Marcsaeth

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: Marxism)

1. Cyflwyniad

Term yw Marcsaeth all ddynodi unrhyw ddull o ddamcaniaethu, trefniant gwleidyddol, neu ddull o weithredu sydd wedi’i seilio ar weithiau Karl Marx (1818–83), neu wedi’i ysbrydoli ganddo mewn rhyw fodd.

Ni welir unoliaeth o gwbl o ran y defnydd posib o’r term; er enghraifft, mewn cyferbyniad amlwg, byddai’n hollol ddilys dweud fod llywodraethau unbenaethol yr Undeb Sofietaidd yn Farcsaidd, ond gellir hefyd ddefnyddio’r un gair i gyfeirio at feirniadaeth Theodor Adorno ar gerddoriaeth Stravinsky. Gwelir traddodiadau Marcsaidd ym mhob maes academaidd, er enghraifft hanes, cymdeithaseg, economeg, theori gwleidyddiaeth, astudiaethau llenyddol, athroniaeth neu ddiwinyddiaeth, a chynnig dim ond rhai esiamplau. Tasg hollol amhosib yw cynnig trosolwg cyflawn o’r dylanwad Marcsaeth ar y meysydd hyn gan nad oes cytundeb mewn gwirionedd am union ystyr y term rhwng gwaith un meddyliwr a’r llall, nac ychwaith rhwng un traddodiad a’r llall. Yn wir, nodweddir y traddodiad cyfan gan ddadleuon brwd am beth yn union yw natur Marcsaeth. Ni ddylai hyn ein synnu. O feddwl pa mor eang oedd ffocws Marx yn ogystal â natur doreithiog a chymhleth ei weithiau, gellir datblygu ei syniadau mewn pob math o ffyrdd gwahanol a chymhwyso’i syniadau at bob math o broblemau, yn aml mewn ffyrdd na fyddai Marx wedi medru eu rhag-weld, nac wedi cytuno â nhw.

Yn yr erthygl hon, felly, canolbwyntir ar y ddwy ffurf ar Farcsaeth a fu’n fwyaf dylanwadol yn y Gorllewin, sef Marcsaeth Glasurol a Marcsaeth Orllewinol.

2. Marcsaeth Glasurol: O Engels at yr Undeb Sofietaidd

Ni lwyddodd Marx i gwblhau ei brosiect uchelgeisiol o gynnig dadansoddiad llawn o natur cyfalafiaeth cyn iddo farw. Yn union wedi ei farwolaeth, roedd y rhan fwyaf o’i ysgrifau yn dal heb eu cyhoeddi, ac union ystyr ei weithiau yn aneglur. Yn ei gampwaith, Capital: Volume One, cynigiodd Marx (1867/2005) fframwaith economaidd i ddadansoddi cyfalafiaeth a’i methiannau. Ond ni chafwyd gosodiadau systematig am ei fethodoleg athronyddol, am natur y chwyldro a’r tactegau y dylid eu defnyddio er mwyn disodli cyfalafiaeth, nac ychwaith am natur y gymdeithas gomiwnyddol.

Fodd bynnag, yn union wedi marwolaeth Marx, aeth nifer o feddylwyr gwahanol ati i roi trefn ar weithiau Marx, a thrawsffurfio’r dernynnau a adawyd ganddo yn fydolwg cyflawn, fyddai’n egluro popeth. Y cam cyntaf a’r pwysicaf yn y broses hon oedd dylanwad Friedrich Engels (cyd-weithiwr agosaf Marx) wrth iddo gyhoeddi a hyrwyddo gweithiau anorffenedig Marx. Yn y broses o hyrwyddo’i weithiau, ailadeiladodd syniadaeth Marx mewn modd systematig, gyda phwyslais cryf ar agweddau economaidd ei waith, ac yn fwyaf arbennig mai materoliaeth hanesyddol yw craidd y gweithiau.

