Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Davies, Grace Gwyneddon (1879-1944)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 2: Llinell 2:
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Ganed y gasglwraig alawon [[canu gwerin]] Grace Roberts (Grace Davies yn ddiweddarach) yng nghymdogaeth Anfield, Lerpwl (gw. Thomas 1999).
+
Ganed y gasglwraig alawon [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | canu gwerin]] Grace Roberts (Grace Davies yn ddiweddarach) yng nghymdogaeth Anfield, Lerpwl (gw. Thomas 1999).
  
Yn dilyn hyfforddiant fel pianyddes yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain a chyfnod fel cantores yn Ffrainc a’r Eidal, daeth i berfformio yn un o gyngherddau [[Eisteddfod]] Genedlaethol Cymru, Caernarfon, 1906, ac i gyfrannu i gyfarfod y Cymmrodorion yn Neuadd y Sir, lle canodd drefniant o waith Arthur Somervell o’r alaw Gymreig, ‘Cnot y Coed’. Bu’r profiad eisteddfodol hwnnw yn symbyliad iddi ddilyn trywydd newydd yn ei gyrfa gan fod nifer o Gymry blaenllaw’r gogledd yn bresennol (gan gynnwys ei darpar ŵr, Robert Gwyneddon Davies) ac unigolion a oedd yn awyddus i ddiogelu’r canu brodorol a esgeuluswyd yn y 19g. ac a oedd yn prysur ddiflannu o’r tir.
+
Yn dilyn hyfforddiant fel pianyddes yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain a chyfnod fel cantores yn Ffrainc a’r Eidal, daeth i berfformio yn un o gyngherddau [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] Genedlaethol Cymru, Caernarfon, 1906, ac i gyfrannu i gyfarfod y Cymmrodorion yn Neuadd y Sir, lle canodd drefniant o waith Arthur Somervell o’r alaw Gymreig, ‘Cnot y Coed’. Bu’r profiad eisteddfodol hwnnw yn symbyliad iddi ddilyn trywydd newydd yn ei gyrfa gan fod nifer o Gymry blaenllaw’r gogledd yn bresennol (gan gynnwys ei darpar ŵr, Robert Gwyneddon Davies) ac unigolion a oedd yn awyddus i ddiogelu’r canu brodorol a esgeuluswyd yn y 19g. ac a oedd yn prysur ddiflannu o’r tir.
  
 
Erbyn Prifwyl Llangollen, 1908, roedd [[Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru]] wedi’i sefydlu a Grace Gwyneddon Davies yn aelod blaenllaw o’r pwyllgor gwaith. Yn 1911 dechreuodd hi a’i gŵr gyfrannu’n gyhoeddus i fywyd y Gymdeithas drwy draddodi darlithoedd ar faes canu gwerin yn nalgylch Caernarfon ac ar hyd gogledd Cymru. ‘Robin’ a fyddai’n traethu a Grace yn darparu’r enghreifftiau priodol ar gân.
 
Erbyn Prifwyl Llangollen, 1908, roedd [[Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru]] wedi’i sefydlu a Grace Gwyneddon Davies yn aelod blaenllaw o’r pwyllgor gwaith. Yn 1911 dechreuodd hi a’i gŵr gyfrannu’n gyhoeddus i fywyd y Gymdeithas drwy draddodi darlithoedd ar faes canu gwerin yn nalgylch Caernarfon ac ar hyd gogledd Cymru. ‘Robin’ a fyddai’n traethu a Grace yn darparu’r enghreifftiau priodol ar gân.
Llinell 12: Llinell 12:
 
Oherwydd eu cysylltiadau teuluol ag Ynys Môn troesant i gyfeiriad Dwyran i chwilio am ddeunydd cerddorol. I fferm Tyddyn-y-gwynt (Dwyran) ac at Owen Parry, un o denantiaid y fro, yr aeth Grace Gwyneddon Davies yn gyntaf a chael stôr o ganeuon swynol ganddo. Yn eu plith casglwyd deunydd y llofft stabl a chaneuon gweision fferm yr ynys. Pan ymddangosodd ei chyfrol gyntaf o ''Alawon Gwerin Môn'' yn 1914 cafwyd ynddi drefniannau syml o saith alaw Gymreig ar gyfer llais a chyfeiliant piano ac yn eu plith, cofnodwyd caneuon fel ‘Cob Malltraeth’, ‘Y Gelynen’, ‘Cwyn Mam-y-’nghyfraith’ a ‘Titrwm, tatrwm’ (Davies 1914). Erbyn 1924, roedd ail gasgliad ''Alawon Gwerin Môn'' wedi ymddangos o’r wasg a’r gyfrol hon hefyd yn gofnod o ganu Owen Parry ac eithrio un eitem, sef fersiwn o ‘Lisa Lân’ a gafwyd gan ei ferch, Margaret (Maggie) Jones, ar fferm Talybont, Dwyran (Davies 1924).
 
