Ymwybyddiaeth ffug

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: False Consciousness)

Ffurf benodol o ideoleg yw ymwybyddiaeth ffug. Defnyddir y term yn bennaf gan feddylwyr o’r traddodiad Marcsaidd i gyfeirio at anallu unigolion i ddirnad gwir natur cymdeithas gyfalafol, ac yn arbennig, anallu i ddeall natur orthrymol y ffurf gymdeithasol gyfredol. Yn aml, cyfeirir at drefniannau cymdeithasol a strategaethau amrywiol sy’n peri fod unigolion yn gweld eu cymdeithas fel endid naturiol y tu hwnt i’w rheolaeth ac na fedrir, felly, ei newid. Yn gysylltiedig â’r anallu i ddirnad natur y gymdeithas, gwelir anallu cysylltiedig gan unigolion i ddirnad eu gwir fuddiannau, yn arbennig sut y byddai’n fuddiol i’r gorthrymedig newid cymdeithas yn ei chyfanrwydd.

Er mai meddylwyr o’r traddodiad Marcsaidd sy’n defnyddio’r term ymwybyddiaeth ffug yn bennaf, ni cheir y term yng ngwaith Karl Marx, a phrin iawn y gwelir ei ddefnydd yng ngweithiau ei gyd-weithiwr Friedrich Engels. Ond gwelir un enghraifft o’r term gan Engels (1893/2000) yn ei lythyr at Franz Mehring.

Yn hytrach, term canolog yng ngweithiau Marcswyr yr ugeinfed ganrif ydyw, yn enwedig yng ngwaith meddylwyr Marcsaeth Orllewinol. Yn y traddodiad hwn, defnyddir y term er mwyn egluro’r diffyg chwyldroadau sosialaidd yng ngwledydd diwydiannol y Gorllewin. Mewn rhai ffrydiau dylanwadol o Farcsaeth, pwysleisiwyd y byddai gwrthddywediadau mewnol cyfalafiaeth yn arwain at argyfwng economaidd a fyddai’n esgor yn anorfod ar chwyldro gan y gweithwyr (gweler Materoliaeth Hanesyddol). Eto, er bod sawl argyfwng economaidd o’r fath wedi digwydd yn negawdau cynnar y ganrif, ni welwyd chwyldroadau llwyddiannus.

Yn nhyb grŵp sylweddol o feddylwyr, er enghraifft Georg Lukàcs (1971) a dilynwyr cynnar Damcaniaeth Feirniadol Ysgol Frankfurt (er enghraifft Theodor Adorno a Max Horkheimer [2002] a Herbert Marcuse [1964]), ni ddigwyddodd y chwyldro disgwyliedig oherwydd ymwybyddiaeth ffug. Honnant fod cyfalafiaeth wedi treiddio i ymwybyddiaeth pob unigolyn yn y gymdeithas mewn modd llawer mwy dwys nag y pwysleisiwyd gan Farcswyr blaenorol. Gan fod ymwybyddiaeth unigolion wedi ei meddiannu gan gyfalafiaeth, ni allant ddeall sut y byddai’n fuddiol iddynt drawsffurfio’r gymdeithas; felly, gellir atal chwyldro bron yn ddiderfyn.

Mae’r meddylwyr hyn yn tynnu sylw yn arbennig at weithrediad ffenomenau diwylliannol: fod ffenomenau fel y cyfryngau torfol, papurau newydd, a diwylliant yn fwy cyffredinol (boed gelf, athroniaeth, cymdeithaseg neu wyddoniaeth), yn gweithredu er mwyn rhwystro mewnwelediad i wir natur afresymol cyfalafiaeth. Gwelir pwyslais tebyg gan Farcswyr eraill o’r un cyfnod, yn enwedig yng ngwaith Gramsci (1971) gyda’i syniad o hegemoni. Yn y cysyniad hwn, dadleuir nad drwy rym y bydd cyfalafiaeth yn goroesi yng ngwledydd y Gorllewin, ond drwy reolaeth syniadol, lle mae’r dosbarth llywodraethol yn cyflwyno’i safbwynt fel synnwyr cyffredin y mae’n rhaid ei dderbyn. I’r meddylwyr hyn oll, felly, rhaid herio’r ymwybyddiaeth ffug drwy feirniadaeth sy’n cynyddu ymwybyddiaeth, beirniadaeth fydd yn galluogi pobl i amgyffred natur ormesol cyfalafiaeth a’r gafael sydd gan y ffenomenau diwylliannol arnynt. Fodd bynnag, mae’n rhaid pwysleisio yma nad yw’r meddylwyr hyn yn cefnu ar bwyslais Karl Marx ar drawsffurfio economaidd; yn hytrach, pwysleisio y maent fod yn rhaid cael trawsffurfiad economaidd a diwylliannol er mwyn newid cymdeithas yn llwyddiannus.

Garmon Iago

Llyfryddiaeth

Adorno, T. a Horkheimer, M. (2002), Dialectic of Enlightenment (Stanford: Stanford University Press).

Engels, F. (1893/2000), Engels to Franz Mehring, https://www.marxists.org/archive/marx/works/1893/letters/93_07_14.htm [Cyrchwyd: 23 Mai 2021].

Gramsci, A. (1971), Selections from the Prison Notebooks of Antonio Gramsci (London: Lawrence and Wishart).

Lukàcs, G. (1923/2010), History and Class Consciousness: Studies in Marxist Dialectics (Pontypool: Merlin Press).

Marcuse, H. (1964), One-dimensional Man: Studies in the Ideology of Advanced Industrial Society (London: Routledge and Kegan Paul).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.