Yn ôl Engels, yr oedd dadansoddiad Marx, yn ei ddehongliad materol o hanes, yn darganfod cyfreithiau gwyddonol sy’n pennu natur a datblygiad cyfalafiaeth. Gellir cymharu statws y cyfreithiau hyn â’r cyfreithiau a ddarganfu Darwin am esblygiad (Engels 1883/1997). Felly, mewn materoliaeth hanesyddol, pwysleisir mai trefniant economaidd cymdeithas (h.y. ei dull cynhyrchu) yw gwir sail y gymdeithas. Newidiadau yn y broses gynhyrchu sy’n gyrru’r broses newid cymdeithasol, ac mae’r sail economaidd hon yn llwyr gyflyru pob agwedd arall ar y gymdeithas, boed y wladwriaeth, y farnwriaeth, a hyd yn oed syniadau’r oes. Ym Marcsaeth Engels, daw datblygiad cyfalafiaeth tuag at gomiwnyddiaeth yn rhywbeth anorfod: rhaid i’r ansefydlogrwydd a’r gorthrwm a welwyd mewn cyfalafiaeth arwain at ei dymchwel, a hynny yn sgil datblygiadau economaidd a’r frwydr rhwng dosbarthiadau. Yn sgil hyn, yn hytrach na’r dernynnau a adawyd gan Marx, mae rhywbeth newydd yn ymddangos, sef Marcsaeth. Fe’i cyflwynir fel bydolwg sy’n esbonio popeth, â phwyslais cryf ar yr economi wrth ei graidd (gwelir trosolwg o’r broses hon yn Anderson 1979: 1–23 a McLellan 2007: 9–20).

Yn yr ail gam, mae’r genhedlaeth nesaf o feddylwyr Marcsaidd yn datblygu safbwyntiau Engels. Gellir cyfeirio’n benodol at bedwar prif feddyliwr: Antonio Labriola (1843–1904), Franz Mehring (1846–1919), Karl Kautsky (1854–1938) a Georgi Plekhanov (1856–1918). Yng ngweithiau’r meddylwyr hyn oll, pwysleisir mai craidd damcaniaeth Marx yw materoliaeth hanesyddol, sydd i’w deall mewn modd lled-wyddonol. Gan fod nifer o’r meddylwyr hyn wedi dylanwadu ar ddatblygiad pleidiau gwleidyddol y dosbarth gweithiol (bu Kautsky a Mehring yn ddylanwadol ym Mhlaid Ddemocrataidd Gymdeithasol yr Almaen, a sefydlwyd y mudiad democrataidd cymdeithasol Rwsiaidd gan Plekhanov), daeth eu dealltwriaeth o Farcsaeth yn fath o ddysgeidiaeth swyddogol y gellir cymharu uniongrededd unrhyw safbwynt Marcsaidd yn ei herbyn.

Gwelir dylanwad amlwg y traddodiad Marcsaeth hwn ar y meddyliwr pwysicaf yn y traddodiad: Vladimir Lenin (1870–1924), un o sefydlwyr plaid y Bolsiefigiaid ac un o arweinyddion y Chwyldro Comiwnyddol ym 1917 yn Rwsia ac, yn ddiweddarach, arweinydd cyntaf yr Undeb Sofietaidd. Yn ei waith mae’n ehangu ffocws Marcsaeth glasurol gyda sylw arbennig i bob math o ffenomenau newydd, fel twf imperialaeth Orllewinol. Ei gyfraniad mwyaf i’r traddodiad clasurol yw ei bwyslais ar y frwydr rhwng dosbarthiadau, â’i ddadansoddiad manwl o’r tactegau y gellir eu defnyddio er mwyn herio cyfalafiaeth, a’r trefniannau gwleidyddol sydd eu hangen er mwyn llwyddo mewn chwyldro (gweler McLellan 2007: 92–123).

Fodd bynnag, gwelwn wyriad pwysig a dylanwadol yng ngwaith Lenin hefyd. Yn nealltwriaeth y genhedlaeth flaenorol o fateroliaeth hanesyddol, mae comiwnyddiaeth yn datblygu’n anorfod o gyfalafiaeth: amod posibilrwydd comiwnyddiaeth yw’r gormodedd sy’n cael ei greu gan ddatblygiadau yng ngallu cyfalafiaeth ddiwydiannol i gynhyrchu gormodedd. Felly, roedd chwyldro i’w ddisgwyl yng ngwledydd datblygedig y Gorllewin, gyda’r proletariat diwydiannol yn ei arwain, ond byddai chwyldro comiwnyddol yn amhosib mewn gwledydd cyn-gyfalafol, ffiwdal, fel Rwsia.

