Marcsaeth-Leniniaeth

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: Marxism-Leninism)

Un o’r cyfraniadau mwyaf arwyddocaol at ddatblygu syniadau Karl Marx o safbwynt hanesyddol oedd ysgrifau Vladimir Ilich Lenin, arweinydd y chwyldro comiwnyddol cyntaf ym 1917, ac dilyn hynny arweinydd cyntaf yr Undeb Sofietaidd.

Yn 1917, ysgrifennodd Lenin (1917/1999) The State and Revolution, lle mae’n datblygu syniadau Marx ac yn amlinellu ei safbwyntiau ynghylch chwyldro’r proletariat (y dosbarth gweithiol). Dadleuodd Lenin na ddylai cefnogwyr o Farcsaeth gymryd yn ganiataol fod cwymp cyfalafiaeth yn gwbl anochel ac y byddai aelodau’r dosbarth gweithiol yn codi i arwain y chwyldro. Dadleuodd nad oedd y dosbarth gweithiol ar ei ben ei hun yn meddu ar yr ymwybyddiaeth wleidyddol angenrheidiol er mwyn sbarduno ac arwain chwyldro o’r fath. O ganlyniad, yn ôl Lenin, roedd angen carfan flaengar o chwyldroadwyr a fyddai’n gweithredu fel vanguard ar ran y dosbarth gweithiol. Rôl y garfan yma oedd ymsefydlu fel plaid wleidyddol – nid plaid ac iddi aelodaeth dorfol eang ond yn hytrach garfan ddethol o chwyldroadwyr proffesiynol ac ymroddedig a oedd â’r gallu i gynnig arweiniad gwleidyddol ac ideolegol i eraill.

O ganlyniad pan fu i blaid Folsieficaidd Lenin gipio grym yn Rwsia ym 1917, hawliwyd eu bod yn gwneud hynny yn enw buddiannau’r dosbarth gweithiol ar draws y wlad. Cyflwynwyd dadleuon tebyg hefyd yn dilyn chwyldroadau comiwnyddol diweddarach, er enghraifft yn Tsieina ym 1949 a Ciwba ym 1959. At ei gilydd felly, yn dilyn Lenin, y duedd ymhlith dadleuwyr o Farcsaeth oedd credu bod angen trefnu’n wleidyddol er mwyn prysuro dyfodiad y chwyldro yn hytrach na thybio y byddai’n ganlyniad anochel i esblygiad hanes fel y dadleuodd Marx gyda’i ddull o fateroliaeth hanesyddol.

Ceir trafodaeth fanwl o fywyd Lenin yn y llyfr Lenin gan Rees (1981/2016), sydd yn rhan o gyfres y Meddwl Modern.

Mae’r cofnod yma yn seiliedig ar Sosialaeth: Ffrydiau Amrywiol gan Dr. Huw Lewis (rhan o e-lawlyfrau Cyflwyniad i Syniadau Gwleidyddol sydd ar gael ym Mhorth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol), wedi’i addasu gan Adam Pierce a Dr. Siôn Jones o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd.

Llyfryddiaeth

Lenin, V. (1917/1999) The State and Revolution. https://www.marxists.org/ebooks/lenin/state-and-revolution.pdf [Cyrchwyd: 7 Hydref 2020]

Rees, W.J. (1981/2016) Lenin. https://www.porth.ac.uk/cy/collection/y-meddwl-modern-lenin-w-j-rees [Cyrchwyd: 7 Hydref 2020]


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.