Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Thomas, Elin Manahan (g.1977)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
Llinell 8: Llinell 8:
 
Er bod yr albwm yn arddangos ei harbenigedd mewn dehongli cerddoriaeth Baróc (mae hefyd wedi chwarae sawl rhan yng ngweithiau theatrig Purcell er enghraifft), mae’r soprano yr un mor gyfforddus yn ymateb i ofynion technegol a cherddorol gweithiau cyfoes. Enillodd glod am ei pherfformiad ar recordiad o waith James MacMillan, ''On the Annunciation of the Blessed Virgin'', yn 2005, a chymerodd ran hefyd yn ''Requiem'' Syr John Tavener a berfformiwyd am y tro cyntaf yn 2008.
 
Er bod yr albwm yn arddangos ei harbenigedd mewn dehongli cerddoriaeth Baróc (mae hefyd wedi chwarae sawl rhan yng ngweithiau theatrig Purcell er enghraifft), mae’r soprano yr un mor gyfforddus yn ymateb i ofynion technegol a cherddorol gweithiau cyfoes. Enillodd glod am ei pherfformiad ar recordiad o waith James MacMillan, ''On the Annunciation of the Blessed Virgin'', yn 2005, a chymerodd ran hefyd yn ''Requiem'' Syr John Tavener a berfformiwyd am y tro cyntaf yn 2008.
  
Daeth yn ffigwr adnabyddus fel cyflwynwraig yn y [[cyfryngau]]. Yng Nghymru roedd yn cyflwyno ac yn perfformio yn y gyfres chwe-rhaglen ''Y Sopranos'' yn 2010 (a ddilynwyd gan recordiad ar label Sain, casgliad o ariâu operatig a darnau Lieder sy’n ymestyn o gyfnod y Baróc hyd at yr 20g.). Bydd yn ymddangos yn rheolaidd ar y BBC mewn rhaglenni fel ''Songs of Praise'' a darllediadau o’r ''Proms''. Perfformiodd ''Eternal Source of Light Divine'' gan Handel yn Seremoni Agoriadol Gemau Paralympaidd Llundain yn 2012. Fe’i hetholwyd yn Gymrawd er Anrhydedd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd, yn 2012 a derbyniodd radd DLitt er anrhydedd o Brifysgol Abertawe y flwyddyn ddilynol.
+
Daeth yn ffigwr adnabyddus fel cyflwynwraig yn y [[Diwylliant a'r Diwydiant Cerddoriaeth | cyfryngau]]. Yng Nghymru roedd yn cyflwyno ac yn perfformio yn y gyfres chwe-rhaglen ''Y Sopranos'' yn 2010 (a ddilynwyd gan recordiad ar label Sain, casgliad o ariâu operatig a darnau Lieder sy’n ymestyn o gyfnod y Baróc hyd at yr 20g.). Bydd yn ymddangos yn rheolaidd ar y BBC mewn rhaglenni fel ''Songs of Praise'' a darllediadau o’r ''Proms''. Perfformiodd ''Eternal Source of Light Divine'' gan Handel yn Seremoni Agoriadol Gemau Paralympaidd Llundain yn 2012. Fe’i hetholwyd yn Gymrawd er Anrhydedd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd, yn 2012 a derbyniodd radd DLitt er anrhydedd o Brifysgol Abertawe y flwyddyn ddilynol.
  
Yn Ionawr 2013 perfformiodd gylch o ganeuon [[Pwyll ap Siôn]], ''Sevi'', gyda’r Gerddorfa Siambr Ewropeaidd yn Galeri, Caernarfon, a’r Neuadd i Gernyw, Truro. Canodd ''Messiah'' Handel mewn cyngerdd yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau yr un flwyddyn, a pherfformiodd yn nathliadau canmlwyddiant geni Dylan Thomas yn Llundain a Chymru yn 2014. Yn 2015 rhyddhaodd gynhyrchiad o ''Dido ac Aeneas'' Purcell ar label Signum ac fe’i canmolwyd am ei phortread o Belinda yn yr [[opera]].
+
Yn Ionawr 2013 perfformiodd gylch o ganeuon [[Ap Siôn, Pwyll (g.1968) | Pwyll ap Siôn]], ''Sevi'', gyda’r Gerddorfa Siambr Ewropeaidd yn Galeri, Caernarfon, a’r Neuadd i Gernyw, Truro. Canodd ''Messiah'' Handel mewn cyngerdd yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau yr un flwyddyn, a pherfformiodd yn nathliadau canmlwyddiant geni Dylan Thomas yn Llundain a Chymru yn 2014. Yn 2015 rhyddhaodd gynhyrchiad o ''Dido ac Aeneas'' Purcell ar label Signum ac fe’i canmolwyd am ei phortread o Belinda yn yr [[opera]].
  