I Lenin, fel un o arweinwyr y chwyldro yn Rwsia, datryswyd y broblem hon drwy bwysleisio gallu carfan flaengar o chwyldroadwyr i arwain y gweithwyr, gan weithredu ar ran buddiannau’r dosbarth a chynnig arweiniad gwleidyddol ac ideolegol iddynt. Pen draw amlwg y syniad hwn yw y daw’r blaid ei hun i gynrychioli buddiannau’r dosbarth gweithiol, a hynny yn erbyn y darluniau mwy democrataidd a welwyd yng ngwaith Marx (gweler Marcsaeth-Leniniaeth). Beirniadwyd y safbwyntiau hyn yn llym gan y Marcsydd Pwylaidd-Almaenig Rosa Luxemberg (1922/1999), ac mewn cyfres o ysgrifau cyn ei farwolaeth daeth Lenin ei hun i sylwi ar rai o beryglon ei safbwynt, gan bwysleisio’r angen am ffurfiau mwy democrataidd o lywodraeth yn erbyn biwrocratiaeth a rheolaeth lwyr y blaid gomiwnyddol yn Rwsia (gweler Lenin 1922–3/1999).

Fodd bynnag, gyda llwyddiant y chwyldro a thrawsffurfio Rwsia, daeth yr Undeb Sofietaidd yn gynyddol i feddu ar fonopoli ar ddiffinio ystyr Marcsaeth, yn enwedig gyda sefydlu’r Drydedd Gymdeithas Ryngwladol ym 1920 a phleidiau comiwnyddol Ewrop yn derbyn y ddealltwriaeth Sofietaidd. Mewn nifer o ffyrdd pwysig, mae’r datblygiad terfynol hwn yn nodi diwedd datblygiad Marcsaeth Glasurol; oherwydd bod gan yr Undeb Sofietaidd reolaeth lwyr ar ystyr Marcsaeth, ni chaniateir unrhyw wyriad deallusol mwyach oddi wrth y ddysgeidiaeth swyddogol. Gwelwyd diwedd ar y trafodaethau dichonadwy, rhyngwladol a welwyd yn y traddodiad cyn hynny. Byddai’n amhosib tanbrisio pwysigrwydd y dehongliad Sofietaidd hwn, oherwydd, am ran helaeth o’r ugeinfed ganrif, roedd nifer sylweddol o bobl y byd yn byw o fewn rhyw ffurf ar drefniant gwleidyddol wedi’i ddylanwadu gan Farcsaeth Sofietaidd.

Gellir cyflwyno sawl beirniadaeth ar y ffurf hon o Farcsaeth. Yn gyntaf, cafwyd beirniadaeth helaeth iawn ar orbwyslais y traddodiad ar ffenomenau economaidd, yn arbennig y ddealltwriaeth y gellir olrhain pob ffenomen gymdeithasol yn ôl i’w tharddiad gwreiddiol ar sail economi’r gymdeithas. Gwelir hefyd feirniadaethau niferus o ddealltwriaeth y traddodiad o ddatblygiadau hanesyddol, yn enwedig y pwyslais fod yn rhaid i gyfalafiaeth newid i fod yn gomiwnyddiaeth. Yn ogystal, gellid beirniadu natur gaeedig y traddodiad hwn, yn arbennig fod y traddodiad yn ei ffurf Sofietaidd yn pwysleisio’r angen am uniongrededd, yn hytrach na chaniatáu anghytundeb a datblygiadau deallusol. Ceir beirniadaethau o’r math hwn yn fynych yng ngweithiau’r meddylwyr o’r traddodiad nesaf y byddwn yn ei drafod, sef meddylwyr Marcsaeth Orllewinol.

3. Marcsaeth Orllewinol

Tua’r un cyfnod ag y gwelir diwedd datblygiad Marcsaeth Glasurol wrth iddi gael ei haddasu i fod yn ddysgeidiaeth swyddogol yr Undeb Sofietaidd, gwelir cyfres o brofiadau hanesyddol penodol yn sbarduno datblygiad ffurf newydd ar Farcsaeth: ffurf sy’n dechrau yn yr 1920au ac yn cyrraedd ei hanterth yn yr 1960au.

