Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Rees, Stephen (g.1963)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydy...')
 
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 4: Llinell 4:
 
Cerddor ac ysgolhaig. Ganed Stephen Powell Rees yn Rhydaman, Sir Gaerfyrddin. Aeth i Ysgol Gyfun Dyffryn Aman cyn astudio cerddoriaeth yng Ngholeg Selwyn, Caergrawnt. Astudiodd y piano gyda Beate Popperwell yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru rhwng 1977 ac 1981.
 
Cerddor ac ysgolhaig. Ganed Stephen Powell Rees yn Rhydaman, Sir Gaerfyrddin. Aeth i Ysgol Gyfun Dyffryn Aman cyn astudio cerddoriaeth yng Ngholeg Selwyn, Caergrawnt. Astudiodd y piano gyda Beate Popperwell yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru rhwng 1977 ac 1981.
  
Fe’i penodwyd yn ddarlithydd mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor yn 1988, ac ers hynny bu’n dysgu ystod eang o bynciau hanesyddol o’r oesoedd canol hwyr i’r ugeinfed ganrif, gan arbenigo’n bennaf ym maes cerddoriaeth yng Nghymru ac arddulliau [[ffidil]] traddodiadol. Mae ganddo ddiddordeb arbennig yng ngherddoriaeth draddodiadol Cymru ac wedi perfformio a recordio’n broffesiynol ar hyd a lled Prydain, Ewrop, a Gogledd a De America, yn ystod yr 1980au a’r 90au fel aelod o’r [[grŵp gwerin]] [[Ar Log]], ac yna’n fwy diweddar gyda [[Crasdant]], gan chwarae amrywiaeth o [[offerynnau]], megis y ffidil, acordion, chwibanogl, clarinét, allweddellau, ac yn fwy diweddar, y [[Pibgorn]]. Bu hefyd ynghlwm â sefydlu ''trac'' (asiantaeth datblygu traddodiadau gwerin Cymru) a cherddorfa wedi ei chreu o offerynnau gwerin traddodiadol, [[Y Glerorfa]].
+
Fe’i penodwyd yn ddarlithydd mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor yn 1988, ac ers hynny bu’n dysgu ystod eang o bynciau hanesyddol o’r oesoedd canol hwyr i’r ugeinfed ganrif, gan arbenigo’n bennaf ym maes cerddoriaeth yng Nghymru ac arddulliau [[ffidil]] traddodiadol. Mae ganddo ddiddordeb arbennig yng ngherddoriaeth draddodiadol Cymru ac wedi perfformio a recordio’n broffesiynol ar hyd a lled Prydain, Ewrop, a Gogledd a De America, yn ystod yr 1980au a’r 90au fel aelod o’r [[Gwerin, grwpiau | grŵp gwerin]] [[Ar Log]], ac yna’n fwy diweddar gyda [[Crasdant]], gan chwarae amrywiaeth o [[Organoleg ac Offerynnau | offerynnau]], megis y ffidil, acordion, chwibanogl, clarinét, allweddellau, ac yn fwy diweddar, y [[Pibgorn, Pibgod | Pibgorn]]. Bu hefyd ynghlwm â sefydlu ''trac'' (asiantaeth datblygu traddodiadau gwerin Cymru) a cherddorfa wedi ei chreu o offerynnau gwerin traddodiadol, [[Glerorfa, Y | Y Glerorfa]].
  
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 
[[Categori:Cerddoriaeth]]
 
[[Categori:Cerddoriaeth]]

Y diwygiad cyfredol, am 18:34, 7 Awst 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cerddor ac ysgolhaig. Ganed Stephen Powell Rees yn Rhydaman, Sir Gaerfyrddin. Aeth i Ysgol Gyfun Dyffryn Aman cyn astudio cerddoriaeth yng Ngholeg Selwyn, Caergrawnt. Astudiodd y piano gyda Beate Popperwell yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru rhwng 1977 ac 1981.

Fe’i penodwyd yn ddarlithydd mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor yn 1988, ac ers hynny bu’n dysgu ystod eang o bynciau hanesyddol o’r oesoedd canol hwyr i’r ugeinfed ganrif, gan arbenigo’n bennaf ym maes cerddoriaeth yng Nghymru ac arddulliau ffidil traddodiadol. Mae ganddo ddiddordeb arbennig yng ngherddoriaeth draddodiadol Cymru ac wedi perfformio a recordio’n broffesiynol ar hyd a lled Prydain, Ewrop, a Gogledd a De America, yn ystod yr 1980au a’r 90au fel aelod o’r grŵp gwerin Ar Log, ac yna’n fwy diweddar gyda Crasdant, gan chwarae amrywiaeth o offerynnau, megis y ffidil, acordion, chwibanogl, clarinét, allweddellau, ac yn fwy diweddar, y Pibgorn. Bu hefyd ynghlwm â sefydlu trac (asiantaeth datblygu traddodiadau gwerin Cymru) a cherddorfa wedi ei chreu o offerynnau gwerin traddodiadol, Y Glerorfa.



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.