Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ffilm"
(Ni ddangosir y 7 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
− | + | Ffilm yw’r cyfrwng a ddatblygodd ar ddiwedd y 19g. oherwydd yr awydd a’r ymdrechion technolegol gan wyddonwyr a dyfeiswyr i weld delweddau llonydd yn symud. Wedi arbrofion cynnar gyda pheiriannau gwylio unigol (Edison), tyfodd y cyfrwng hwn yn ei boblogrwydd a’i ddylanwad wedi i’r brodyr Lumière lwyddo i ddyfeisio’r ''cinématographe'' yn 1895. Peiriant ydoedd a weithredai fel camera ac fel taflunydd gan alluogi cynulleidfa fwy i wylio’r hyn a ffilmiwyd, gan droi gwylio ffilmiau yn brofiad torfol a chyflwyno i ni’r cyfrwng fel yr ydym yn ei adnabod heddiw. | |
− | Ffilm yw’r cyfrwng a ddatblygodd ar ddiwedd y | ||
− | Mae ffilm yn gyfrwng sydd ar yr un pryd yn gelfyddyd ac yn ddiwydiant. Yn gelfyddyd gan ei fod yn ymwneud ag adrodd straeon trwy ddelweddau, ac felly yn gallu bod yr un mor gynnil yn ei fedrusrwydd i storïa | + | Mae ffilm yn gyfrwng sydd ar yr un pryd yn gelfyddyd ac yn ddiwydiant. Yn gelfyddyd gan ei fod yn ymwneud ag adrodd straeon trwy ddelweddau, ac felly yn gallu bod yr un mor gynnil yn ei fedrusrwydd i storïa â ffotograffiaeth a chelf weledol. Yn wir, er bod geiriau, sgript, cerddoriaeth ac effeithiau sain yn rhan annatod o ffilm ers dyfodiad sain i’r cyfrwng yn yr 1920au, mae nifer o sylwebwyr yn mynnu mai grym y ddelwedd i adrodd stori sy’n gwahaniaethu rhwng ffilm a'i chwaer fach y sgrîn deledu. Ond mae diwydiant a masnach yr un mor ddylanwadol ar fyd y ffilm. Oherwydd y caiff arian sylweddol ei wario ar eu cynhyrchu, mae angen i ffilmiau apelio at gynulleidfa, a sicrhau eu bod yn adennill eu costau a gwneud elw. Mae masnach felly yn dylanwadu’n fawr ar y math o straeon sy’n ymddangos ar y sgrîn fawr, ac mae hyn wedi dylanwadu ar y berthynas rhwng ffilm a llenyddiaeth. |
− | Mae’r cysylltiad rhwng ffilm a thestunau ysgrifenedig yn mynd yn ôl i ddyddiau cynnar y cyfrwng, gan i’r arloeswyr y Brodyr Lumière gynhyrchu ffilm fer (ychydig dros ddeng munud mewn hyd) | + | Mae’r cysylltiad rhwng ffilm a thestunau ysgrifenedig yn mynd yn ôl i ddyddiau cynnar y cyfrwng, gan i’r arloeswyr y Brodyr Lumière gynhyrchu ffilm fer (ychydig dros ddeng munud mewn hyd) yn croniclo bywyd yr Iesu o dan y teitl ''La Vie et Passion de Jésus Christ'' (1898). Erbyn 1910au roedd y diwydiant ffilm newydd yn gweld [[addasu]] testunau o’r canon llenyddol fel ffordd o roi parchusrwydd i’r gweithgaredd o fynychu’r sinema, gan geisio diosg ei etifeddiaeth fodfilaidd (''vaudevillian''). Y gobaith oedd apelio at gynulleidfaoedd ehangach, dosbarth canol, a oedd yn chwilio am gelfyddyd ac addysg, nid adloniant yn unig, a thrwy hynny gynhyrchu mwy o elw i’r diwydiant yn ei dro. Yn sgil hyn gwelwyd patrwm o [[addasu]] testunau clasurol llenyddol, dramâu a thestunau llenyddol cyfoes i’r sgrîn. Mae hwn yn batrwm sy’n parhau hyd heddiw, gyda rhai amcangyfrifon bod 80 y cant o’r nofelau sydd wedi ymddangos yn y siart gwerthiant uchaf wedi eu haddasu i’r sgrîn fawr. Mae’r diwydiant ffilm yng Nghymru hefyd wedi troi yn gyson at destunau llenyddol i’w haddasu, er enghraifft ''Un Nos Ola’ Leuad'' (1991) sy’n seiliedig ar y [[nofel]] o’r un enw, ''[[Y Mynydd Grug]]'' (1997) sy’n seiliedig ar ''Te yn y Grug'' Kate Roberts, a’r amryfal addasiadau o’r Mabinogi. |
