei diddordeb mewn [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | cerddoriaeth werin]].
  
Yn ogystal â’i gwaith beunyddiol a’i hymroddiad diflino i’w gŵr, cystadlai’n gyson fel cantores mewn [[eisteddfodau]] lleol a chenedlaethol, ac enillai wobrau am unawdau a chanu penillion o dan gyfarwyddyd ei thad. Nid syndod mai ei thad, Lewis Thomas, a’i hyfforddai gan mai ef oedd ‘un o arloeswyr [[canu penillion]] yn ne Cymru yn hanner cyntaf yr 20g.’ (Griffiths 2011, 8), ac ef hefyd oedd un o sylfaenwyr [[Cymdeithas Cerdd Dant Cymru]] yn 1934. Daeth Amy yn aelod o bwyllgor gwaith y gymdeithas honno yn 1946 a bu’n golygu ''Allwedd y Tannau'' ar y cyd â Dewi Mai o Feirion rhwng 1947 ac 1950, cyn iddi gael ei hethol yn llywydd. Cyfrannodd erthyglau i’r cylchgrawn ar hanes canu gyda’r tannau, gan dynnu ar ei phrofiadau personol o ganu a dehongli [[cerdd dant]].
+
Yn ogystal â’i gwaith beunyddiol a’i hymroddiad diflino i’w gŵr, cystadlai’n gyson fel cantores mewn [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | eisteddfodau]] lleol a chenedlaethol, ac enillai wobrau am unawdau a chanu penillion o dan gyfarwyddyd ei thad. Nid syndod mai ei thad, Lewis Thomas, a’i hyfforddai gan mai ef oedd ‘un o arloeswyr [[Canu Penillion (gwreiddiau) | canu penillion]] yn ne Cymru yn hanner cyntaf yr 20g.’ (Griffiths 2011, 8), ac ef hefyd oedd un o sylfaenwyr [[Cymdeithas Cerdd Dant Cymru]] yn 1934. Daeth Amy yn aelod o bwyllgor gwaith y gymdeithas honno yn 1946 a bu’n golygu ''Allwedd y Tannau'' ar y cyd â Dewi Mai o Feirion rhwng 1947 ac 1950, cyn iddi gael ei hethol yn llywydd. Cyfrannodd erthyglau i’r cylchgrawn ar hanes canu gyda’r tannau, gan dynnu ar ei phrofiadau personol o ganu a dehongli [[Cerdd Dant | cerdd dant]].
  
Agwedd arall ar ei chyfraniad i gerddoriaeth werin Cymru oedd ei chysylltiad â [[Chymdeithas Alawon Gwerin Cymru]]. Wedi iddi gael ei hethol yn aelod o bwyllgor gwaith y gymdeithas yn 1947, bu’n weithgar dros yr achos weddill ei hoes. Er enghraifft, rhoddai ddatganiadau lleisiol o’r alawon mewn cyngherddau a darlithoedd cyhoeddus a thraddodai yng nghynhadledd breswyl y Gymdeithas yn yr 1960au. Cyhoeddwyd ffrwyth ei hymchwil yng nghylchgrawn y Gymdeithas, ''Canu Gwerin'', yn yr 1970au. Cyfrannodd gasgliadau o ganeuon i’w hychwanegu at ''repertoire'' y traddodiad, rhai wedi’u casglu ganddi o’r traddodiad llafar ac eraill wedi’u copïo ganddi o ffynonellau eraill. Fe’i hetholwyd yn llywydd [[Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru]] yn 1986.
+
Agwedd arall ar ei chyfraniad i gerddoriaeth werin Cymru oedd ei chysylltiad â [[Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru | Chymdeithas Alawon Gwerin Cymru]]. Wedi iddi gael ei hethol yn aelod o bwyllgor gwaith y gymdeithas yn 1947, bu’n weithgar dros yr achos weddill ei hoes. Er enghraifft, rhoddai ddatganiadau lleisiol o’r alawon mewn cyngherddau a darlithoedd cyhoeddus a thraddodai yng nghynhadledd breswyl y Gymdeithas yn yr 1960au. Cyhoeddwyd ffrwyth ei hymchwil yng nghylchgrawn y Gymdeithas, ''Canu Gwerin'', yn yr 1970au. Cyfrannodd gasgliadau o ganeuon i’w hychwanegu at ''repertoire'' y traddodiad, rhai wedi’u casglu ganddi o’r traddodiad llafar ac eraill wedi’u copïo ganddi o ffynonellau eraill. Fe’i hetholwyd yn llywydd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn 1986.
  
