Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Materoliaeth hanesyddol"
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
Term a fathwyd gan Friedrich Engels yw ‘materoliaeth hanesyddol’ (neu ‘syniadaeth fateryddol am hanes’); fe’i defnyddir i ddisgrifio craidd syniadaeth [[Karl Marx]] am hanes (Engels, 1880/ 1993: 19–20). Nid ymddengys y term unwaith yng ngwaith [[Karl Marx|Marx]], a phwnc llosg yw cywirdeb dealltwriaeth Engels o syniadaeth [[Karl Marx|Marx]]. Yn y ddamcaniaeth hon, gwelir hanes bodau dynol fel dim mwy na phroses ddilechdidol lle mae’r ddynolryw, mewn modd bwriadol, gweithredol, yn trawsffurfio’r byd materol drwy lafur er mwyn bodloni eu hanghenion a’u galluogi i oroesi. Fodd bynnag, yn y broses hon, trawsffurfir y bod dynol hefyd. Er mwyn diwallu ei anghenion, datblygir technegau a threfniannau llafur cynyddol gymhleth, sydd, yn eu tro, yn esgor ar anghenion newydd y bydd yn rhaid eu diwallu ([[Karl Marx|Marx]] ac Engels, cyfieithwyd gan Rees, 2014: 18–19). Drwy hyn, deellir hanes y ddynoliaeth fel datblygiad gallu bodau dynol i gynhyrchu, ynghyd â’r trawsffurfiad unigol a chymdeithasol sy’n cyd-fynd â’r datblygiadau hyn. | Term a fathwyd gan Friedrich Engels yw ‘materoliaeth hanesyddol’ (neu ‘syniadaeth fateryddol am hanes’); fe’i defnyddir i ddisgrifio craidd syniadaeth [[Karl Marx]] am hanes (Engels, 1880/ 1993: 19–20). Nid ymddengys y term unwaith yng ngwaith [[Karl Marx|Marx]], a phwnc llosg yw cywirdeb dealltwriaeth Engels o syniadaeth [[Karl Marx|Marx]]. Yn y ddamcaniaeth hon, gwelir hanes bodau dynol fel dim mwy na phroses ddilechdidol lle mae’r ddynolryw, mewn modd bwriadol, gweithredol, yn trawsffurfio’r byd materol drwy lafur er mwyn bodloni eu hanghenion a’u galluogi i oroesi. Fodd bynnag, yn y broses hon, trawsffurfir y bod dynol hefyd. Er mwyn diwallu ei anghenion, datblygir technegau a threfniannau llafur cynyddol gymhleth, sydd, yn eu tro, yn esgor ar anghenion newydd y bydd yn rhaid eu diwallu ([[Karl Marx|Marx]] ac Engels, cyfieithwyd gan Rees, 2014: 18–19). Drwy hyn, deellir hanes y ddynoliaeth fel datblygiad gallu bodau dynol i gynhyrchu, ynghyd â’r trawsffurfiad unigol a chymdeithasol sy’n cyd-fynd â’r datblygiadau hyn. | ||
− | Gwelir pwyslais clir, felly, ar lafur fel y categori canolog yng ngwaith [[Karl Marx|Marx]]. Rhaid deall, fodd bynnag, fod llafur yn weithred gymdeithasol sy’n digwydd ar y cyd â bodau dynol eraill a’r tu mewn i drefniannau cymdeithasol penodol. Pennir natur y trefniannau hyn gan ddau brif ffactor: ‘perthnasau cynhyrchu (''Produktions-verhältnisse'') sy’n cyfateb i fan penodol yn natblygiad y galluoedd cynhyrchiol (''Produktivkräfte'') | + | Gwelir pwyslais clir, felly, ar lafur fel y categori canolog yng ngwaith [[Karl Marx|Marx]]. Rhaid deall, fodd bynnag, fod llafur yn weithred gymdeithasol sy’n digwydd ar y cyd â bodau dynol eraill