Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cambrian Minstrels, Y (neu Teulu Roberts)"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
__NOAUTOLINKS__'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | __NOAUTOLINKS__'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | ||
− | Grŵp o ddeg cerddor a ffurfiwyd gan [[John Roberts]] (Telynor Cymru) a naw o’i feibion a fu’n perfformio ar hyd a lled y wlad yn ystod y 19g. Roedd dylanwad y sipsiwn yn ddi-os arnynt. Fel gor-ŵyr i Abram Wood, roedd John Roberts yn perthyn i linach y sipsiwn Cymreig ac fel nifer ohonynt gallai siarad Cymraeg, Saesneg a Romani (gw. [[Woodiaid, Teulu’r]]). Ond meddai hefyd ar y gallu i ddarllen ac ysgrifennu a bu hynny’n allweddol i’w lwyddiant a’i arwyddocâd fel cerddor yn y tymor hir. Lloyd a Madoc a ganai’r delyn Ewropeaidd tra chwaraeai Johnny, Albert ac Ernest y delyn deires. Chwaraeai Charley y ''cello'' a Reuben y bas dwbl, James y bib a Willie y [[crwth]]. Roedd Reuben, James, a Charley hefyd yn feistri ar y delyn deires, a Willie a Reuben ill dau yn ffidlwyr nodedig. Roeddynt yn gerddorion cwbl ymroddedig a threulient oriau lu yn perffeithio’r darnau, gan greu’r gerddoriaeth emosiynol a rhythmig a oedd yn nodweddiadol ohonynt, yn ôl Roberts (gw. Roberts 1978, 58). | + | Grŵp o ddeg cerddor a ffurfiwyd gan [[Roberts, John (Alaw Elwy, Telynor Cymru; 1816-94) | John Roberts]] (Telynor Cymru) a naw o’i feibion a fu’n perfformio ar hyd a lled y wlad yn ystod y 19g. Roedd dylanwad y sipsiwn yn ddi-os arnynt. Fel gor-ŵyr i Abram Wood, roedd John Roberts yn perthyn i linach y sipsiwn Cymreig ac fel nifer ohonynt gallai siarad Cymraeg, Saesneg a Romani (gw. [[Woodiaid, Teulu’r (Y Sipsiwn Cymreig) | Woodiaid, Teulu’r]]). Ond meddai hefyd ar y gallu i ddarllen ac ysgrifennu a bu hynny’n allweddol i’w lwyddiant a’i arwyddocâd fel cerddor yn y tymor hir. Lloyd a Madoc a ganai’r delyn Ewropeaidd tra chwaraeai Johnny, Albert ac Ernest y delyn deires. Chwaraeai Charley y ''cello'' a Reuben y bas dwbl, James y bib a Willie y [[crwth]]. Roedd Reuben, James, a Charley hefyd yn feistri ar y delyn deires, a Willie a Reuben ill dau yn ffidlwyr nodedig. Roeddynt yn gerddorion cwbl ymroddedig a threulient oriau lu yn perffeithio’r darnau, gan greu’r gerddoriaeth emosiynol a rhythmig a oedd yn nodweddiadol ohonynt, yn ôl Roberts (gw. Roberts 1978, 58). |
− | A hwythau wedi’u sefydlu yn y Drenewydd, roeddynt yn ddigon agos i’r ffin i deithio i Swydd Amwythig a Chaer, gan barhau i gynnal eu cyswllt â’r byd a’r bywyd Cymreig. Treulient sawl dydd Sul yn chwarae yng Ngwesty’r Arth neu ar strydoedd y Drenewydd, ac yn ystod misoedd yr haf aent ar gylchdaith flynyddol o amgylch trefi arfordirol gorllewin a gogledd Cymru hyd at Gilgwri. Buont yn ymweld â threfi megis Machynlleth, Dolgellau, Aberystwyth, Harlech