Theori feirniadol hil

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: Critical Race Theory)

1. Cyflwyno Theori Feirniadol Hil

Mae Theori Feirniadol Hil (Critical Race Theory) yn beirniadu’r syniad fod cymdeithas yn lliwddall mewn perthynas â hil ac nad yw anghydraddoldeb a gwahaniaethau ar sail hil yn bodoli mwyach. Noda Delgado a Stefancic (2012) fod y theori yn gysylltiedig ag actifyddion ac academyddion sydd â diddordeb mewn astudio’r berthynas rhwng hil, hiliaeth a phŵer.

Mae’r theori yn gweithredu ar dair egwyddor: bod hiliaeth yn dreiddiol, yn arhosol ac angen ei herio (Crenshaw et al., 1995). Yn ganolog i’r safbwynt yma y mae’r honiad fod hiliaeth yn systemig ac nad yw’n broblem sy’n gysylltiedig ag unigolion yn unig. Mae hiliaeth hefyd bellach wedi addasu i newidiadau cymdeithasol a’r ffordd o’i mynegi wedi newid, ond nid yw hiliaeth wedi diflannu. Felly, mae Theori Feirniadol Hil yn herio anghydraddoldeb cymdeithasol, yn ystyried effaith hiliaeth sefydliadol a systemig, ac yn gwrthwynebu’r syniad fod y gymdeithas yn lliwddall mewn perthynas â hil (Gillborn, 2020).

Mae’r rhai sy’n cefnogi’r theori hon yn cydnabod bod lefelau gwahanol o bŵer yn bodoli mewn cymdeithas yn seiliedig ar hil. Credant fod hierarchaeth hiliau (racial hierarchy) yn bodoli mewn cymdeithas, â chymunedau ethnig lleiafrifiedig (ethnically minoritised communities) fel arfer yn cael eu gweld yn israddol i gymunedau gwyn (Du Bois, 1935). Mae hyn yn broblemus gan ei fod yn normaleiddio anghydraddoldeb cymdeithasol. Mae defnyddio ystrydebau, yn enwedig rhai negyddol, sy’n tueddu i drin cymunedau ethnig lleiafrifiedig yn wahanol (‘othering’) i’r boblogaeth wyn, yn atgyfnerthu’r hierarchaeth hiliau.

Dadleua cefnogwyr Theori Feirniadol Hil fel Delgado a Stefancic (2012) fod hiliaeth a goruchafiaeth pobl wyn (white supremacy), y gred ffug fod pobl wyn yn uwchraddol o’u cymharu â grwpiau ethnig lleiafrifiedig, yn ganolog i’r system gymdeithasol, wleidyddol a chyfreithiol mewn llefydd fel America a’r Deyrnas Unedig. Er hynny, mae’r iaith a ddefnyddir mewn cymdeithas yn awgrymu bod cyfleoedd cyfartal yn cael eu hyrwyddo i bawb. Mae cefnogwyr y theori yn ymgyrchu dros ddadansoddiad cyd-destunol a hanesyddol o gymdeithas. Maent hefyd yn galw am herio’r syniad ein bod ni’n byw mewn cymdeithas feritocrataidd, lle mae unigolion yn llwyddo mewn cymdeithas drwy waith caled ac yn seiliedig ar eu gallu. Yn hytrach, mae damcaniaethwyr hil feirniadol yn dadlau ein bod yn byw mewn cymdeithas lle mae pobl wyn yn freintiedig o’u cymharu â phobl o gymunedau ethnig lleiafrifol. Felly, prif bwrpas Theori Feirniadol Hil yw newid arferion cymdeithasol er mwyn sicrhau bod pobl o wahanol hil ac ethnigrwydd yn cael eu trin yr un fath mewn cymdeithas.

Cysylltir y theori hon ag ysgolheigion Americanaidd fel Kimberlé Crenshaw a Derrick Bell, sy’n pwysleisio’r syniad fod hunaniaeth hil unigolyn yn dal i gael effaith ar ei statws economaidd neu gymdeithasol. Mae’r theori felly’n dadlau bod cyfreithiau lliwddall mewn perthynas â hil wedi caniatáu i ormes hiliol ac anghydraddoldeb barhau.