Oherwydd eu cysylltiadau teuluol ag Ynys Môn troesant i gyfeiriad Dwyran i chwilio am ddeunydd cerddorol. I fferm Tyddyn-y-gwynt (Dwyran) ac at Owen Parry, un o denantiaid y fro, yr aeth Grace Gwyneddon Davies yn gyntaf a chael stôr o ganeuon swynol ganddo. Yn eu plith casglwyd deunydd y llofft stabl a chaneuon gweision fferm yr ynys. Pan ymddangosodd ei chyfrol gyntaf o ''Alawon Gwerin Môn'' yn 1914 cafwyd ynddi drefniannau syml o saith alaw Gymreig ar gyfer llais a chyfeiliant piano ac yn eu plith, cofnodwyd caneuon fel ‘Cob Malltraeth’, ‘Y Gelynen’, ‘Cwyn Mam-y-’nghyfraith’ a ‘Titrwm, tatrwm’ (Davies 1914). Erbyn 1924, roedd ail gasgliad ''Alawon Gwerin Môn'' wedi ymddangos o’r wasg a’r gyfrol hon hefyd yn gofnod o ganu Owen Parry ac eithrio un eitem, sef fersiwn o ‘Lisa Lân’ a gafwyd gan ei ferch, Margaret (Maggie) Jones, ar fferm Talybont, Dwyran (Davies 1924).
  
Pan ymddangosodd rhai o drefniannau Grace Gwyneddon Davies ar restr testunau’r Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf yn 1918, ailsefydlwyd y cyswllt agos a fu rhyngddi a’r Brifwyl – cyswllt uniongyrchol a barhaodd am gyfnod o bum mlynedd ar hugain. Bu’n feirniad swyddogol yn adran y canu gwerin rhwng 1921 ac 1933 ac yn rhannu ei chyfrifoldebau â [[Mary Davies]] a Philip Thomas, yn ogystal â [[David de Lloyd]] a [[W. S. Gwynn Williams]]. Fel cantores a cherddor ymarferol, sylweddolai bwysigrwydd cefnogi’r gwaith casglu yn ogystal ag [[ysgolheictod]] y mudiad canu gwerin, ond yn sail i hyn oll, roedd rhaid perfformio’r alawon ac ymestyn eu cylchrediad er mwyn eu cynnal a’u diogelu.
+
Pan ymddangosodd rhai o drefniannau Grace Gwyneddon Davies ar restr testunau’r Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf yn 1918, ailsefydlwyd y cyswllt agos a fu rhyngddi a’r Brifwyl – cyswllt uniongyrchol a barhaodd am gyfnod o bum mlynedd ar hugain. Bu’n feirniad swyddogol yn adran y canu gwerin rhwng 1921 ac 1933 ac yn rhannu ei chyfrifoldebau â [[Davies, Mary (1855-1930) | Mary Davies]] a Philip Thomas, yn ogystal â [[De Lloyd, David (1883-1948) | David de Lloyd]] a [[Williams, W. S. Gwynn (Gwynn o'r Llan; 1896-1978) | W. S. Gwynn Williams]]. Fel cantores a cherddor ymarferol, sylweddolai bwysigrwydd cefnogi’r gwaith casglu yn ogystal ag [[Hanesyddiaeth, Ysgolheictod a Cherddoreg | ysgolheictod]] y mudiad canu gwerin, ond yn sail i hyn oll, roedd rhaid perfformio’r alawon ac ymestyn eu cylchrediad er mwyn eu cynnal a’u diogelu.
  
 
'''Wyn Thomas'''
 
'''Wyn Thomas'''
Llinell 18: Llinell 18:
 
==Llyfryddiaeth==
 
==Llyfryddiaeth==
  
:Grace Gwyneddon Davies, ''Alawon Gwerin Môn'' (Caernarfon, 1914)
+
*Grace Gwyneddon Davies, ''Alawon Gwerin Môn'' (Caernarfon, 1914)
  
:Robert Gwyneddon Davies, ‘The Collecting of Anglesey Folk Songs’, ''Anglesey Antiquarian and Field Club: Transactions'', Cyf. 1923 (Llangefni, 1923), 95
+
*Robert Gwyneddon Davies, ‘The Collecting of Anglesey Folk Songs’, ''Anglesey Antiquarian and Field Club: Transactions'', Cyf. 1923 (Llangefni, 1923), 95
  
:Grace Gwyneddon Davies, ''Ail Gasgliad o Alawon Gwerin Môn: A Second Collection of Folk Songs from Anglesey'' (Wrecsam, 1924)
+
*Grace Gwyneddon Davies, ''Ail Gasgliad o Alawon Gwerin Môn: A Second Collection of Folk Songs from Anglesey'' (Wrecsam, 1924)
  
:Wyn Thomas, ''Meistres Graianfryn a cherddoriaeth frodorol yng Nghymru'' (Aberystwyth, 1999)
+
*Wyn Thomas, ''Meistres Graianfryn a cherddoriaeth frodorol yng Nghymru'' (Aberystwyth, 1999)
  
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 +
[[Categori:Cerddoriaeth]]

Y diwygiad cyfredol, am 21:33, 31 Mai 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed y gasglwraig alawon canu gwerin Grace Roberts (Grace Davies yn ddiweddarach) yng nghymdogaeth Anfield, Lerpwl (gw. Thomas 1999).

