Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Saer, Roy (g.1936)"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) (Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydy...') |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) (→Llyfryddiaeth) |
||
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | ||
− | Mae David Roy Saer yn arbenigwr ym maes cerddoriaeth [[draddodiadol Cymru]], yn awdur ac ymchwilydd a fu’n flaenllaw yng ngwaith a chenhadaeth [[Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru]] ac yn gyn-aelod o staff [[Amgueddfa Werin Cymru]], Sain Ffagan. Fe’i ganed ar gyrion pentref Hebron yn Nyffryn Taf, ar ffin siroedd Penfro a Chaerfyrddin. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Hendy-gwyn ar Daf a bu’n ddisgybl i’r athro piano D. Lloyd Phillips (Tegryn) a oedd hefyd yn athro i’r cyfansoddwr [[William Mathias]] yn yr un cyfnod. Yn 16 oed dysgodd ei hun i chwarae llwyau fel offer taro, ac yn ystod ei flynyddoedd fel myfyriwr gradd ac ôl-radd yng Ngholeg [[Prifysgol]] Cymru, Aberystwyth (1954–60), arweiniodd hyn at chwarae bwrdd golchi ''(washboard)'' yng ngrŵp sgiffl y Pennsylvanians. Ar yr un pryd ef oedd pianydd band [[jazz]] traddodiadol y Coleg. | + | Mae David Roy Saer yn arbenigwr ym maes cerddoriaeth [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | draddodiadol Cymru]], yn awdur ac ymchwilydd a fu’n flaenllaw yng ngwaith a chenhadaeth [[Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru]] ac yn gyn-aelod o staff [[Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd | Amgueddfa Werin Cymru]], Sain Ffagan. Fe’i ganed ar gyrion pentref Hebron yn Nyffryn Taf, ar ffin siroedd Penfro a Chaerfyrddin. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Hendy-gwyn ar Daf a bu’n ddisgybl i’r athro piano D. Lloyd Phillips (Tegryn) a oedd hefyd yn athro i’r cyfansoddwr [[Mathias, William (1934-92) | William Mathias]] yn yr un cyfnod. Yn 16 oed dysgodd ei hun i chwarae llwyau fel offer taro, ac yn ystod ei flynyddoedd fel myfyriwr gradd ac ôl-radd yng Ngholeg [[Prifysgolion a Cherddoriaeth yng Nghymru | Prifysgol]] Cymru, Aberystwyth (1954–60), arweiniodd hyn at chwarae bwrdd golchi ''(washboard)'' yng ngrŵp sgiffl y Pennsylvanians. Ar yr un pryd ef oedd pianydd band [[jazz]] traddodiadol y Coleg. |
− | Yn 1963 fe’i penodwyd i swydd yn Adran Traddodiadau Llafar a Thafodieithoedd Amgueddfa Werin Cymru a threuliodd ei yrfa gyfan yn paratoi a chynllunio arddangosfeydd, trefnu gweithgareddau ac ymchwilio ym maes [[canu gwerin]] Cymru. Oddi ar yr 1960au hefyd bu’n aelod gweithredol o Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru, ac er 2000 ef yw ei llywydd. Yn dilyn cyfnodau o gyflawni gwaith maes yng Nghymru (yn ardaloedd Dyffryn Tanad, Llŷn, Ceredigion a Phenfro yn enwedig) yn ystod yr 1960au a’r 1970au, taniwyd ei ddiddordeb ym myd [[carolau plygain]] (ynghyd â’r gwasanaethau a’r arferion sy’n gysylltiedig â hwy), Adrodd Pwnc (gan gynnwys y dulliau gwahanol o ganu a chyflwyno adrannau o’r Ysgrythur) a chaneuon y llofft stabl ([[ | + | Yn 1963 fe’i penodwyd i swydd yn Adran Traddodiadau Llafar a Thafodieithoedd Amgueddfa Werin Cymru a threuliodd ei yrfa gyfan yn paratoi a chynllunio arddangosfeydd, trefnu gweithgareddau ac ymchwilio ym maes [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | canu gwerin]] Cymru. Oddi ar yr 1960au hefyd bu’n aelod gweithredol o Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru, ac er 2000 ef yw ei llywydd. Yn dilyn cyfnodau o gyflawni gwaith maes yng Nghymru (yn ardaloedd Dyffryn Tanad, Llŷn, Ceredigion a Phenfro yn enwedig) yn ystod yr 1960au a’r 1970au, taniwyd ei ddiddordeb ym myd [[Canu Plygain | carolau plygain]] (ynghyd â’r gwasanaethau a’r arferion sy’n gysylltiedig â hwy), Adrodd Pwnc (gan gynnwys y dulliau gwahanol o ganu a chyflwyno adrannau o’r Ysgrythur) a chaneuon y llofft stabl ([[baled]]i storïol, caneuon treth tafod, serch a charwriaethol ac ati). |