− | Er bod hanes hir i’r bartneriaeth rhwng ffilm a llenyddiaeth, nid tan y 1970au y dechreuwyd astudio’r berthynas o ddifrif, a hynny yn bennaf gan academyddion o adrannau Saesneg neu Ieithoedd Modern. | + | Er bod hanes hir i’r bartneriaeth rhwng ffilm a llenyddiaeth, nid tan y 1970au y dechreuwyd astudio’r berthynas o ddifrif, a hynny yn bennaf gan academyddion o adrannau Saesneg neu Ieithoedd Modern. Mae nifer o’r astudiaethau cynnar hyn yn canolbwyntio ar gysyniad o ffyddlondeb ffilm i'r darn o lenyddiaeth y'i seiliwyd arno, gan edrych yn benodol ar gyfwerthedd ffilm a llên. Erbyn hyn mae nifer o academyddion yn ystyried bod hwn yn gysyniad cyfyng gan nad yw’n ystyried y lefelau ychwanegol o ystyr a grëir wrth drosglwyddo [[naratif]] o un cyfrwng i un arall. Dadleua’r academyddion hyn bod angen ystyried gwerth y newidiadau rhwng y ddau fersiwn, a sut mae’r elfennau newydd yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o’r gwreiddiol. Er enghraifft, sut mae’r dewis o sêr penodol (eu statws, eu delwedd, eu henw drwg neu dda), a’u dehongliad o gymeriadau yn effeithio ar ein dealltwriaeth o’r [[naratif]]. At hynny, mae angen gwneud astudiaeth testunol o’r ffilm er mwyn ystyried sut mae ffilm yn dehongli iaith ac arddull y gwreiddiol yn ei thechnegau ei hun trwy’r ''mise-en-scène'', y technegau golygu, y sain a’r gerddoriaeth. Dadleua eraill ei bod hi hefyd yn hanfodol trafod dylanwad cyd-destun hanesyddol, gwleidyddol a dylanwadau economaidd ar y penderfyniad i [[addasu]] [[testun]] penodol yn ffilm, ac effaith hynny ar ein dehongliad ni a dehongliad y sgriptiwr a chyfarwyddwr o’r [[testun]]. |
− | Y bwriad gydag astudiaethau o’r | + | Y bwriad gydag astudiaethau o’r fath yw symud oddi wrth y cymhelliad i feirniadu’r ffilm fel fersiwn gwannach o’r [[testun]] gwreiddiol, diosg y myth bod y profiad o wylio’r ffilm yn un llai ymenyddol, a gwrthod y farn bod y dychmygu a'r dehongli wedi ei wneud drostoch gan y cyfarwyddwr, actorion a sgriptwyr. Yr hyn sy’n rhaid cofio yw bod mwy i ffilm na gadael i’r delweddau olchi drostoch chi yn y tywyllwch, a bod angen darllen y ''mise-en-scène'', y golygu, y fframio, yr onglau saethu, y gwisgoedd, y defnydd o gerddoriaeth a sain er mwyn deall yn llawn beth yw’r neges a gyflëir. Yr hyn a geir, mewn gwirionedd gydag addasu testun llenyddol i’r sgrîn, yw adrodd yr un [[naratif]] ond mewn dwy system semioteg wahanol, ac fe all iaith y sgrîn fod yr un mor gynnil â’r gair. |
'''Elain Price''' | '''Elain Price''' | ||
Llinell 14: | Llinell 13: | ||
==Llyfryddiaeth== | ==Llyfryddiaeth== | ||
− | Andrew, D. (1985), ‘Adaptation’ yn Concepts in Film Theory (Oxford: Oxford University Press), tt. 96–106. | + | Andrew, D. (1985), ‘Adaptation’ yn ''Concepts in Film Theory'' (Oxford: Oxford University Press), tt. 96–106. |
− | Berry, D. (1994), Wales & Cinema – The First Hundred Years (Cardiff: University of Wales Press). | + | |
− | Ffrancon , G. (2003), Cyfaredd y Cysgodion – Delweddu Cymru a’i Phobl ar Ffilm, 1935 - 1951 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru) | + | Berry, D. (1994), ''Wales & Cinema – The First Hundred Years'' (Cardiff: University of Wales Press). |
− | Hefin, J. [dim dyddiad], ‘Ffydd yn y Ffrâm’ yn Gruffydd Jones, E. H. (gol.) Ysgrifau ar Ffilm a’r Cyfryngau (Coleg Cymraeg Cenedlaethol), tt. 9–23. | + | |
− | Naremore, J. (gol.) (2000), Film Adaptation (New Brunswick: Rutgers University Press). | + | Ffrancon, G. (2003), ''Cyfaredd y Cysgodion – Delweddu Cymru a’i Phobl ar Ffilm, 1935 - 1951'' (<nowiki>Caerdydd</nowiki>: Gwasg Prifysgol Cymru). |