Yn dilyn hyfforddiant fel pianyddes yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain a chyfnod fel cantores yn Ffrainc a’r Eidal, daeth i berfformio yn un o gyngherddau Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caernarfon, 1906, ac i gyfrannu i gyfarfod y Cymmrodorion yn Neuadd y Sir, lle canodd drefniant o waith Arthur Somervell o’r alaw Gymreig, ‘Cnot y Coed’. Bu’r profiad eisteddfodol hwnnw yn symbyliad iddi ddilyn trywydd newydd yn ei gyrfa gan fod nifer o Gymry blaenllaw’r gogledd yn bresennol (gan gynnwys ei darpar ŵr, Robert Gwyneddon Davies) ac unigolion a oedd yn awyddus i ddiogelu’r canu brodorol a esgeuluswyd yn y 19g. ac a oedd yn prysur ddiflannu o’r tir.

Erbyn Prifwyl Llangollen, 1908, roedd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru wedi’i sefydlu a Grace Gwyneddon Davies yn aelod blaenllaw o’r pwyllgor gwaith. Yn 1911 dechreuodd hi a’i gŵr gyfrannu’n gyhoeddus i fywyd y Gymdeithas drwy draddodi darlithoedd ar faes canu gwerin yn nalgylch Caernarfon ac ar hyd gogledd Cymru. ‘Robin’ a fyddai’n traethu a Grace yn darparu’r enghreifftiau priodol ar gân.

Hwyliodd y ddau hefyd i Iwerddon i ddarlithio ar faes caneuon gwerin yng Nghymru i gynulleidfa yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, a phan ymwelodd y cwpl ag Unol Daleithiau America a Chanada flynyddoedd yn ddiweddarach, ystyrid hynny’n gam allweddol ymlaen yn hanes a datblygiad Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru am nad oedd neb erioed cyn hynny wedi mentro mor bell er budd cerddoriaeth werin y genedl. Sail i gyflwyniadau a darlithoedd cyhoeddus Robert a Grace Gwyneddon Davies oedd eu profiad uniongyrchol, o 1913 ymlaen, ym myd casglu a chofnodi alawon Cymreig (Davies 1923, 95).

Oherwydd eu cysylltiadau teuluol ag Ynys Môn troesant i gyfeiriad Dwyran i chwilio am ddeunydd cerddorol. I fferm Tyddyn-y-gwynt (Dwyran) ac at Owen Parry, un o denantiaid y fro, yr aeth Grace Gwyneddon Davies yn gyntaf a chael stôr o ganeuon swynol ganddo. Yn eu plith casglwyd deunydd y llofft stabl a chaneuon gweision fferm yr ynys. Pan ymddangosodd ei chyfrol gyntaf o Alawon Gwerin Môn yn 1914 cafwyd ynddi drefniannau syml o saith alaw Gymreig ar gyfer llais a chyfeiliant piano ac yn eu plith, cofnodwyd caneuon fel ‘Cob Malltraeth’, ‘Y Gelynen’, ‘Cwyn Mam-y-’nghyfraith’ a ‘Titrwm, tatrwm’ (Davies 1914). Erbyn 1924, roedd ail gasgliad Alawon Gwerin Môn wedi ymddangos o’r wasg a’r gyfrol hon hefyd yn gofnod o ganu Owen Parry ac eithrio un eitem, sef fersiwn o ‘Lisa Lân’ a gafwyd gan ei ferch, Margaret (Maggie) Jones, ar fferm Talybont, Dwyran (Davies 1924).

Pan ymddangosodd rhai o drefniannau Grace Gwyneddon Davies ar restr testunau’r Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf yn 1918, ailsefydlwyd y cyswllt agos a fu rhyngddi a’r Brifwyl – cyswllt uniongyrchol a barhaodd am gyfnod o bum mlynedd ar hugain. Bu’n feirniad swyddogol yn adran y canu gwerin rhwng 1921 ac 1933 ac yn rhannu ei chyfrifoldebau â Mary Davies a Philip Thomas, yn ogystal â David de Lloyd a W. S. Gwynn Williams. Fel cantores a cherddor ymarferol, sylweddolai bwysigrwydd cefnogi’r gwaith casglu yn ogystal ag ysgolheictod y mudiad canu gwerin, ond yn sail i hyn oll, roedd rhaid perfformio’r alawon ac ymestyn eu cylchrediad er mwyn eu cynnal a’u diogelu.

Wyn Thomas

Llyfryddiaeth

  • Grace Gwyneddon Davies, Alawon Gwerin Môn (Caernarfon, 1914)
  • Robert Gwyneddon Davies, ‘The Collecting of Anglesey Folk Songs’, Anglesey Antiquarian and Field Club: Transactions, Cyf. 1923 (Llangefni, 1923), 95
  • Grace Gwyneddon Davies, Ail Gasgliad o Alawon Gwerin Môn: A Second Collection of Folk Songs from Anglesey (Wrecsam, 1924)
  • Wyn Thomas, Meistres Graianfryn a cherddoriaeth frodorol yng Nghymru (Aberystwyth, 1999)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.