Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gwibdaith Hen Frân"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
 +
__NOAUTOLINKS__
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Ffurfiwyd Gwibdaith Hen Frân ym Mlaenau Ffestiniog yn 2006 gan Phil Lee Jones (llais, iwkalili), a fu’n aelod o’r grwpiau [[Mim Twm Llai]] ac Estella, Robert Buckley (bas dwbl), a fu hefyd gydag Estella, Gethin Thomas (llais, gitâr) a Paul Thomas (llais, gitâr acwstig). Treuliwyd misoedd cyntaf y band yn jamio yn Nhafarn y Ring, Llanfrothen, a pharhaodd eu hapêl fel band byw, deinamig. Disgrifiwyd eu harddull fel ‘sgiffl llinynnol hurt’ gan gylchgrawn ''Y Selar'', ac yn ôl gwefan Sain, ‘[mae] eu hysbrydoliaeth i [ysgrifennu] caneuon wedi ei sbarduno gan hen gymeriadau [Llanfrothen] sydd â hanesion di-ri, digwyddiadau personol unigolion y band a’u bywyd o ddydd i ddydd.’
+
Ffurfiwyd Gwibdaith Hen Frân ym Mlaenau Ffestiniog yn 2006 gan Phil Lee Jones (llais, iwkalili), a fu’n aelod o’r grwpiau [[Toms, Gai (g.1976) | Mim Twm Llai]] ac Estella, Robert Buckley (bas dwbl), a fu hefyd gydag Estella, Gethin Thomas (llais, gitâr) a Paul Thomas (llais, gitâr acwstig). Treuliwyd misoedd cyntaf y band yn jamio yn Nhafarn y Ring, Llanfrothen, a pharhaodd eu hapêl fel band byw, deinamig. Disgrifiwyd eu harddull fel ‘sgiffl llinynnol hurt’ gan gylchgrawn ''Y Selar'', ac yn ôl gwefan Sain, ‘[mae] eu hysbrydoliaeth i [ysgrifennu] caneuon wedi ei sbarduno gan hen gymeriadau [Llanfrothen] sydd â hanesion di-ri, digwyddiadau personol unigolion y band a’u bywyd o ddydd i ddydd.’
  
Recordiodd y band sesiwn C2 i BBC Radio Cymru yng ngwanwyn 2007 cyn rhyddhau eu halbwm cyntaf, ''Cedors Hen Wrach'' (Rasal, 2007) yn yr haf. Gyda’i [[arddull]] gwerin amgen, roedd yr albwm yn chwa o awyr iach i’r byd [[canu pop]] cyfoes ar y pryd, a chaneuon hwyliog a doniol megis ‘Coffi Du’, ‘Trôns Dy Dad’ a ‘Cyri’ yn boblogaidd mewn nosweithiau byw ac ar y radio. Bu’r band yn weithgar iawn yn 2007, gan chwarae yng [[Ngŵyl]] Car Gwyllt Blaenau Ffestiniog, Sesiwn Fawr Dolgellau, Maes B a gigiau Cymdeithas yr Iaith yn [[Eisteddfod]] Genedlaethol Cymru Sir y Fflint a Gŵyl Macs yng Nghaerfyrddin.
+
Recordiodd y band sesiwn C2 i BBC Radio Cymru yng ngwanwyn 2007 cyn rhyddhau eu halbwm cyntaf, ''Cedors Hen Wrach'' (Rasal, 2007) yn yr haf. Gyda’i arddull gwerin amgen, roedd yr albwm yn chwa o awyr iach i’r byd [[Poblogaidd, Cerddoriaeth | canu pop]] cyfoes ar y pryd, a chaneuon hwyliog a doniol megis ‘Coffi Du’, ‘Trôns Dy Dad’ a ‘Cyri’ yn boblogaidd mewn nosweithiau byw ac ar y radio. Bu’r band yn weithgar iawn yn 2007, gan chwarae yng [[Gwyliau Cerddoriaeth | Ngŵyl]] Car Gwyllt Blaenau Ffestiniog, Sesiwn Fawr Dolgellau, Maes B a gigiau Cymdeithas yr Iaith yn [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] Genedlaethol Cymru Sir y Fflint a Gŵyl Macs yng Nghaerfyrddin.
  