Yr adeg hon, gwelwyd cyfres o argyfyngau economaidd byd-eang; y mwyaf enwog oedd cwymp Wall Street ym 1929 a’r Dirwasgiad Mawr a ddilynodd. Ond er gwaethaf argyfyngau o’r fath, ni welwyd chwyldro yng ngwledydd datblygedig y Gorllewin. Dangosodd digwyddiadau o’r fath fod cyfalafiaeth yn llawer mwy cadarn nag a dybiwyd yn draddodiadol, a gwelwyd gallu i sefydlogi’r economi drwy ymyrraeth wladwriaethol mewn modd na fyddai’r meddylwyr Marcsaidd blaenorol wedi medru ei ddychmygu. Yn hytrach na chwyldro comiwnyddol, gwelwyd twf Ffasgaeth yn nifer o’r gwledydd a fu’n fwyaf dylanwadol yn hanes Marcsaeth gynnar – yn enwedig yr Eidal drwy’r 1920au a’r Blaid Natsïaidd yn yr Almaen yn yr 1930au.

Yn cyd-fynd â’r datblygiadau hyn, gwelwyd trai dylanwad y pleidiau a’r mudiadau dosbarth gweithiol chwyldroadol, a chyda hyn golli grŵp oedd i fod i wireddu’r chwyldro, yn nhyb Marx. At hyn, yn dilyn yr Ail Ryfel Byd yn arbennig, gwelwyd cyfalafiaeth yn ffynnu drwy’r Gorllewin, gyda chyfnod o dwf digyffelyb. I goroni’r cwbl, gwelwyd methiant llwyr Marcsaeth Sofietaidd, gyda thwf yn yr ymwybyddiaeth o erchyllterau Staliniaeth drwy’r Gorllewin.

Yn y cyd-destun hwn, ceisiodd grŵp newydd o feddylwyr ddiweddaru’r traddodiad Marcsaidd er mwyn medru ymdopi â’r newidiadau hanesyddol hyn, grŵp y gellir ei alw yn fras yn ddilynwyr Marcsaeth Orllewinol. Gellir rhestru’r canlynol fel prif feddylwyr y grŵp: Georg Lukàcs (1885–1971), Karl Korsch (1886–1961), Antonio Gramsci (1891–1937), Max Horkheimer (1895–1973), Herbert Marcuse (1898–1979), Theodor Adorno (1903–69) a Louis Althusser (1918–90). Mae hefyd yn cynnwys nifer o enwau cyfarwydd eraill, er nad ydynt mor ddylanwadol: Henri Lefebvre (1901–91), Jean-Paul Sartre (1905–80) a Walter Benjamin (1892–1940).

Mae’n werth nodi bod bron pob un o’r meddylwyr hyn yn athronwyr proffesiynol, yn hytrach na chwyldroadwyr neu arweinwyr pleidiau gwleidyddol, fel y gwelwyd ymysg prif feddylwyr Marcsaeth Glasurol. Gan hynny, mae naws eu gweithiau’n llawer mwy cymhleth: ceir dadleuon athronyddol, epistemolegol, wedi’u hysgrifennu mewn iaith dechnegol a llenyddol (gweler Anderson 1979: 74–95). Mae’n bwysig nodi nad symudiad unedig a welir yma. Ceir anghytundeb dwys rhwng gweithiau’r meddylwyr, hyd yn oed ymysg y grŵp y gellir eu hystyried yn agosaf at ei gilydd, sef Ysgol Frankfurt. A chynnig esiampl, mae daliadau Marcuse ac Adorno ar natur rhyddfreiniad a chymdeithas fodern bron yn llwyr i’r gwrthwyneb o’i gilydd (gweler Wiggershaus 1997: 394). Gwelir hefyd feirniadaeth ar nifer o syniadau Sartre yng ngwaith Adorno (1973: 123, 226), a beirniedir pob meddyliwr yn y traddodiad hwn yn llym gan Althusser.