a’r tu mewn i drefniannau cymdeithasol penodol. Pennir natur y trefniannau hyn gan ddau brif ffactor: ‘perthnasau cynhyrchu' (''Produktions-verhältnisse'') sy’n cyfateb i fan penodol yn natblygiad y galluoedd cynhyrchiol (''Produktivkräfte'') ([[Karl Marx|Marx]], cyfieithwyd gan Rees, 2014: 15; cyfieithiad wedi’i <nowiki>addasu</nowiki>. Cyfeiria perthnasau cynhyrchu yma at y rhaniad rhwng dosbarthiadau mewn cymdeithas (h.y. pa ddosbarth sy’n rheoli’r broses gynhyrchu) a’r galluoedd cynhyrchiol, sef y dechnoleg a’r wybodaeth sydd ar gael mewn cyfnod penodol ar gyfer cynhyrchu. Gwêl [[Karl Marx|Marx]] gyswllt annatod rhwng y ddau: ‘mae melin law [h.y. melin sy’n cael ei gweithio â llaw i droi ŷd yn flawd] yn rhoi i ni gymdeithas ag arglwydd ffiwdal, a’r felin stêm yn rhoi i ni gymdeithas â chyfalafwr diwydiannol’ ([[Karl Marx|Marx]] 1847/2009, fy nghyfieithiad). Deellir mai’r sail economaidd hon sy’n pennu ffurf bywyd deallusol a chymdeithasol dyn mewn cymdeithas: ‘y mae’r dull o gynhyrchu bywyd materol yn cyflyru proses bywyd cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol dyn yn gyffredinol’ ([[Karl Marx|Marx]], cyfieithwyd gan Rees, 2014: 15). |
Gan mai’r ffenomenau economaidd hyn sy’n penderfynu natur unrhyw gymdeithas mewn cyfnod penodol, gellir creu teipoleg o wahanol gymdeithasau ar sail lefel datblygiad y technolegau cynhyrchu a’r perthnasau cymdeithasol sy’n cynnal y broses gynhyrchu. Felly, mae [[Karl Marx|Marx]] yn cyflwyno pedair prif ffurf ar gymdeithas yn y Gorllewin: cymdeithas yr hen fyd, lle gwelid caethweision yn cynhyrchu er budd yr uchelwyr; cymdeithas ffiwdal, lle cynhyrchir gan y taeog er budd yr arglwydd; cymdeithas gyfalafol, lle mae’r proletariat yn cynhyrchu er budd y cyfalafwr; a chymdeithas gomiwnyddol (sydd eto i ymddangos), a fydd yn rhagori ar y cysyniad o eiddo preifat a’r rhaniad rhwng dosbarthiadau. | Gan mai’r ffenomenau economaidd hyn sy’n penderfynu natur unrhyw gymdeithas mewn cyfnod penodol, gellir creu teipoleg o wahanol gymdeithasau ar sail lefel datblygiad y technolegau cynhyrchu a’r perthnasau cymdeithasol sy’n cynnal y broses gynhyrchu. Felly, mae [[Karl Marx|Marx]] yn cyflwyno pedair prif ffurf ar gymdeithas yn y Gorllewin: cymdeithas yr hen fyd, lle gwelid caethweision yn cynhyrchu er budd yr uchelwyr; cymdeithas ffiwdal, lle cynhyrchir gan y taeog er budd yr arglwydd; cymdeithas gyfalafol, lle mae’r proletariat yn cynhyrchu er budd y cyfalafwr; a chymdeithas gomiwnyddol (sydd eto i ymddangos), a fydd yn rhagori ar y cysyniad o eiddo preifat a’r rhaniad rhwng dosbarthiadau. | ||
Llinell 9: | Llinell 9: | ||