a Chaergybi. Byddent yn cerdded i’r cyngherddau, gan ddefnyddio cart a cheffyl i gario’r [[offerynnau]]. Roedd [[alawon gwerin]] megis ‘Serch Hudol’, ‘Merch Megan’, ‘Clychau Aberdyfi’ a ‘Codiad yr Ehedydd’ i’w clywed yn gyson yn eu perfformiadau, a’r cyfan wedi’u trefnu gan John Roberts ei hun. | + | A hwythau wedi’u sefydlu yn y Drenewydd, roeddynt yn ddigon agos i’r ffin i deithio i Swydd Amwythig a Chaer, gan barhau i gynnal eu cyswllt â’r byd a’r bywyd Cymreig. Treulient sawl dydd Sul yn chwarae yng Ngwesty’r Arth neu ar strydoedd y Drenewydd, ac yn ystod misoedd yr haf aent ar gylchdaith flynyddol o amgylch trefi arfordirol gorllewin a gogledd Cymru hyd at Gilgwri. Buont yn ymweld â threfi megis Machynlleth, Dolgellau, Aberystwyth, Harlech a Chaergybi. Byddent yn cerdded i’r cyngherddau, gan ddefnyddio cart a cheffyl i gario’r [[Organoleg ac Offerynnau | offerynnau]]. Roedd [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | alawon gwerin]] megis ‘Serch Hudol’, ‘Merch Megan’, ‘Clychau Aberdyfi’ a ‘Codiad yr Ehedydd’ i’w clywed yn gyson yn eu perfformiadau, a’r cyfan wedi’u trefnu gan John Roberts ei hun. |
− | Roedd gan John Roberts synnwyr busnes craff, ac arferai’r Cambrian Minstrels hysbysebu’r ffaith eu bod ar gael ar gyfer dawnsfeydd, cyngherddau a chynulliadau preifat yn ystod tymor y gaeaf pan na fyddai’r tywydd yn ffafriol ar gyfer teithio o amgylch y wlad. Gyda’u ''repertoire'' amrywiol ac estynedig, gallent ddarparu cerddoriaeth briodol ar gyfer pob math o gynulleidfa. Yn ogystal â’r alawon a’r [[ | + | Roedd gan John Roberts synnwyr busnes craff, ac arferai’r Cambrian Minstrels hysbysebu’r ffaith eu bod ar gael ar gyfer dawnsfeydd, cyngherddau a chynulliadau preifat yn ystod tymor y gaeaf pan na fyddai’r tywydd yn ffafriol ar gyfer teithio o amgylch y wlad. Gyda’u ''repertoire'' amrywiol ac estynedig, gallent ddarparu cerddoriaeth briodol ar gyfer pob math o gynulleidfa. Yn ogystal â’r alawon a’r [[baled]]i poblogaidd, chwaraeent addasiadau o operâu, ''jigs'' a ''quadrilles'' yn ôl Roberts. Mewn cyfnod pan oedd y bonedd yn parhau i noddi cerddorion, teithiai’r Cambrian Minstrels yn rheolaidd i blastai ar hyd a lled y wlad ar achlysuron cymdeithasol nodedig. Ymhlith eu cynulleidfaoedd yr oedd teulu Kinmell, Dug San Steffan, [[Hall, Augusta (1802-96) | Augusta Hall]] (Arglwyddes Llanofer), Iarll Powys ac Iarll Dinbych, yn ogystal â chynulleidfaoedd rhyngwladol o waed brenhinol, megis yr Archddug Constantin o Rwsia ac Ymerodres Awstria. Mae’n debyg mai pinacl gyrfa John Roberts a’r Cambrian Minstrels oedd perfformio gerbron y Frenhines Victoria yn 1889 ym mhlasty Palé, Llandderfel. |
