Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Torjussen, Ceiri (g.1976)"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
− | + | __NOAUTOLINKS__ | |
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | ||
Cyfansoddwr cerddoriaeth ffilm yn bennaf, a fu’n byw ers rhai blynyddoedd ger Los Angeles, California, yn agos at gartref y diwydiant ffilm yn Hollywood. | Cyfansoddwr cerddoriaeth ffilm yn bennaf, a fu’n byw ers rhai blynyddoedd ger Los Angeles, California, yn agos at gartref y diwydiant ffilm yn Hollywood. | ||
− | Ganed Torjussen yng Nghaerdydd. Roedd ei dad, cynhyrchydd a chyfarwyddwr [[rhaglenni teledu]] o dras Norwyaidd, yn hanu o’r brifddinas tra deuai | + | Ganed Torjussen yng Nghaerdydd. Roedd ei dad, cynhyrchydd a chyfarwyddwr [[Rhaglenni Teledu Pop | rhaglenni teledu]] o dras Norwyaidd, yn hanu o’r brifddinas tra deuai teulu ei fam yn wreiddiol o Lŷn. Un o atgofion cerddorol cyntaf Torjussen oedd clywed ei fam yn byrfyfyrio wrth y piano, a hynny - ynghyd â gwrando ar gasgliad recordiau eang ei dad - a’i symbylodd i ddechrau cyfansoddi. Dechreuodd chwarae’r piano a’r trwmped pan oedd yn wyth oed. |
− | Clywed ei fam yn byrfyfyrio oedd man cychwyn ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth [[jazz]] hefyd, ac yn ei arddegau bu’n aelod o grŵp jazz o’r enw Giant Steps, a berfformiodd yng [[Ngŵyl]] Jazz Aberhonddu ac yng Ngŵyl Vienne, Ffrainc. Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Melin Gruffydd, Ysgol Uwchradd Glantaf a Choleg Chweched Dosbarth Dewi Sant yng Nghaerdydd. Yn ystod ei addysg uwchradd bu mewn cysylltiad â’r cyfansoddwr [[John Metcalf]], a roddodd anogaeth iddo barhau ym maes cyfansoddi. | + | Clywed ei fam yn byrfyfyrio oedd man cychwyn ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth [[jazz]] hefyd, ac yn ei arddegau bu’n aelod o grŵp jazz o’r enw Giant Steps, a berfformiodd yng [[Gwyliau Cerddoriaeth | Ngŵyl]] Jazz Aberhonddu ac yng Ngŵyl Vienne, Ffrainc. Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Melin Gruffydd, Ysgol Uwchradd Glantaf a Choleg Chweched Dosbarth Dewi Sant yng Nghaerdydd. Yn ystod ei addysg uwchradd bu mewn cysylltiad â’r cyfansoddwr [[Metcalf, John (g.1946) | John Metcalf]], a roddodd anogaeth iddo barhau ym maes cyfansoddi. |
− | Yn 1995 treuliodd Torjussen rai misoedd yn teithio trwy India a mynyddoedd Himalaya cyn astudio cerddoriaeth am dair blynedd ym Mhrifysgol Efrog (1995-8), lle graddiodd gyda dosbarth cyntaf gan astudio gyda David Blake (g.1936) a Nicola LaFanu (g.1947). Yno fe’i cyflwynwyd am y tro cyntaf i gyfansoddwyr ''avant-garde'' yr 1960au, megis Pierre Boulez (1925-2016), György Ligeti (1923-2006) a Luciano Berio (1925-2003) ynghyd â | + | Yn 1995 treuliodd Torjussen rai misoedd yn teithio trwy India a mynyddoedd Himalaya cyn astudio cerddoriaeth am dair blynedd ym Mhrifysgol Efrog (1995-8), lle graddiodd gyda dosbarth cyntaf gan astudio gyda David Blake (g.1936) a Nicola LaFanu (g.1947). Yno fe’i cyflwynwyd am y tro cyntaf i gyfansoddwyr ''avant-garde'' yr 1960au, megis Pierre Boulez (1925-2016), György Ligeti (1923-2006) a Luciano Berio (1925-2003) ynghyd â datblygu ei wybodaeth am gerddoriaeth o’r Dwyrain, megis Bali ac India, ac astudiodd am gyfnod yn Ffrainc gydag un a fu’n ddisgybl i’r cyfansoddwr Ffrengig Olivier Messiaen (1908-92). |
