Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Dafydd, Fflur (g.1978)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddori...')
 
 
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
 +
__NOAUTOLINKS__
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Cerddor, cyfansoddwraig a nofelydd o Gaerfyrddin yw Fflur [[Dafydd]]. Yn ferch i’r bardd adnabyddus Menna Elfyn, fe’i magwyd yn Llandysul gan dderbyn ei haddysg yn Ysgol Dyffryn Teifi ac yna ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle graddiodd mewn Saesneg. Cipiodd y Fedal Lenyddiaeth yn [[Eisteddfod]] yr Urdd, Llanbedr Pont Steffan yn 1999.
+
Cerddor, cyfansoddwraig a nofelydd o Gaerfyrddin yw Fflur Dafydd. Yn ferch i’r bardd adnabyddus Menna Elfyn, fe’i magwyd yn Llandysul gan dderbyn ei haddysg yn Ysgol Dyffryn Teifi ac yna ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle graddiodd mewn Saesneg. Cipiodd y Fedal Lenyddiaeth yn [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] yr Urdd, Llanbedr Pont Steffan yn 1999.
  
Dechreuodd ei gyrfa gerddorol fel pianydd a lleisydd gyda’r Panics, a ffurfiwyd yn 2001. Rhyddhaodd y band EP o’r enw ''Pethau Rhyfedd'' yn 2004 ar label Recordiau Awen. Flwyddyn yn ddiweddarach, gyda’r band wedi dod i ben, recordiodd Fflur Dafydd ei halbwm gyntaf, ''Coch Am Weddill Fy Oes'' (Recordiau Kissan, 2005). Roedd y band (o’r enw Y Barf) a ffurfiwyd i gyfeilio i’w chaneuon yn cynnwys Rhys James (gitâr, gynt o’r Mattoidz), Iestyn Jones (gitâr fas), Jon Bradford Jones (drymiau) ac Iwan Evans (allweddellau a sacsoffon) fel aelodau sefydlog. Gyda’r band yn ei le, ymddangosodd Fflur Dafydd ar sesiwn C2 Radio Cymru, a rhyddhawyd y sengl ‘Helsinki’ ar label Rasal a gafodd gryn sylw cadarnhaol. Adlewyrcha’r gân ddiddordeb Fflur a’r band mewn archwilio arddulliau [[roc a phop]] megis ffync a soul, ac fe’i dilynwyd gan ''Un Ffordd Mas'' (Rasal, 2007).
+
Dechreuodd ei gyrfa gerddorol fel pianydd a lleisydd gyda’r Panics, a ffurfiwyd yn 2001. Rhyddhaodd y band EP o’r enw ''Pethau Rhyfedd'' yn 2004 ar label Recordiau Awen. Flwyddyn yn ddiweddarach, gyda’r band wedi dod i ben, recordiodd Fflur Dafydd ei halbwm gyntaf, ''Coch Am Weddill Fy Oes'' (Recordiau Kissan, 2005). Roedd y band (o’r enw Y Barf) a ffurfiwyd i gyfeilio i’w chaneuon yn cynnwys Rhys James (gitâr, gynt o’r Mattoidz), Iestyn Jones (gitâr fas), Jon Bradford Jones (drymiau) ac Iwan Evans (allweddellau a sacsoffon) fel aelodau sefydlog. Gyda’r band yn ei le, ymddangosodd Fflur Dafydd ar sesiwn C2 Radio Cymru, a rhyddhawyd y sengl ‘Helsinki’ ar label Rasal a gafodd gryn sylw cadarnhaol. Adlewyrcha’r gân ddiddordeb Fflur a’r band mewn archwilio arddulliau [[Poblogaidd, Cerddoriaeth | roc a phop]] megis ffync a soul, ac fe’i dilynwyd gan ''Un Ffordd Mas'' (Rasal, 2007).
  
 
Rhoddwyd cryn glod a sylw hefyd i ''Byd Bach'' (Rasal, 2009), albwm cysyniadol sy’n olrhain hanes taith mewn car ar hyd yr A470 ac ardaloedd eraill yng Nghymru. Daeth y thema o fannau penodol a lleoliadau yn ysbrydoliaeth i gylch o ganeuon safonol a oedd yn gyfuniad effeithiol o eiriau a chynnwys cerddorol, gyda’r pwyslais yn symud o gyfeiriad ffync i roc operataidd, motown at ganeuon mwy acwstig eu naws. Enwebwyd ''Byd Bach'' ar gyfer gwobr Albwm y Flwyddyn yng Ngwobrau Roc a Phop BBC Cymru ac yn 2010 derbyniodd Fflur Dafydd Wobr Roc a Phop BBC Cymru fel Artist Benywaidd y Flwyddyn.
 
Rhoddwyd cryn glod a sylw hefyd i ''Byd Bach'' (Rasal, 2009), albwm cysyniadol sy’n olrhain hanes taith mewn car ar hyd yr A470 ac ardaloedd eraill yng Nghymru. Daeth y thema o fannau penodol a lleoliadau yn ysbrydoliaeth i gylch o ganeuon safonol a oedd yn gyfuniad effeithiol o eiriau a chynnwys cerddorol, gyda’r pwyslais yn symud o gyfeiriad ffync i roc operataidd, motown at ganeuon mwy acwstig eu naws. Enwebwyd ''Byd Bach'' ar gyfer gwobr Albwm y Flwyddyn yng Ngwobrau Roc a Phop BBC Cymru ac yn 2010 derbyniodd Fflur Dafydd Wobr Roc a Phop BBC Cymru fel Artist Benywaidd y Flwyddyn.
  
