Corau Cymysg

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Er bod gweithgarwch corawl i’w gael ym mlynyddoedd cynnar y 19g. mewn sawl rhan o Gymru, gyda phrysurdeb neilltuol yn yr 1830au ac 1840au yng nghapeli Merthyr a’r cylch, i’r Mudiad Dirwest, ac Undebau Dirwest fel Gwent a Morgannwg (1854), a chylchwyliau Dirwestwyr Eryri (1866) ac Ardudwy (1868), y mae’r diolch am blannu gwreiddiau cydganu corawl cymysg yng Nghymru.

Sefydlodd William Griffiths (Ifander; 1830–1910) gyfres o wyliau canu dirwestol ar hyd Cwm Tawe ac yn 1862 daeth y rhain ynghyd i ffurfio Cymdeithas Gorawl Dyffryn Tawe. Roeddynt yn rhifo dros 300 a pherfformiwyd y Messiah ym Mhant-teg, Ystalyfera, gyda chyfeiliant cerddorfa. Credir mai dyma un o’r troeon cyntaf i’r gwaith cyfan gael ei glywed yng Nghymru, a dyma gychwyn y syniad o’r ‘côr mawr’.

Yr awydd i gystadlu a fyddai’n gyfrifol am ddwyn y mwyafrif o gorau Cymru i sylw’r genedl – er mwyn cystadlu y ffurfiodd Ifander ei gôr ef yn wreiddiol – ond ffieiddio at gystadleuaeth a wnâi O. O. Roberts (1847–1926) o Dalsarnau, sef arweinydd Cymdeithas Gorawl Idris o 1872 hyd 1926: digonol iddo ef oedd dysgu ei gôr i berfformio’n flynyddol oratorios y meistri. Enwocach oedd Caradog (Griffith Rhys Jones; 1834–97), arweinydd Côr Undebol Deheudir Cymru, neu’r South Wales Choral Union, a enillodd ddwywaith yn olynol ym mhencampwriaethau corawl y Palas Grisial yn Llundain yn 1872 ac 1873. O’r dosbarth gweithiol y deuai’r 350–450 o aelodau a berthynai i’r Côr Mawr a gellir dweud mai symbol oedd Côr Caradog o’r Gymru ddiwydiannol.

Yn sgil twf aruthrol y diwydiant glo o’r 1870au y daeth canu corawl Cwm Rhondda i amlygrwydd. Bu dynion dŵad fel M. O. Jones o Ddeiniolen, Eos Cynlais o Ystradgynlais a Taliesin Hopkins o Aberpennar yn arwain yn eu tro Gôr Unedig Treherbert, Côr Ffilharmonig y Rhondda, a Chôr Cymer-Porth, a buont i gyd yn bencampwyr eisteddfodol. Camp corau Dr Roland Rogers o Fangor a John Price o Rymni oedd ennill prif wobr gorawl yr Eisteddfod Genedlaethol sawl gwaith, tair ohonynt yn olynol. Cafodd Rogers lwyddiant nodedig gydag Undeb Corawl Eryri neu Gôr Undebol y Penrhyn fel y’i gelwid, gan gipio’r wobr yn Eisteddfodau Cenedlaethol Dinbych 1882, Caerdydd 1883 a Lerpwl 1884, a rhannu’r wobr gyda chôr Huddersfield yn Eisteddfod Genedlaethol Llundain yn 1887. Sais uniaith oedd Rogers ac yn yr ymarferion byddai’n cyfathrebu â’i gantorion uniaith Gymraeg trwy gyfieithydd. John Price oedd arweinydd Côr Unedig Rhymni a fu’n fuddugol bump o weithiau yn yr Eisteddfod Genedlaethol, deirgwaith yn olynol rhwng 1893 ac 1895. Dod at ei gilydd er mwyn cystadlu a wnâi’r corau undebol hyn, a phrin oedd y cyngherddau a roddent, ar wahân i’r ymarfer olaf cyn cystadleuaeth fawr pan oedd mynediad trwy docyn yn unig.

Tra oedd côr-feistri corau undebol fel R. C. Jenkins, Llanelli (1848–1913) a John Williams, Caernarfon (1856–1917), yn adnabyddus yn genedlaethol, y tanllyd Dan Davies (1859–1930) o Ddowlais oedd ffigwr mwyaf carismataidd y byd corawl ar ddiwedd y 19g. Am ddeng mlynedd ar ôl cael ei ffurfio yn 1881, roedd y Dowlais Harmonic Society o dan arweiniad Dan Davies yn un o gorau mwyaf llwyddiannus Cymru. Yn 1893 cymerodd Dan Davies awenau Gôr Ffilharmonig Merthyr a bu’n fuddugol eto gyda’r côr hwn, ond cafodd ei feirniadu’n hallt gan gerddorion o Loegr am ei ddull gorddramatig o arwain, a phan fethodd ei gôr â dod i’r brig am yr ail waith yn olynol yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd yn 1897, ffromodd Dan Davies yn gyhoeddus.

Ymgymerodd yr athrylithgar Harry Evans (1873-1914) ag arweinyddiaeth côr Dowlais ar ôl i Dan Davies gefnu arnynt yn 1897, a chwe mlynedd yn ddiweddarach enillodd y brif gystadleuaeth gorawl gyda chôr cymysg unedig Merthyr a Dowlais yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 1903. Y flwyddyn honno derbyniodd wahoddiad i gymryd awenau Undeb Corawl Cymry Lerpwl a gyda’r côr hwnnw cyflwynodd weithiau mawr heriol, o’r Dioddefaint yn ôl Sant Mathew (Bach) a Faust (Berlioz) i’r perfformiadau cyntaf o ‘symffonïau corawl’ uchelgeisiol a digyfeiliant Granville Bantock.

