Aporia

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Cyflwr o benbleth neu syfrdandod a olygir gan y term hwn yn yr hen Roeg. Dyma’r cyflwr a fyddai Socrates yn ceisio ei ennyn yn y sawl yr oedd yn ei groesholi, gan ddatgelu i’r gwrandawyr y diffyg yn eu gwybodaeth o’r byd a’r camsyniadau oedd yn sail i’w rhagdybiaethau. Ac eto, cynnig cymorth oedd ei fwriad yn y pen draw, trwy annog myfyrio ac ymgais o’r newydd i bwyso a mesur a cheisio darganfod gwirionedd dyfnach.

Mewn llenyddiaeth defnyddir ‘aporia’ fel techneg neu ffigur ymadrodd gan awdur. Mae’r bwriad yn un tebyg, sef cyflwyno gwrthddywediad neu fynegiant o ansicrwydd. Yn aml gwneir hyn er mwyn ennyn cydymdeimlad gan y gynulleidfa, wrth i’r cymeriad ymgodymu gyda’i ddryswch.

Yn nhriniaeth Jaques Derrida o aporia ceir honiad ynghylch dryswch sydd wrth galon nifer o weithredoedd beunyddiol. Coleddir agwedd ‘ddadadeiladol’ gan Derrida sydd yn ceisio dadlennu gwedd ar destun neu wrthrych nas adnabyddid yn gynt, ac mae’r cysyniad o aporia yn ganolog i’w ymdrech i ddatgelu natur baradocsaidd cysyniadau adnabyddus, megis ‘y rhodd’ a ‘lletygarwch’ ymhlith eraill. Sut mae’n bosib cynnig a derbyn rhodd go-iawn, er enghraifft, heb danseilio’r diffyg anhunanoldeb a diolchgarwch sydd i fod yn ganolog i’r weithred? Er mwyn gwarchod yn erbyn hyn, byddai’n gofyn rhoi a derbyn anhysbys, sydd ynddo’i hunan yn ei wneud yn ddiwerth. Eto, er amhosibilrwydd y cysyniad o rodd pur, ni ddylid ildio yn ôl Derrida i’r agwedd na ddylid ymgeisio at y ddelfryd.

Huw Williams

Llyfryddiaeth

Derrida, J. (2000), 'Hostipitality', Angelaki: Journal of the Theoretical Humanities, 5/3, 3-18.

Gealy, W. (2009), ‘Socrates’ yn Daniel, J. a Gealy, W. (goln), Hanes Athroniaeth y Gorllewin (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), tt.18-37.


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.