Cwpled

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Uned fydryddol yw cwpled o ddwy linell gynganeddol seithsill o ran hyd, gydag un llinell yn diweddu’n acennog a’r llall yn ddiacen, neu fel arall, a’r ddwy linell yn odli â’i gilydd. Mesur cwpledol yw’r cywydd deuair hirion, er enghraifft, a chwpled yw paladr englyn, sef dwy linell olaf y mesur, a elwir hefyd yn ‘gwpled clo’. Ni chaniateir rhoi cynghanedd Lusg yn y llinell olaf mewn cwpled o gywydd.

Alan Llwyd

Llyfryddiaeth

Llwyd, A. (2007), Anghenion y Gynghanedd (Llandybïe: Cyhoeddiadau Barddas).

Morris-Jones, J. (1925), Cerdd Dafod sef Celfyddyd Barddoniaeth Gymraeg (Rhydychen: Gwasg Clarendon).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.