− | Dros y blynyddoedd, gwnaeth y Cambrian Minstrels enw da iddynt eu hunain ac fe’u hystyrid yn gerddorion o safon. Yn eu hanterth gallent ymffrostio eu bod, rhyngddynt, yn dwyn ynghyd ddeg [[telyn]], chwe chrwth, dau ''cello'', bas dwbl, ffliwt, picolo a phib. Nid cerddorion amatur o’r hen draddodiad Romani oeddynt, ond cerddorion proffesiynol a hawliai barch a chydnabyddiaeth yn eu cymdeithas. Yn ogystal â chanu’r offerynnau’n gelfydd, roedd ganddynt ddealltwriaeth gadarn o’u peirianwaith. Gweithient yn ddiwyd ac yn gyson i ddatblygu sain ac ansawdd yr | + | Dros y blynyddoedd, gwnaeth y Cambrian Minstrels enw da iddynt eu hunain ac fe’u hystyrid yn gerddorion o safon. Yn eu hanterth gallent ymffrostio eu bod, rhyngddynt, yn dwyn ynghyd ddeg [[telyn]], chwe chrwth, dau ''cello'', bas dwbl, ffliwt, picolo a phib. Nid cerddorion amatur o’r hen draddodiad Romani oeddynt, ond cerddorion proffesiynol a hawliai barch a chydnabyddiaeth yn eu cymdeithas. Yn ogystal â chanu’r offerynnau’n gelfydd, roedd ganddynt ddealltwriaeth gadarn o’u peirianwaith. Gweithient yn ddiwyd ac yn gyson i ddatblygu sain ac ansawdd yr offerynnau trwy eu datgymalu a’u hatgyweirio, a hynny gan ddefnyddio’r deunydd gorau posibl i greu offerynnau a gynhyrchai sain o’r radd flaenaf. Mewn cyfnod pan oedd canu [[Corau Cymysg | corawl]] yn rhagori yng Nghymru, roedd y Cambrian Minstrels yn ''ensemble'' offerynnol lliwgar a phroffesiynol a oedd yn ymgorffori’r hen draddodiadau gwerin yn ogystal ag amsugno dylanwadau cyfoes. |
'''Gwawr Jones''' | '''Gwawr Jones''' | ||
Llinell 13: | Llinell 13: | ||
==Llyfryddiaeth== | ==Llyfryddiaeth== | ||
− | + | *E. Ernest Roberts, ''John Roberts: Telynor Cymru'' (Dinbych, 1978) | |
− | + | *Eldra Jarman & A. O. H. Jarman, ''Y Sipsiwn Cymreig'' (Caerdydd, 1979) | |
{{CC BY-SA Cydymaith}} | {{CC BY-SA Cydymaith}} | ||
+ | [[Categori:Cerddoriaeth]] |
Y diwygiad cyfredol, am 08:34, 2 Mehefin 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Grŵp o ddeg cerddor a ffurfiwyd gan John Roberts (Telynor Cymru) a naw o’i feibion a fu’n perfformio ar hyd a lled y wlad yn ystod y 19g. Roedd dylanwad y sipsiwn yn ddi-os arnynt. Fel gor-ŵyr i Abram Wood, roedd John Roberts yn perthyn i linach y sipsiwn Cymreig ac fel nifer ohonynt gallai siarad Cymraeg, Saesneg a Romani (gw. Woodiaid, Teulu’r). Ond meddai hefyd ar y gallu i ddarllen ac ysgrifennu a bu hynny’n allweddol i’w lwyddiant a’i arwyddocâd fel cerddor yn y tymor hir. Lloyd a Madoc a ganai’r delyn Ewropeaidd tra chwaraeai Johnny, Albert ac Ernest y delyn deires. Chwaraeai Charley y cello a Reuben y bas dwbl, James y bib a Willie y crwth. Roedd Reuben, James, a Charley hefyd yn feistri ar y delyn deires, a Willie a Reuben ill dau yn ffidlwyr nodedig. Roeddynt yn gerddorion cwbl ymroddedig a threulient oriau lu yn perffeithio’r darnau, gan greu’r gerddoriaeth emosiynol a rhythmig a oedd yn nodweddiadol ohonynt, yn ôl Roberts (gw. Roberts 1978, 58).