Dylanwadwyd ar y theori hon gan nifer o ddamcaniaethau gwahanol, gan gynnwys ffeministiaeth, Marcsaeth ac ôl-foderniaeth. Mae yna gysylltiad cryf rhwng ffeministiaeth ddu a ffeministiaeth amlhiliol a Theori Feirniadol Hil. Datblygodd Kimberlé Crenshaw (1991) y term croestoriadedd (intersectionality), sy’n cydnabod sut mae nodweddion cymdeithasol fel hil, rhywedd a dosbarth yn cydblethu ac yn effeithio ar unigolion gwahanol, megis menywod o gefndiroedd ethnig lleiafrifiedig.

2. Theori Feirniadol Hil yn y Deyrnas Unedig

Er mai theori sy’n cael ei chysylltu â chymdeithas America ac astudiaethau cyfreithiol yw hon, mae wedi cael ei mabwysiadu gan sawl gwlad a gan sawl disgyblaeth wahanol, yn cynnwys addysg. Mae hyn oherwydd bod y theori yn ystyried profiadau bywyd a lleisiau grwpiau ethnig lleiafrifiedig, sydd fel arfer yn wahanol i’r boblogaeth wyn. Mae symud oddi wrth edrych drwy brofiad (neu lens) y boblogaeth wyn yn ganolog i ddeall straeon gan unigolion o gefndiroedd ethnig lleiafrifiedig. Academyddion fel yr Athro David Gillborn (2020) sydd wedi bod yn gyfrifol am arwain datblygiad y theori yn y Deyrnas Unedig. Dadleuodd Gilborn (2020) fod polisïau a luniwyd gan lywodraethau’n parhau i wthio aelodau cymunedau ethnig lleiafrifiedig i gyrion cymdeithas a gwahaniaethu yn eu herbyn.

Mae’r safiad hwn yn hynod o bwysig wrth gydnabod y cynnydd sydd wedi bod yn y gefnogaeth i fudiad Mae Bywydau Du o Bwys (Black Lives Matter). Bu’r mudiad hwn yn ymgyrchu dros gael gwared o oruchafiaeth pobl wyn ac o blaid y newidiadau yr ydym wedi eu gweld mewn agweddau tuag at hiliaeth yng ngwledydd y Gorllewin, gan gynnwys Cymru.

3. Cysyniadau sy’n gysylltiedig â Theori Feirniadol Hil

Mae nifer o gysyniadau dadansoddol yn gysylltiedig â Theori Feirniadol Hil, gan gynnwys, e.e. damcaniaeth cydgyfeiriant buddiannau (interest of convergence theory) a gwynder (whiteness).

3.1. Damcaniaeth cydgyfeiriant buddiannau

Un damcaniaeth sy’n gysylltiedig â Theori Feirniadol Hil yw damcaniaeth cydgyfeiriant buddiannau. Mae’r ddamcaniaeth hon yn dadlau nad yw’r boblogaeth wyn yn creu nac yn hyrwyddo polisïau sydd o fudd i gymunedau ethnig lleiafrifiedig, oni bai y byddai’r polisi hwnnw hefyd o fudd i bobl wyn. Felly, yn ôl y ddamcaniaeth hon, mae angen i unrhyw bolisi, arfer neu gyfraith fod yn fanteisiol nid i grwpiau ethnig lleiafrifiedig yn unig, ond hefyd i’r boblogaeth wyn.

Datblygodd yr Athro Derrick Bell (1980) y ddamcaniaeth cydgyfeiriant buddiannau wrth astudio achosion hawliau sifil yn America, er enghraifft, Brown v. Board of Education (1954) a arweiniodd at ddiwedd arwahanu disgyblion i ysgolion gwahanol ar sail hil yn America. Dadleuodd Bell (1980) fod y polisi o roi diwedd ar arwahanu disgyblion i ysgolion gwahanol ar sail hil wedi ei basio yn bennaf oherwydd bod gwleidyddion gwyn yn gweld y byddai’r polisi hwn nid yn unig o fudd i gymunedau du, ond hefyd o fudd i bobl wyn gan y byddai’n gwneud i America edrych fel gwlad egalitaraidd yng ngolwg gwledydd eraill y byd. Felly, credai Bell (1980) fod y polisi hwn wedi cael ei basio yn bennaf er mwyn hyrwyddo buddiannau’r bobl wyn yn hytrach nag er mwyn gwella ansawdd addysg ar gyfer plant du yn ystod y cyfnod.