− | Ffrwyth y teithiau casglu hyn fu’n sail i’w ymchwil | + | Ffrwyth y teithiau casglu hyn fu’n sail i’w ymchwil a’i gyhoeddiadau niferus mewn cylchgronau Cymraeg a rhyngwladol. Yn ogystal, cynhaliodd gyfres o gyfweliadau gyda [[Richards, Nansi (Telynores Maldwyn; 1888-1979) | Nansi Richards]] (Telynores Maldwyn) yn 1965 ac 1970 a fu’n gychwyn i’w waith ar eiconograffeg y [[Telyn | delyn]] yng Nghymru ac a roes fod i’w gyfrol ''Y Delyn yng Nghymru mewn lluniau'' (Gomer, 1991). Bu’n gohebu’n gyson gyda chasglyddion a pherfformwyr alawon traddodiadol o Gymru, hoelion wyth Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, gwneuthurwyr [[Organoleg ac Offerynnau | offerynnau]] cerdd, archifdai a [[Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd | llyfrgelloedd]] ledled y byd a bu hefyd yn gwneud recordiadau maes (sydd ar gadw yn Amgueddfa Werin Cymru) a recordiadau masnachol (a ryddhawyd mewn cydweithrediad â chwmni Sain, Llandwrog). |
− | a’i gyhoeddiadau niferus mewn cylchgronau Cymraeg a rhyngwladol. Yn ogystal, cynhaliodd gyfres o gyfweliadau gyda [[Nansi Richards]] (Telynores Maldwyn) yn 1965 ac 1970 a fu’n gychwyn i’w waith ar eiconograffeg y [[delyn]] yng Nghymru ac a roes fod i’w gyfrol ''Y Delyn yng Nghymru mewn lluniau'' (Gomer, 1991). Bu’n gohebu’n gyson gyda chasglyddion a pherfformwyr alawon traddodiadol o Gymru, hoelion wyth Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, gwneuthurwyr [[offerynnau]] cerdd, archifdai a [[llyfrgelloedd]] ledled y byd a bu hefyd yn gwneud recordiadau maes (sydd ar gadw yn Amgueddfa Werin Cymru) a recordiadau masnachol (a ryddhawyd mewn cydweithrediad â chwmni Sain, Llandwrog). | ||
− | Ef oedd golygydd ''Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru'' rhwng 1977 ac 1988, a darlithiodd a darlledodd yn eang. Trwy hyn oll gwnaeth gyfraniad allweddol at ddiogelu cyfoeth y traddodiad canu gwerin brodorol gan sicrhau bod y maes yn ennill ei blwyf ym myd y [[cyfryngau]], yr eisteddfod a’r prif wyliau ynghyd â byd [[addysg]] ac [[ysgolheictod]] Cymreig. | + | Ef oedd golygydd ''Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru'' rhwng 1977 ac 1988, a darlithiodd a darlledodd yn eang. Trwy hyn oll gwnaeth gyfraniad allweddol at ddiogelu cyfoeth y traddodiad canu gwerin brodorol gan sicrhau bod y maes yn ennill ei blwyf ym myd y [[Diwylliant a'r Diwydiant Cerddoriaeth | cyfryngau]], yr eisteddfod a’r prif wyliau ynghyd â byd [[Diwylliant a'r Diwydiant Cerddoriaeth | addysg]] ac [[Hanesyddiaeth, Ysgolheictod a Cherddoreg | ysgolheictod]] Cymreig. |
'''Wyn Thomas''' | '''Wyn Thomas''' | ||
Llinell 29: | Llinell 28: | ||
*‘Tôn “Hen Ddarbi” a’i theulu’, ''Canu Gwerin'', 1 (1978), 17–26 | *‘Tôn “Hen Ddarbi” a’i theulu’, ''Canu Gwerin'', 1 (1978), 17–26 | ||
− | *''Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru'' | + | *''Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, 1908–1983'' (Caerdydd, 1985) |
*''Y Delyn yng Nghymru mewn lluniau'' (Llandysul, 1991) | *''Y Delyn yng Nghymru mewn lluniau'' (Llandysul, 1991) |
Y diwygiad cyfredol, am 20:18, 31 Mai 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Mae David Roy Saer yn arbenigwr ym maes cerddoriaeth draddodiadol Cymru, yn awdur ac ymchwilydd a fu’n flaenllaw yng ngwaith a chenhadaeth Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru ac yn gyn-aelod o staff Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan. Fe’i ganed ar gyrion pentref Hebron yn Nyffryn Taf, ar ffin siroedd Penfro a Chaerfyrddin. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Hendy-gwyn ar Daf a bu’n ddisgybl i’r athro piano D. Lloyd Phillips (Tegryn) a oedd hefyd yn athro i’r cyfansoddwr William Mathias yn yr un cyfnod. Yn 16 oed dysgodd ei hun i chwarae llwyau fel offer taro, ac yn ystod ei flynyddoedd fel myfyriwr gradd ac ôl-radd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (1954–60), arweiniodd hyn at chwarae bwrdd golchi (washboard) yng ngrŵp sgiffl y Pennsylvanians. Ar yr un pryd ef oedd pianydd band jazz traddodiadol y Coleg.
