Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Davies, Clara Novello (1861-1943)"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 4: | Llinell 4: | ||
Côr-feistres a hyfforddwraig llais a aned yng Nghaerdydd, yn ferch i Jacob a Margaret Davies. Fe’i henwyd ar ôl y gantores Eidalaidd, Clara Anastasia Novello (1818–1908), merch Vincent Novello, y cyhoeddwr cerddoriaeth. Cafodd ei haddysg gerddorol gan ei thad, Dr Frost, Frederick Atkins a Dr Charles Williams a oedd yn organydd yn Eglwys Gadeiriol Llandaf. Erbyn iddi gyrraedd ei harddegau roedd wedi ei sefydlu’i hun fel athrawes biano a llais yng Nghaerdydd. | Côr-feistres a hyfforddwraig llais a aned yng Nghaerdydd, yn ferch i Jacob a Margaret Davies. Fe’i henwyd ar ôl y gantores Eidalaidd, Clara Anastasia Novello (1818–1908), merch Vincent Novello, y cyhoeddwr cerddoriaeth. Cafodd ei haddysg gerddorol gan ei thad, Dr Frost, Frederick Atkins a Dr Charles Williams a oedd yn organydd yn Eglwys Gadeiriol Llandaf. Erbyn iddi gyrraedd ei harddegau roedd wedi ei sefydlu’i hun fel athrawes biano a llais yng Nghaerdydd. | ||
− | Sefydlodd gôr merched yng Nghaerdydd yn 1883 a enillodd statws rhyngwladol yn dilyn eu llwyddiant yn [[Eisteddfod]] Ffair y Byd, Chicago, yn 1893 wrth ganu ''Yr Arglwydd yw fy Mugail'' (Schubert) a ''Spanish Gypsy'' (Lassen). Ar ôl taith o amgylch America dychwelodd y côr i Gymru a derbyn gorchymyn brenhinol i ganu yn Osborne House gerbron y Frenhines Victoria yn 1894. Rhoddwyd sêl bendith y Frenhines arnynt, a chawsant eu hadnabod wedi hynny fel ‘The ''Royal'' Welsh Ladies’ Choir’; y côr cyntaf erioed i hawlio’r teitl hwnnw. Bu’r côr yn teithio ar hyd a lled y byd, gan ennill cydnabyddiaeth nodedig i Clara Novello Davies fel [[arweinyddes]]. Cafodd glod arbennig yn Arddangosfa Paris, 1900, pan gyflwynwyd y Médaille de Mérite iddi gan lywodraeth Ffrainc. | + | Sefydlodd gôr merched yng Nghaerdydd yn 1883 a enillodd statws rhyngwladol yn dilyn eu llwyddiant yn [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] Ffair y Byd, Chicago, yn 1893 wrth ganu ''Yr Arglwydd yw fy Mugail'' (Schubert) a ''Spanish Gypsy'' (Lassen). Ar ôl taith o amgylch America dychwelodd y côr i Gymru a derbyn gorchymyn brenhinol i ganu yn Osborne House gerbron y Frenhines Victoria yn 1894. Rhoddwyd sêl bendith y Frenhines arnynt, a chawsant eu hadnabod wedi hynny fel ‘The ''Royal'' Welsh Ladies’ Choir’; y [[Corau Merched | côr]] cyntaf erioed i hawlio’r teitl hwnnw. Bu’r côr yn teithio ar hyd a lled y byd, gan ennill cydnabyddiaeth nodedig i Clara Novello Davies fel [[Arweinydd, Arweinyddion | arweinyddes]]. Cafodd glod arbennig yn Arddangosfa Paris, 1900, pan gyflwynwyd y Médaille de Mérite iddi gan lywodraeth Ffrainc. |