Dilynwyd ''Cedors Hen Wrach'' gan EP elusennol, ''Cân Am Sana'', cyn Nadolig 2007, gyda Glyn Wise (a ddaeth i amlygrwydd flwyddyn ynghynt drwy gyfrwng y rhaglen deledu [[realaeth]] ''Big Brother'') ynghyd â sêr radio eraill yn cyfrannu, a blwyddyn yn ddiweddarach, cyhoeddodd y band eu hail albwm, ''Tafod dy Wraig'' (Rasal, 2008). Yn 2010, ymddangosodd y band ar y rhaglen ''Nodyn'' ar S4C, ond bu newid yn yr aelodaeth yn ddiweddarach y flwyddyn honno wrth i Paul Thomas a Robert Buckley ymadael gan wneud lle i dri aelod newydd, Justin Davies (mandolin, harmonica), gynt o [[Anweledig]], Gary Richardson ar y bas ac Ieuan Williamson ar y banjo. Yr un flwyddyn rhyddhawyd trydydd albwm, ''Llechan Wlyb'' (Rasal, 2010) a bu iddynt hefyd ennill gwobr Siart C2 yng Ngwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru; fe wnaethant ei hennill eilwaith yn 2011. Rhyddhawyd eu halbwm diweddaraf, ''Yn Ôl ar y Ffordd'', hefyd ar Rasal, yn Awst 2013.
+
Dilynwyd ''Cedors Hen Wrach'' gan EP elusennol, ''Cân Am Sana'', cyn Nadolig 2007, gyda Glyn Wise (a ddaeth i amlygrwydd flwyddyn ynghynt drwy gyfrwng y rhaglen deledu realaeth ''Big Brother'') ynghyd â sêr radio eraill yn cyfrannu, a blwyddyn yn ddiweddarach, cyhoeddodd y band eu hail albwm, ''Tafod dy Wraig'' (Rasal, 2008). Yn 2010, ymddangosodd y band ar y rhaglen ''Nodyn'' ar S4C, ond bu newid yn yr aelodaeth yn ddiweddarach y flwyddyn honno wrth i Paul Thomas a Robert Buckley ymadael gan wneud lle i dri aelod newydd, Justin Davies (mandolin, harmonica), gynt o [[Anweledig]], Gary Richardson ar y bas ac Ieuan Williamson ar y banjo. Yr un flwyddyn rhyddhawyd trydydd albwm, ''Llechan Wlyb'' (Rasal, 2010) a bu iddynt hefyd ennill gwobr Siart C2 yng Ngwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru; fe wnaethant ei hennill eilwaith yn 2011. Rhyddhawyd eu halbwm diweddaraf, ''Yn Ôl ar y Ffordd'', hefyd ar Rasal, yn Awst 2013.
  
 
'''Craig Owen Jones'''
 
'''Craig Owen Jones'''
Llinell 11: Llinell 12:
 
==Llyfryddiaeth==
 
==Llyfryddiaeth==
  
:http://www.sainwales.com/cy/store/sain/rasal-cd022
+
*''http://www.sainwales.com/cy/store/sain/rasal-cd022''
  
 
==Disgyddiaeth==
 
==Disgyddiaeth==
  
:''Cedors Hen Wrach'' (Rasal RASALCD022, 2007)
+
*''Cedors Hen Wrach'' (Rasal RASALCD022, 2007)
  
:''Cân Am Sana'' [EP] (Rasal RASALCD023, 2007)
+
*''Cân Am Sana'' [EP] (Rasal RASALCD023, 2007)
  
:''Tafod dy Wraig'' (Rasal RASALCD025, 2008)
+
*''Tafod dy Wraig'' (Rasal RASALCD025, 2008)
  
:''Llechan Wlyb'' (Rasal RASALCD032, 2010)
+
*''Llechan Wlyb'' (Rasal RASALCD032, 2010)
  
