Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hogia Llandegai"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Llyfryddiaeth)
 
(Ni ddangosir y 6 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
 
__NOAUTOLINKS__
 
__NOAUTOLINKS__
Grŵp canu harmoni clos a sefydlwyd yng nghyfnod y sgiffl yn y 1950au ac a fu’n perfformio am dros ddeugain mlynedd.
+
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Tyfodd yr Hogia allan o’r wythawd Criw Sgiffl Llandegai a sefydlwyd yn 1957 ac a gynhwysai Neville [Nev] Hughes (gitâr a llais, cyflwynydd), Ronald Wyn [Ron] Williams (prif leisydd) ac Owen Glyn [Now] Jones (organ geg a llais). Ymunodd Roy Astley (gitâr a llais) yn ddiweddarach cyn i’r pedwarawd ddechrau recordio caneuon o dan yr enw Hogia Llandegai yn ystod y 1960au.
+
Grŵp canu harmoni clos a sefydlwyd yng nghyfnod y sgiffl yn yr 1950au ac a fu’n perfformio am dros ddeugain mlynedd.
 +
 
 +
Tyfodd yr Hogia allan o’r wythawd Criw Sgiffl Llandegai a sefydlwyd yn 1957 ac a gynhwysai Neville [Nev] Hughes (gitâr a llais, cyflwynydd), Ronald Wyn [Ron] Williams (prif leisydd) ac Owen Glyn [Now] Jones (organ geg a llais). Ymunodd Roy Astley (gitâr a llais) yn ddiweddarach cyn i’r pedwarawd ddechrau recordio caneuon o dan yr enw Hogia Llandegai yn ystod yr 1960au.
  
Fel y Bois a’r Hogia eraill, roedd Hogia Llandegai yn dilyn traddodiad hir y Noson Lawen, gan ymhyfrydu mewn hiwmor a chyflwyno cymysgedd o gymeriadau lliwgar a geiriau cartrefol. Dechreuodd yr aelodau gydganu yng Nghôr Talgau. Gan fod y côr eisiau cynnig adloniant mwy amrywiol, penderfynodd wyth ohonynt brynu offerynnau rhad er mwyn perfformio caneuon sgiffl (a oedd yn boblogaidd ym Mhrydain ar y pryd): cist de, pren golchi ac organau ceg. Yn ogystal â’u perfformiadau gyda Chôr Talgau roeddynt hefyd yn derbyn gwahoddiadau i berfformio fel grŵp ar wahân gan ddechrau ym mis Ebrill 1957.
 
Gan nad oeddynt yn gerddorion wedi’u hyfforddi’n ffurfiol, roeddynt yn dra dibynnol ar ganeuon gwerin Cymreig, a hefyd ar ganeuon Saesneg heb eu cyfieithu, er enghraifft caneuon poblogaidd Lonnie Donnegan fel ‘My Old Man’s a Dustman’. Ar y cychwyn, byddent yn teithio ar fysiau cyhoeddus i’w cyngherddau gan gario’u hofferynnau ar eu cefnau. (Nid oedd y gydnabyddiaeth ariannol a gaent ond prin ddigon i dalu am y tocynnau bws.) Roedd i sgetsys le canolog yn eu perfformiadau, a bywiogid y cyfan gan allu Now fel chwibanwr a dynwaredwr synau anifeiliaid. Roedd yr un nodweddion i’w cael yn eu perfformiadau teledu a daeth llwyddiant mawr i ran Criw Sgiffl Llandegai rhwng 1957–64.
+
Gan nad oeddynt yn gerddorion wedi’u hyfforddi’n ffurfiol, roeddynt yn dra dibynnol ar ganeuon gwerin Cymraeg, a hefyd ar ganeuon Saesneg heb eu cyfieithu, er enghraifft caneuon poblogaidd Lonnie Donegan fel ‘My Old Man’s a Dustman’. Ar y cychwyn, byddent yn teithio ar fysiau cyhoeddus i’w cyngherddau gan gario’u hofferynnau ar eu cefnau. (Nid oedd y gydnabyddiaeth ariannol a gaent ond prin ddigon i dalu am y tocynnau bws.) Roedd i sgetsys le canolog yn eu perfformiadau, a bywiogid y cyfan gan allu Now fel chwibanwr a dynwaredwr synau anifeiliaid. Roedd yr un nodweddion i’w cael yn eu perfformiadau teledu a daeth llwyddiant mawr i ran Criw Sgiffl Llandegai rhwng 1957 ac 1964.
  