Defnyddir y syniad bras hwn am y berthynas rhwng modd cynhyrchu a’r berthynas gynhyrchu fel craidd cymdeithas er mwyn egluro datblygiad cymdeithasol. Gwêl [[Karl Marx|Marx]] duedd anorfod moddion cynhyrchu i ddatblygu, a chyda hyn fod y moddion cynhyrchu’n tyfu’r tu hwnt i’r perthnasau cymdeithasol sy’n eu cynnal. Pan ddigwydd hyn, daw’r perthnasau cymdeithasol yn ‘llyffetheiriau’ ar y moddion cynhyrchu, gan atal datblygiad pellach ([[Karl Marx|Marx]], cyfieithwyd gan Rees, 2014: 15). Pan ddigwydd hyn, gwelir cyfnod o ansefydlogrwydd cymdeithasol, sef chwyldro, a bydd y gymdeithas gyfan yn cael ei thrawsnewid er mwyn galluogi i’r moddion cynhyrchu dyfu. Felly, gwelwyd cwymp ffiwdaliaeth a thwf [[cyfalafiaeth]] wrth i dechnegau cynhyrchu cyfalafol, fel y rhaniad rhwng llafur, alluogi dull mwy effeithlon o gynhyrchu, gan arwain at ddymchwel yr hen system a thwf yr un newydd. | Defnyddir y syniad bras hwn am y berthynas rhwng modd cynhyrchu a’r berthynas gynhyrchu fel craidd cymdeithas er mwyn egluro datblygiad cymdeithasol. Gwêl [[Karl Marx|Marx]] duedd anorfod moddion cynhyrchu i ddatblygu, a chyda hyn fod y moddion cynhyrchu’n tyfu’r tu hwnt i’r perthnasau cymdeithasol sy’n eu cynnal. Pan ddigwydd hyn, daw’r perthnasau cymdeithasol yn ‘llyffetheiriau’ ar y moddion cynhyrchu, gan atal datblygiad pellach ([[Karl Marx|Marx]], cyfieithwyd gan Rees, 2014: 15). Pan ddigwydd hyn, gwelir cyfnod o ansefydlogrwydd cymdeithasol, sef chwyldro, a bydd y gymdeithas gyfan yn cael ei thrawsnewid er mwyn galluogi i’r moddion cynhyrchu dyfu. Felly, gwelwyd cwymp ffiwdaliaeth a thwf [[cyfalafiaeth]] wrth i dechnegau cynhyrchu cyfalafol, fel y rhaniad rhwng llafur, alluogi dull mwy effeithlon o gynhyrchu, gan arwain at ddymchwel yr hen system a thwf yr un newydd. | ||
− | Deellir y bydd twf y moddion cynhyrchu hefyd yn arwain at ddymchwel [[cyfalafiaeth]]. Fel pob system gynhyrchu flaenorol, deellir bod [[cyfalafiaeth]] yn sylfaenol ansefydlog, wedi’i nodweddu gan wrthddywediadau ac erchyllterau na ellir eu datrys, ac eithrio drwy chwyldro. Craidd dadansoddiad [[Karl Marx|Marx]] o [[gyfalafiaeth]] yw dangos bod yr ysfa ddi-baid am elw sydd wrth graidd ei [[Dull Cynhyrchu|dull cynhyrchu]] yn arwain yn anorfod at argyfwng economaidd. Mewn argyfwng o’r fath, amlygir bod [[cyfalafiaeth]] yn sylfaenol yn afresymol. Er bod twf y gallu i gynhyrchu mewn [[cyfalafiaeth]] yn golygu y gall pob aelod o’r gymdeithas fyw bywyd cyfforddus, boddhaus, eto gwelir [[tlodi]] enbyd, ffurfiau erchyll ar lafur, ecsbloetio llafur y gweithiwr, tra bydd y dosbarth llywodraethol, sef y cyfalafwyr, yn crynhoi cyfoeth enfawr. Yn y cyfnod hwn, yn ôl rhai dadansoddiadau o waith [[Karl Marx|Marx]], bydd y proletariat yn creu chwyldro fydd yn arwain at ddiddymu [[cyfalafiaeth]] a sefydlu cymdeithas decach, sef [[comiwnyddiaeth]]. | + | Deellir y bydd twf y moddion cynhyrchu hefyd yn arwain at ddymchwel [[cyfalafiaeth]]. Fel pob system gynhyrchu flaenorol, deellir bod [[cyfalafiaeth]] yn sylfaenol ansefydlog, wedi’i nodweddu gan wrthddywediadau ac erchyllterau na ellir eu datrys, ac eithrio drwy chwyldro. Craidd