Gan roi’r anghytundebau hyn (fyddai’n rhy faith i’w rhestru) o’r neilltu, mae nodweddion amlwg yn gyffredin i’r traddodiad hwn, a gwelir yng ngweithiau’r meddylwyr hyn ffurf annogmatig ar Farcsaeth. Yr hyn sy’n uno’r holl feddylwyr hyn yw eu bod yn ymwrthod â nifer o gynseiliau’r traddodiad blaenorol, yn enwedig y pwyslais ar Farcsaeth fel gwyddoniaeth a’r gorbwyslais ar ffenomenau economaidd. Felly, yn y traddodiad hwn, gwelir lleihad amlwg mewn dadansoddiadau estynedig o economeg cyfalafiaeth yn ogystal â’r pwyslais ar y frwydr rhwng dosbarthiadau, o’i gymharu â’r traddodiad clasurol (gweler e.e. McLellan 2007: 295–6 neu Anderson 1979: 92–4).

Galluogir y newid pwyslais hwn, i raddau helaeth, gan ddwy brif nodwedd. Yn gyntaf, gwelwyd cyhoeddi nifer o weithiau cynnar Marx yn yr 1930au, yn fwyaf nodedig yr Economic and Philosophic Manuscripts of 1844 (Marx 1932/2009). Nid beirniadaeth economaidd ar gyfalafiaeth a welir yn y testunau hyn, ond beirniadaeth athronyddol: fod y ddynoliaeth, dan amodau gwaith cyfalafiaeth, wedi ymddieithrio oddi wrth ei hanfod. Yn hyn, gwelwn yng ngwaith Marx ei hun themâu llawer mwy dyneiddiol ac athronyddol nag a bwysleisiwyd yn ymgais Marcsaeth Glasurol i gyfundrefnu ei weithiau. Gwelwyd dylanwad y testunau hyn ar bob un o’r meddylwyr, ond yn enwedig ar y traddodiad Ffrengig, dyneiddiol, sy’n cael ei ymgorffori yng ngweithiau Sartre (gweler McLellan 2007: 325). Yn wir, daw’r ddealltwriaeth hon yn rhyw fath o uniongrededd newydd yn Ffrainc, tan i Althusser ei disodli â ffurf strwythurol, wrthddyneiddiol, o Farcsaeth.

Yn ychwanegol at ailddarganfod agweddau athronyddol gwaith Marx, gwelwyd y meddylwyr oll yn addasu ac yn benthyg syniadau y tu hwnt i’r traddodiad Marcsaidd, gan ddefnyddio’r dylanwadau newydd hyn er mwyn adnewyddu’r traddodiad. Gwelir hyn yn glir yn y testun sy’n sefydlu’r traddodiad, History and Class Consciousness gan Lukàcs (1923/2010), sy’n ailbwysleisio dylanwad Hegel ar Marx er mwyn cyflwyno darlun mwy soffistigedig o rôl y proletariat mewn chwyldro cymdeithasol. Gwelir hefyd ddylanwad clir y cymdeithasegydd Max Weber ar ei waith, wrth iddo addasu’r darlun o resymoliaeth er mwyn darlunio twf cyfalafiaeth fel twf yng nghaethiwed yr unigolyn, yn ogystal â cholli ystyr (gweler Lukàcs 1923/2010: 95, 144–9).