Roedd cyfnod sgiffl wedi hen ddod i ben ym Mhrydain erbyn 1964 gyda cherddoriaeth beat y Beatles a’r Rolling Stones yn prysur feddiannu’r tonfeddi radio. Roedd Criw Sgiffl Llandegai yn ymwybodol o’r newidiadau hyn a theimlent mai priodol oedd dwyn y criw i ben ar ôl cyfnod hir o lwyddiant. Wedi rhai misoedd, daeth pedwar o’r Criw Sgiffl ynghyd unwaith eto ar gyfer ymddangosiad ar y rhaglen deledu ''Hob y Deri Dando'', ac fel Hogia Llandegai bu iddynt barhau i berfformio o 1965–73. Yn ystod y cyfnod hwn y recordiwyd eu holl senglau.
+
Roedd cyfnod sgiffl wedi hen ddod i ben ym Mhrydain erbyn 1964 gyda cherddoriaeth ''beat'' y Beatles a’r Rolling Stones yn prysur feddiannu’r tonfeddi radio. Roedd Criw Sgiffl Llandegai yn ymwybodol o’r newidiadau hyn a theimlent mai priodol oedd dwyn y criw i ben ar ôl cyfnod hir o lwyddiant. Wedi rhai misoedd, daeth pedwar o’r Criw Sgiffl ynghyd unwaith eto ar gyfer ymddangosiad ar y rhaglen deledu ''Hob y Deri Dando'', ac fel Hogia Llandegai bu iddynt barhau i berfformio o 1965–73. Yn ystod y cyfnod hwn y recordiwyd eu holl senglau.
  
Yn 1971 dathlodd Hogia Llandegai eu milfed cyngerdd ym Mhlaza Bangor. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, yn Rhagfyr 1973, perfformiwyd eu cyngerdd olaf yn yr un man. Ond, rhyw bum mlynedd wedi hynny, cawsant wahoddiad gan I. B. Griffith i ymddangos yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caernarfon yn 1979 ac fe arweiniodd y cyngerdd hwnnw at gyfnod pellach o berfformio. O neuaddau bach y gogledd i stiwdios teledu Caerdydd ac i Bafiliwn Pontrhydfendigaid, cyfrannodd Criw Sgiffl a Hogia Llandegai at gyfnod pwysig yn natblygiad canu pop Cymraeg, ac yn ôl adolygiad yn y ''Rhyl and Prestatyn Gazette'' yn 1969, roedd caneuon megis ‘Defaid William Morgan’ yn cyfleu ‘hiwmor y Cymro gwledig ar ei orau’ (Wyn 2002, 54).
+
Yn 1971 dathlodd Hogia Llandegai eu milfed cyngerdd ym Mhlaza Bangor. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, yn Rhagfyr 1973, perfformiwyd eu cyngerdd olaf yn yr un man. Ond, rhyw bum mlynedd wedi hynny, cawsant wahoddiad gan I. B. Griffith i ymddangos yn [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] Genedlaethol Cymru, Caernarfon yn 1979 ac fe arweiniodd y cyngerdd hwnnw at gyfnod pellach o berfformio. O neuaddau bach y gogledd i stiwdios teledu Caerdydd ac i Bafiliwn Pontrhydfendigaid, cyfrannodd Criw Sgiffl a Hogia Llandegai at gyfnod pwysig yn natblygiad [[Poblogaidd, Cerddoriaeth | canu pop]] Cymraeg, ac yn ôl adolygiad yn y ''Rhyl and Prestatyn Gazette'' yn 1969, roedd caneuon megis ‘Defaid William Morgan’ yn cyfleu ‘hiwmor y Cymro gwledig ar ei orau’ (Wyn 2002, 54).
  