dadansoddiad [[Karl Marx|Marx]] o [[Cyfalafiaeth|gyfalafiaeth]] yw dangos bod yr ysfa ddi-baid am elw sydd wrth graidd ei [[Dull Cynhyrchu|dull cynhyrchu]] yn arwain yn anorfod at argyfwng economaidd. Mewn argyfwng o’r fath, amlygir bod [[cyfalafiaeth]] yn sylfaenol yn afresymol. Er bod twf y gallu i gynhyrchu mewn [[cyfalafiaeth]] yn golygu y gall pob aelod o’r gymdeithas fyw bywyd cyfforddus, boddhaus, eto gwelir [[tlodi]] enbyd, ffurfiau erchyll ar lafur, ecsbloetio llafur y gweithiwr, tra bydd y dosbarth llywodraethol, sef y cyfalafwyr, yn crynhoi cyfoeth enfawr. Yn y cyfnod hwn, yn ôl rhai dadansoddiadau o waith [[Karl Marx|Marx]], bydd y proletariat yn creu chwyldro fydd yn arwain at ddiddymu [[cyfalafiaeth]] a sefydlu cymdeithas decach, sef [[comiwnyddiaeth]]. |
− | Mewn materoliaeth hanesyddol, deellir bod [[Karl Marx|Marx]] yn cyflwyno damcaniaeth sy’n wyddonol ddilys: ei fod wedi darganfod yr union gyfreithiau sy’n rheoli datblygiad cymdeithasol. Gwelir y ddealltwriaeth hon yn glir yng ngwaith Engels, sy’n cymharu darganfyddiadau[[Karl Marx|Marx]] â darganfyddiadau Darwin am esblygiad (Engels, 1883/1997). Beirniedir y ddealltwriaeth hon yn hallt gan nifer o feddylwyr, ac yn enwedig gan Farcswyr Gorllewinol (gweler [[Marcsaeth]]). | + | Mewn materoliaeth hanesyddol, deellir bod [[Karl Marx|Marx]] yn cyflwyno damcaniaeth sy’n wyddonol ddilys: ei fod wedi darganfod yr union gyfreithiau sy’n rheoli datblygiad cymdeithasol. Gwelir y ddealltwriaeth hon yn glir yng ngwaith Engels, sy’n cymharu darganfyddiadau [[Karl Marx|Marx]] â darganfyddiadau Darwin am esblygiad (Engels, 1883/1997). Beirniedir y ddealltwriaeth hon yn hallt gan nifer o feddylwyr, ac yn enwedig gan Farcswyr Gorllewinol (gweler [[Marcsaeth]]). |
'''Garmon Iago''' | '''Garmon Iago''' | ||
Llinell 21: | Llinell 21: | ||
Engels, F. (1883/1993),'' ‘Fredrick Engels’ Speech at the Grave of Karl Marx’ '', https://www.marxists.org/archive/marx/works/1883/death/burial.htm [Cyrchwyd: 13 Mai 2021]. | Engels, F. (1883/1993),'' ‘Fredrick Engels’ Speech at the Grave of Karl Marx’ '', https://www.marxists.org/archive/marx/works/1883/death/burial.htm [Cyrchwyd: 13 Mai 2021]. | ||
− | Marx, K. ( | + | Marx, K. (1847/2009), ''The Poverty of Philosophy'', https://www.marxists.org/archive/marx/works/1847/poverty-philosophy/ch02.htm [Cyrchwyd: 13 Mai 2021]. |
Rees, W. J. (2014), ''Be’ Ddywedodd [[Karl Marx]]: Cyfrol 1'', https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=1897~4z~aUw8tYQE [Cyrchwyd: 13 Mai 2021]. | Rees, W. J. (2014), ''Be’ Ddywedodd [[Karl Marx]]: Cyfrol 1'', https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=1897~4z~aUw8tYQE [Cyrchwyd: 13 Mai 2021]. |
Y diwygiad cyfredol, am 17:09, 7 Medi 2024
(Saesneg: Historical Materialism)