− | Aeth ymlaen trwy gynllun Ysgoloriaeth Fulbright i astudio cwrs meistr ym Mhrifysgol De Califfornia yn Los Angeles, gan ymgartrefu yn yr ardal ar ôl cwblhau ei astudiaethau. Parhaodd ei ddiddordeb yng ngherddoriaeth yr ''avant-garde'' a chlywir dylanwad hynny yn yr agorawd cerddorfaol egnïol ''Momentum'' (1999). Yr un flwyddyn enillodd Torjussen gystadleuaeth Tlws y Cerddor yn [[Eisteddfod]] Genedlaethol Ynys Môn am ei ''Sinfonia'' ar gyfer cerddorfa (roedd eisoes wedi ennill Tlws y Cerddor yn Eisteddfod yr Urdd, Llanbedr Pont Steffan, yn 1995, a bu’n fuddugol yn y gystadleuaeth ddwywaith ar ôl hynny). | + | Aeth ymlaen trwy gynllun Ysgoloriaeth Fulbright i astudio cwrs meistr ym Mhrifysgol De Califfornia yn Los Angeles, gan ymgartrefu yn yr ardal ar ôl cwblhau ei astudiaethau. Parhaodd ei ddiddordeb yng ngherddoriaeth yr ''avant-garde'' a chlywir dylanwad hynny yn yr agorawd cerddorfaol egnïol ''Momentum'' (1999). Yr un flwyddyn enillodd Torjussen gystadleuaeth Tlws y Cerddor yn [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] Genedlaethol Ynys Môn am ei ''Sinfonia'' ar gyfer cerddorfa (roedd eisoes wedi ennill Tlws y Cerddor yn Eisteddfod yr Urdd, Llanbedr Pont Steffan, yn 1995, a bu’n fuddugol yn y gystadleuaeth ddwywaith ar ôl hynny). |
− | Yn dilyn llwyddiant ''Momentum'' fe’i comisiynwyd gan Ŵyl Gerdd Bro Morgannwg yn 2001 i gyfansoddi ''Blodeuwedd''. Dangosai’r gwaith comisiwn fod Torjussen, er gwaethaf ei alltudiaeth, yn parhau i ymddiddori yn hanes ac hen chwedlau Cymru. Yn 2003-4 derbyniodd gomisiwn gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC i gyfansoddi’r ''Welsh Folk-Fantasia'' – gwaith ugain munud o hyd ar gyfer cerddorfa lawn, yn defnyddio deunydd melodig allan o bedair [[alaw werin]] Gymraeg. Gellir olrhain y defnydd o’r traddodiad gwerin yn ei gerddoriaeth yn ôl at y '' | + | Yn dilyn llwyddiant ''Momentum'' fe’i comisiynwyd gan Ŵyl Gerdd Bro Morgannwg yn 2001 i gyfansoddi ''Blodeuwedd''. Dangosai’r gwaith comisiwn fod Torjussen, er gwaethaf ei alltudiaeth, yn parhau i ymddiddori yn hanes ac hen chwedlau Cymru. Yn 2003-4 derbyniodd gomisiwn gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC i gyfansoddi’r ''Welsh Folk-Fantasia'' – gwaith ugain munud o hyd ar gyfer cerddorfa lawn, yn defnyddio deunydd melodig allan o bedair [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | alaw werin]] Gymraeg. Gellir olrhain y defnydd o’r traddodiad gwerin yn ei gerddoriaeth yn ôl at y ''Tair Alaw Werin Gymreig'' ar gyfer piano (1999) ac ''Ar Lan y Môr'' (2010) – gydag un symudiad allan o’r naill wedi’i berfformio a’i recordio gan [[Llewelyn-Jones, Iwan (g.1959) | Iwan Llewelyn-Jones]] a’r llall yn ddarn comisiwn gan Ŵyl Gerdd Abertawe ar gyfer y delynores [[Finch, Catrin (g.1980) | Catrin Finch]]. Roedd gwaith arall, ''Ffarwel Myfanwy'' (2007), ar gyfer côr digyfeiliant, yn seiliedig ar ran-gân enwog [[Parry, Joseph (1841-1903) | Joseph Parry]]. |