Chwarelwr gydol ei oes oedd Cadwaladr Roberts (1854–1914) y gofynnwyd iddo yn 1872 i arwain côr capel yn Nhanygrisiau. O’r côr hwn y tyfodd Côr Tanygrisiau a oedd yn enillydd eisteddfodol cyson, gan gynnwys Eisteddfod Genedlaethol Llandudno 1896. Fe’i dewiswyd yn arweinydd ar gôr Eisteddfod Genedlaethol Ffestiniog 1898 pan berfformiwyd Ystorm Tiberias gan Edward Stephen (Tanymarian), y tro cyntaf i’r Eisteddfod glywed fersiwn diwygiedig Emlyn Evans o’r oratorio Gymraeg gyntaf hon gyda chyfeiliant cerddorfa.

Tra bu corau Aman, yn arbennig Côr Brynaman ‘Teddy’ Evans a Chymdeithas Gorawl Rhydaman Gwilym R. Jones, yn dra llewyrchus cyn ac ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf – adlewyrchiad o gynnydd diwydiannol sydyn Cwm Aman ers yr 1890au – daeth Côr Mawr Ystalyfera yn destun siarad ledled Cymru o 1926 hyd at doriad y rhyfel yn 1939. Organydd a chôr-feistr eglwys Pant-teg, Ystalyfera, oedd William David Clee (1883–1946) FRCO, ac enillodd enwogrwydd gyda chôr a ddenai ei aelodau o gylch eang yng Nghwm Tawe. Fe’i hadwaenid fel Côr Mawr Ystalyfera ar bwys ei faint (roedd 340 ar y llwyfan yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1926) a’i lwyddiant eisteddfodol. Ar ôl iddynt ennill bum gwaith rhwng 1928 ac 1934, gofynnodd pwyllgor Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1935 iddynt beidio â chystadlu, felly bu côr Clee yn cynnal un o gyngherddau’r nos yno. Roedd gan Clee brofiad o gyfarwyddo perfformiadau o operâu ac efallai i hyn ddylanwadu ar ei agwedd at ganu corawl. Bu cryn feirniadu yn 1936 ar gôr Clee am greu effeithiau trwy orbwysleisio mewn dull annerbyniol, ac er iddynt gystadlu ar ôl hynny roedd eu dyddiau o oruchafiaeth ar ben.

Pan gipiodd Ystalyfera’r wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 1930, un marc yn unig a’u gwahanai oddi wrth gôr cymysg Pontarddulais a’u curodd yn 1932. Arweinydd Pontarddulais oedd T. Haydn Thomas (1899–2006), nai i’r cerddor D. Vaughan Thomas, ac wedi’r Ail Ryfel Byd daeth Côr Pontarddulais i chwarae rhan amlwg yng Ngŵyl Gerddorol Flynyddol Abertawe pan ddeuai cerddorion amlwg fel John Barbirolli ac Adrian Boult i arwain gweithiau corawl a oedd wedi cael eu paratoi i’w perfformio gan gôr T. Haydn Thomas. Y tu allan i Gymru bu Wyn Morris (1929–2010) o Lanelli, mab i’r cerddor Haydn Morris, yn arweinydd y Gymdeithas Gorawl Frenhinol (Royal Choral Society) o 1968 hyd 1970, a Chymdeithas Gorawl Huddersfield o 1969 hyd 1974, a bu George Guest o Fangor yn gôr-feistr o 1951 hyd 1991 ar Gôr Coleg Sant Ioan yng Nghaergrawnt lle llwyddodd i greu sain a oedd, ym marn nifer o arbenigwyr ar y canu corawl, yn fwy ‘cyfandirol’ (ac efallai Gymreig) nag eiddo côr enwog Coleg y Brenin.

O’r 1960au gwelwyd cyfnod newydd yn gwawrio, gyda thwf sefydliadau fel BBC Cymru a chynnydd dinas Caerdydd. Daeth cenhedlaeth newydd o gorau cymysg i’r amlwg yng nghyffiniau Caerdydd fel Côr Aelwyd Caerdydd, Cantorion Ardwyn, y Côr Poliffonig a Chôr Godre’r Garth; yn y gorllewin roedd Côr Bach Abertawe a Chôr Dyfed yn weithgar; ac yn y gogledd-ddwyrain gosodwyd safon dra uchel gan Gantorion Cynwrig. Trosglwyddwyd y baton yn fwy diweddar i genhedlaeth newydd eto o gorau cymysg o bob rhan o Gymru fel Côr Eifionydd, Cantorion Teifi, Cywair, Côr y Wiber, Côr Ysgol Glanaethwy, ac yn y brifddinas Côr Caerdydd, CF1 a Chôrdydd.

Ar ddechrau’r 21g., er bod corau undebol a chymdeithasau corawl yn dal mewn bod yn y cadarnleoedd traddodiadol, i’r corau newydd y mae’r diolch am gyflwyno repertoire newydd, ffres, a dulliau perfformio sydd wedi trawsnewid canu corawl cymysg yng Nghymru.

Gareth Williams



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.