Term a fathwyd gan Friedrich Engels yw ‘materoliaeth hanesyddol’ (neu ‘syniadaeth fateryddol am hanes’); fe’i defnyddir i ddisgrifio craidd syniadaeth Karl Marx am hanes (Engels, 1880/ 1993: 19–20). Nid ymddengys y term unwaith yng ngwaith Marx, a phwnc llosg yw cywirdeb dealltwriaeth Engels o syniadaeth Marx. Yn y ddamcaniaeth hon, gwelir hanes bodau dynol fel dim mwy na phroses ddilechdidol lle mae’r ddynolryw, mewn modd bwriadol, gweithredol, yn trawsffurfio’r byd materol drwy lafur er mwyn bodloni eu hanghenion a’u galluogi i oroesi. Fodd bynnag, yn y broses hon, trawsffurfir y bod dynol hefyd. Er mwyn diwallu ei anghenion, datblygir technegau a threfniannau llafur cynyddol gymhleth, sydd, yn eu tro, yn esgor ar anghenion newydd y bydd yn rhaid eu diwallu (Marx ac Engels, cyfieithwyd gan Rees, 2014: 18–19). Drwy hyn, deellir hanes y ddynoliaeth fel datblygiad gallu bodau dynol i gynhyrchu, ynghyd â’r trawsffurfiad unigol a chymdeithasol sy’n cyd-fynd â’r datblygiadau hyn.
Gwelir pwyslais clir, felly, ar lafur fel y categori canolog yng ngwaith Marx. Rhaid deall, fodd bynnag, fod llafur yn weithred gymdeithasol sy’n digwydd ar y cyd â bodau dynol eraill a’r tu mewn i drefniannau cymdeithasol penodol. Pennir natur y trefniannau hyn gan ddau brif ffactor: ‘perthnasau cynhyrchu' (Produktions-verhältnisse) sy’n cyfateb i fan penodol yn natblygiad y galluoedd cynhyrchiol (Produktivkräfte) (Marx, cyfieithwyd gan Rees, 2014: 15; cyfieithiad wedi’i addasu. Cyfeiria perthnasau cynhyrchu yma at y rhaniad rhwng dosbarthiadau mewn cymdeithas (h.y. pa ddosbarth sy’n rheoli’r broses gynhyrchu) a’r galluoedd cynhyrchiol, sef y dechnoleg a’r wybodaeth sydd ar gael mewn cyfnod penodol ar gyfer cynhyrchu. Gwêl Marx gyswllt annatod rhwng y ddau: ‘mae melin law [h.y. melin sy’n cael ei gweithio â llaw i droi ŷd yn flawd] yn rhoi i ni gymdeithas ag arglwydd ffiwdal, a’r felin stêm yn rhoi i ni gymdeithas â chyfalafwr diwydiannol’ (Marx 1847/2009, fy nghyfieithiad). Deellir mai’r sail economaidd hon sy’n pennu ffurf bywyd deallusol a chymdeithasol dyn mewn cymdeithas: ‘y mae’r dull o gynhyrchu bywyd materol yn cyflyru proses bywyd cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol dyn yn gyffredinol’ (Marx, cyfieithwyd gan Rees, 2014: 15).
Gan mai’r ffenomenau economaidd hyn sy’n penderfynu natur unrhyw gymdeithas mewn cyfnod penodol, gellir creu teipoleg o wahanol gymdeithasau ar sail lefel datblygiad y technolegau cynhyrchu a’r perthnasau cymdeithasol sy’n cynnal y broses gynhyrchu. Felly, mae Marx yn cyflwyno pedair prif ffurf ar gymdeithas yn y Gorllewin: cymdeithas yr hen fyd, lle gwelid caethweision yn cynhyrchu er budd yr uchelwyr; cymdeithas ffiwdal, lle cynhyrchir gan y taeog er budd yr arglwydd; cymdeithas gyfalafol, lle mae’r proletariat yn cynhyrchu er budd y cyfalafwr; a chymdeithas gomiwnyddol (sydd eto i ymddangos), a fydd yn rhagori ar y cysyniad o eiddo preifat a’r rhaniad rhwng dosbarthiadau.