Dilynodd meddylwyr cenhedlaeth gyntaf Ysgol Frankfurt ôl troed Lukàcs gan fenthyg y darlun melancolaidd, Weberaidd hwn, yn enwedig yng ngwaith cynnar Theodor Adorno a Max Horkheimer. Yn Dialectic of Enlightenment (1944–7), cyfrol a ysgrifennwyd yng nghysgod erchyllterau’r Natsïaid, darluniwyd datblygiad hanesyddol y Gorllewin, o’i darddiad mewn cyn-hanes hyd at yr oes fodern, fel rhywbeth oedd yn ddim mwy na chynnydd yng ngorthrwm yr unigolyn (Adorno a Horkheimer 2002: xiv–xix). Yn y ddamcaniaeth hon gwelir gobaith Marcsaeth Glasurol, sef bod datblygiadau technolegol yn arwain at newidiadau economaidd a fyddai’n arwain yn anorfod at gymdeithas deg, gomiwnyddol, yn cael ei droi wyneb yn waered. I’r meddylwyr hyn, mae’r holl ddatblygiadau technolegol a rhesymegol yn gweithredu er mwyn rheoli’r unigolyn, yn wir, er diddymu ei unigolyddiaeth yn llwyr. Er mwyn cyflwyno darlun o’r fath, ymgorfforir safbwyntiau meddylwyr sy’n llwyr elyniaethus i Farcsaeth yn eu gweithiau, gyda dylanwad yr athronydd gwrthegalitaraidd Friedrich Nietzsche yn amlwg. Gellid rhestru dylanwadau o’r fath yn achos y damcaniaethwyr eraill hefyd: mae ôl dylanwad Machiavelli yn glir ar waith Gramsci (gweler 1971: 247–52), a dylanwad y dirfodwyr Husserl a Heidegger yn amlwg yng ngwaith Sartre (gweler McLellan 2007: 329–30). Trwy ymgorffori meddylwyr sydd mor estron i’r traddodiad Marcsaidd blaenorol, gwelir ffurf pur wahanol o ddamcaniaethu, sy’n llawer mwy athronyddol ei naws, yn cael ei chreu.

Er y gwyriadau amlwg oddi wrth Farcsaeth Glasurol, ni chefnir ar y syniad bras o ryddfreiniad a’r posibilrwydd o greu cymdeithas deg, gomiwnyddol. Yn hytrach, tecach dweud fod y meddylwyr hyn yn fwy ymwybodol o lawer o’r rhwystrau sy’n atal datblygiad cymdeithas gomiwnyddol, sylweddoliad oedd wedi’i sbarduno gan y profiad hanesyddol o weld diflaniad y mudiadau chwyldroadol ynghyd â gallu cyfalafiaeth i’w sefydlogi ei hun.

Gan hynny, canolbwyntir mewn llawer mwy o fanylder ar y rheolaeth seicolegol a geir mewn cymdeithas gyfalafol. Ymdrinnir â’r modd y mae diwylliant a’r rheswm sydd wrth ei graidd yn celu gwir natur y gymdeithas, gan beri bod y gymdeithas gyfredol yn ymddangos fel endid hollol naturiol, na ellir mo’i newid (gweler ideoleg ac ymwybyddiaeth ffug). Yn y traddodiad hwn, felly, gwelir dadansoddiadau estynedig o ffenomenau diwylliannol na roddwyd fawr o sylw iddynt yn y traddodiad clasurol: o lenyddiaeth, cerddoriaeth, hyd at y datblygiadau diweddarach, fel teledu, sinema a radio, a welwyd yn yr ugeinfed ganrif.

Gwelir un o ffurfiau mwyaf dylanwadol y datblygiad hwn yng ngwaith Antonio Gramsci â’i syniad o hegemoni. Yn nhyb Gramsci, nid yw cyfalafiaeth yn goroesi yn bennaf drwy ddefnydd o rym, ond drwy gyfres o strategaethau diwylliannol yn sefydliadau’r gymdeithas sifil – er enghraifft, papurau newydd, ysgolion ac eglwysi – sy’n gweithredu er mwyn ennill cydsyniad y dosbarth gwaith i reolaeth y bourgeoisie. Drwy’r strategaethau hegemonaidd hyn, gall aelodau’r dosbarth llywodraethol gyflwyno’u safbwyntiau fel rhyw fath o synnwyr cyffredin y mae’n rhaid ei dderbyn. Gan fod y rheolaeth syniadol hon ar led drwy’r gymdeithas yn ei chyfanrwydd, nid yw targedu sail economaidd cymdeithas er mwyn ei thrawsffurfio’n ddigonol mwyach; rhaid yw herio a diddymu’r lefel ddiwylliannol hon hefyd (gweler Gramsci 1971: 275–6).