3.2. Gwynder

Cysyniad arall sy’n gysylltiedig â Theori Feirniadol Hil yw gwynder. Mae Harris (1993) yn nodi bod gwynder yn cyfeirio at y modd y mae pobl wyn mewn sefyllfaoedd breintiedig yn y gymdeithas o’u cymharu â phobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifiedig. Felly, mae gwynder yn gysylltiedig â’r term braint pobl wyn (white privilege) (Garner, 2007). Mae gwynder hefyd yn cyfeirio at y modd y mae diwylliant ac arferion bobl wyn yn norm mewn cymdeithas.

4. Theori Feirniadol Hil a Chymru

Credai rhai fod y Cymry yn genedl sy’n fwy goddefgar tuag at bobl o gymunedau ethnig lleiafrifiedig (gweler Williams et al., 2015). Gan fod Cymry yn genedl sydd wedi bod o dan orthrwm, mae rhai’n credu bod y Cymry yn deall gormes grwpiau eraill mewn cymdeithas, gan gynnwys grwpiau ethnig lleiafrifiedig. Ond, mae hiliaeth yn bodoli yng Nghymru hefyd ac mae mudiadau ac elusennau sy’n canolbwyntio ar hil ac ethnigrwydd wedi edrych ar effaith hiliaeth ar fywydau bobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol.

Ym maes addysg, cyhoeddodd Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru adroddiad yn 2018 yn edrych ar brofiadau pobl ifanc o gefndiroedd ethnig lleiafrifiedig o ysgolion yng Nghymru. Darganfu’r Tîm fod y rhan fwyaf o’r myfyrwyr a gymerodd ran yn yr astudiaeth wedi dioddef o hiliaeth yn yr ysgol. Yn ogystal, yn 2021, arweiniodd yr Athro Charlotte Williams weithgor a gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod themâu sy’n ymwneud â chymunedau a phrofiadau pobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu dysgu fel rhan o gwricwlwm ysgolion Cymru. Yn yr adroddiad, ystyriodd y gweithgor sut mae’r hyn a addysgir mewn ysgolion yn cael effaith ar brofiadau unigolion a chymunedau ethnig lleiafrifiedig (Williams, 2021), sy’n ganolog i Theori Feirniadol Hil. Nododd yr adroddiad fod anghydraddoldeb rhwng hiliau gwahanol yn y system addysg yng Nghymru yn dal i fodoli. Dadleuodd y gweithgor yn yr adroddiad fod cyrhaeddiad addysgol plant a phobl ifanc o rai o’r cymunedau ethnig lleiafrifiedig yn cael ei lesteirio gan gwricwlwm sydd wedi methu cynrychioli eu hanes a chyfraniadau eu cymunedau, ddoe a heddiw. Roedd y dysgwyr hyn yn cael eu llesteirio gan ddiffyg modelau rôl cadarnhaol o gymunedau ethnig lleiafrifiedig ym myd addysg yn ogystal â’u profiadau o hiliaeth yn eu bywydau beunyddiol yn yr ysgol (Williams, 2021).

Mewn addysg uwch, mae Theori Feirniadol Hil yn ddefnyddiol i asesu profiadau myfyrwyr o gymunedau ethnig lleiafrifiedig. Mae angen cydnabod bod hiliaeth yn bodoli mewn addysg uwch, fel mewn bywyd bob ddydd, a bod diddordebau’r mwyafrif (y boblogaeth wyn) yn cael eu blaenoriaethu. Serch hynny, mae polisïau prifysgolion ac arferion fel y Siarter Cydraddoldeb Hil (Race Equality Charter; Advance HE, 2021), a phwyllgorau cydraddoldeb hil wedi’u sefydlu er mwyn mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau hyn. Mae Theori Feirniadol Hil hefyd wedi’i defnyddio gan ymchwilwyr yng Nghymru i ystyried a deall ymateb ystyfnig y system cynllunio adeiladau a’i diffyg ystyriaeth o hil yn y Deyrnas Unedig (Gale a Thomas, 2018).