− | Williams, E. G. (2015), Is-deitla’n Unig (Llandysul: Gwasg Gomer). | + | |
− | Woodward, K. (2013), Cleddyf ym Mrwydr yr Iaith? Y Bwrdd Ffilmiau Cymreig (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru). | + | Hefin, J. [dim dyddiad], ‘Ffydd yn y Ffrâm’ yn Gruffydd Jones, E. H. (gol.) ''Ysgrifau ar Ffilm a’r Cyfryngau'' (Coleg Cymraeg Cenedlaethol), tt. 9–23. |
+ | |||
+ | Naremore, J. (gol.) (2000), ''Film Adaptation'' (New Brunswick: Rutgers University Press). | ||
+ | |||
+ | Williams, E. G. (2015), ''Is-deitla’n Unig'' (Llandysul: Gwasg Gomer). | ||
+ | |||
+ | Woodward, K. (2013), ''Cleddyf ym Mrwydr yr Iaith? Y Bwrdd Ffilmiau Cymreig'' ([[Caerdydd]]: Gwasg Prifysgol Cymru). | ||
+ | {{CC BY-SA}} | ||
+ | [[Categori:Beirniadaeth a Theori]] |
Y diwygiad cyfredol, am 09:48, 4 Ebrill 2018
Ffilm yw’r cyfrwng a ddatblygodd ar ddiwedd y 19g. oherwydd yr awydd a’r ymdrechion technolegol gan wyddonwyr a dyfeiswyr i weld delweddau llonydd yn symud. Wedi arbrofion cynnar gyda pheiriannau gwylio unigol (Edison), tyfodd y cyfrwng hwn yn ei boblogrwydd a’i ddylanwad wedi i’r brodyr Lumière lwyddo i ddyfeisio’r cinématographe yn 1895. Peiriant ydoedd a weithredai fel camera ac fel taflunydd gan alluogi cynulleidfa fwy i wylio’r hyn a ffilmiwyd, gan droi gwylio ffilmiau yn brofiad torfol a chyflwyno i ni’r cyfrwng fel yr ydym yn ei adnabod heddiw.
Mae ffilm yn gyfrwng sydd ar yr un pryd yn gelfyddyd ac yn ddiwydiant. Yn gelfyddyd gan ei fod yn ymwneud ag adrodd straeon trwy ddelweddau, ac felly yn gallu bod yr un mor gynnil yn ei fedrusrwydd i storïa â ffotograffiaeth a chelf weledol. Yn wir, er bod geiriau, sgript, cerddoriaeth ac effeithiau sain yn rhan annatod o ffilm ers dyfodiad sain i’r cyfrwng yn yr 1920au, mae nifer o sylwebwyr yn mynnu mai grym y ddelwedd i adrodd stori sy’n gwahaniaethu rhwng ffilm a'i chwaer fach y sgrîn deledu. Ond mae diwydiant a masnach yr un mor ddylanwadol ar fyd y ffilm. Oherwydd y caiff arian sylweddol ei wario ar eu cynhyrchu, mae angen i ffilmiau apelio at gynulleidfa, a sicrhau eu bod yn adennill eu costau a gwneud elw. Mae masnach felly yn dylanwadu’n fawr ar y math o straeon sy’n ymddangos ar y sgrîn fawr, ac mae hyn wedi dylanwadu ar y berthynas rhwng ffilm a llenyddiaeth.
Mae’r cysylltiad rhwng ffilm a thestunau ysgrifenedig yn mynd yn ôl i ddyddiau cynnar y cyfrwng, gan i’r arloeswyr y Brodyr Lumière gynhyrchu ffilm fer (ychydig dros ddeng munud mewn hyd) yn croniclo bywyd yr Iesu o dan y teitl La Vie et Passion de Jésus Christ (1898). Erbyn 1910au roedd y diwydiant ffilm newydd yn gweld addasu testunau o’r canon llenyddol fel ffordd o roi parchusrwydd i’r gweithgaredd o fynychu’r sinema, gan geisio diosg ei etifeddiaeth fodfilaidd (vaudevillian). Y gobaith oedd apelio at gynulleidfaoedd ehangach, dosbarth canol, a oedd yn chwilio am gelfyddyd ac addysg, nid adloniant yn unig, a thrwy hynny gynhyrchu mwy o elw i’r diwydiant yn ei dro. Yn sgil hyn gwelwyd patrwm o addasu testunau clasurol llenyddol, dramâu a thestunau llenyddol cyfoes i’r sgrîn. Mae hwn yn batrwm sy’n parhau hyd heddiw, gyda rhai amcangyfrifon bod 80 y cant o’r nofelau sydd wedi ymddangos yn y siart gwerthiant uchaf wedi eu haddasu i’r sgrîn fawr. Mae’r diwydiant ffilm yng Nghymru hefyd wedi troi yn gyson at destunau llenyddol i’w haddasu, er enghraifft Un Nos Ola’ Leuad (1991) sy’n seiliedig ar y nofel o’r un enw, Y Mynydd Grug (1997) sy’n seiliedig ar Te yn y Grug Kate Roberts, a’r amryfal addasiadau o’r Mabinogi.
