Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Estroneiddio"
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__Dull cyfieithu yw estroneiddio, neu estronoli, lle y mae’r cyfieithydd yn rhoi pwyslais ar natur estron y testun a gyfieithir. Mae’r cy...') |
|||
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
− | __NOAUTOLINKS__Dull cyfieithu yw estroneiddio, neu estronoli, lle y mae’r cyfieithydd yn rhoi pwyslais ar natur estron y testun a gyfieithir. Mae’r cyfieithydd yn parchu bwriad yr awdur gwreiddiol gan adael y testun yng nghyd-destun yr iaith ffynhonnell. Er enghraifft, wrth gyfieithu nofel Ffrangeg i'r Gymraeg, y mae'r cyfieithiad yn aros yn Ffrengig o ran ei naws a’i gyd-destun. Ni wneir ymdrech i drosi cyfeiriadau diwylliannol ac elfennau ieithyddol megis idiomau er lles y gynulleidfa. Wrth estroneiddio blaenoriaethir gofynion yr awdur gwreiddiol yn hytrach na gofynion y gynulleidfa darged. Bathwyd y term gan Lawrence Venuti ym 1995 er bod y cysyniad yn bodoli ers canrifoedd, a chysylltir y theori yn bennaf â’r athronydd, Friederich Schleiermacher. Dadleua Schleiermacher y dylai cyfieithiad ddatgan yn glir mai cyfieithiad ydyw yn hytrach nag esgus | + | __NOAUTOLINKS__Dull cyfieithu yw estroneiddio, neu estronoli, lle y mae’r cyfieithydd yn rhoi pwyslais ar natur estron y testun a gyfieithir. Mae’r cyfieithydd yn parchu bwriad yr awdur gwreiddiol gan adael y testun yng nghyd-destun yr iaith ffynhonnell. Er enghraifft, wrth gyfieithu nofel Ffrangeg i'r Gymraeg, y mae'r cyfieithiad yn aros yn Ffrengig o ran ei naws a’i gyd-destun. Ni wneir ymdrech i drosi cyfeiriadau diwylliannol ac elfennau ieithyddol megis idiomau er lles y gynulleidfa. Wrth estroneiddio blaenoriaethir gofynion yr awdur gwreiddiol yn hytrach na gofynion y gynulleidfa darged. Bathwyd y term gan Lawrence Venuti ym 1995 er bod y cysyniad yn bodoli ers canrifoedd, a chysylltir y theori yn bennaf â’r athronydd, Friederich Schleiermacher. Dadleua Schleiermacher y dylai cyfieithiad ddatgan yn glir mai cyfieithiad ydyw yn hytrach nag esgus y ceir testun hollol newydd. At hynny, dylai cyfieithiad bwysleisio'r gwahaniaeth sydd rhwng yr ieithoedd yn ogystal â'r bwlch anochel sydd rhwng y cyfieithiad a'r gwreiddiol. Domestigeiddio yw'r dull cyfieithu cyferbyniol. |
'''Rhianedd Jewell''' | '''Rhianedd Jewell''' | ||
Llinell 8: | Llinell 8: | ||
Venuti, L. (2008), ''The Translator's Invisibility: A History of Translation'', ail argraffiad (London and New York: Routledge). | Venuti, L. (2008), ''The Translator's Invisibility: A History of Translation'', ail argraffiad (London and New York: Routledge). | ||
+ | {{CC BY-SA}} | ||
+ | [[Categori:Beirniadaeth a Theori]] |
Y diwygiad cyfredol, am 15:15, 26 Medi 2016
Dull cyfieithu yw estroneiddio, neu estronoli, lle y mae’r cyfieithydd yn rhoi pwyslais ar natur estron y testun a gyfieithir. Mae’r cyfieithydd yn parchu bwriad yr awdur gwreiddiol gan adael y testun yng nghyd-destun yr iaith ffynhonnell. Er enghraifft, wrth gyfieithu nofel Ffrangeg i'r Gymraeg, y mae'r cyfieithiad yn aros yn Ffrengig o ran ei naws a’i gyd-destun. Ni wneir ymdrech i drosi cyfeiriadau diwylliannol ac elfennau ieithyddol megis idiomau er lles y gynulleidfa. Wrth estroneiddio blaenoriaethir gofynion yr awdur gwreiddiol yn hytrach na gofynion y gynulleidfa darged. Bathwyd y term gan Lawrence Venuti ym 1995 er bod y cysyniad yn bodoli ers canrifoedd, a chysylltir y theori yn bennaf â’r athronydd, Friederich Schleiermacher. Dadleua Schleiermacher y dylai cyfieithiad ddatgan yn glir mai cyfieithiad ydyw yn hytrach nag esgus y ceir testun hollol newydd. At hynny, dylai cyfieithiad bwysleisio'r gwahaniaeth sydd rhwng yr ieithoedd yn ogystal â'r bwlch anochel sydd rhwng y cyfieithiad a'r gwreiddiol. Domestigeiddio yw'r dull cyfieithu cyferbyniol.
Rhianedd Jewell
Llyfryddiaeth
Schleiermacher, F. (1963), ‘Über die verschiedenen Methoden des Übersetzens’ yn Störig, H. J. (gol.), Das Problem des Übersetzens (Darmstadt: Wissenschaftliche Buchgesellschaft), tt. 38-70.
Venuti, L. (2008), The Translator's Invisibility: A History of Translation, ail argraffiad (London and New York: Routledge).
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.