 
'''Tristian Evans'''
 
'''Tristian Evans'''

Y diwygiad cyfredol, am 14:30, 8 Awst 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed y soprano Elin Manahan Thomas yng Ngorseinon, ger Abertawe. Bu’n canu gyda Chôr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru cyn mynd i astudio Eingl-Sacsoneg, Norseg a Chelteg yng Ngholeg Clare, Caergrawnt. Yno ymunodd â Chôr Capel Clare wrth astudio tuag at MPhil mewn astudiaethau Celtaidd. Yn 2001 aeth ymlaen i ddilyn cwrs ôl-radd mewn canu yn y Coleg Cerdd Brenhinol, Llundain. Roedd eisoes wedi canu gyda Chôr Monteverdi o dan arweiniad Syr John Eliot Gardiner ers 1999, ac ymunodd â’r ensemble lleisiol The Sixteen o dan arweiniad Harry Christophers.

Daeth i enwogrwydd yn gynnar yn ei gyrfa broffesiynol o ganlyniad i’w pherfformiad o ‘Pie Jesu’ o Requiem John Rutter a ryddhawyd ar label Naxos yn 2003. Yn 2005 cafodd y fraint o ganu’r aria ben- blwydd ‘Alles mit Gott’ gan J. S. Bach, a oedd newydd ei darganfod mewn llyfrgell yn Weimar. Recordiwyd y perfformiad o dan arweiniad Gardiner y flwyddyn ganlynol a darlledwyd perfformiad cyhoeddus cyntaf o’r darn ar S4C. Yn 2007 rhyddhawyd albwm cyntaf y gantores, Eternal Light (Heliodor, 2007), gyda Cherddorfa Oes yr Oleuedigaeth o dan arweiniad Christophers.

Er bod yr albwm yn arddangos ei harbenigedd mewn dehongli cerddoriaeth Baróc (mae hefyd wedi chwarae sawl rhan yng ngweithiau theatrig Purcell er enghraifft), mae’r soprano yr un mor gyfforddus yn ymateb i ofynion technegol a cherddorol gweithiau cyfoes. Enillodd glod am ei pherfformiad ar recordiad o waith James MacMillan, On the Annunciation of the Blessed Virgin, yn 2005, a chymerodd ran hefyd yn Requiem Syr John Tavener a berfformiwyd am y tro cyntaf yn 2008.

Daeth yn ffigwr adnabyddus fel cyflwynwraig yn y cyfryngau. Yng Nghymru roedd yn cyflwyno ac yn perfformio yn y gyfres chwe-rhaglen Y Sopranos yn 2010 (a ddilynwyd gan recordiad ar label Sain, casgliad o ariâu operatig a darnau Lieder sy’n ymestyn o gyfnod y Baróc hyd at yr 20g.). Bydd yn ymddangos yn rheolaidd ar y BBC mewn rhaglenni fel Songs of Praise a darllediadau o’r Proms. Perfformiodd Eternal Source of Light Divine gan Handel yn Seremoni Agoriadol Gemau Paralympaidd Llundain yn 2012. Fe’i hetholwyd yn Gymrawd er Anrhydedd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd, yn 2012 a derbyniodd radd DLitt er anrhydedd o Brifysgol Abertawe y flwyddyn ddilynol.

Yn Ionawr 2013 perfformiodd gylch o ganeuon Pwyll ap Siôn, Sevi, gyda’r Gerddorfa Siambr Ewropeaidd yn Galeri, Caernarfon, a’r Neuadd i Gernyw, Truro. Canodd Messiah Handel mewn cyngerdd yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau yr un flwyddyn, a pherfformiodd yn nathliadau canmlwyddiant geni Dylan Thomas yn Llundain a Chymru yn 2014. Yn 2015 rhyddhaodd gynhyrchiad o Dido ac Aeneas Purcell ar label Signum ac fe’i canmolwyd am ei phortread o Belinda yn yr opera.

Tristian Evans

Llyfryddiaeth

  • Rhian Price, ‘Soprano mewn stereo’, Golwg, 15/xxx (10 Ebrill 2003), 20
  • Barry Witherden, ‘MacMillan’, Gramophone (Medi, 2005), 63
  • Non Tudur, ‘Soprano Bach o Gymru’, Golwg, 18/xxx (6 Ebrill 2006), 7
  • ‘Diary: Elin Manahan Thomas’, Gramophone (Gorffennaf, 2007), 16
  • Richard Lawrence, ‘Purcell: Dido and Aeneas’, Gramophone (Awst, 2015), 90



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.