A hwythau wedi’u sefydlu yn y Drenewydd, roeddynt yn ddigon agos i’r ffin i deithio i Swydd Amwythig a Chaer, gan barhau i gynnal eu cyswllt â’r byd a’r bywyd Cymreig. Treulient sawl dydd Sul yn chwarae yng Ngwesty’r Arth neu ar strydoedd y Drenewydd, ac yn ystod misoedd yr haf aent ar gylchdaith flynyddol o amgylch trefi arfordirol gorllewin a gogledd Cymru hyd at Gilgwri. Buont yn ymweld â threfi megis Machynlleth, Dolgellau, Aberystwyth, Harlech a Chaergybi. Byddent yn cerdded i’r cyngherddau, gan ddefnyddio cart a cheffyl i gario’r offerynnau. Roedd alawon gwerin megis ‘Serch Hudol’, ‘Merch Megan’, ‘Clychau Aberdyfi’ a ‘Codiad yr Ehedydd’ i’w clywed yn gyson yn eu perfformiadau, a’r cyfan wedi’u trefnu gan John Roberts ei hun.
Roedd gan John Roberts synnwyr busnes craff, ac arferai’r Cambrian Minstrels hysbysebu’r ffaith eu bod ar gael ar gyfer dawnsfeydd, cyngherddau a chynulliadau preifat yn ystod tymor y gaeaf pan na fyddai’r tywydd yn ffafriol ar gyfer teithio o amgylch y wlad. Gyda’u repertoire amrywiol ac estynedig, gallent ddarparu cerddoriaeth briodol ar gyfer pob math o gynulleidfa. Yn ogystal â’r alawon a’r baledi poblogaidd, chwaraeent addasiadau o operâu, jigs a quadrilles yn ôl Roberts. Mewn cyfnod pan oedd y bonedd yn parhau i noddi cerddorion, teithiai’r Cambrian Minstrels yn rheolaidd i blastai ar hyd a lled y wlad ar achlysuron cymdeithasol nodedig. Ymhlith eu cynulleidfaoedd yr oedd teulu Kinmell, Dug San Steffan, Augusta Hall (Arglwyddes Llanofer), Iarll Powys ac Iarll Dinbych, yn ogystal â chynulleidfaoedd rhyngwladol o waed brenhinol, megis yr Archddug Constantin o Rwsia ac Ymerodres Awstria. Mae’n debyg mai pinacl gyrfa John Roberts a’r Cambrian Minstrels oedd perfformio gerbron y Frenhines Victoria yn 1889 ym mhlasty Palé, Llandderfel.
Dros y blynyddoedd, gwnaeth y Cambrian Minstrels enw da iddynt eu hunain ac fe’u hystyrid yn gerddorion o safon. Yn eu hanterth gallent ymffrostio eu bod, rhyngddynt, yn dwyn ynghyd ddeg telyn, chwe chrwth, dau cello, bas dwbl, ffliwt, picolo a phib. Nid cerddorion amatur o’r hen draddodiad Romani oeddynt, ond cerddorion proffesiynol a hawliai barch a chydnabyddiaeth yn eu cymdeithas. Yn ogystal â chanu’r offerynnau’n gelfydd, roedd ganddynt ddealltwriaeth gadarn o’u peirianwaith. Gweithient yn ddiwyd ac yn gyson i ddatblygu sain ac ansawdd yr offerynnau trwy eu datgymalu a’u hatgyweirio, a hynny gan ddefnyddio’r deunydd gorau posibl i greu offerynnau a gynhyrchai sain o’r radd flaenaf. Mewn cyfnod pan oedd canu corawl yn rhagori yng Nghymru, roedd y Cambrian Minstrels yn ensemble offerynnol lliwgar a phroffesiynol a oedd yn ymgorffori’r hen draddodiadau gwerin yn ogystal ag amsugno dylanwadau cyfoes.
Gwawr Jones
Llyfryddiaeth
- E. Ernest Roberts, John Roberts: Telynor Cymru (Dinbych, 1978)
- Eldra Jarman & A. O. H. Jarman, Y Sipsiwn Cymreig (Caerdydd, 1979)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.