Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cymdeithas Emynau Cymru"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
+ | __NOAUTOLINKS__ | ||
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | ||
− | Mewn darlith ar ‘Emynwyr Bro Morgannwg’ yn [[Eisteddfod]] Genedlaethol Pen-y-bont ar Ogwr, 1948, crybwyllodd Elfed y posibilrwydd o ffurfio cymdeithas emynau i Gymru, ar lun cymdeithasau tebyg ar gyfer Unol Daleithiau America a Chanada (a ffurfiwyd yn 1922) ac ar gyfer Prydain Fawr ac Iwerddon (a ffurfiwyd yn 1936). Ni sefydlwyd cymdeithas benodol ar y pryd, ac ymddiriedwyd y gwaith o astudio’r emyn Cymraeg a’i lyfryddiaeth i’r Gymdeithas Lyfryddol Gymreig. Ffurfiwyd Cymdeithas Emynau Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala ar 10 Awst 1967, a’i nod yw hyrwyddo diddordeb ym mhob agwedd ar emynyddiaeth Cymru. Ei phrif amcanion yw dwyn pobl ynghyd i ddarlithiau ac ysgolion undydd i ddysgu ac i drafod gwahanol agweddau ar emynyddiaeth Cymru; casglu a diogelu defnyddiau; hyrwyddo astudio [[emynau]] ac [[emyn-donau]]; cyhoeddi ffrwyth ymchwil yn y maes; a chysylltu â chymdeithasau emynau mewn gwledydd eraill. | + | Mewn darlith ar ‘Emynwyr Bro Morgannwg’ yn [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] Genedlaethol Pen-y-bont ar Ogwr, 1948, crybwyllodd Elfed y posibilrwydd o ffurfio cymdeithas emynau i Gymru, ar lun cymdeithasau tebyg ar gyfer Unol Daleithiau America a Chanada (a ffurfiwyd yn 1922) ac ar gyfer Prydain Fawr ac Iwerddon (a ffurfiwyd yn 1936). Ni sefydlwyd cymdeithas benodol ar y pryd, ac ymddiriedwyd y gwaith o astudio’r emyn Cymraeg a’i lyfryddiaeth i’r Gymdeithas Lyfryddol Gymreig. Ffurfiwyd Cymdeithas Emynau Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala ar 10 Awst 1967, a’i nod yw hyrwyddo diddordeb ym mhob agwedd ar emynyddiaeth Cymru. Ei phrif amcanion yw dwyn pobl ynghyd i ddarlithiau ac ysgolion undydd i ddysgu ac i drafod gwahanol agweddau ar emynyddiaeth Cymru; casglu a diogelu defnyddiau; hyrwyddo astudio [[Emyn-donau | emynau]] ac [[Emyn-donau (Cyfansoddwyr) | emyn-donau]]; cyhoeddi ffrwyth ymchwil yn y maes; a chysylltu â chymdeithasau emynau mewn gwledydd eraill. |
− | Ers 1968, mae’r Gymdeithas wedi cyhoeddi | + | Ers 1968, mae’r Gymdeithas wedi cyhoeddi Bwletin o astudiaethau emynyddol, ac ers 2001 Gylchlythyr blynyddol yn ychwanegol at y Bwletin. Ceir ôl-rifynnau’r Bwletin ar wefan Cylchgronau Cymru ac ôl-rifynnau’r Cylchlythyr ar wefan y Gymdeithas ei hun (http://www.emynau.org). Mae’r Gymdeithas yn cynnal darlith flynyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a chyhoeddwyd y mwyafrif o’r darlithiau hyn yn y ''Bwletin''. Er 1986 cynhaliwyd hefyd Ysgol Undydd flynyddol gyda phapurau a sesiynau trafod. |
Erbyn hyn cyhoeddodd y Gymdeithas sawl cyfrol o ysgrifau ac emynau gan wahanol awduron. Mae’n cydweithio â Chymdeithas Emynau Prydain Fawr ac Iwerddon ac fe’i cynrychiolwyd yng nghynadleddau cydwladol yr Internationale Arbeitsgemeinschaft für Hymnologie (IAH). | Erbyn hyn cyhoeddodd y Gymdeithas sawl cyfrol o ysgrifau ac emynau gan wahanol awduron. Mae’n cydweithio â Chymdeithas Emynau Prydain Fawr ac Iwerddon ac fe’i cynrychiolwyd yng nghynadleddau cydwladol yr Internationale Arbeitsgemeinschaft für Hymnologie (IAH). | ||
Llinell 10: | Llinell 11: | ||
{{CC BY-SA Cydymaith}} | {{CC BY-SA Cydymaith}} | ||
+ | [[Categori:Cerddoriaeth]] |
Y diwygiad cyfredol, am 14:42, 6 Gorffennaf 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Mewn darlith ar ‘Emynwyr Bro Morgannwg’ yn Eisteddfod Genedlaethol Pen-y-bont ar Ogwr, 1948, crybwyllodd Elfed y posibilrwydd o ffurfio cymdeithas emynau i Gymru, ar lun cymdeithasau tebyg ar gyfer Unol Daleithiau America a Chanada (a ffurfiwyd yn 1922) ac ar gyfer Prydain Fawr ac Iwerddon (a ffurfiwyd yn 1936). Ni sefydlwyd cymdeithas benodol ar y pryd, ac ymddiriedwyd y gwaith o astudio’r emyn Cymraeg a’i lyfryddiaeth i’r Gymdeithas Lyfryddol Gymreig. Ffurfiwyd Cymdeithas Emynau Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala ar 10 Awst 1967, a’i nod yw hyrwyddo diddordeb ym mhob agwedd ar emynyddiaeth Cymru. Ei phrif amcanion yw dwyn pobl ynghyd i ddarlithiau ac ysgolion undydd i ddysgu ac i drafod gwahanol agweddau ar emynyddiaeth Cymru; casglu a diogelu defnyddiau; hyrwyddo astudio emynau ac emyn-donau; cyhoeddi ffrwyth ymchwil yn y maes; a chysylltu â chymdeithasau emynau mewn gwledydd eraill.
Ers 1968, mae’r Gymdeithas wedi cyhoeddi Bwletin o astudiaethau emynyddol, ac ers 2001 Gylchlythyr blynyddol yn ychwanegol at y Bwletin. Ceir ôl-rifynnau’r Bwletin ar wefan Cylchgronau Cymru ac ôl-rifynnau’r Cylchlythyr ar wefan y Gymdeithas ei hun (http://www.emynau.org). Mae’r Gymdeithas yn cynnal darlith flynyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a chyhoeddwyd y mwyafrif o’r darlithiau hyn yn y Bwletin. Er 1986 cynhaliwyd hefyd Ysgol Undydd flynyddol gyda phapurau a sesiynau trafod.
Erbyn hyn cyhoeddodd y Gymdeithas sawl cyfrol o ysgrifau ac emynau gan wahanol awduron. Mae’n cydweithio â Chymdeithas Emynau Prydain Fawr ac Iwerddon ac fe’i cynrychiolwyd yng nghynadleddau cydwladol yr Internationale Arbeitsgemeinschaft für Hymnologie (IAH).
Rhidian Griffiths
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.