− | Dim ond man cychwyn oedd y deunyddiau cerddorol hyn ar gyfer cyfansoddiadau cwbl wreiddiol a modern o ran sain ac | + | Dim ond man cychwyn oedd y deunyddiau cerddorol hyn ar gyfer cyfansoddiadau cwbl wreiddiol a modern o ran sain ac arddull, fodd bynnag, yn hytrach na ‘threfniannau’ yn ystyr fwy confensiynol y term. Er enghraifft, yn ''Ar Lan y Môr'', ar gyfer [[telyn]] unawdol, fe glywir yr alaw werin adnabyddus yn fwyaf amlwg yn adran ganol y gwaith, a hynny mewn gwead sy’n dwyn i gof gyfansoddwyr argraffiadol megis Debussy a Ravel. Cyn hynny defnyddir nifer o dechnegau estynedig ar y delyn i greu ‘morlun’ cerddorol hynod effeithiol. Mae’r darn yn arddangos dealltwriaeth a meistrolaeth Torjussen o’r offerynnau y mae’n cyfansoddi ar eu cyfer, ac mae wedi llwyddo i drosglwyddo nifer o’r sgiliau hyn i gyfrwng cerddoriaeth a cherddorfaeth [[ffilm]] yn ogystal. |
Cyfrannodd Torjussen sgorau gwreiddiol ar gyfer ffilmiau megis ''Live Free or Die Hard'' (2007) a ''Repo Men'' (2010) ynghyd â thrac sain cyfan i ''Mentor'' (2006), sy’n gyfuniad o themâu telynegol, cyfeiliannau rhythmig a cherddoriaeth ''techno'' dywyll. Mae’r trac sain ar gyfer ''Undoing'' (2006) hefyd yn benthyg elfennau o ''electronica'', tra mae meistrolaeth Torjussen ar seinluniau ''ambient'' a’i ddealltwriaeth o ''pastiche electro-pop'' yr 1980au i’w clywed mewn sgôr hynod effeithiol ar gyfer ''Test'' (2013). Amlygir ei ddawn i greu cerddoriaeth seicolegol, anesmwyth effeithiol yn ''The Canal'' (2014). Ym maes trefnu a cherddorfaeth ffilm cydweithiodd gyda rhai o brif enwau’r maes, yn eu plith Marco Beltrami a Harald Kloser ar gyfer ffilmiau megis ''Terminator 3: Rise of the Machines'' (2003) ''I, Robot'' (2004) a ''The Day After Tomorrow'' (2004). | Cyfrannodd Torjussen sgorau gwreiddiol ar gyfer ffilmiau megis ''Live Free or Die Hard'' (2007) a ''Repo Men'' (2010) ynghyd â thrac sain cyfan i ''Mentor'' (2006), sy’n gyfuniad o themâu telynegol, cyfeiliannau rhythmig a cherddoriaeth ''techno'' dywyll. Mae’r trac sain ar gyfer ''Undoing'' (2006) hefyd yn benthyg elfennau o ''electronica'', tra mae meistrolaeth Torjussen ar seinluniau ''ambient'' a’i ddealltwriaeth o ''pastiche electro-pop'' yr 1980au i’w clywed mewn sgôr hynod effeithiol ar gyfer ''Test'' (2013). Amlygir ei ddawn i greu cerddoriaeth seicolegol, anesmwyth effeithiol yn ''The Canal'' (2014). Ym maes trefnu a cherddorfaeth ffilm cydweithiodd gyda rhai o brif enwau’r maes, yn eu plith Marco Beltrami a Harald Kloser ar gyfer ffilmiau megis ''Terminator 3: Rise of the Machines'' (2003) ''I, Robot'' (2004) a ''The Day After Tomorrow'' (2004). |
Y diwygiad cyfredol, am 14:54, 8 Awst 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Cyfansoddwr cerddoriaeth ffilm yn bennaf, a fu’n byw ers rhai blynyddoedd ger Los Angeles, California, yn agos at gartref y diwydiant ffilm yn Hollywood.
Ganed Torjussen yng Nghaerdydd. Roedd ei dad, cynhyrchydd a chyfarwyddwr rhaglenni teledu o dras Norwyaidd, yn hanu o’r brifddinas tra deuai teulu ei fam yn wreiddiol o Lŷn. Un o atgofion cerddorol cyntaf Torjussen oedd clywed ei fam yn byrfyfyrio wrth y piano, a hynny - ynghyd â gwrando ar gasgliad recordiau eang ei dad - a’i symbylodd i ddechrau cyfansoddi. Dechreuodd chwarae’r piano a’r trwmped pan oedd yn wyth oed.