'''Sarah Hill/Wyn Thomas'''
+
'''Sarah Hill'''
  
==Disgyddiaeth==
 
==Disgyddiaeth==
''Hogia’ Llandegai'' (‘Trên Bach yr Wyddfa’) (EP) (Teldisc PYC5433, 1966)
 
''Hogia’ Llandegai'' (‘Anti Henrietta o Chicago’) (EP) (Teldisc PYC5434, 1967)
+
:''Hogia’ Llandegai'' (‘Trên Bach yr Wyddfa’) (EP) (Teldisc PYC5433, 1966)
 +
 
 +
:''Hogia’ Llandegai'' (‘Anti Henrietta o Chicago’) (EP) (Teldisc PYC5434, 1967)
 +
 
 +
:''Hogia’ Llandegai'' (‘Mynd i’r Fan a’r Fan’) (EP) (Cambrian CEP426, 1968)
  
''Hogia’ Llandegai'' (‘Mynd i’r Fan a’r Fan’) (EP) (Cambrian CEP426, 1968)
+
:''Hogia’ Llandegai'' (‘Elen’) (EP) (Teldisc PYC5435, 1968)
  
''Hogia’ Llandegai'' (‘Elen’) (EP) (Teldisc PYC5435, 1968)
+
:''Caneuon Gorau'' (Cambrian CLP582, 1968)
  
''Caneuon Gorau'' (Cambrian CLP582, 1968)
+
:''Hogia Llandegai'' (‘Mi Ganaf Gân’) (EP) (Cambrian CEP453, 1969)
  
''Hogia Llandegai'' (‘Mi Ganaf Gân’) (EP) (Cambrian CEP453, 1969)
+
:''Bangor ’71'' (sengl) (Sain 14, 1971)
  
''Bangor ’71'' (sengl) (Sain 14, 1971)
+
:''Hogia Llandegai'' (‘Mae Pawb yn Chwarae Gitâr’) (sengl) (Sain 28, 1972)
  
''Hogia Llandegai'' (‘Mae Pawb yn Chwarae Gitâr’) (sengl) (Sain 28, 1972)
+
:''Canu yn y Gwaed'' (Sain SCD2074, 1994)
  
''Goreuon Hogia Llandegai'' (Sain SCD2016, 1992)
+
'''Casgliadau'''
  
''Canu yn y Gwaed'' (Sain SCD2074, 1994)
+
:''Goreuon Hogia Llandegai'' (Sain SCD2016, 1992)
  
''Y Goreuon Cynnar'' (Sain SCD2524, 2006)
+
:''Y Goreuon Cynnar'' (Sain SCD2524, 2006)
  
'''Yn ymddangos ar:'''
 
'''Yn ymddangos ar:'''
  
''Y Bois a’r Hogia'' (Sain SCD 2578, 2010)
+
:''Y Bois a’r Hogia'' (Sain SCD 2578, 2010)
  
==Llyfryddiaeth==
 
==Llyfryddiaeth==
Neville Hughes, ''Hogia Llandegai: Y Llyfr'' (Neville Hughes, 1996)
 
Hefin Wyn, ''Be Bop a Lula’r Delyn Aur'' (Talybont, 2002)
+
:Neville Hughes, ''Hogia Llandegai: Y Llyfr'' (Neville Hughes, 1996)
 +
 
 +
:Hefin Wyn, ''Be Bop a Lula’r Delyn Aur'' (Talybont, 2002)
  
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 
[[Categori:Cerddoriaeth]]
 
[[Categori:Cerddoriaeth]]

Y diwygiad cyfredol, am 17:27, 12 Gorffennaf 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Grŵp canu harmoni clos a sefydlwyd yng nghyfnod y sgiffl yn yr 1950au ac a fu’n perfformio am dros ddeugain mlynedd.

Tyfodd yr Hogia allan o’r wythawd Criw Sgiffl Llandegai a sefydlwyd yn 1957 ac a gynhwysai Neville [Nev] Hughes (gitâr a llais, cyflwynydd), Ronald Wyn [Ron] Williams (prif leisydd) ac Owen Glyn [Now] Jones (organ geg a llais). Ymunodd Roy Astley (gitâr a llais) yn ddiweddarach cyn i’r pedwarawd ddechrau recordio caneuon o dan yr enw Hogia Llandegai yn ystod yr 1960au.

Fel y Bois a’r Hogia eraill, roedd Hogia Llandegai yn dilyn traddodiad hir y Noson Lawen, gan ymhyfrydu mewn hiwmor a chyflwyno cymysgedd o gymeriadau lliwgar a geiriau cartrefol. Dechreuodd yr aelodau gydganu yng Nghôr Talgau. Gan fod y côr eisiau cynnig adloniant mwy amrywiol, penderfynodd wyth ohonynt brynu offerynnau rhad er mwyn perfformio caneuon sgiffl (a oedd yn boblogaidd ym Mhrydain ar y pryd): cist de, pren golchi ac organau ceg. Yn ogystal â’u perfformiadau gyda Chôr Talgau roeddynt hefyd yn derbyn gwahoddiadau i berfformio fel grŵp ar wahân gan ddechrau ym mis Ebrill 1957.

