Estroneiddio

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Dull cyfieithu yw estroneiddio, neu estronoli, lle y mae’r cyfieithydd yn rhoi pwyslais ar natur estron y testun a gyfieithir. Mae’r cyfieithydd yn parchu bwriad yr awdur gwreiddiol gan adael y testun yng nghyd-destun yr iaith ffynhonnell. Er enghraifft, wrth gyfieithu nofel Ffrangeg i'r Gymraeg, y mae'r cyfieithiad yn aros yn Ffrengig o ran ei naws a’i gyd-destun. Ni wneir ymdrech i drosi cyfeiriadau diwylliannol ac elfennau ieithyddol megis idiomau er lles y gynulleidfa. Wrth estroneiddio blaenoriaethir gofynion yr awdur gwreiddiol yn hytrach na gofynion y gynulleidfa darged. Bathwyd y term gan Lawrence Venuti ym 1995 er bod y cysyniad yn bodoli ers canrifoedd, a chysylltir y theori yn bennaf â’r athronydd, Friederich Schleiermacher. Dadleua Schleiermacher y dylai cyfieithiad ddatgan yn glir mai cyfieithiad ydyw yn hytrach nag esgus y ceir testun hollol newydd. At hynny, dylai cyfieithiad bwysleisio'r gwahaniaeth sydd rhwng yr ieithoedd yn ogystal â'r bwlch anochel sydd rhwng y cyfieithiad a'r gwreiddiol. Domestigeiddio yw'r dull cyfieithu cyferbyniol.

Rhianedd Jewell

Llyfryddiaeth

Schleiermacher, F. (1963), ‘Über die verschiedenen Methoden des Übersetzens’ yn Störig, H. J. (gol.), Das Problem des Übersetzens (Darmstadt: Wissenschaftliche Buchgesellschaft), tt. 38-70.

Venuti, L. (2008), The Translator's Invisibility: A History of Translation, ail argraffiad (London and New York: Routledge).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.