Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Aporia"
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ Cyflwr o benbleth neu syfrdandod a olygir gan y eerm hon yn yr hen Roeg. Dyma’r cyflwr a fyddai Socrates yn ceisio ei ennyn yn y sawl y...') |
(→Llyfryddiaeth) |
||
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
__NOAUTOLINKS__ | __NOAUTOLINKS__ | ||
− | Cyflwr o benbleth neu syfrdandod a olygir gan y | + | Cyflwr o benbleth neu syfrdandod a olygir gan y term hwn yn yr hen Roeg. Dyma’r cyflwr a fyddai Socrates yn ceisio ei ennyn yn y sawl yr oedd yn ei groesholi, gan ddatgelu i’r gwrandawyr y diffyg yn eu gwybodaeth o’r byd a’r camsyniadau oedd yn sail i’w rhagdybiaethau. Ac eto, cynnig cymorth oedd ei fwriad yn y pen draw, trwy annog myfyrio ac ymgais o’r newydd i bwyso a mesur a cheisio darganfod gwirionedd dyfnach. |
Mewn llenyddiaeth defnyddir ‘aporia’ fel techneg neu ffigur ymadrodd gan awdur. Mae’r bwriad yn un tebyg, sef cyflwyno gwrthddywediad neu fynegiant o ansicrwydd. Yn aml gwneir hyn er mwyn ennyn cydymdeimlad gan y gynulleidfa, wrth i’r cymeriad ymgodymu gyda’i ddryswch. | Mewn llenyddiaeth defnyddir ‘aporia’ fel techneg neu ffigur ymadrodd gan awdur. Mae’r bwriad yn un tebyg, sef cyflwyno gwrthddywediad neu fynegiant o ansicrwydd. Yn aml gwneir hyn er mwyn ennyn cydymdeimlad gan y gynulleidfa, wrth i’r cymeriad ymgodymu gyda’i ddryswch. | ||
− | Yn nhriniaeth Jaques Derrida o aporia ceir honiad ynghylch dryswch sydd wrth galon nifer o weithredoedd beunyddiol. Coleddir agwedd ‘ddadadeiladol’ gan Derrida sydd yn ceisio dadlennu gwedd ar destun neu wrthrych nas adnabyddid yn gynt, ac mae’r cysyniad o aporia yn ganolog i’w ymdrech i ddatgelu natur baradocsaidd cysyniadau adnabyddus, megis ‘y rhodd’ a ‘lletygarwch’ | + | Yn nhriniaeth Jaques Derrida o aporia ceir honiad ynghylch dryswch sydd wrth galon nifer o weithredoedd beunyddiol. Coleddir agwedd ‘ddadadeiladol’ gan Derrida sydd yn ceisio dadlennu gwedd ar destun neu wrthrych nas adnabyddid yn gynt, ac mae’r cysyniad o aporia yn ganolog i’w ymdrech i ddatgelu natur baradocsaidd cysyniadau adnabyddus, megis ‘y rhodd’ a ‘lletygarwch’ ymhlith eraill. Sut mae’n bosib cynnig a derbyn rhodd go-iawn, er enghraifft, heb danseilio’r diffyg anhunanoldeb a diolchgarwch sydd i fod yn ganolog i’r weithred? Er mwyn gwarchod yn erbyn hyn, byddai’n gofyn ''rhoi'' a ''derbyn'' anhysbys, sydd ynddo’i hunan yn ei wneud yn ddiwerth. Eto, er amhosibilrwydd y cysyniad o rodd pur, ni ddylid ildio yn ôl Derrida i’r agwedd na ddylid ymgeisio at y ddelfryd. |
'''Huw Williams''' | '''Huw Williams''' | ||
Llinell 11: | Llinell 11: | ||
Derrida, J. (2000), 'Hostipitality', ''Angelaki: Journal of the Theoretical Humanities'', 5/3, 3-18. | Derrida, J. (2000), 'Hostipitality', ''Angelaki: Journal of the Theoretical Humanities'', 5/3, 3-18. | ||
+ | |||
+ | Gealy, W. (2009), ‘Socrates’ yn Daniel, J. a Gealy, W. (goln), ''Hanes Athroniaeth y Gorllewin'' (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), tt.18-37. | ||
{{CC BY-SA}} | {{CC BY-SA}} | ||
− | [[Categori:Beirniadaeth a Theori | + | [[Categori:Beirniadaeth a Theori]] |
Y diwygiad cyfredol, am 13:49, 24 Rhagfyr 2016
Cyflwr o benbleth neu syfrdandod a olygir gan y term hwn yn yr hen Roeg. Dyma’r cyflwr a fyddai Socrates yn ceisio ei ennyn yn y sawl yr oedd yn ei groesholi, gan ddatgelu i’r gwrandawyr y diffyg yn eu gwybodaeth o’r byd a’r camsyniadau oedd yn sail i’w rhagdybiaethau. Ac eto, cynnig cymorth oedd ei fwriad yn y pen draw, trwy annog myfyrio ac ymgais o’r newydd i bwyso a mesur a cheisio darganfod gwirionedd dyfnach.
Mewn llenyddiaeth defnyddir ‘aporia’ fel techneg neu ffigur ymadrodd gan awdur. Mae’r bwriad yn un tebyg, sef cyflwyno gwrthddywediad neu fynegiant o ansicrwydd. Yn aml gwneir hyn er mwyn ennyn cydymdeimlad gan y gynulleidfa, wrth i’r cymeriad ymgodymu gyda’i ddryswch.
Yn nhriniaeth Jaques Derrida o aporia ceir honiad ynghylch dryswch sydd wrth galon nifer o weithredoedd beunyddiol. Coleddir agwedd ‘ddadadeiladol’ gan Derrida sydd yn ceisio dadlennu gwedd ar destun neu wrthrych nas adnabyddid yn gynt, ac mae’r cysyniad o aporia yn ganolog i’w ymdrech i ddatgelu natur baradocsaidd cysyniadau adnabyddus, megis ‘y rhodd’ a ‘lletygarwch’ ymhlith eraill. Sut mae’n bosib cynnig a derbyn rhodd go-iawn, er enghraifft, heb danseilio’r diffyg anhunanoldeb a diolchgarwch sydd i fod yn ganolog i’r weithred? Er mwyn gwarchod yn erbyn hyn, byddai’n gofyn rhoi a derbyn anhysbys, sydd ynddo’i hunan yn ei wneud yn ddiwerth. Eto, er amhosibilrwydd y cysyniad o rodd pur, ni ddylid ildio yn ôl Derrida i’r agwedd na ddylid ymgeisio at y ddelfryd.
Huw Williams
Llyfryddiaeth
Derrida, J. (2000), 'Hostipitality', Angelaki: Journal of the Theoretical Humanities, 5/3, 3-18.
Gealy, W. (2009), ‘Socrates’ yn Daniel, J. a Gealy, W. (goln), Hanes Athroniaeth y Gorllewin (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), tt.18-37.
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.