Er bod hanes hir i’r bartneriaeth rhwng ffilm a llenyddiaeth, nid tan y 1970au y dechreuwyd astudio’r berthynas o ddifrif, a hynny yn bennaf gan academyddion o adrannau Saesneg neu Ieithoedd Modern. Mae nifer o’r astudiaethau cynnar hyn yn canolbwyntio ar gysyniad o ffyddlondeb ffilm i'r darn o lenyddiaeth y'i seiliwyd arno, gan edrych yn benodol ar gyfwerthedd ffilm a llên. Erbyn hyn mae nifer o academyddion yn ystyried bod hwn yn gysyniad cyfyng gan nad yw’n ystyried y lefelau ychwanegol o ystyr a grëir wrth drosglwyddo naratif o un cyfrwng i un arall. Dadleua’r academyddion hyn bod angen ystyried gwerth y newidiadau rhwng y ddau fersiwn, a sut mae’r elfennau newydd yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o’r gwreiddiol. Er enghraifft, sut mae’r dewis o sêr penodol (eu statws, eu delwedd, eu henw drwg neu dda), a’u dehongliad o gymeriadau yn effeithio ar ein dealltwriaeth o’r naratif. At hynny, mae angen gwneud astudiaeth testunol o’r ffilm er mwyn ystyried sut mae ffilm yn dehongli iaith ac arddull y gwreiddiol yn ei thechnegau ei hun trwy’r mise-en-scène, y technegau golygu, y sain a’r gerddoriaeth. Dadleua eraill ei bod hi hefyd yn hanfodol trafod dylanwad cyd-destun hanesyddol, gwleidyddol a dylanwadau economaidd ar y penderfyniad i addasu testun penodol yn ffilm, ac effaith hynny ar ein dehongliad ni a dehongliad y sgriptiwr a chyfarwyddwr o’r testun.
Y bwriad gydag astudiaethau o’r fath yw symud oddi wrth y cymhelliad i feirniadu’r ffilm fel fersiwn gwannach o’r testun gwreiddiol, diosg y myth bod y profiad o wylio’r ffilm yn un llai ymenyddol, a gwrthod y farn bod y dychmygu a'r dehongli wedi ei wneud drostoch gan y cyfarwyddwr, actorion a sgriptwyr. Yr hyn sy’n rhaid cofio yw bod mwy i ffilm na gadael i’r delweddau olchi drostoch chi yn y tywyllwch, a bod angen darllen y mise-en-scène, y golygu, y fframio, yr onglau saethu, y gwisgoedd, y defnydd o gerddoriaeth a sain er mwyn deall yn llawn beth yw’r neges a gyflëir. Yr hyn a geir, mewn gwirionedd gydag addasu testun llenyddol i’r sgrîn, yw adrodd yr un naratif ond mewn dwy system semioteg wahanol, ac fe all iaith y sgrîn fod yr un mor gynnil â’r gair.
Elain Price
Llyfryddiaeth
Andrew, D. (1985), ‘Adaptation’ yn Concepts in Film Theory (Oxford: Oxford University Press), tt. 96–106.
Berry, D. (1994), Wales & Cinema – The First Hundred Years (Cardiff: University of Wales Press).
Ffrancon, G. (2003), Cyfaredd y Cysgodion – Delweddu Cymru a’i Phobl ar Ffilm, 1935 - 1951 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
Hefin, J. [dim dyddiad], ‘Ffydd yn y Ffrâm’ yn Gruffydd Jones, E. H. (gol.) Ysgrifau ar Ffilm a’r Cyfryngau (Coleg Cymraeg Cenedlaethol), tt. 9–23.
Naremore, J. (gol.) (2000), Film Adaptation (New Brunswick: Rutgers University Press).
Williams, E. G. (2015), Is-deitla’n Unig (Llandysul: Gwasg Gomer).
Woodward, K. (2013), Cleddyf ym Mrwydr yr Iaith? Y Bwrdd Ffilmiau Cymreig (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.