Clywed ei fam yn byrfyfyrio oedd man cychwyn ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth jazz hefyd, ac yn ei arddegau bu’n aelod o grŵp jazz o’r enw Giant Steps, a berfformiodd yng Ngŵyl Jazz Aberhonddu ac yng Ngŵyl Vienne, Ffrainc. Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Melin Gruffydd, Ysgol Uwchradd Glantaf a Choleg Chweched Dosbarth Dewi Sant yng Nghaerdydd. Yn ystod ei addysg uwchradd bu mewn cysylltiad â’r cyfansoddwr John Metcalf, a roddodd anogaeth iddo barhau ym maes cyfansoddi.
Yn 1995 treuliodd Torjussen rai misoedd yn teithio trwy India a mynyddoedd Himalaya cyn astudio cerddoriaeth am dair blynedd ym Mhrifysgol Efrog (1995-8), lle graddiodd gyda dosbarth cyntaf gan astudio gyda David Blake (g.1936) a Nicola LaFanu (g.1947). Yno fe’i cyflwynwyd am y tro cyntaf i gyfansoddwyr avant-garde yr 1960au, megis Pierre Boulez (1925-2016), György Ligeti (1923-2006) a Luciano Berio (1925-2003) ynghyd â datblygu ei wybodaeth am gerddoriaeth o’r Dwyrain, megis Bali ac India, ac astudiodd am gyfnod yn Ffrainc gydag un a fu’n ddisgybl i’r cyfansoddwr Ffrengig Olivier Messiaen (1908-92).
Aeth ymlaen trwy gynllun Ysgoloriaeth Fulbright i astudio cwrs meistr ym Mhrifysgol De Califfornia yn Los Angeles, gan ymgartrefu yn yr ardal ar ôl cwblhau ei astudiaethau. Parhaodd ei ddiddordeb yng ngherddoriaeth yr avant-garde a chlywir dylanwad hynny yn yr agorawd cerddorfaol egnïol Momentum (1999). Yr un flwyddyn enillodd Torjussen gystadleuaeth Tlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn am ei Sinfonia ar gyfer cerddorfa (roedd eisoes wedi ennill Tlws y Cerddor yn Eisteddfod yr Urdd, Llanbedr Pont Steffan, yn 1995, a bu’n fuddugol yn y gystadleuaeth ddwywaith ar ôl hynny).
Yn dilyn llwyddiant Momentum fe’i comisiynwyd gan Ŵyl Gerdd Bro Morgannwg yn 2001 i gyfansoddi Blodeuwedd. Dangosai’r gwaith comisiwn fod Torjussen, er gwaethaf ei alltudiaeth, yn parhau i ymddiddori yn hanes ac hen chwedlau Cymru. Yn 2003-4 derbyniodd gomisiwn gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC i gyfansoddi’r Welsh Folk-Fantasia – gwaith ugain munud o hyd ar gyfer cerddorfa lawn, yn defnyddio deunydd melodig allan o bedair alaw werin Gymraeg. Gellir olrhain y defnydd o’r traddodiad gwerin yn ei gerddoriaeth yn ôl at y Tair Alaw Werin Gymreig ar gyfer piano (1999) ac Ar Lan y Môr (2010) – gydag un symudiad allan o’r naill wedi’i berfformio a’i recordio gan Iwan Llewelyn-Jones a’r llall yn ddarn comisiwn gan Ŵyl Gerdd Abertawe ar gyfer y delynores Catrin Finch. Roedd gwaith arall, Ffarwel Myfanwy (2007), ar gyfer côr digyfeiliant, yn seiliedig ar ran-gân enwog Joseph Parry.
Dim ond man cychwyn oedd y deunyddiau cerddorol hyn ar gyfer cyfansoddiadau cwbl wreiddiol a modern o ran sain ac arddull, fodd bynnag, yn hytrach na ‘threfniannau’ yn ystyr fwy confensiynol y term. Er enghraifft, yn Ar Lan y Môr, ar gyfer telyn unawdol, fe glywir yr alaw werin adnabyddus yn fwyaf amlwg yn adran ganol y gwaith, a hynny mewn gwead sy’n dwyn i gof gyfansoddwyr argraffiadol megis Debussy a Ravel. Cyn hynny defnyddir nifer o dechnegau estynedig ar y delyn i greu ‘morlun’ cerddorol hynod effeithiol. Mae’r darn yn arddangos dealltwriaeth a meistrolaeth Torjussen o’r offerynnau y mae’n cyfansoddi ar eu cyfer, ac mae wedi llwyddo i drosglwyddo nifer o’r sgiliau hyn i gyfrwng cerddoriaeth a cherddorfaeth ffilm yn ogystal.