Gan nad oeddynt yn gerddorion wedi’u hyfforddi’n ffurfiol, roeddynt yn dra dibynnol ar ganeuon gwerin Cymraeg, a hefyd ar ganeuon Saesneg heb eu cyfieithu, er enghraifft caneuon poblogaidd Lonnie Donegan fel ‘My Old Man’s a Dustman’. Ar y cychwyn, byddent yn teithio ar fysiau cyhoeddus i’w cyngherddau gan gario’u hofferynnau ar eu cefnau. (Nid oedd y gydnabyddiaeth ariannol a gaent ond prin ddigon i dalu am y tocynnau bws.) Roedd i sgetsys le canolog yn eu perfformiadau, a bywiogid y cyfan gan allu Now fel chwibanwr a dynwaredwr synau anifeiliaid. Roedd yr un nodweddion i’w cael yn eu perfformiadau teledu a daeth llwyddiant mawr i ran Criw Sgiffl Llandegai rhwng 1957 ac 1964.

Roedd cyfnod sgiffl wedi hen ddod i ben ym Mhrydain erbyn 1964 gyda cherddoriaeth beat y Beatles a’r Rolling Stones yn prysur feddiannu’r tonfeddi radio. Roedd Criw Sgiffl Llandegai yn ymwybodol o’r newidiadau hyn a theimlent mai priodol oedd dwyn y criw i ben ar ôl cyfnod hir o lwyddiant. Wedi rhai misoedd, daeth pedwar o’r Criw Sgiffl ynghyd unwaith eto ar gyfer ymddangosiad ar y rhaglen deledu Hob y Deri Dando, ac fel Hogia Llandegai bu iddynt barhau i berfformio o 1965–73. Yn ystod y cyfnod hwn y recordiwyd eu holl senglau.

Yn 1971 dathlodd Hogia Llandegai eu milfed cyngerdd ym Mhlaza Bangor. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, yn Rhagfyr 1973, perfformiwyd eu cyngerdd olaf yn yr un man. Ond, rhyw bum mlynedd wedi hynny, cawsant wahoddiad gan I. B. Griffith i ymddangos yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caernarfon yn 1979 ac fe arweiniodd y cyngerdd hwnnw at gyfnod pellach o berfformio. O neuaddau bach y gogledd i stiwdios teledu Caerdydd ac i Bafiliwn Pontrhydfendigaid, cyfrannodd Criw Sgiffl a Hogia Llandegai at gyfnod pwysig yn natblygiad canu pop Cymraeg, ac yn ôl adolygiad yn y Rhyl and Prestatyn Gazette yn 1969, roedd caneuon megis ‘Defaid William Morgan’ yn cyfleu ‘hiwmor y Cymro gwledig ar ei orau’ (Wyn 2002, 54).

Sarah Hill

Disgyddiaeth

Hogia’ Llandegai (‘Trên Bach yr Wyddfa’) (EP) (Teldisc PYC5433, 1966)
Hogia’ Llandegai (‘Anti Henrietta o Chicago’) (EP) (Teldisc PYC5434, 1967)
Hogia’ Llandegai (‘Mynd i’r Fan a’r Fan’) (EP) (Cambrian CEP426, 1968)
Hogia’ Llandegai (‘Elen’) (EP) (Teldisc PYC5435, 1968)
Caneuon Gorau (Cambrian CLP582, 1968)
Hogia Llandegai (‘Mi Ganaf Gân’) (EP) (Cambrian CEP453, 1969)
Bangor ’71 (sengl) (Sain 14, 1971)
Hogia Llandegai (‘Mae Pawb yn Chwarae Gitâr’) (sengl) (Sain 28, 1972)
Canu yn y Gwaed (Sain SCD2074, 1994)

Casgliadau

Goreuon Hogia Llandegai (Sain SCD2016, 1992)
Y Goreuon Cynnar (Sain SCD2524, 2006)

Yn ymddangos ar:

Y Bois a’r Hogia (Sain SCD 2578, 2010)

Llyfryddiaeth

Neville Hughes, Hogia Llandegai: Y Llyfr (Neville Hughes, 1996)
Hefin Wyn, Be Bop a Lula’r Delyn Aur (Talybont, 2002)

Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.