Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cywydd"
(→Llyfryddiaeth) |
|||
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
− | + | Mesur cypledol odledig yw’r cywydd deuair hirion, a rhoi iddo ei enw’n llawn, sy’n un o bedwar mesur ar hugain Cerdd Dafod. Ymddangosodd ar glawr gyntaf yn y gramadeg barddol a briodolir i Einion Offeiriad yn gynnar yn y 14g. Ffurf gyntefig arno a geid yno, ond yng ngwaith y Cywyddwyr cynnar ‒ [[Dafydd]] ap Gwilym (''fl.'' 1330‒50), Iolo Goch (''fl.'' 1345‒97), Llywelyn Goch Amheurig Hen (''fl.'' 1350‒90) ac eraill ‒ fe’i cywreiniwyd drwy gynganeddu pob llinell a pheri bod diwedd naill fraich y [[cwpled]] yn diweddu’n acennog a’r llall yn ddiacen. Gan mai mesur yn cynnwys cwpledi odledig o linellau saith sillaf ydyw, bernir ei fod yn seiliedig ar fesur cynharach y traethodl. Mesur syml digynghanedd oedd hwnnw a ddefnyddid yn bennaf gan y beirdd isradd, y glêr. | |
− | Y cywyddau cynharaf sy’n debyg o fod ar glawr yw’r rhai a ganodd Dafydd ap Gwilym i Ifor Hael o Fasaleg. Er na ellir dweud i sicrwydd mai Dafydd oedd prif bensaer mesur y cywydd, gellir dweud iddo wneud llawer i’w boblogeiddio gan sicrhau ei fod yn dod yn gyfrwng derbyniol gan y penceirddiaid. Os Dafydd ap Gwilym a arloesodd gyda’r cywydd serch, Iolo Goch a fabwysiadodd y mesur ar gyfer y canu mawl a marwnad urddasol a ffurfiol yn nhraddodiad yr awdl. | + | Y cywyddau cynharaf sy’n debyg o fod ar glawr yw’r rhai a ganodd Dafydd ap Gwilym i Ifor Hael o Fasaleg. Er na ellir dweud i sicrwydd mai Dafydd oedd prif bensaer mesur y cywydd, gellir dweud iddo wneud llawer i’w boblogeiddio gan sicrhau ei fod yn dod yn gyfrwng derbyniol gan y penceirddiaid. Os Dafydd ap Gwilym a arloesodd gyda’r cywydd serch, Iolo Goch a fabwysiadodd y mesur ar gyfer y canu [[mawl]] a [[marwnad]] urddasol a ffurfiol yn nhraddodiad yr [[awdl]]. |
Roedd a wnelo chwaeth noddwyr barddoniaeth y 14g. lawer â’r derbyniad a gafodd y cywydd. Oherwydd iddo ennill ei blwyf fel ag y gwnaeth, mae’n rhaid fod iddo gryn apêl ymhlith y noddwyr. Diau eu bod hwy yn mwynhau’r elfen o hiwmor a’r defnydd o ymddiddan ffraeth a geid yng nghywyddau serch y cyfnod. | Roedd a wnelo chwaeth noddwyr barddoniaeth y 14g. lawer â’r derbyniad a gafodd y cywydd. Oherwydd iddo ennill ei blwyf fel ag y gwnaeth, mae’n rhaid fod iddo gryn apêl ymhlith y noddwyr. Diau eu bod hwy yn mwynhau’r elfen o hiwmor a’r defnydd o ymddiddan ffraeth a geid yng nghywyddau serch y cyfnod. | ||
Llinell 33: | Llinell 33: | ||
Huws, B.O. a Lake, A.C. (goln) (2016), ''Genres y Cywydd'' (Tal-y-bont). | Huws, B.O. a Lake, A.C. (goln) (2016), ''Genres y Cywydd'' (Tal-y-bont). | ||
− | Jones, T.G. (gol.) (1926), ''Gwaith Tudur Aled'', I (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), XXXI.21‒2. | + | Jones, T.G. (gol.) (1926), ''Gwaith Tudur Aled'', I ([[Caerdydd]]: Gwasg Prifysgol Cymru), XXXI.21‒2. |
Johnston, D. (2005), ''Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300‒1525'' (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), tt. 90‒108. | Johnston, D. (2005), ''Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300‒1525'' (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), tt. 90‒108. | ||
Llinell 44: | Llinell 44: | ||
{{CC BY-SA}} | {{CC BY-SA}} | ||
[[Categori:Beirniadaeth a Theori]] | [[Categori:Beirniadaeth a Theori]] | ||
+ | [[Categori:Cerdd Dafod]] |
Y diwygiad cyfredol, am 09:42, 28 Mawrth 2018
Mesur cypledol odledig yw’r cywydd deuair hirion, a rhoi iddo ei enw’n llawn, sy’n un o bedwar mesur ar hugain Cerdd Dafod. Ymddangosodd ar glawr gyntaf yn y gramadeg barddol a briodolir i Einion Offeiriad yn gynnar yn y 14g. Ffurf gyntefig arno a geid yno, ond yng ngwaith y Cywyddwyr cynnar ‒ Dafydd ap Gwilym (fl. 1330‒50), Iolo Goch (fl. 1345‒97), Llywelyn Goch Amheurig Hen (fl. 1350‒90) ac eraill ‒ fe’i cywreiniwyd drwy gynganeddu pob llinell a pheri bod diwedd naill fraich y cwpled yn diweddu’n acennog a’r llall yn ddiacen. Gan mai mesur yn cynnwys cwpledi odledig o linellau saith sillaf ydyw, bernir ei fod yn seiliedig ar fesur cynharach y traethodl. Mesur syml digynghanedd oedd hwnnw a ddefnyddid yn bennaf gan y beirdd isradd, y glêr.