5. Beirniadaeth o Theori Feirniadol Hil

Yn ôl Delgado a Stefancic (2012), daeth y rhan fwyaf o’r feirniadaeth ar Theori Feirniadol Hil gan feddylwyr neogeidwadol oedd yn gwrthwynebu gweithredoedd cadarnhaol (affirmative action), arferion a pholisïau sy’n ceisio sicrhau bod cynrychiolaeth o grwpiau sydd wedi cael eu tangynrychioli’n hanesyddol mewn sefydliadau addysgol a sefydliadau gwaith fel grwpiau ethnig lleiafrifiedig. Mae rhai hefyd wedi cwestiynu ymchwil gan gefnogwyr Theori Feirniadol Hil oherwydd eu bod yn teimlo nad oedd yr ymchwil hwn ddim yn ddigon gwrthrychol (Hill-Collins a Solomos, 2010).

Yn ogystal, yn 2020, galwodd Llywodraeth Weriniaethol Unol Daleithiau America, dan arweinyddiaeth Donald Trump, a’r Llywodraeth Geidwadol ym Mhrydain am beidio â dysgu am Theori Feirniadol Hil mewn addysg oherwydd eu bod yn credu bod y theori yn unochrog ac nad oedd yn ymdrin yn gytbwys â syniadau eraill (The Guardian, 2020). Gall ymosod ar y ddamcaniaeth fod yn ffordd effeithiol o ddiweddu trafodaethau ystyrlon ar hil a hiliaeth.

Savanna Jones

Llyfryddiaeth

Advance, HE (2021), Race Equality Charter, https://www.advance-he.ac.uk/equality-charters/race-equality-charter [Cyrchwyd 25 Ebrill 2021].

Bell, D. (1980), ‘Brown v. Board of Education and the Interest-Convergence Dilemma’, Harvard Law Review, 93(3), 518–33.

Crenshaw, K. W. (1991), ‘Mapping the margins: intersectionality, identity politics, and violence against women of color’, Stanford Law Review, 43(6), 1241–99.

Crenshaw, K., Gotanda, N., Peller, G. et al. (1995), Critical Race Theory: The Key Writings that Formed the Movement (New York: The New Press).

Delgado, R. a Stefancic, J. (2012), Critical Race Theory: An Introduction, 2il argraffiad (New York: New York University Press).

Du Bois, W. E. B. (1935), Black Reconstruction: an essay towards a history of the part which Black folk played in the attempt to reconstruct democracy in America 1860–1880. (New York: Harcourt, Brace and Company).

Gale, R. a Thomas, H. (2018), ‘Race at the margins: a critical race theory perspective on race equality in UK planning’, Environment and Planning C: Government and Policy, 36(3), 460–78.

Garner, S. (2007), Whiteness (London and New York: Routledge).

Gillborn, D. (2020), ‘Talking race: critical race theory with David Gillborn’ https://open.spotify.com/episode/0kUYEI3Ok2mH4Pw95tUjv4?si=XipUxIBlRPqnCdz5ZMWGjw [Cyrchwyd: 8 Awst 2020].

Guardian (2020), Why is the UK government suddenly targeting ‘critical race theory’? https://www.theguardian.com/commentisfree/2020/oct/23/uk-critical-race-theory-trump-conservatives-structural-inequality [Cyrchwyd 25 Ebrill 2021].

Harris, C. (1993), ‘Whiteness as property’, Harvard Law Review, 106(8), 1707–91.

Hill-Collins, P. a Solomos, J. (2010), The SAGE Handbook of Race and Ethnic Studies (Thousand Oaks, California: Sage Publications).

Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (2018), Experiences of Racism & ‘Race’ in Schools in Wales, http://eyst.org.uk/assets/experiences-of-racism-and-race-in-schools-in-wales.pdf [Cyrchwyd 24 Ebrill 2021].

Williams, C. (2021), Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Dduon, Asiaidd, a Lleiafrifoedd yn y Cwricwlwm Newydd, https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2021-03/gweithgor-cymunedau-cyfraniadau-chynefin-pobl-dduon-asiaidd-lleiafrifoedd-ethnig-cwricwlwm-newydd-adroddiad-terfynol.pdf [Cyrchwyd: 24 Ebrill 2021]

Williams, C., Evans, N. a O’Leary, P. (2015), A Tolerant Nation? Revisiting Ethnic Diversity in a Devolved Wales. (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Williams, C. a Gwilym, H. (2021), Social Policy for Welfare Practice in Wales, 3ydd argraffiad (Birmingham: Venture Press).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.