Defnyddir y syniad bras hwn am y berthynas rhwng modd cynhyrchu a’r berthynas gynhyrchu fel craidd cymdeithas er mwyn egluro datblygiad cymdeithasol. Gwêl Marx duedd anorfod moddion cynhyrchu i ddatblygu, a chyda hyn fod y moddion cynhyrchu’n tyfu’r tu hwnt i’r perthnasau cymdeithasol sy’n eu cynnal. Pan ddigwydd hyn, daw’r perthnasau cymdeithasol yn ‘llyffetheiriau’ ar y moddion cynhyrchu, gan atal datblygiad pellach (Marx, cyfieithwyd gan Rees, 2014: 15). Pan ddigwydd hyn, gwelir cyfnod o ansefydlogrwydd cymdeithasol, sef chwyldro, a bydd y gymdeithas gyfan yn cael ei thrawsnewid er mwyn galluogi i’r moddion cynhyrchu dyfu. Felly, gwelwyd cwymp ffiwdaliaeth a thwf cyfalafiaeth wrth i dechnegau cynhyrchu cyfalafol, fel y rhaniad rhwng llafur, alluogi dull mwy effeithlon o gynhyrchu, gan arwain at ddymchwel yr hen system a thwf yr un newydd.
Deellir y bydd twf y moddion cynhyrchu hefyd yn arwain at ddymchwel cyfalafiaeth. Fel pob system gynhyrchu flaenorol, deellir bod cyfalafiaeth yn sylfaenol ansefydlog, wedi’i nodweddu gan wrthddywediadau ac erchyllterau na ellir eu datrys, ac eithrio drwy chwyldro. Craidd dadansoddiad Marx o gyfalafiaeth yw dangos bod yr ysfa ddi-baid am elw sydd wrth graidd ei dull cynhyrchu yn arwain yn anorfod at argyfwng economaidd. Mewn argyfwng o’r fath, amlygir bod cyfalafiaeth yn sylfaenol yn afresymol. Er bod twf y gallu i gynhyrchu mewn cyfalafiaeth yn golygu y gall pob aelod o’r gymdeithas fyw bywyd cyfforddus, boddhaus, eto gwelir tlodi enbyd, ffurfiau erchyll ar lafur, ecsbloetio llafur y gweithiwr, tra bydd y dosbarth llywodraethol, sef y cyfalafwyr, yn crynhoi cyfoeth enfawr. Yn y cyfnod hwn, yn ôl rhai dadansoddiadau o waith Marx, bydd y proletariat yn creu chwyldro fydd yn arwain at ddiddymu cyfalafiaeth a sefydlu cymdeithas decach, sef comiwnyddiaeth.
Mewn materoliaeth hanesyddol, deellir bod Marx yn cyflwyno damcaniaeth sy’n wyddonol ddilys: ei fod wedi darganfod yr union gyfreithiau sy’n rheoli datblygiad cymdeithasol. Gwelir y ddealltwriaeth hon yn glir yng ngwaith Engels, sy’n cymharu darganfyddiadau Marx â darganfyddiadau Darwin am esblygiad (Engels, 1883/1997). Beirniedir y ddealltwriaeth hon yn hallt gan nifer o feddylwyr, ac yn enwedig gan Farcswyr Gorllewinol (gweler Marcsaeth).
Garmon Iago
Llyfryddiaeth
Engels, F. (1880/2003), Socialism: Utopian and Scientific, https://www.marxists.org/archive/marx/works/download/Engels_Socialism_Utopian_and_Scientific.pdf [Cyrchwyd: 13 Mai 2021].
Engels, F. (1883/1993), ‘Fredrick Engels’ Speech at the Grave of Karl Marx’ , https://www.marxists.org/archive/marx/works/1883/death/burial.htm [Cyrchwyd: 13 Mai 2021].
Marx, K. (1847/2009), The Poverty of Philosophy, https://www.marxists.org/archive/marx/works/1847/poverty-philosophy/ch02.htm [Cyrchwyd: 13 Mai 2021].
Rees, W. J. (2014), Be’ Ddywedodd Karl Marx: Cyfrol 1, https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=1897~4z~aUw8tYQE [Cyrchwyd: 13 Mai 2021].
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.