Hegemoni

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: Hegemony)

Mae hwn yn derm canolog yng ngwaith y damcaniaethwr Eidalaidd Antonio Gramsci (1891–1937) sy’n gysylltiedig â Marcsaeth. Dynoda’r modd y mae’r dosbarth llywodraethol yn llwyddo i ennyn cydsyniad i’w reolaeth drwy gyfrwng ystod eang o strategaethau diwylliannol, moesegol ac ideolegol (Gramsci 1971: 57).

Nid drwy ddefnyddio grym gwladwriaethol, sy’n gweithredu drwy orfodaeth, yr enillir y rheolaeth hon. Yn hytrach, gwneir hynny drwy weithredoedd sefydliadau’r gymdeithas sifil (er enghraifft, ysgolion, capeli, pleidiau gwleidyddol, papurau newydd a.y.b.), sy’n gweithredu er mwyn cyflwyno bydolwg y dosbarth llywodraethol fel safbwynt rhesymol, y mae’n rhaid ei dderbyn (Gramsci 1971: 324–31). Gan hynny, ym marn Gramsci, nid yw targedu’r lefel economaidd yn unig mewn cymdeithas yn ddigon i’w thrawsffurfio; yn hytrach, rhaid creu gwrth-hegemoni sy’n herio’r lefel ddiwylliannol hon. Gwelir cyfatebiaethau amlwg yma â’r syniad Marcsaidd o ideoleg.

Garmon Iago

Llyfryddiaeth

Gramsci, A. (1971), Selections from the Prison Notebooks of Antonio Gramsci (London: Lawrence and Wishart).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.