:''Yn Ôl ar y Ffordd'' (Rasal RASALCD035, 2013)
+
*''Yn Ôl ar y Ffordd'' (Rasal RASALCD035, 2013)
  
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 +
[[Categori:Cerddoriaeth]]

Y diwygiad cyfredol, am 16:06, 8 Gorffennaf 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ffurfiwyd Gwibdaith Hen Frân ym Mlaenau Ffestiniog yn 2006 gan Phil Lee Jones (llais, iwkalili), a fu’n aelod o’r grwpiau Mim Twm Llai ac Estella, Robert Buckley (bas dwbl), a fu hefyd gydag Estella, Gethin Thomas (llais, gitâr) a Paul Thomas (llais, gitâr acwstig). Treuliwyd misoedd cyntaf y band yn jamio yn Nhafarn y Ring, Llanfrothen, a pharhaodd eu hapêl fel band byw, deinamig. Disgrifiwyd eu harddull fel ‘sgiffl llinynnol hurt’ gan gylchgrawn Y Selar, ac yn ôl gwefan Sain, ‘[mae] eu hysbrydoliaeth i [ysgrifennu] caneuon wedi ei sbarduno gan hen gymeriadau [Llanfrothen] sydd â hanesion di-ri, digwyddiadau personol unigolion y band a’u bywyd o ddydd i ddydd.’

Recordiodd y band sesiwn C2 i BBC Radio Cymru yng ngwanwyn 2007 cyn rhyddhau eu halbwm cyntaf, Cedors Hen Wrach (Rasal, 2007) yn yr haf. Gyda’i arddull gwerin amgen, roedd yr albwm yn chwa o awyr iach i’r byd canu pop cyfoes ar y pryd, a chaneuon hwyliog a doniol megis ‘Coffi Du’, ‘Trôns Dy Dad’ a ‘Cyri’ yn boblogaidd mewn nosweithiau byw ac ar y radio. Bu’r band yn weithgar iawn yn 2007, gan chwarae yng Ngŵyl Car Gwyllt Blaenau Ffestiniog, Sesiwn Fawr Dolgellau, Maes B a gigiau Cymdeithas yr Iaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir y Fflint a Gŵyl Macs yng Nghaerfyrddin.

Dilynwyd Cedors Hen Wrach gan EP elusennol, Cân Am Sana, cyn Nadolig 2007, gyda Glyn Wise (a ddaeth i amlygrwydd flwyddyn ynghynt drwy gyfrwng y rhaglen deledu realaeth Big Brother) ynghyd â sêr radio eraill yn cyfrannu, a blwyddyn yn ddiweddarach, cyhoeddodd y band eu hail albwm, Tafod dy Wraig (Rasal, 2008). Yn 2010, ymddangosodd y band ar y rhaglen Nodyn ar S4C, ond bu newid yn yr aelodaeth yn ddiweddarach y flwyddyn honno wrth i Paul Thomas a Robert Buckley ymadael gan wneud lle i dri aelod newydd, Justin Davies (mandolin, harmonica), gynt o Anweledig, Gary Richardson ar y bas ac Ieuan Williamson ar y banjo. Yr un flwyddyn rhyddhawyd trydydd albwm, Llechan Wlyb (Rasal, 2010) a bu iddynt hefyd ennill gwobr Siart C2 yng Ngwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru; fe wnaethant ei hennill eilwaith yn 2011. Rhyddhawyd eu halbwm diweddaraf, Yn Ôl ar y Ffordd, hefyd ar Rasal, yn Awst 2013.

Craig Owen Jones

Llyfryddiaeth

Disgyddiaeth

  • Cedors Hen Wrach (Rasal RASALCD022, 2007)
  • Cân Am Sana [EP] (Rasal RASALCD023, 2007)
  • Tafod dy Wraig (Rasal RASALCD025, 2008)
  • Llechan Wlyb (Rasal RASALCD032, 2010)
  • Yn Ôl ar y Ffordd (Rasal RASALCD035, 2013)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.