Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gwibdaith Hen Frân"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) (Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydy...') |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | ||
− | Ffurfiwyd Gwibdaith Hen Frân ym Mlaenau Ffestiniog yn 2006 gan Phil Lee Jones (llais, iwkalili), a fu’n aelod o’r grwpiau [[Mim Twm Llai]] ac Estella, Robert Buckley (bas dwbl), a fu hefyd gydag Estella, Gethin Thomas (llais, gitâr) a Paul Thomas (llais, gitâr acwstig). Treuliwyd misoedd cyntaf y band yn jamio yn Nhafarn y Ring, Llanfrothen, a pharhaodd eu hapêl fel band byw, deinamig. Disgrifiwyd eu harddull fel ‘sgiffl llinynnol hurt’ gan gylchgrawn ''Y Selar'', ac yn ôl gwefan Sain, ‘[mae] eu hysbrydoliaeth i [ysgrifennu] caneuon wedi ei sbarduno gan hen gymeriadau [Llanfrothen] sydd â hanesion di-ri, digwyddiadau personol unigolion y band a’u bywyd o ddydd i ddydd.’ | + | Ffurfiwyd Gwibdaith Hen Frân ym Mlaenau Ffestiniog yn 2006 gan Phil Lee Jones (llais, iwkalili), a fu’n aelod o’r grwpiau [[Toms, Gai (g.1976) | Mim Twm Llai]] ac Estella, Robert Buckley (bas dwbl), a fu hefyd gydag Estella, Gethin Thomas (llais, gitâr) a Paul Thomas (llais, gitâr acwstig). Treuliwyd misoedd cyntaf y band yn jamio yn Nhafarn y Ring, Llanfrothen, a pharhaodd eu hapêl fel band byw, deinamig. Disgrifiwyd eu harddull fel ‘sgiffl llinynnol hurt’ gan gylchgrawn ''Y Selar'', ac yn ôl gwefan Sain, ‘[mae] eu hysbrydoliaeth i [ysgrifennu] caneuon wedi ei sbarduno gan hen gymeriadau [Llanfrothen] sydd â hanesion di-ri, digwyddiadau personol unigolion y band a’u bywyd o ddydd i ddydd.’ |
− | Recordiodd y band sesiwn C2 i BBC Radio Cymru yng ngwanwyn 2007 cyn rhyddhau eu halbwm cyntaf, ''Cedors Hen Wrach'' (Rasal, 2007) yn yr haf. Gyda’i arddull gwerin amgen, roedd yr albwm yn chwa o awyr iach i’r byd [[canu pop]] cyfoes ar y pryd, a chaneuon hwyliog a doniol megis ‘Coffi Du’, ‘Trôns Dy Dad’ a ‘Cyri’ yn boblogaidd mewn nosweithiau byw ac ar y radio. Bu’r band yn weithgar iawn yn 2007, gan chwarae yng [[Ngŵyl]] Car Gwyllt Blaenau Ffestiniog, Sesiwn Fawr Dolgellau, Maes B a gigiau Cymdeithas yr Iaith yn [[Eisteddfod]] Genedlaethol Cymru Sir y Fflint a Gŵyl Macs yng Nghaerfyrddin. | + | Recordiodd y band sesiwn C2 i BBC Radio Cymru yng ngwanwyn 2007 cyn rhyddhau eu halbwm cyntaf, ''Cedors Hen Wrach'' (Rasal, 2007) yn yr haf. Gyda’i arddull gwerin amgen, roedd yr albwm yn chwa o awyr iach i’r byd [[Poblogaidd, Cerddoriaeth | canu pop]] cyfoes ar y pryd, a chaneuon hwyliog a doniol megis ‘Coffi Du’, ‘Trôns Dy Dad’ a ‘Cyri’ yn boblogaidd mewn nosweithiau byw ac ar y radio. Bu’r band yn weithgar iawn yn 2007, gan chwarae yng [[Gwyliau Cerddoriaeth | Ngŵyl]] Car Gwyllt Blaenau Ffestiniog, Sesiwn Fawr Dolgellau, Maes B a gigiau Cymdeithas yr Iaith yn [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] Genedlaethol Cymru Sir y Fflint a Gŵyl Macs yng Nghaerfyrddin. |
