Normau

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: Norms)

O fewn pob cymdeithas mae safonau a disgwyliadau o ran ymddygiad priodol ac amhriodol grwpiau ac unigolion mewn amryw o sefyllfaoedd, ac mae normau cymdeithasol yn cyfeirio at y safonau a’r disgwyliadau hyn. Mae gosod normau yn gysyniad canolog yn y gwyddorau cymdeithasol gan eu bod yn sylfaen i’r ffordd rydym yn ymddwyn o fewn cymdeithas. Fel arfer mae normau’n adlewyrchu gwerthoedd allweddol. Yn gyffredinol, dydyn ni ddim yn meddwl am y normau cymdeithasol rydyn ni’n eu dilyn o ddydd i ddydd (Prys a Hodges 2020).

Mae normau’n chwarae rhan allweddol wrth gynnal trefn a sefydlogrwydd cymdeithasol. Os bydd normau cymdeithasol yn dirywio, fel arfer o ganlyniad i newid cymdeithasol, bydd hyn yn arwain at gyflwr o '''anomie''' (Morris-Jones 1984/2015). Mae anomie’n gysyniad pwysig yng ngwaith Durkheim.

Ar y llaw arall, mae theorïau gwrthdaro megis Marcsaeth, ffeministiaeth, theori feirniadol hil, theori feirniadol anabledd, ôl-drefedigaethedd a theori cwiar yn credu y dylem herio rhai o’r normau a’r rheolau sy’n bodoli mewn cymdeithas oherwydd eu bod yn credu eu bod nhw’n trin grwpiau cymdeithasol yn wahanol i’w gilydd.

Mae normau a gwerthoedd cymdeithasol i’w canfod ym mhob cymdeithas ac maent yn chwarae rhan allweddol o ddiwylliant grŵp. Mae normau a gwerthoedd yn cael eu trosglwyddo drwy gymdeithasoli.


Adam Pierce

Llyfryddiaeth

Prys, C. a Hodges, R. (2020) Cyflwyniad i Gymdeithaseg https://indd.adobe.com/view/0b0da3d8-e44e-4900-8475-a3c016add729 [Cyrchwyd: 29 Medi 2021].

Morris-Jones, H. (1984/2015), Y Meddwl Modern: Durkheim https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=1415~4l~LpqkFfRf [Cyrchwyd: 18 Mehefin 2021].


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.