Edrychai am gyfleoedd i ddwyn sylw at draddodiad gwerin Cymru y tu hwnt i’r ffin, er enghraifft trwy gyfrwng darlledu. Bu’n flaenllaw ei chyfraniad i fyd y [[cyfryngau]] yng Nghymru trwy recordio [[caneuon gwerin]] ar gyfer y Welsh Recorded Music Society yn ystod yr 1940au a gafodd sylw yng nghylchgrawn ''Gramophone'' (gw. Harvey 1949, 63). O ganlyniad, sicrhaodd gynulleidfa ehangach ar gyfer traddodiad gwerin Cymru a’i cherddoriaeth. Yn ogystal â hyn, paratôdd a pherfformiodd raglenni o ganeuon gwerin ar gyfer Eisteddfod Ryngwladol Llangollen a chymdeithasau Cymry Llundain a rhyddhaodd record ar label Decca yn 1958 o osodiadau cerdd dant yn dwyn y teitl ''Canu Penillion''. Lluniodd hefyd ganeuon i blant a’u canu ar y radio a’r teledu (gw. [[Hwiangerdd]]), a hi oedd un o gyfarwyddwyr cyntaf y cwmni teledu masnachol HTV (Griffiths 2009).
+
Edrychai am gyfleoedd i ddwyn sylw at draddodiad gwerin Cymru y tu hwnt i’r ffin, er enghraifft trwy gyfrwng darlledu. Bu’n flaenllaw ei chyfraniad i fyd y [[Diwylliant a'r Diwydiant Cerddoriaeth | cyfryngau]] yng Nghymru trwy recordio [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | caneuon gwerin]] ar gyfer y Welsh Recorded Music Society yn ystod yr 1940au a gafodd sylw yng nghylchgrawn ''Gramophone'' (gw. Harvey 1949, 63). O ganlyniad, sicrhaodd gynulleidfa ehangach ar gyfer traddodiad gwerin Cymru a’i cherddoriaeth. Yn ogystal â hyn, paratôdd a pherfformiodd raglenni o ganeuon gwerin ar gyfer Eisteddfod Ryngwladol Llangollen a chymdeithasau Cymry Llundain a rhyddhaodd record ar label Decca yn 1958 o osodiadau cerdd dant yn dwyn y teitl ''Canu Penillion''. Lluniodd hefyd ganeuon i blant a’u canu ar y radio a’r teledu (gw. [[Hwiangerdd (Hwiangerddi) | Hwiangerdd]]), a hi oedd un o gyfarwyddwyr cyntaf y cwmni teledu masnachol HTV (Griffiths 2009).
  
 
Gwasanaethodd fel beirniad yn yr Eisteddfod Genedlaethol a bu hi a’i gŵr yn gyfrifol am lunio’r geiriau ar gyfer y gân ‘Beth yw’r haf i mi?’ i’w gosod ar alaw delyn Gymreig o’r 18g. Trwy ddehongli ar gân a thraethu ar faes a oedd yn agos at ei chalon, gan addysgu plant, myfyrwyr a chymdeithasau am eu diwylliant gwerin cerddorol, llwyddodd i ‘[d]rosglwyddo rhin a gwerth diwylliant cenedl’ (Griffiths 2011, 16) er mwyn cynnal y traddodiad hwnnw. Bu farw ar 28 Ionawr 1988 ac yn 1990 dechreuodd y Gymdeithas Alawon Gwerin gynnal darlithoedd er cof amdani.
 
Gwasanaethodd fel beirniad yn yr Eisteddfod Genedlaethol a bu hi a’i gŵr yn gyfrifol am lunio’r geiriau ar gyfer y gân ‘Beth yw’r haf i mi?’ i’w gosod ar alaw delyn Gymreig o’r 18g. Trwy ddehongli ar gân a thraethu ar faes a oedd yn agos at ei chalon, gan addysgu plant, myfyrwyr a chymdeithasau am eu diwylliant gwerin cerddorol, llwyddodd i ‘[d]rosglwyddo rhin a gwerth diwylliant cenedl’ (Griffiths 2011, 16) er mwyn cynnal y traddodiad hwnnw. Bu farw ar 28 Ionawr 1988 ac yn 1990 dechreuodd y Gymdeithas Alawon Gwerin gynnal darlithoedd er cof amdani.

Y diwygiad cyfredol, am 17:05, 7 Awst 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cantores ac addysgwraig a fagwyd ar aelwyd gerddgar ym Mhontyberem, Sir Gaerfyrddin. Graddiodd yn y Gymraeg o Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn 1932 a bu’n athrawes yn Ysgol Ramadeg y Merched, Caerfyrddin. Yn 1942 priododd â’i hathro yn y coleg, T. H. Parry-Williams. Parhaodd â’i hastudiaethau trwy gwblhau ymchwil ar y cysylltiad rhwng geiriau ac alawon yn y traddodiad gwerin Cymreig ar gyfer gradd meistr yng Ngholeg Hyfforddi y Barri, lle bu hefyd yn ddarlithydd. Dyma pryd yr eginodd ei diddordeb mewn cerddoriaeth werin.

