Gwerthoedd

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: Values)

Mae gwerthoedd yn cyfeirio at egwyddorion neu gredoau sy’n bwysig i unigolion a chymdeithas. Mae gwerthoedd yn adlewyrchu credoau y mae cymdeithas yn teimlo sy’n foesol bwysig ac yn ddymunol, er enghraifft beth sy’n ‘gywir’ a beth sy’n ‘anghywir’ o fewn y gymdeithas neu beth sy’n bwysig i’r gymdeithas (Thome 2015).

Yn ôl y damcaniaethwr cymdeithasol Émile Durkheim, mae unigolion o fewn cymdeithas yn rhannu’r un gwerthoedd gan fod gwerthoedd yn deillio o sefydliadau’r gymdeithas honno (gweler Prys a Hodges 2020). Mae hyn yn gysylltiedig â chysyniad Durkheim o ymwybyddiaeth dorfol (collective consciousness). Serch hynny, mae gwerthoedd yn gallu amrywio o un gymdeithas i’r llall.

Cysyniadau haniaethol (abstract) yw gwerthoedd fel arfer, ac mae cysyniadau fel cyfle cyfartal, cyfiawnder a rhyddid i lefaru (freedom of speech) yn enghreifftiau o werthoedd cymdeithasol.

Mae gwerthoedd a normau cymdeithasol i’w canfod ym mhob cymdeithas ac maent yn chwarae rhan allweddol o ddiwylliant grŵp.

Caiff gwerthoedd a normau eu trosglwyddo drwy gymdeithasoli.

Adam Pierce

Llyfryddiaeth

Prys, C. a Hodges, R. (2020), Cyflwyniad i Gymdeithaseg https://indd.adobe.com/view/0b0da3d8-e44e-4900-8475-a3c016add729 [Cyrchwyd: 29 Medi 2021].

Thome, H. (2015), ‘Values, Sociology of’ yn: Wright, J. (gol.), International Encyclopedia of the Social & Behavioral Sciences (Oxford: Elsevier), tt. 47–53.


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.