Gwelir pwyslais tebyg ar ffenomenau diwylliannol drwy weithiau meddylwyr Ysgol Frankfurt, wrth i’r meddylwyr ddefnyddio gweithiau’r seicdreiddiwr Sigmund Freud (1856–1939) er mwyn egluro anallu unigolion i wrthsefyll cyfalafiaeth. Gan fod strwythurau’r gymdeithas wedi’u trefnu mewn modd sy’n atal datblygiad ego cryf, crëir unigolyn y gellir dylanwadu’n hawdd arno. Pwysleisir sut mae dylanwadau allanol o bob math – boed deledu, radio neu’r papurau newydd (y ‘diwydiant diwylliannol’ yn nherminoleg Adorno a Horkheimer) – yn tywys yr unigolyn ac yn gweithredu er mwyn celu natur enbyd y gymdeithas gyfredol (gweler Jay 1973: 86–100).

Tasg amhosib yw cynnig trosolwg llawn o ddylanwad y Marcswyr Gorllewinol ar feddylwyr diweddarach; byddai’n deg dweud na ellir dianc rhag eu dylanwad mewn cymdeithaseg, nac ychwaith mewn athroniaeth ar gyfandir Ewrop. Gellir meddwl am ddylanwad Lukàcs ar gymdeithaseg gwybodaeth Karl Mannheim (1893–1947), a gwelir dylanwad Ysgol Frankfurt a Louis Althusser yn gyffredinol drwy gymdeithaseg. Yn y cyd-destun Cymreig, gwelwyd dylanwad nifer o’r meddylwyr o’r traddodiad hwn ar weithiau Raymond Williams (1921–88), yn enwedig syniadau Gramsci ar hegemoni, syniadau Marcuse ar ryddfreiniad a dehongliad Althusser o ideoleg (Jones 2006: 62–82.)

Bydd nifer o weithiau’r meddylwyr hyn yn aml yn cael eu beirniadu ar sail eu pesimistiaeth honedig ynghylch ein gallu i drawsffurfio cymdeithas (gweler Anderson 1979: 93; Jay 1973: 105 am ddwy esiampl). Deellir gan nifer fod y meddylwyr hyn yn gorbwysleisio damcaniaethu, a hynny ar draul canolbwyntio ar ein gallu i weithredu a thrawsffurfio’r byd.

Garmon Iago

Llyfryddiaeth

Adorno, T. (1973), Negative Dialectics (London: Routledge).

Adorno, T. a Horkheimer, M. (2002), Dialectic of Enlightenment (Stanford: Stanford University Press).

Anderson, P. (1979), Considerations on Western Marxism (London: Verso).

Engels, F. (1883/1993), ‘Fredrick Engels’ Speech at the Grave of Karl Marx’, https://www.marxists.org/archive/marx/works/1883/death/burial.htm [Cyrchwyd: 13 Mai 2021].

Gramsci, A. (1971), Selections from the Prison Notebooks of Antonio Gramsci (London: Lawrence and Wishart).

Jay, M. (1973), The Dialectical Imagination: A History of the Frankfurt School and the Institute of Social Research, 1923–1950 (Berkeley: University of California Press).

Jones, P. (2006), Raymond Williams’s Sociology of Culture: A Critical Reconstruction (London: Palgrave Macmillan).

Lenin, V. I. (1922–3/1999), ‘“Last Testament”: Letters to the Congress’, https://www.marxists.org/archive/lenin/works/1922/dec/testamnt/index.htm [Cyrchwyd: 13 Mai 2021].

Lukàcs, G. (1923/2010), History and Class Consciousness: Studies in Marxist Dialectics (Pontypool: Merlin Press).

Luxemburg, R. (1922/1999), The Russian Revolution, https://www.marxists.org/archive/luxemburg/1918/russian-revolution/index.htm [Cyrchwyd: 13 Mai 2021].

Marx. K. (1867/2005), Capital: Volume One, https://www.marxists.org/archive/marx/works/1867-c1/ [Cyrchwyd: 13 Mai 2021].

Marx, K. (1932/2009), Economic and Philosophic Manuscripts of 1844, https://www.marxists.org/archive/marx/works/1844/manuscripts/preface.htm [Cyrchwyd: 13 Mai 2021].

McLellan, D. (2007), Marxism after Marx (New York: Palgrave Macmillan).

Wiggershaus, R. (1995), The Frankfurt School: Its History, Theories and Political Significance (Cambridge, Mass.: MIT Press).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.