Yn ogystal â’i gwaith beunyddiol a’i hymroddiad diflino i’w gŵr, cystadlai’n gyson fel cantores mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol, ac enillai wobrau am unawdau a chanu penillion o dan gyfarwyddyd ei thad. Nid syndod mai ei thad, Lewis Thomas, a’i hyfforddai gan mai ef oedd ‘un o arloeswyr canu penillion yn ne Cymru yn hanner cyntaf yr 20g.’ (Griffiths 2011, 8), ac ef hefyd oedd un o sylfaenwyr Cymdeithas Cerdd Dant Cymru yn 1934. Daeth Amy yn aelod o bwyllgor gwaith y gymdeithas honno yn 1946 a bu’n golygu Allwedd y Tannau ar y cyd â Dewi Mai o Feirion rhwng 1947 ac 1950, cyn iddi gael ei hethol yn llywydd. Cyfrannodd erthyglau i’r cylchgrawn ar hanes canu gyda’r tannau, gan dynnu ar ei phrofiadau personol o ganu a dehongli cerdd dant.

Agwedd arall ar ei chyfraniad i gerddoriaeth werin Cymru oedd ei chysylltiad â Chymdeithas Alawon Gwerin Cymru. Wedi iddi gael ei hethol yn aelod o bwyllgor gwaith y gymdeithas yn 1947, bu’n weithgar dros yr achos weddill ei hoes. Er enghraifft, rhoddai ddatganiadau lleisiol o’r alawon mewn cyngherddau a darlithoedd cyhoeddus a thraddodai yng nghynhadledd breswyl y Gymdeithas yn yr 1960au. Cyhoeddwyd ffrwyth ei hymchwil yng nghylchgrawn y Gymdeithas, Canu Gwerin, yn yr 1970au. Cyfrannodd gasgliadau o ganeuon i’w hychwanegu at repertoire y traddodiad, rhai wedi’u casglu ganddi o’r traddodiad llafar ac eraill wedi’u copïo ganddi o ffynonellau eraill. Fe’i hetholwyd yn llywydd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn 1986.

Edrychai am gyfleoedd i ddwyn sylw at draddodiad gwerin Cymru y tu hwnt i’r ffin, er enghraifft trwy gyfrwng darlledu. Bu’n flaenllaw ei chyfraniad i fyd y cyfryngau yng Nghymru trwy recordio caneuon gwerin ar gyfer y Welsh Recorded Music Society yn ystod yr 1940au a gafodd sylw yng nghylchgrawn Gramophone (gw. Harvey 1949, 63). O ganlyniad, sicrhaodd gynulleidfa ehangach ar gyfer traddodiad gwerin Cymru a’i cherddoriaeth. Yn ogystal â hyn, paratôdd a pherfformiodd raglenni o ganeuon gwerin ar gyfer Eisteddfod Ryngwladol Llangollen a chymdeithasau Cymry Llundain a rhyddhaodd record ar label Decca yn 1958 o osodiadau cerdd dant yn dwyn y teitl Canu Penillion. Lluniodd hefyd ganeuon i blant a’u canu ar y radio a’r teledu (gw. Hwiangerdd), a hi oedd un o gyfarwyddwyr cyntaf y cwmni teledu masnachol HTV (Griffiths 2009).

Gwasanaethodd fel beirniad yn yr Eisteddfod Genedlaethol a bu hi a’i gŵr yn gyfrifol am lunio’r geiriau ar gyfer y gân ‘Beth yw’r haf i mi?’ i’w gosod ar alaw delyn Gymreig o’r 18g. Trwy ddehongli ar gân a thraethu ar faes a oedd yn agos at ei chalon, gan addysgu plant, myfyrwyr a chymdeithasau am eu diwylliant gwerin cerddorol, llwyddodd i ‘[d]rosglwyddo rhin a gwerth diwylliant cenedl’ (Griffiths 2011, 16) er mwyn cynnal y traddodiad hwnnw. Bu farw ar 28 Ionawr 1988 ac yn 1990 dechreuodd y Gymdeithas Alawon Gwerin gynnal darlithoedd er cof amdani.

Leila Salisbury

Llyfryddiaeth

  • Trevor Harvey, ‘Welsh Recorded Music Society’, Gramophone (Medi, 1949), 63
  • Rhidian Griffiths, ‘Amy Parry-Williams’, Y Bywgraffiadur Ar-lein, 2009
  • ———, ‘Ledi Amy’, Canu Gwerin, 34 (2011), 7–18



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.