Dilynwyd ''Cedors Hen Wrach'' gan EP elusennol, ''Cân Am Sana'', cyn Nadolig 2007, gyda Glyn Wise (a ddaeth i amlygrwydd flwyddyn ynghynt drwy gyfrwng y rhaglen deledu realaeth ''Big Brother'') ynghyd â sêr radio eraill yn cyfrannu, a blwyddyn yn ddiweddarach, cyhoeddodd y band eu hail albwm, ''Tafod dy Wraig'' (Rasal, 2008). Yn 2010, ymddangosodd y band ar y rhaglen ''Nodyn'' ar S4C, ond bu newid yn yr aelodaeth yn ddiweddarach y flwyddyn honno wrth i Paul Thomas a Robert Buckley ymadael gan wneud lle i dri aelod newydd, Justin Davies (mandolin, harmonica), gynt o [[Anweledig]], Gary Richardson ar y bas ac Ieuan Williamson ar y banjo. Yr un flwyddyn rhyddhawyd trydydd albwm, ''Llechan Wlyb'' (Rasal, 2010) a bu iddynt hefyd ennill gwobr Siart C2 yng Ngwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru; fe wnaethant ei hennill eilwaith yn 2011. Rhyddhawyd eu halbwm diweddaraf, ''Yn Ôl ar y Ffordd'', hefyd ar Rasal, yn Awst 2013. | Dilynwyd ''Cedors Hen Wrach'' gan EP elusennol, ''Cân Am Sana'', cyn Nadolig 2007, gyda Glyn Wise (a ddaeth i amlygrwydd flwyddyn ynghynt drwy gyfrwng y rhaglen deledu realaeth ''Big Brother'') ynghyd â sêr radio eraill yn cyfrannu, a blwyddyn yn ddiweddarach, cyhoeddodd y band eu hail albwm, ''Tafod dy Wraig'' (Rasal, 2008). Yn 2010, ymddangosodd y band ar y rhaglen ''Nodyn'' ar S4C, ond bu newid yn yr aelodaeth yn ddiweddarach y flwyddyn honno wrth i Paul Thomas a Robert Buckley ymadael gan wneud lle i dri aelod newydd, Justin Davies (mandolin, harmonica), gynt o [[Anweledig]], Gary Richardson ar y bas ac Ieuan Williamson ar y banjo. Yr un flwyddyn rhyddhawyd trydydd albwm, ''Llechan Wlyb'' (Rasal, 2010) a bu iddynt hefyd ennill gwobr Siart C2 yng Ngwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru; fe wnaethant ei hennill eilwaith yn 2011. Rhyddhawyd eu halbwm diweddaraf, ''Yn Ôl ar y Ffordd'', hefyd ar Rasal, yn Awst 2013. | ||
Llinell 12: | Llinell 12: | ||
==Llyfryddiaeth== | ==Llyfryddiaeth== | ||
− | + | *''http://www.sainwales.com/cy/store/sain/rasal-cd022'' | |
==Disgyddiaeth== | ==Disgyddiaeth== | ||
− | + | *''Cedors Hen Wrach'' (Rasal RASALCD022, 2007) | |
− | + | *''Cân Am Sana'' [EP] (Rasal RASALCD023, 2007) | |
− | + | *''Tafod dy Wraig'' (Rasal RASALCD025, 2008) | |
− | + | *''Llechan Wlyb'' (Rasal RASALCD032, 2010) | |
− | + | *''Yn Ôl ar y Ffordd'' (Rasal RASALCD035, 2013) | |