− | Priodolwyd llwyddiant y côr i’w sain gyfoethog, unigryw; sain a ddatblygodd o ganlyniad i ddulliau a thechnegau lleisiol newydd a fireiniwyd ganddi yn ystod ei gyrfa. Canolbwyntiai’r technegau ar y berthynas rhwng y llengig ac ansawdd y llais wrth siarad a chanu fel ei gilydd. Bu’n cydweithio gyda meddygon y cyfnod i archwilio budd meddygol ei dulliau trwy arbrofi ar gleifion a ddioddefai o glefydon yr ysgyfaint. Yn 1928, cyhoeddodd lyfr a eglurai’r dulliau hyn dan y teitl ''You Can Sing'', gan ei gyflwyno i’w mab, [[Ivor Novello]]. Bu’n hyfforddi disgyblion o bedwar ban byd, a rhannodd ei hamser rhwng ei chartrefi a’i stiwdios yng Nghaerdydd, Bryste a Llundain cyn symud am gyfnod i Efrog Newydd, lle sefydlodd gôr cymysg, The Novello Davies Artist Choir. | + | Priodolwyd llwyddiant y côr i’w sain gyfoethog, unigryw; sain a ddatblygodd o ganlyniad i ddulliau a thechnegau lleisiol newydd a fireiniwyd ganddi yn ystod ei gyrfa. Canolbwyntiai’r technegau ar y berthynas rhwng y llengig ac ansawdd y llais wrth siarad a chanu fel ei gilydd. Bu’n cydweithio gyda meddygon y cyfnod i archwilio budd meddygol ei dulliau trwy arbrofi ar gleifion a ddioddefai o glefydon yr ysgyfaint. Yn 1928, cyhoeddodd lyfr a eglurai’r dulliau hyn dan y teitl ''You Can Sing'', gan ei gyflwyno i’w mab, [[Novello, Ivor (1893-1951) | Ivor Novello]]. Bu’n hyfforddi disgyblion o bedwar ban byd, a rhannodd ei hamser rhwng ei chartrefi a’i stiwdios yng Nghaerdydd, Bryste a Llundain cyn symud am gyfnod i Efrog Newydd, lle sefydlodd gôr cymysg, The Novello Davies Artist Choir. |
Bu’n weithgar dros ben yn codi arian ar gyfer elusennau amrywiol yn ystod y ddau ryfel byd, gan gynnwys yr ''hut fund'', sef arian ar gyfer cabanau lle cynhelid cyngherddau ac adloniant, yn ogystal â sefydlu cronfa a anfonai offerynnau cerdd o bob math at y milwyr i godi’u calonnau mewn cyfnodau anodd. Roedd yn frwd dros hybu cerddoriaeth fel cyfrwng i iacháu’r corff a’r meddwl, a bu’n gweithio’n ddiflino i hyrwyddo’r athroniaeth hon drwy gydol ei gyrfa. | Bu’n weithgar dros ben yn codi arian ar gyfer elusennau amrywiol yn ystod y ddau ryfel byd, gan gynnwys yr ''hut fund'', sef arian ar gyfer cabanau lle cynhelid cyngherddau ac adloniant, yn ogystal â sefydlu cronfa a anfonai offerynnau cerdd o bob math at y milwyr i godi’u calonnau mewn cyfnodau anodd. Roedd yn frwd dros hybu cerddoriaeth fel cyfrwng i iacháu’r corff a’r meddwl, a bu’n gweithio’n ddiflino i hyrwyddo’r athroniaeth hon drwy gydol ei gyrfa. | ||
Llinell 16: | Llinell 16: | ||
==Llyfryddiaeth== | ==Llyfryddiaeth== | ||
− | + | *Clara Novello Davies, ''The Life I Have Loved'' (Llundain, 1940) | |
− | + | *Gwawr Jones, ‘''The Mighty Mam'': Clara Novello Davies a byd cerddoriaeth broffesiynol yng Nghymru’ (traethawd PhD Prifysgol Bangor, 2015) | |
{{CC BY-SA Cydymaith}} | {{CC BY-SA Cydymaith}} | ||
+ | [[Categori:Cerddoriaeth]] |
Y diwygiad cyfredol, am 21:30, 31 Mai 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Côr-feistres a hyfforddwraig llais a aned yng Nghaerdydd, yn ferch i Jacob a Margaret Davies. Fe’i henwyd ar ôl y gantores Eidalaidd, Clara Anastasia Novello (1818–1908), merch Vincent Novello, y cyhoeddwr cerddoriaeth. Cafodd ei haddysg gerddorol gan ei thad, Dr Frost, Frederick Atkins a Dr Charles Williams a oedd yn organydd yn Eglwys Gadeiriol Llandaf. Erbyn iddi gyrraedd ei harddegau roedd wedi ei sefydlu’i hun fel athrawes biano a llais yng Nghaerdydd.