Dilynwyd ''Byd Bach'' gan F''fydd Gobaith Cariad'' yn 2012, albwm personol a hunangofiannol. Mae hi’n adnabyddus hefyd fel nofelydd; enillodd ei [[nofel]] Y ''Llyfrgell'' (2010) Wobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac mae’r nofel bellach wedi’i throi’n [[ffilm]]. Yn wir, mae’r cyfuniad o grefftwaith geiriol a cherddorol yn un o gryfderau pennaf caneuon Fflur Dafydd.
+
Dilynwyd ''Byd Bach'' gan F''fydd Gobaith Cariad'' yn 2012, albwm personol a hunangofiannol. Mae hi’n adnabyddus hefyd fel nofelydd; enillodd ei nofel ''Y Llyfrgell'' (2010) Wobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac mae’r nofel bellach wedi’i throi’n ffilm. Yn wir, mae’r cyfuniad o grefftwaith geiriol a cherddorol yn un o gryfderau pennaf caneuon Fflur Dafydd.
 +
 
 +
'''Craig Owen Jones a Pwyll ap Siôn'''
  
'''Craig Owen Jones a Pwyll ap Siôn
 
'''
 
 
==Disgyddiaeth==
 
==Disgyddiaeth==
  
:''Coch Am Weddill Fy Oes'' (Kissan CD006, 2005)
+
*''Coch Am Weddill Fy Oes'' (Kissan CD006, 2005)
  
:''Un Ffordd Mas'' (Rasal CD020, 2007)
+
*''Un Ffordd Mas'' (Rasal CD020, 2007)
  
:''Byd Bach'' (Rasal CD031, 2009)
+
*''Byd Bach'' (Rasal CD031, 2009)
  
:''Ffydd Gobaith Cariad'' (Rasal CD036, 2012)
+
*''Ffydd Gobaith Cariad'' (Rasal CD036, 2012)
  
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 +
[[Categori:Cerddoriaeth]]

Y diwygiad cyfredol, am 21:19, 31 Mai 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cerddor, cyfansoddwraig a nofelydd o Gaerfyrddin yw Fflur Dafydd. Yn ferch i’r bardd adnabyddus Menna Elfyn, fe’i magwyd yn Llandysul gan dderbyn ei haddysg yn Ysgol Dyffryn Teifi ac yna ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle graddiodd mewn Saesneg. Cipiodd y Fedal Lenyddiaeth yn Eisteddfod yr Urdd, Llanbedr Pont Steffan yn 1999.

Dechreuodd ei gyrfa gerddorol fel pianydd a lleisydd gyda’r Panics, a ffurfiwyd yn 2001. Rhyddhaodd y band EP o’r enw Pethau Rhyfedd yn 2004 ar label Recordiau Awen. Flwyddyn yn ddiweddarach, gyda’r band wedi dod i ben, recordiodd Fflur Dafydd ei halbwm gyntaf, Coch Am Weddill Fy Oes (Recordiau Kissan, 2005). Roedd y band (o’r enw Y Barf) a ffurfiwyd i gyfeilio i’w chaneuon yn cynnwys Rhys James (gitâr, gynt o’r Mattoidz), Iestyn Jones (gitâr fas), Jon Bradford Jones (drymiau) ac Iwan Evans (allweddellau a sacsoffon) fel aelodau sefydlog. Gyda’r band yn ei le, ymddangosodd Fflur Dafydd ar sesiwn C2 Radio Cymru, a rhyddhawyd y sengl ‘Helsinki’ ar label Rasal a gafodd gryn sylw cadarnhaol. Adlewyrcha’r gân ddiddordeb Fflur a’r band mewn archwilio arddulliau roc a phop megis ffync a soul, ac fe’i dilynwyd gan Un Ffordd Mas (Rasal, 2007).

Rhoddwyd cryn glod a sylw hefyd i Byd Bach (Rasal, 2009), albwm cysyniadol sy’n olrhain hanes taith mewn car ar hyd yr A470 ac ardaloedd eraill yng Nghymru. Daeth y thema o fannau penodol a lleoliadau yn ysbrydoliaeth i gylch o ganeuon safonol a oedd yn gyfuniad effeithiol o eiriau a chynnwys cerddorol, gyda’r pwyslais yn symud o gyfeiriad ffync i roc operataidd, motown at ganeuon mwy acwstig eu naws. Enwebwyd Byd Bach ar gyfer gwobr Albwm y Flwyddyn yng Ngwobrau Roc a Phop BBC Cymru ac yn 2010 derbyniodd Fflur Dafydd Wobr Roc a Phop BBC Cymru fel Artist Benywaidd y Flwyddyn.

Dilynwyd Byd Bach gan Ffydd Gobaith Cariad yn 2012, albwm personol a hunangofiannol. Mae hi’n adnabyddus hefyd fel nofelydd; enillodd ei nofel Y Llyfrgell (2010) Wobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac mae’r nofel bellach wedi’i throi’n ffilm. Yn wir, mae’r cyfuniad o grefftwaith geiriol a cherddorol yn un o gryfderau pennaf caneuon Fflur Dafydd.

Craig Owen Jones a Pwyll ap Siôn

Disgyddiaeth

  • Coch Am Weddill Fy Oes (Kissan CD006, 2005)
  • Un Ffordd Mas (Rasal CD020, 2007)
  • Byd Bach (Rasal CD031, 2009)
  • Ffydd Gobaith Cariad (Rasal CD036, 2012)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.