Yn 1963 fe’i penodwyd i swydd yn Adran Traddodiadau Llafar a Thafodieithoedd Amgueddfa Werin Cymru a threuliodd ei yrfa gyfan yn paratoi a chynllunio arddangosfeydd, trefnu gweithgareddau ac ymchwilio ym maes canu gwerin Cymru. Oddi ar yr 1960au hefyd bu’n aelod gweithredol o Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru, ac er 2000 ef yw ei llywydd. Yn dilyn cyfnodau o gyflawni gwaith maes yng Nghymru (yn ardaloedd Dyffryn Tanad, Llŷn, Ceredigion a Phenfro yn enwedig) yn ystod yr 1960au a’r 1970au, taniwyd ei ddiddordeb ym myd carolau plygain (ynghyd â’r gwasanaethau a’r arferion sy’n gysylltiedig â hwy), Adrodd Pwnc (gan gynnwys y dulliau gwahanol o ganu a chyflwyno adrannau o’r Ysgrythur) a chaneuon y llofft stabl (baledi storïol, caneuon treth tafod, serch a charwriaethol ac ati).
Ffrwyth y teithiau casglu hyn fu’n sail i’w ymchwil a’i gyhoeddiadau niferus mewn cylchgronau Cymraeg a rhyngwladol. Yn ogystal, cynhaliodd gyfres o gyfweliadau gyda Nansi Richards (Telynores Maldwyn) yn 1965 ac 1970 a fu’n gychwyn i’w waith ar eiconograffeg y delyn yng Nghymru ac a roes fod i’w gyfrol Y Delyn yng Nghymru mewn lluniau (Gomer, 1991). Bu’n gohebu’n gyson gyda chasglyddion a pherfformwyr alawon traddodiadol o Gymru, hoelion wyth Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, gwneuthurwyr offerynnau cerdd, archifdai a llyfrgelloedd ledled y byd a bu hefyd yn gwneud recordiadau maes (sydd ar gadw yn Amgueddfa Werin Cymru) a recordiadau masnachol (a ryddhawyd mewn cydweithrediad â chwmni Sain, Llandwrog).
Ef oedd golygydd Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru rhwng 1977 ac 1988, a darlithiodd a darlledodd yn eang. Trwy hyn oll gwnaeth gyfraniad allweddol at ddiogelu cyfoeth y traddodiad canu gwerin brodorol gan sicrhau bod y maes yn ennill ei blwyf ym myd y cyfryngau, yr eisteddfod a’r prif wyliau ynghyd â byd addysg ac ysgolheictod Cymreig.
Wyn Thomas
Disgyddiaeth
- Carolau Plygain (Traddodiad Gwerin Cymru 1) [recordiad a phamffled mewn cydweithrediad ag Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan] (Sain C700, 1977)
- Caneuon Llofft Stabal (Sain C764, 1980)
- Caneuon Plygain & Llofft Stabal (Sain SCD2389, 2003)
Llyfryddiaeth
- ‘Y Traddodiad Canu Carolau yn Nyffryn Tanad’, Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, 5/3 (1971), 99–112
- Caneuon Llafar Gwlad/Songs from Oral Tradition, Cyf. 1 (Caerdydd, 1974)
- ‘Tôn “Hen Ddarbi” a’i theulu’, Canu Gwerin, 1 (1978), 17–26
- Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, 1908–1983 (Caerdydd, 1985)
- Y Delyn yng Nghymru mewn lluniau (Llandysul, 1991)
- Caneuon Llafar Gwlad/Songs from Oral Tradition, Cyf. 2 (Caerdydd, 1994)
- Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru: Canrif Gron (Aberystwyth, 2006)
- Canu at Iws ac Ysgrifau Eraill (Talybont, 2013)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.