Sefydlodd gôr merched yng Nghaerdydd yn 1883 a enillodd statws rhyngwladol yn dilyn eu llwyddiant yn Eisteddfod Ffair y Byd, Chicago, yn 1893 wrth ganu Yr Arglwydd yw fy Mugail (Schubert) a Spanish Gypsy (Lassen). Ar ôl taith o amgylch America dychwelodd y côr i Gymru a derbyn gorchymyn brenhinol i ganu yn Osborne House gerbron y Frenhines Victoria yn 1894. Rhoddwyd sêl bendith y Frenhines arnynt, a chawsant eu hadnabod wedi hynny fel ‘The Royal Welsh Ladies’ Choir’; y côr cyntaf erioed i hawlio’r teitl hwnnw. Bu’r côr yn teithio ar hyd a lled y byd, gan ennill cydnabyddiaeth nodedig i Clara Novello Davies fel arweinyddes. Cafodd glod arbennig yn Arddangosfa Paris, 1900, pan gyflwynwyd y Médaille de Mérite iddi gan lywodraeth Ffrainc.
Priodolwyd llwyddiant y côr i’w sain gyfoethog, unigryw; sain a ddatblygodd o ganlyniad i ddulliau a thechnegau lleisiol newydd a fireiniwyd ganddi yn ystod ei gyrfa. Canolbwyntiai’r technegau ar y berthynas rhwng y llengig ac ansawdd y llais wrth siarad a chanu fel ei gilydd. Bu’n cydweithio gyda meddygon y cyfnod i archwilio budd meddygol ei dulliau trwy arbrofi ar gleifion a ddioddefai o glefydon yr ysgyfaint. Yn 1928, cyhoeddodd lyfr a eglurai’r dulliau hyn dan y teitl You Can Sing, gan ei gyflwyno i’w mab, Ivor Novello. Bu’n hyfforddi disgyblion o bedwar ban byd, a rhannodd ei hamser rhwng ei chartrefi a’i stiwdios yng Nghaerdydd, Bryste a Llundain cyn symud am gyfnod i Efrog Newydd, lle sefydlodd gôr cymysg, The Novello Davies Artist Choir.
Bu’n weithgar dros ben yn codi arian ar gyfer elusennau amrywiol yn ystod y ddau ryfel byd, gan gynnwys yr hut fund, sef arian ar gyfer cabanau lle cynhelid cyngherddau ac adloniant, yn ogystal â sefydlu cronfa a anfonai offerynnau cerdd o bob math at y milwyr i godi’u calonnau mewn cyfnodau anodd. Roedd yn frwd dros hybu cerddoriaeth fel cyfrwng i iacháu’r corff a’r meddwl, a bu’n gweithio’n ddiflino i hyrwyddo’r athroniaeth hon drwy gydol ei gyrfa.
Cyfansoddodd nifer o ganeuon poblogaidd, gan gynnwys Friend! (1905) a Mother! (1911). Cyhoeddodd ei hunangofiant yn 1940 dan y teitl The Life I Have Loved. Bu farw ar 7 Chwefror 1943, ac amlosgwyd ei chorff ym mynwent Golders Green yn Llundain.
Gwawr Jones
Llyfryddiaeth
- Clara Novello Davies, The Life I Have Loved (Llundain, 1940)
- Gwawr Jones, ‘The Mighty Mam: Clara Novello Davies a byd cerddoriaeth broffesiynol yng Nghymru’ (traethawd PhD Prifysgol Bangor, 2015)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.