Naratif
Mae’r term ‘naratif’ yn disgrifio adroddiad sy’n cyflwyno digwyddiad a all fod naill ai’n syml neu’n gymhleth. Gall yr adroddiad hwnnw fod wedi’i gyfleu naill ai’n ysgrifenedig neu’n llafar, trwy gyfrwng iaith neu yn weledol. Er hynny, ymddengys ei fod ynghlwm wrth natur iaith ei hun. Mae unrhyw ddatganiad ieithyddol sy’n cynnwys goddrych a gweithred ferfol yn medru gweithredu fel naratif ‒ e.e. ‘Cwympais i ddoe’ ‒ oherwydd y mae’n adrodd am ddigwyddiad. Byddai statws y cyfryw fynegiant yn dibynnu ar ei gyd-destun ieithyddol a chymdeithasol. Gall weithredu, felly, fel brawddeg agoriadol mewn adroddiad, neu fel rhan o ddigwyddiad cymdeithasol, rhyngweithiol.
Mae naratif yn hollbresennol yn niwylliannau’r byd ac ym mhob agwedd o’n bywydau beunyddiol. Oherwydd hynny y mae sawl beirniad wedi awgrymu bod a wnelo naratif â’n hymdrechion i drefnu ein profiad ar y lefel mwyaf sylfaenol. Yn ddiau, oherwydd ei fod yn ei hanfod yn ymwneud â dilyniant, y mae naratif yn cynnig modd i ni ddod i delerau â’n profiad mewnol. Ar yr un pryd, oherwydd bod i bob digwyddiad ddimensiwn gofodol, y mae naratif yn cynnig cyfle i archwilio’r profiad o’r berthynas rhwng elfennau mewnol ac allanol ein bywyd.
Ystyrir yn gyffredinol fod dwy elfen mewn naratif, sef y deunydd storïol a’r disgwrs. Er ein bod ni’n siarad am stori fel petai’n gallu bod annibynnol ar y cyfrwng y’i mynegir drwyddo ‒ gall plentyn ofyn, ‘Dwed y stori am y ci, Gelert’. Gwyddwn nad yw’r ‘stori’ honno i’w chael gennym heblaw am atgof am adroddiad neilltuol ohoni. Er hynny, y mae beirniaid yn arfer cymharu straeon gwahanol, ac y maent yn gwahaniaethu rhyngddynt yn ôl natur y digwyddiadau a gofnodir ynddynt a swyddogaeth asiantau neu gymeriadau gwahanol. O ystyried y disgwrs ar wahân i’r deunydd storïol, ceir llawer o gynigion i bennu’r elfennau a ddefnyddir i lywio ystyr yr adroddiad. Mewn perthynas â naratif celfyddydol, er enghraifft, bydd beirniaid yn trafod safbwynt yr adroddwr a’i berthynas â’r digwyddiad, yr arddull neu gywair ieithyddol y testun, cyflymder yr adroddiad a’r pwyslais a roddir ar y gwahanol elfennau. O ran naratif gweledol, fel ffilm, byddant yn trafod ffactorau fel y berthynas rhwng hyd a lled y siotiau a ddefnyddir a’r cydbwysedd rhyngddynt ac ansawdd y goleuo.
Ioan Williams
Llyfryddiaeth
Abbot, H. P. (2002), Cambridge Introduction to Narrative (Cambridge: Cambridge University Press).
Cobley, P. (2001), Narrative (London: Routledge).
Phelan, J. (2007), Cambridge Companion to Narrative (Cambridge: Cambridge University Press).
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.