{{CC BY-SA Cydymaith}} | {{CC BY-SA Cydymaith}} | ||
+ | [[Categori:Cerddoriaeth]] |
Y diwygiad cyfredol, am 16:06, 8 Gorffennaf 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Ffurfiwyd Gwibdaith Hen Frân ym Mlaenau Ffestiniog yn 2006 gan Phil Lee Jones (llais, iwkalili), a fu’n aelod o’r grwpiau Mim Twm Llai ac Estella, Robert Buckley (bas dwbl), a fu hefyd gydag Estella, Gethin Thomas (llais, gitâr) a Paul Thomas (llais, gitâr acwstig). Treuliwyd misoedd cyntaf y band yn jamio yn Nhafarn y Ring, Llanfrothen, a pharhaodd eu hapêl fel band byw, deinamig. Disgrifiwyd eu harddull fel ‘sgiffl llinynnol hurt’ gan gylchgrawn Y Selar, ac yn ôl gwefan Sain, ‘[mae] eu hysbrydoliaeth i [ysgrifennu] caneuon wedi ei sbarduno gan hen gymeriadau [Llanfrothen] sydd â hanesion di-ri, digwyddiadau personol unigolion y band a’u bywyd o ddydd i ddydd.’
Recordiodd y band sesiwn C2 i BBC Radio Cymru yng ngwanwyn 2007 cyn rhyddhau eu halbwm cyntaf, Cedors Hen Wrach (Rasal, 2007) yn yr haf. Gyda’i arddull gwerin amgen, roedd yr albwm yn chwa o awyr iach i’r byd canu pop cyfoes ar y pryd, a chaneuon hwyliog a doniol megis ‘Coffi Du’, ‘Trôns Dy Dad’ a ‘Cyri’ yn boblogaidd mewn nosweithiau byw ac ar y radio. Bu’r band yn weithgar iawn yn 2007, gan chwarae yng Ngŵyl Car Gwyllt Blaenau Ffestiniog, Sesiwn Fawr Dolgellau, Maes B a gigiau Cymdeithas yr Iaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir y Fflint a Gŵyl Macs yng Nghaerfyrddin.
Dilynwyd Cedors Hen Wrach gan EP elusennol, Cân Am Sana, cyn Nadolig 2007, gyda Glyn Wise (a ddaeth i amlygrwydd flwyddyn ynghynt drwy gyfrwng y rhaglen deledu realaeth Big Brother) ynghyd â sêr radio eraill yn cyfrannu, a blwyddyn yn ddiweddarach, cyhoeddodd y band eu hail albwm, Tafod dy Wraig (Rasal, 2008). Yn 2010, ymddangosodd y band ar y rhaglen Nodyn ar S4C, ond bu newid yn yr aelodaeth yn ddiweddarach y flwyddyn honno wrth i Paul Thomas a Robert Buckley ymadael gan wneud lle i dri aelod newydd, Justin Davies (mandolin, harmonica), gynt o Anweledig, Gary Richardson ar y bas ac Ieuan Williamson ar y banjo. Yr un flwyddyn rhyddhawyd trydydd albwm, Llechan Wlyb (Rasal, 2010) a bu iddynt hefyd ennill gwobr Siart C2 yng Ngwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru; fe wnaethant ei hennill eilwaith yn 2011. Rhyddhawyd eu halbwm diweddaraf, Yn Ôl ar y Ffordd, hefyd ar Rasal, yn Awst 2013.
Craig Owen Jones
Llyfryddiaeth
Disgyddiaeth
- Cedors Hen Wrach (Rasal RASALCD022, 2007)
- Cân Am Sana [EP] (Rasal RASALCD023, 2007)
- Tafod dy Wraig (Rasal RASALCD025, 2008)
- Llechan Wlyb (Rasal RASALCD032, 2010)
- Yn Ôl ar y Ffordd (Rasal RASALCD035, 2013)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.