Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Awdl-gywydd"
Oddi ar WICI
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
− | + | Mesur cwpledol fel y [[cywydd]] deuair hirion yw’r [[awdl]]-gywydd, gyda phob [[cwpled]] yn cynnwys dwy linell seithsill, ond, yn wahanol i’r cywydd, gall y llinellau ddiweddu’n acennog neu’n ddiacen. Yn ogystal, y mae diwedd y llinell gyntaf yn odli â gorffwysfa’r ail linell, a diwedd yr ail linell yn cynnal y brifodl. Dyma linellau agoriadol ‘Awdl-gywydd i Ddewi Sant’ gan Lewys Glyn Cothi: | |
− | Mesur cwpledol fel y cywydd deuair hirion yw’r awdl-gywydd, gyda phob cwpled yn cynnwys dwy linell seithsill, ond, yn wahanol i’r cywydd, gall y llinellau ddiweddu’n acennog neu’n ddiacen. Yn ogystal, y mae diwedd y llinell gyntaf yn odli â gorffwysfa’r ail linell, a diwedd yr ail linell yn cynnal y brifodl. Dyma linellau agoriadol ‘Awdl-gywydd i Ddewi Sant’ gan Lewys Glyn Cothi: | ||
− | |||
:Mae ’mhwys, mewn crwys, lle croesant, | :Mae ’mhwys, mewn crwys, lle croesant, | ||
Llinell 9: | Llinell 7: | ||
:ac ŵyr ydiw i Geredig | :ac ŵyr ydiw i Geredig | ||
:a drig ymyl dŵr eigion ... | :a drig ymyl dŵr eigion ... | ||
− | |||
'''Alan Llwyd''' | '''Alan Llwyd''' | ||
Llinell 15: | Llinell 12: | ||
==Llyfryddiaeth== | ==Llyfryddiaeth== | ||
− | Johnston, D. (1995), ''Gwaith Lewys Glyn Cothi'' (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru). | + | Johnston, D. (1995), ''Gwaith Lewys Glyn Cothi'' ([[Caerdydd]]: Gwasg Prifysgol Cymru). |
Llwyd, A. (2007), ''Anghenion y Gynghanedd'' (Llandybïe: Cyhoeddiadau Barddas). | Llwyd, A. (2007), ''Anghenion y Gynghanedd'' (Llandybïe: Cyhoeddiadau Barddas). | ||
Llinell 22: | Llinell 19: | ||
{{CC BY-SA}} | {{CC BY-SA}} | ||
[[Categori:Beirniadaeth a Theori]] | [[Categori:Beirniadaeth a Theori]] | ||
+ | [[Categori:Cerdd Dafod]] |
Y diwygiad cyfredol, am 09:40, 28 Mawrth 2018
Mesur cwpledol fel y cywydd deuair hirion yw’r awdl-gywydd, gyda phob cwpled yn cynnwys dwy linell seithsill, ond, yn wahanol i’r cywydd, gall y llinellau ddiweddu’n acennog neu’n ddiacen. Yn ogystal, y mae diwedd y llinell gyntaf yn odli â gorffwysfa’r ail linell, a diwedd yr ail linell yn cynnal y brifodl. Dyma linellau agoriadol ‘Awdl-gywydd i Ddewi Sant’ gan Lewys Glyn Cothi:
- Mae ’mhwys, mewn crwys, lle croesant,
- ar un sant o’r ynys hon,
- Dewi gâr, lle dug urael,
- Dogwael o Geredigion,
- ac ŵyr ydiw i Geredig
- a drig ymyl dŵr eigion ...
Alan Llwyd
Llyfryddiaeth
Johnston, D. (1995), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
Llwyd, A. (2007), Anghenion y Gynghanedd (Llandybïe: Cyhoeddiadau Barddas).
Morris-Jones, J. (1925), Cerdd Dafod sef Celfyddyd Barddoniaeth Gymraeg (Rhydychen: Gwasg Clarendon).
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.