Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Biwrocratiaeth"
(Ni ddangosir y 5 golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
− | (Saesneg: | + | (Saesneg: ''Bureaucracy'') |
− | Biwrocratiaeth yw system weinyddu a gynhelir gan weithwyr proffesiynol hyfforddedig sy’n dilyn rheolau sefydlog i wahanol sefydliadau fel y llywodraeth, sefydliadau cyhoeddus fel ysgolion ac ysbytai neu gwmnïau preifat. Mae’r cysyniad o fiwrocratiaeth yn cael ei gysylltu â gwaith [[Max Weber]]. Yn ôl Weber (1921/2019), cyflwynwyd biwrocratiaeth i wahanol sefydliadau o ganlyniad i [[resymoli]] cynyddol mewn cymdeithas. Golyga hynny fod unigolion yn fwyfwy tebygol o wneud penderfyniad yn seiliedig ar resymoleg cyfryngol ( | + | Biwrocratiaeth yw system weinyddu a gynhelir gan weithwyr proffesiynol hyfforddedig sy’n dilyn rheolau sefydlog i wahanol [[sefydliadau]] fel y llywodraeth, [[sefydliadau]] cyhoeddus fel ysgolion ac ysbytai neu gwmnïau preifat. Mae’r cysyniad o fiwrocratiaeth yn cael ei gysylltu â gwaith [[Weber, Max|Max Weber]]. Yn ôl Weber (1921/2019), cyflwynwyd biwrocratiaeth i wahanol sefydliadau o ganlyniad i [[resymoli]] cynyddol mewn cymdeithas. Golyga hynny fod unigolion yn fwyfwy tebygol o wneud penderfyniad yn seiliedig ar resymoleg cyfryngol (''instrumental rationality'') yn hytrach na ffactorau fel [[crefydd]], emosiynau, traddodiad a [[gwerthoedd]]. |
Fel y dywed Roberts (1982/2015), rhai o nodweddion system fiwrocrataidd a nodwyd gan Weber (1921/2019) oedd fod aelodau staff o fewn y system yn dilyn rheolau amhersonol eu swyddi; bod staff yn cael eu penodi ar sail eu cymwysterau proffesiynol; bod yna hierarchaeth glir o ran swyddi, a bod cyfrifoldebau’r swyddi hyn wedi cael eu gosod yn glir. Er bod Weber yn gweld biwrocratiaeth fel y ffordd fwyaf effeithlon a rhesymegol o drefnu sefydliadau cymhleth, roedd yn pryderu (1921/2019) y byddai gormod o ddefnydd o fiwrocratiaeth yn cyfyngu ar ryddid unigolion ac yn caethiwo sefydliadau ac unigolion mewn cawell haearn (''iron cage''). Mae’r term tâp coch (''red tape'') yn cael ei ddefnyddio gan rai sy’n credu bod biwrocratiaeth yn atal neu’n gohirio penderfyniadau ac yn gosod gormod o reolau (''rules'') a rheoliadau (''regulations''). | Fel y dywed Roberts (1982/2015), rhai o nodweddion system fiwrocrataidd a nodwyd gan Weber (1921/2019) oedd fod aelodau staff o fewn y system yn dilyn rheolau amhersonol eu swyddi; bod staff yn cael eu penodi ar sail eu cymwysterau proffesiynol; bod yna hierarchaeth glir o ran swyddi, a bod cyfrifoldebau’r swyddi hyn wedi cael eu gosod yn glir. Er bod Weber yn gweld biwrocratiaeth fel y ffordd fwyaf effeithlon a rhesymegol o drefnu sefydliadau cymhleth, roedd yn pryderu (1921/2019) y byddai gormod o ddefnydd o fiwrocratiaeth yn cyfyngu ar ryddid unigolion ac yn caethiwo sefydliadau ac unigolion mewn cawell haearn (''iron cage''). Mae’r term tâp coch (''red tape'') yn cael ei ddefnyddio gan rai sy’n credu bod biwrocratiaeth yn atal neu’n gohirio penderfyniadau ac yn gosod gormod o reolau (''rules'') a rheoliadau (''regulations''). |
Y diwygiad cyfredol, am 08:18, 8 Medi 2024
(Saesneg: Bureaucracy)
Biwrocratiaeth yw system weinyddu a gynhelir gan weithwyr proffesiynol hyfforddedig sy’n dilyn rheolau sefydlog i wahanol sefydliadau fel y llywodraeth, sefydliadau cyhoeddus fel ysgolion ac ysbytai neu gwmnïau preifat. Mae’r cysyniad o fiwrocratiaeth yn cael ei gysylltu â gwaith Max Weber. Yn ôl Weber (1921/2019), cyflwynwyd biwrocratiaeth i wahanol sefydliadau o ganlyniad i resymoli cynyddol mewn cymdeithas. Golyga hynny fod unigolion yn fwyfwy tebygol o wneud penderfyniad yn seiliedig ar resymoleg cyfryngol (instrumental rationality) yn hytrach na ffactorau fel crefydd, emosiynau, traddodiad a gwerthoedd.
Fel y dywed Roberts (1982/2015), rhai o nodweddion system fiwrocrataidd a nodwyd gan Weber (1921/2019) oedd fod aelodau staff o fewn y system yn dilyn rheolau amhersonol eu swyddi; bod staff yn cael eu penodi ar sail eu cymwysterau proffesiynol; bod yna hierarchaeth glir o ran swyddi, a bod cyfrifoldebau’r swyddi hyn wedi cael eu gosod yn glir. Er bod Weber yn gweld biwrocratiaeth fel y ffordd fwyaf effeithlon a rhesymegol o drefnu sefydliadau cymhleth, roedd yn pryderu (1921/2019) y byddai gormod o ddefnydd o fiwrocratiaeth yn cyfyngu ar ryddid unigolion ac yn caethiwo sefydliadau ac unigolion mewn cawell haearn (iron cage). Mae’r term tâp coch (red tape) yn cael ei ddefnyddio gan rai sy’n credu bod biwrocratiaeth yn atal neu’n gohirio penderfyniadau ac yn gosod gormod o reolau (rules) a rheoliadau (regulations).
Siôn Jones
Llyfryddiaeth
Roberts, E. (1982/2015). "Weber" https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=1459~4t~UWINjABK [Cyrchwyd: 27 Mehefin 2022].
Weber, M. (1921/2019), "Economy and Society". Cyfieithwyd gan Keith Burns (Cambridge, MA: Harvard University Press).
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.