Cyfrannodd Torjussen sgorau gwreiddiol ar gyfer ffilmiau megis Live Free or Die Hard (2007) a Repo Men (2010) ynghyd â thrac sain cyfan i Mentor (2006), sy’n gyfuniad o themâu telynegol, cyfeiliannau rhythmig a cherddoriaeth techno dywyll. Mae’r trac sain ar gyfer Undoing (2006) hefyd yn benthyg elfennau o electronica, tra mae meistrolaeth Torjussen ar seinluniau ambient a’i ddealltwriaeth o pastiche electro-pop yr 1980au i’w clywed mewn sgôr hynod effeithiol ar gyfer Test (2013). Amlygir ei ddawn i greu cerddoriaeth seicolegol, anesmwyth effeithiol yn The Canal (2014). Ym maes trefnu a cherddorfaeth ffilm cydweithiodd gyda rhai o brif enwau’r maes, yn eu plith Marco Beltrami a Harald Kloser ar gyfer ffilmiau megis Terminator 3: Rise of the Machines (2003) I, Robot (2004) a The Day After Tomorrow (2004).
Mae gwaith Torjussen yn y byd ffilm yn brawf o’i ddawn a’i hyblygrwydd fel cyfansoddwr, ac mae ei ddealltwriaeth o’r mathau o gerddoriaeth sy’n addas ar gyfer genres gwahanol – fel Action, Thriller, Horror, Spoof ac yn y blaen – eisoes wedi sicrhau mesur o gydnabyddiaeth iddo ar lefel ryngwladol mewn maes cystadleuol iawn.
Wrth ddilyn gyrfa ddisglair fel cyfansoddwr ffilm, llwyddodd Torjussen ar yr un pryd i greu corff o waith ar gyfer y neuadd gyngerdd yn ogystal, ac mae’n amlwg fod Cymru’n dal i ddylanwadu ar ei weledigaeth gerddorol eclectig. Ynghyd â’i waith ym maes cerddoriaeth ffilm, mae Torjussen yn parhau i ddatblygu gyrfa fel cyfansoddwr acwstig. Ailweithiodd Blodeuwedd ar gyfer gŵyl o gerddoriaeth gyfoes yn Los Angeles ym mis Ebrill 2016, ac mae cynlluniau i ddiwygio Ffarwel Myfanwy a’r Folk-Fantasia.
Pwyll ap Siôn
Cyfansoddiadau (rhestr ddethol)
- Tair Alaw Werin Gymreig (1999), ar gyfer piano unawdol
- Momentum (1999, adolygwyd 2000), ar gyfer cerddorfa
- L.A. Stories (2000), ar gyfer ensemble siambr
- Blodeuwedd (2001), ar gyfer cerddorfa
- Welsh Folk-Fantasia (2004), ar gyfer cerddorfa
- Ffarwel Myfanwy (2006), ar gyfer côr digyfeiliant
- Ar Lan y Môr (2010), ar gyfer telyn unawdol
Cerddoriaeth Ffilm (detholiad)
- The Canal (Ivan Kavanagh, 2014)
- Test (Chris Mason Johnson, 2013)
- Big Ass Spider (Mike Mendez, 2013)
- Repo Men (cerddoriaeth ychwanegol) (Miguel Sapochnik, 2010)
- Live Free or Die Hard (cerddoriaeth ychwanegol) (Len Wiseman, 2007)
- The Eye (cerddoriaeth ychwanegol) (David Moreau/Xavier Palud, 2007)
- Underworld: Evolution (cerddoriaeth ychwanegol) (Len Wiseman, 2005)
- Dracula III: Legacy (Patrick Lussier, 2002)
- Scary Movie II (cerddoriaeth ychwanegol) (Keenan Ivory Wayans, 2001)
Disgyddiaeth
- ‘Oes Gafr Eto?’ allan o Tair Alaw Werin Gymreig, ar Portreadau Cymreig (Sain SCD2308, 2001)
- Test [trac sain ar gyfer y ffilm Test] (Wenallt 888295073561, 2014)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.