Y cywyddau cynharaf sy’n debyg o fod ar glawr yw’r rhai a ganodd Dafydd ap Gwilym i Ifor Hael o Fasaleg. Er na ellir dweud i sicrwydd mai Dafydd oedd prif bensaer mesur y cywydd, gellir dweud iddo wneud llawer i’w boblogeiddio gan sicrhau ei fod yn dod yn gyfrwng derbyniol gan y penceirddiaid. Os Dafydd ap Gwilym a arloesodd gyda’r cywydd serch, Iolo Goch a fabwysiadodd y mesur ar gyfer y canu mawl a marwnad urddasol a ffurfiol yn nhraddodiad yr awdl.
Roedd a wnelo chwaeth noddwyr barddoniaeth y 14g. lawer â’r derbyniad a gafodd y cywydd. Oherwydd iddo ennill ei blwyf fel ag y gwnaeth, mae’n rhaid fod iddo gryn apêl ymhlith y noddwyr. Diau eu bod hwy yn mwynhau’r elfen o hiwmor a’r defnydd o ymddiddan ffraeth a geid yng nghywyddau serch y cyfnod.
Dwy nodwedd ar grefft y cywydd yn y 14g. oedd cymeriad llythrennol, lle’r oedd geiriau dechreuol y llinellau yn cychwyn â’r un gytsain, a chymeriad cynganeddol, lle’r oedd gair ar ddechrau un llinell yn cynganeddu â’r gair ar ddechrau’r llinell ddilynol. Nodwedd amlwg arall ar arddull cywyddau’r 14g. oedd y defnydd o dorymadroddi, lle’r oedd brawddeg yn ymestyn dros nifer o linellau ac yn cynnwys sangiadau. Gwelir yr arddull hon ar ei gorau yng nghywyddau Dafydd ap Gwilym, a cheir enghraifft o dorymadroddi bwriadus yn y dyfyniad hwn o’i gywydd ‘Trafferth mewn Tafarn’, lle mae modd dilyn rhediad y ddwy frawddeg mewn print italig isod:
- Briwais, ni neidiais yn iach,
- Y grimog, a gwae’r omach,
- Wrth ystlys, ar waith ostler,
- Ystôl groch ffôl, goruwch ffêr.
- Trewais, drwg fydd tra awydd,
- Lle y’m rhoed, heb un llam rhwydd,
- Mynych dwyll amwyll ymwrdd,
- Fy nhalcen uwchben y bwrdd.
Ceid cyfartaledd uchel o gynganeddion sain yng nghywyddau’r 14g., ond erbyn y ganrif ddilynol ceid mwy o gynganeddion cytseiniol, sef y draws a’r groes. Datblygodd y cwpled yn fwy o uned gyflawn a chywasgedig yng nghywyddau’r 15g. hefyd, gan roi’r cyfle i’r beirdd lunio cwpledi epigramatig. Yr oedd gan Dudur Aled (c.1465‒1525x7), er enghraifft, ddawn i lunio cwpledi bachog a chofiadwy tebyg i hwn:
- Ysbys y dengys pob dyn
- O ba radd y bo’i wreiddyn.
Y cywyddau mawl a marwnad oedd y rhai mwyaf niferus o ddigon, ond ceid amryw o genres eraill yng nghyfnod y Cywyddwyr, gan gynnwys y cywyddau serch, gofyn a diolch, dychan, ymryson, brud neu ddarogan, crefyddol, maswedd, cymod ac iacháu.
Mae’r mesur yn fyw ac yn iach heddiw, ac fe’i defnyddir yn fedrus gan nifer o’n beirdd cyfoes i ganu ar bob math o bynciau.
Bleddyn Owen Huws
Llyfryddiaeth
Evans, D. (gol.) (1980), Y Flodeugerdd o Gywyddau (Abertawe: Gwasg Christopher Davies).
Huws, B.O. a Lake, A.C. (goln) (2016), Genres y Cywydd (Tal-y-bont).
Jones, T.G. (gol.) (1926), Gwaith Tudur Aled, I (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), XXXI.21‒2.
Johnston, D. (2005), Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300‒1525 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), tt. 90‒108.
Johnston, D. et al. (goln) (2010), Cerddi Dafydd ap Gwilym (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), 73.31‒8.
Morris-Jones, J. (1980), Cerdd Dafod (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), tt. 328‒9.
Rowlands, E. I. (1963), ‘Nodiadau ar y traddodiad moliant a’r cywydd’, Llên Cymru, 7, 217‒43.
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.